The Book of Common Prayer
United States England Scotland Ireland Wales Canada World

   

Llyfr Gweddi Gyffredin
the Book of Common Prayer in Welsh


BOREOL WEDDI.

PSALM CII. Domine, exaudi.

ARGLWYDD, clyw fy ngweddi : a deled fy llef attat.
   2 Na chudd dy wyneb oddi wrthyf yn nydd fy nghyfyngder : gostwng dy glust attaf; yn y dydd y galwyf, brysia, gwrando fi.
    3 Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mwg : a’m hesgyrn a boethasant fel aelwyd.
    4 Fy nghalon a darawyd, ac a wywodd fel llysieuyn : fel yr anghofiais fwytta fy mara.
    5 Gan lais fy nhu chan : y glynodd fy esgyrn wrth fy nghnawd. |
    6 Tebyg wyf i belican yr anialwch : ydwyf fel dylluan y diffaethwch.
    7 Gwyliais, ac ydwyf fel aderyn y tô : unig ar ben y tŷ.
    8 Fy ngelynion a’m gwaradwyddant beunydd : y rhai a ynfydant wrthyf, a dyngasant yn fy erbyn.
    9 Canys bwytteais ludw fel bara : a chymysgais fy nïod âg wylofain;
    10 O herwydd dy lid di a’th ddigofaint : canys codaist fi i fynu, a theflaist fi i lawr.
    11 Fy nyddiau sy fel cysgod yn cilio : a minnau fel glaswelltyn a wywais.
    12 Tithau, Arglwydd, a barhêi yn dragywyddol : a’th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
    13 Ti a gyfodi, ac a drugarhêi wrth Sïon : canys yr amser i drugarhâu wrthi, ïe, yr amser nodedig, a ddaeth.
    14 Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini : ac yn tosturio wrth ei llwch hi.
    15 Felly’r cenhedloedd a ofnant Enw’r Arglwydd : a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant.
    16 Pan adeilado’r Arglwydd Sïon : y gwelir ef yn ei ogoniant.
    17 Efe a edrych ar weddi’r gwael : ac ni ddïystyrodd eu dymuniad.
    18 Hyn a ysgrifenir i’r genhedlaeth a ddel : a’r bobl a greïr a foliannant yr Arglwydd.
    19 Canys efe a edrychodd o uchelder ei gyssegr : yr Arglwydd a edrychodd o’r nefoedd ar y ddaear;
    20 I wrando uchenaid y carcharorion : ac i ryddhâu plant angau;
    21 I fynegi Enw’r Arglwydd yn Sïon : a’i foliant yn Jerusalem;
    22 Pan gasgler y bobl yngh?d : a’r teyrnasoedd i wasanaethu’r Arglwydd.
    23 Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd: byrhaodd fy nyddiau.
    24 Dywedais, Fy Nuw, na chymmer fi ymaith ynghanol fy nyddiau : dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd.
    25 Yn y dechreuad y seiliaist y ddaear : a’r nefoedd ydynt waith dy ddwylaw.
    26 Hwy a ddarfyddant, a thi a barhêi : ïe, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy a newidir.
    27 Tithau yr un ydwyt: a’th flynyddoedd ni ddarfyddant.
    28 Plant dy weision a barhânt : a’u had a sicrhêir ger dy fron di.
 

Yr 20 Dydd.

PSALM CIII. Benedic, anima mea.

FY enaid, bendithia’r Arglwydd : a chwbl sydd ynof, ei Enw sanctaidd ef.
    2 Fy enaid, bendithia’r Arglwydd : ac nac anghofia ei holl ddoniau ef;
    3 Yr hwn sydd yn maddeu dy holl anwireddau : yr hwn sydd yn iachâu dy holl lesgedd;
    4 Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi;
    5 Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni : fel yr adnewyddir dy ieuengctid fel yr eryr.
    6 Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder a barn: i’r rhai gorthrymmedig oll.
    7 Hyspysodd ei ffyrdd i Moses : ei weithredoedd i feibion Israel.
    8 Trugarog a graslawn yw’r Arglwydd : hwyrfrydig i lid, a mawr o drugarowgrwydd.
    9 Nid byth yr ymryson efe : ac nid byth y ceidw efe’ ei ddigofaint.
    10 Nid yn ol ein pechodau y gwnaeth efe â ni : ac nid yn ol ein hanwireddau y talodd efe i ni.
    11 Canys cyfuwch ag yw’r nefoedd uwchlaw’r ddaear : y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef.
    12 Cyn belled ag yw’r dwyrain oddi wrth y gorllewin : y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym.
    13 Fel y tosturia tad wrth ei blant : felly y tosturia’r Arglwydd wrth. y rhai a’i hofnant ef.
    14 Canys efe a edwyn ein defnydd ni : cofia mai llwch ydym.
    15 Dyddiau dyn sy fel glaswelltyn : megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe.
    16 Canys y gwŷnt a â drosto, ac ni bydd mwy o hono : a’i le nid edwyn ddim o hono ef mwy.
    17 Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb, ar y rhai a’i hofnant ef : a’i gyfiawnder i blant eu plant;
    18 I’r sawl a gadwant ei gyfammod ef : ac a gofiant ei orchymynion i’w gwneuthur.
    19 Yr Arglwydd a barottôdd ei orseddfa yn y nefoedd : a’i frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bob peth.
    20 Bendithiwch yr Arglwydd, ei angylion ef, cedyrn o nerth: yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.
    21 Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl luoedd ef: ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef.
    22 Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl weithredoedd ef, ym mhob man o’i lywodraeth: Fy enaid, bendithia’r Arglwydd.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM CIV. Benedic, anima mea.

FY enaid, bendithia’r Arglwydd : O Arglwydd fy Nuw, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch.
    2 Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn : ac yn taenu’r nefoedd fel llen.
    3 Yr hwn sy’n gosod tylathau ei stafelloedd yn y dyfroedd : yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt.
    4 Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysprydion : a’i weinidogion yn dân fflamllyd.
    5 Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini : fel na symmudo byth yn dragywydd.
    6 Toaist hi â’r gorddyfnder, megis â gwisg : y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd.
    7 Gan dy gerydd di y ffoisant : rhag swn dy daran y prysurasant ymaith.
    8 Gan y mynyddoedd yr ymgodant : ar hŷd y dyffrynoedd y disgynant, i’r lle a seiliaist iddynt.
    9 Gosodaist derfyn, fel nad elont drosodd : fel na ddychwelont i orchuddio’r ddaear.
    10 Yr hwn a yrr y ffynhonnau i’r dyffrynoedd : y rhai a gerddant rhwng y bryniau.
    11 Dlodant holl fwystfilod y maes : yr asynod gwylltion a dorrant eu syched.
    12 Adar y nefoedd a drigant ger llaw iddynt: y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau.
    13 Y mae efe’n dyfrhâu’r bryniau o’i ’stafelloedd : y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd.
    14 Y mae yn peri i’r gwellt dyfu i’r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn : fel y dycco fara allan o’r ddaear;
    15 A gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i’w wyneb ddisgleirio : a bara, yr hwn a gynnal galon dyn.
    16 Preniau’r Arglwydd sy lawn sugn : cedrw?dd Libanus, y rhai a blannodd efe;
    17 Lle y nytha’r adar : y ffynnidwŷdd yw tŷ’r ciconia.
    18 Y mynyddoedd uchel sy noddfa i’r geifr : a’r creigiau i’r cwningod.
    19 Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedig: yr haul a edwyn ei fachludiad.
    20 Gwnei dywyllwch, a nos fydd : ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed.
    21 Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth : ac a geisiant eu bwyd gan Dduw.
    22 Pan godo haul, ymgasglant : a gorweddant yn eu llochesau.
    23 Dyn a â allan i’w waith : ac i’w orchwyl hyd yr hwyr.
    24 Mor 1lïosog yw dy weithredodd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb : llawn yw’r ddaear o’th gyfoeth.
    25 Felly y mae’r môr mawr, llydan : yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion.
    26 Yno’r â’r llongau : yno y mae’r lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo.
    27 Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt : am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd.
    28 A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni.
    29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir : dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch.
    30 Pan ollyngych dy yspryd, y creïr hwynt: ac yr adnewyddi wyneb y ddaear.
    31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd : yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd.
    32 Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna : efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant.
    33 Canaf i’r Arglwydd tra fyddwyf fyw : canaf i’m Duw tra fyddwyf.
    34 Bydd melus fy myfyrdod am dano : mi a lawenychaf yn yr Arglwydd.
    35 Darfydded y pechaduriaid o’r tir; na fydded yr annuwiolion mwy : Fy enaid, bendithia di’r Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM CV. Confitemini Domino.

CLODFORWOH yr Arglwydd; gelwch ar ei Enw : mynegwch ei weithredoedd ym mysg y bobloedd.
    2 Cenwch iddo, canmolwch ef : ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef.
    3 Gorfoleddwch yn ei Enw sanctaidd : llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd.
    4 Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth : ceisiwch ei wyneb ef bob amser.
    5 Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe : ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau;
    6 Chwi had Abraham ei was ef : chwi meibion Jacob, ei etholedigion.
    7 Efe yw’r Arglwydd ein Duw ni : ei farnedigaethau ef sy trwy’r holl ddaear.
    8 Cofiodd ei gyfammod byth: y gair a orchymynodd efe i fil o genhedlaethau;
    9 Yr hyn a ammododd efe âg Abraham: a’i lw i Isaac;
    10 A’r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob : ac yn gyammod tragywydd ol i Israel;
    11 Gan ddywedyd, I ti Y rhoddaf dir Canaan : rhandir eich etifeddiaeth.
    12 Pan oeddynt ychydig o rifedi : ïe, ychydig, a dïeithriaid ynddi:
    13 Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth: o’r nl1ill deyrnas at bobl arall;
    14 Ni adawodd i neb eu gorthrymmu : ïe, ceryddodd frenhinoedd o’u plegid;
    15 Gan ddywedyd, Na chyffyrddwch â’m rhai enneiniog : ac na ddrygwch fy mhrophwydi.
    16 Galwodd hefyd am newyn ar y tir : a dinystriodd holl gynhaliaeth bara.
    17 Anfonodd wr o’u blaen hwynt : Joseph, yr hwn a werthwyd yn was.
    18 Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn : ei enaid a aeth mewn heiyrn;
    19 Hyd yr amser y daeth ei air ef : gair yr Arglwydd a’i profodd ef.
    20 Y brenhin a afonodd, ac a’i gollyngodd ef : llywodraethwr y bobl, ac a’i rhyddhaodd ef.
    21 Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ : ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth;
    22 I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys : ac i ddysgu doethineb i’w henuriaid ef.
    23 Aeth Israel hefyd i’r Aipht : a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham.
    24 Ac efe a gynnyddodd ei bobl yn ddirfawr : ac a’u gwnaeth yn gryfach nâ’u gwrthwynebwŷr.
    25 Trodd eu calon hwynt i gasâu ei bobl ef: i wneuthur yn ddichellgar â’i weision.
    26 Efe a anfonodd Moses ei was : ac Aaron, yr hwn a ddewisasai.
    27 Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt : a rhyfeddodau yn nhir Ham.
    28 Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd : ac nid anufuddhasant hwy ei air ef.
    29 Efe a drodd eu dyfroedd yn waed : ac a laddodd eu pysgod.
    30 Eu tir a heigiodd lyffaint : yn ystafelloedd eu brenhinoedd.
    31 Efe a ddywedodd, a daeth cymmysgbla : a llau yn eu holl fro hwynt.
    32 Efe a wnaeth eu gwlaw hwynt yn genllysg : ac yn fflammau tân yn eu tir.
    33 Tarawodd hefyd eu gwinwŷdd, a’u ffigyswŷdd : ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.
    34 Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid : a’r lindys, yn aneirif;
    35 Y rhai a fwyttasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt: ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt.
    36 Tarawodd hefyd bob cyntaf-anedig yn eu tir hwynt : blaen-ffrwyth eu holl nerth hwynt.
    37 Ac a’u dug hwynt allan âg arian ac aur: ac heb un llesg yn eu llwythau.
    38 Llawenychodd yr Aipht pan aethant allan : canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy.
    39 Efe a daenodd gwmmwl yn dô : a thân i oleuo liw nos.
    40 Gofynasant, ac efe a ddug soflieir : ac a’u diwallodd â bara nefol.
    41 Efe a holltodd y graig, a’r dyfroedd a ddylifodd : cerddasant ar h?d lleoedd sychion yn afonydd.
    42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd : ac Abraham ei was;
    43 Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd: ei etholedigion mewn gorfoledd.
    44 Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddiannasant lafur y bobloedd:
    45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef : ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.
 

Yr 21 Dydd.

PRYDNRAWNOL WEDDI.

PSALM CVI. Confitemini Domino.

MOLWCH yr Arglwydd. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw : o herwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
    2 Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd : ac a fynega ei holl fawl ef?
    3 Gwỳn eu byd a gad want farn: a’r hwn a wnel gyfiawnder bob amser.
    4 Cofia fi, Arglwydd, yn ol dy raslonrwydd i’th bobl : ymwêl â mi â’th iachawdwriaeth.
    5 Fel y gwel wyf ddaioni dy etholedigion : fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di; fel y gorfoleddwyf gyd â’th etifeddiaeth.
    6 Pechasom gyd â’n tadau: gwnaethom gamwedd; anwireddus fuom.
    7 Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aipht; ni chofiasant lïosowgrwydd dy drugareddau : eithr gwrthryfelgar fuont wrth y môr, sef y môr coch.
    8 Etto efe a’u hachubodd hwynt er mwyn ei Enw : i beri adnabod ei gadernid:
    9 Ac a geryddodd y môr coch, fel y sychodd efe : a thywysodd hwynt trwy’r dyfnder, megis trwy’r anialwch.
    10 Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog : ac a’u gwaredodd o law y gelyn.
    11 A’r dyfroedd a doisant eu gwrthwynebwŷr : ni adawyd un o honynt.
    12 Yna y credasant ei eiriau ef : canasant ei fawl ef.
    13 Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef : ni ddisgwyliasant am ei gyngor ef:
    14 Eithr blysiasant yn ddirfawr yn yr anialwch: a themtiasant Dduw yn y diffaethwch.
    15 Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt : eithr efe a anfonodd gulni i’w henaid.
    16 Cynfigennasant hefyd wrth Moses yn y gwersyll : ac wrth Aaron sant yr Arglwydd.
    17 Y ddaear a agorodd, ac a lyngcodd Dathan : ac a orchuddiodd gynnulleidfa Abiram.
    18 Cynneuodd tân hefyd yn eu cynnulleidfa hwynt : fflam a losgodd y rhai annuwiol.
    19 Llo a wnaethant yn Horeb : ac ymgrymmasant i’r ddelw dawdd.
    20 Felly y troisant eu gogoniant : i lun eidion yn pori glaswellt.
    21 Anghofiasant Dduw eu Hachubwr : yr hwn a wnelsai bethau mawrion yn yr Aipht;
    22 Pethau rhyfedd yn nhir Ham : pethau ofnadwy wrth y môr coch.
    23 Am hynny y dywedodd y dinystriai efe hwynt, oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwyo’i flaen ef : i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef, rhag eu dinystrio.
    24 Dïystyrasant hefyd y tir dymunol : ni chredasant ei air ef;
    25 Ond grwgnachasant yn eu pebyll : ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd.
    26 Yna y dyrchafodd efe ei law yn eu herbyn hwynt: i’w cwympo yn yr anialwch;
    27 Ac i gwympo eu had ym mysg y cenhedloedd : ac i’w gwasgaru yn y tiroedd.
    28 Ymgyssylltasant hefyd â Baal-Peor : a bwyttasant ebyrth y meirw.
    29 Felly y digiasant ef â’u dychymmygion eu hun : ac y tarawodd pla yn eu mysg hwy.
    30 Yna y safodd Phinees, ac a iawn-farnodd: a’r pla a attaliwyd.
    31 A chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder: o genhedlaeth i genhedlaeth byth.
    32 Llidiasant ef hefyd wrth ddyfroedd y gynnen : fel y bu ddrwg i Moses o’u plegid hwynt;
    33 O herwydd cythruddo o honynt ei yspryd ef : fel y cam-ddywedodd â’i wefusau.
    34 Ni ddinystriasant y bobloedd : am y rhai y dywedasai’r Arglwydd wrthynt;
    35 Eithr ymgymmysgasant â’r cenhedloedd : a dysgasant eu gweithredoedd hwynt;
    36 A gwasanaethasant eu delwau hwynt : y rhai a fu yn fagl iddynt.
    37 Aberthasant hefyd eu meibion : a’u merched i gythreuliaid,
    38 Ac a dywalltasant waed gwirion, sef gwaed eu meibion a’u merched : y rhai a aberthasant i ddel wau Canaan; a’r tir a halogwyd â gwaed.
    39 Felly’r ymhalogasant yn eu gweithredoedd eu hun : ac y putteiniasant gyd â’u dychymmygion:
    40 Am hynny y cynneuodd dig yr Arglwydd yn erbyn ei bobl : fel y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth.
    41 Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw’r cenhedloedd : a’u caseion a lywodraethasant arnynt.
    42 Eu gelynion hefyd a’u gorthrymmasant : a darostyngwyd hwynt dan eu dwylaw hwy.
    43 Llawer gwaith y gwaredodd efe hwynt; hwythau a’i digiasant ef â’u cyngor eu hun : a hwy a wanhychwyd am eu hanwiredd.
    44 Etto efe a edrychodd pan oedd ing arnynt : pan glywodd eu llefain hwynt.
    45 Ac efe a gofiodd ei gyfammod â hwynt : ac a edifarhaodd yn ol llïosowgrwydd ei drugareddau;
    46 Ac a wnaeth iddynt gael trugaredd : gan y rhai oll a’u caethiwai.
    47 Achub ni, O Arglwydd ein Duw, a chynnull ni o blith y cenhedloedd : i glodfori dy Enw sanctaidd, ac i orfoleddu yn dy foliant.
    48 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel eriôed ac yn dragywydd : a dyweded yr holl bobl, Amen. Molwch yr Arglwydd.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM CVII. Confitemini Domino.

CLODFORWCH yr Arglwydd; canys da yw : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
    2 Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd : y rhai a waredodd efe o law y gelyn;
    3 Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain : ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r dehau.
    4 Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr: heb gael dinas i aros ynddi;
    5 Yn newynog ac yn sychedig : eu henaid a lewygodd ynddynt.
    6 Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder : ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau;
    7 Ac a’u tywysodd hwynt ar hŷd y ffordd uniawn : i fyned i ddinas gyfanneddol.
    8 O’ na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni : a’i ryfeddodau i feibion dynion!
    9 Canys efe a ddiwalla’r enaid sychedig : ac a leinw’r enaid newynog â daioni.
    10 Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau : yn rh wyrn mewn cystudd a haiarn;
    11 O herwydd anufuddhâu o honynt eiriau Duw : a dirmygu cyngor y Goruchaf.
    12 Am hynny yntau a ostyngodd eu calon â blinder : syrthiasant, ac nid oedd cynorthwywr.
    13 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder : ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau.
    14 Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau: a drylliodd eu rhwymau hwynt.
    15 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni : a’i ryfeddodau i feibion dynion!
    16 Canys efe a dorrodd y pyrth pres : ac a ddrylliodd y barrau heiyrn.
    17 Ynfydion, oblegid eu camweddau : ac o herwydd eu hanwireddau, a gystuddir.
    18 Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd : a daethant hyd byrth angau.
    19 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder : ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau.
    20 Anfonodd ei air, ac iachaodd hwynt: ac a’u gwaredodd o’u dinystr.
    21 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni : a’i ryfeddodau i feibion dynion!
    22 Aberthant hefyd aberth moliant: a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.
    23 Y rhai a ddisgyn ant mewn llongau i’r môr: gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion.
    24 Hwy a welant weithredoedd yr Arglwydd : a’i ryfeddodau yn y dyfnder.
    25 Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymmestl-wỳnt : yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef.
    26 Hwy a esgynant i’r nefoedd, disgynant i’r dyfnder : tawdd eu henaid gan flinder.
    27 Ymdroant, ac ymsymmudant fel meddwyn : a’u holl ddoethineb a ballodd.
    28 Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder : ac efe a’u dwg allan o’u gorthrymderau.
    29 Efe a wna’r ystorm yn dawel : a’i thonnau a ostegant.
    30 Yna y llawenhânt am eu gostegu: ac efe a’u dwg i’r porthladd a ddymunent.
    31 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni : a’i ryfeddodau i feibion dynion!
    32 A dyrchafant ef ynghynnulleidfa’r bobl : a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid.
    33 Efe a wna afonydd yn ddiffaethwch : a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir;
    34 A thir ffrwythlawn yn ddiffrwyth : am ddrygioni y rhai a drigant ynddo.
    35 Efe a dry’r anialwch yn llyn dwfr : a’r tir cras yn ffynhonnau dwfr.
    36 Ac yno y gwna i’r newynog aros : fel y darparont ddinas i gyfanneddu;
    37 Ac yr hauont feusydd, ac y plannont winllannoedd : y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.
    38 Ac efe a’u bendithia hwynt fel yr amlhânt yn ddirfawr : ac ni ad i’w hanifeiliaid leihâu.
    39 Lleihêir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt : gan gyfyngder, drygfyd, a chyn i.
    40 Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion : ac a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd.
    41 Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd : ac a wna iddo deuluoedd fel praidd.
    42 Y rhai uniawn a wellant hyn, ac a lawenychant : a phob anwiredd a gau ei safn.
    43 Y neb sy ddoeth, ac a gadwo hyn : hwy a ddeallant drugareddau’r Arglwydd.
 

Yr 22 Dydd

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM CVIII. Paratum cor meum.

PAROD yw fy nghalon, O Dduw : canaf a chanmolaf â’m gogoniant.
    2 Deffro, y nabl a’r delyn : minnau a ddeffroaf yn fore.
    3 Clodforaf di, Arglwydd, I ym mysg y bobloedd : canmolaf di ym mysg y cenhedloedd.
    4 Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd : a’th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren.
    5 Ymddyrcha, O Dduw, uwch y nefoedd : a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear;
    6 Fel y gwareder dy rai anwyl : achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi.
    7 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd : Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.
    8 Eiddof fi yw Gilead; eiddof fi Manasseh : Ephraim hefyd yw nerth fy mhen; Judah yw fy neddfwr.
    9 Moab yw fy nghrochan golchi : tros Edom y taflaf fy esgid; buddugoliaethaf ar Philistia.
    10 Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn : pwy a’m dwg hyd yn Edom?
    11 Onid tydi, O Dduw, yr hwn a’n bwriaist ymaith : ac onid ai di allan, O Dduw, gyd â’n lluoedd?
    12 Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder : canys gau yw ym wared dyn.
    13 Trwy Dduw y gwnawn wroldeb : canys efe a sathr ein gelynion.
 

 

PSALM CIX. Deus laudum.

NA thaw : O Dduw fy moliant.
   2 Canys genau’r annuwiol a genau’r twyllodrus a ymagorasant arnaf : â thafod celwyddog y llefarasant i’m herbyn.
    3 Cylchynasant fi hefyd â geiriau cas : ac ymladdasant â mi heb achos.
    4 Am fy ngharedigrwydd y’m gwrthwynebant : minnau a arferaf weddi.
    5 Talasant hefyd i mi ddrwg am dda : a chas am fy nghariad.
    6 Gosod dithau un annuwiol arno ef : a safed Satan wrth ei ddeheulaw ef.
    7 Pan farner ef, eled yn euog : a bydded ei weddi yn bechod.
    8 Ychydig fyddo ei ddyddiau : a chymmered arall ei swydd ef.
    9 Bydded ei blant yn amddifaid : a’i wraig yn weddw.
    10 Gan grwydro hefyd crwydred ei blant ef, a chardottant : ceisiant hefyd eu bara o’u hanghyfanneddleoedd.
    11 Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sy ganddo : ac anrheithied dïeithriaid ei lafur ef.
    12 Na fydded neb a est yno drugaredd iddo : ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef.
    13 Torrer ymaith ei hiliogaeth ef : dilëer eu henw yn yr oes nesaf.
    14 Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr Arglwydd : ac na ddilëer pechod ei fam ef.
    15 Byddant bob amser ger bron yr Arglwydd : fel y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o’r tir:
    16 Am na chofiodd wneuthur trugaredd: eithr erlid o hono y truan a’r tlawd, a’r cystuddiedig o galon, i’w ladd.
    17 Hoffodd felldith, a hi a ddaeth iddo : ni fynnai fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho.
    18 Ië, gwisgodd felldith fel dilledyn : a hi a ddaeth fel dwfr i’w fewn, ac fel olew i’w esgyrn.
    19 Bydded iddo fel dilledyn yr hwn a wisgo efe: ac fel gwregys a’i gwregyso ef yn wastadol.
    20 Hyn fyddo tâl fy ngwrthwynebwŷr gan yr Arglwydd : a’r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid.
    21 Tithau, Arglwydd Dduw, gwna erof fi er mwyn dy Enw : am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi.
    22 Canys truan a thlawd ydwyf fi : a’m calon a archollwyd o’m mewn.
    23 Aethum fel cysgod pan gilio : fel locust y’m hysgydwir.
    24 Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd : a’m cnawd a guriodd o eisiau brasder.
    25 Gwaradwydd hefyd oeddwn iddynt : pan welent fi, siglent eu pennau.
    26 Cynnorthwya fi, O Arglwydd fy Nuw : achub fi yn ol dy drugaredd;
    27 Fel y gwypont mai dy law di yw hyn : mai ti, Arglwydd, a’i gwnaethost.
    28 Melldithiant hwy, ond bendithia di : cywilyddier hwynt, pan gyfodant; a llawenyched dy was.
    29 Gwisger fy ngwrthwynebwŷr â gwarth : ac ymwisgant â’u cywilydd, megis â chochlo
    30 Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr â’m genau : ïe, moliannaf ef ym mysg llawer.
    31 O herwydd efe a saif ar ddeheulaw’r tlawd : i’w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM CX. Dixit Dominus.

DYWEDODD yr Arglwydd wrth fy Arglwydd : Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osod wyf dy elynion yn faingc i’th draed.
    2 Gwïalen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Sïon : llywodraetha di ynghanol dy elynion.
    3 Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd : o groth y wawr y mae gwlith dy enedigaeth i ti.
    4 Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarhâ : Ti wyt offeiriad yn dragywydd ol, yn ol urdd Melchisedec.
    5 Yr Arglwydd ar dy ddeheulaw : a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint.
    6 Efe a farn ym mysg y cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau : archolla ben llawer gwlad.
    7 Efe a ŷf o’r afon ar y ffordd : am hynny y dyrcha efe ei ben.
 

Y 23 Dydd.

PSALM CXI. Confitebor tibi.

MOLWCH yr Arglwydd. Clodforaf yr Arglwydd â’m holl galon : ynghymmanfa y rhai uniawn, ac yn y gynnulleidfa.
    2 Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd: wedi eu ceisio gan bawb a’u hofiant.
    3 Gogoniant a harddwch yw ei waith ef : a’i gyfiawnder sydd yn parhâu byth.
    4 Gwnaeth gofio ei ryfeddodau : graslawn a thrugarog yw’r Arglwydd.
    5 Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant ef : efe a gofia ei gyfammod yn dragywydd.
    6 Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd : i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
    7 Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylaw ef : ei holl orchymynion ydynt sicr;
    8 Wedi eu sicrhâu byth ac yn dragywydd: a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder.
    9 Anfonodd ymwared i’w bobl; gorchymynodd ei gyfammod yn dragywyddol : sancteiddiol ac ofnadwy yw ei Enw ef.
    10 Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd : deall da sy gan y rhai a wnant ei orchymynion ef; y mae ei foliant ef yn parhâu byth.
 

 

PSALM CXII. Beatus vir.

MOLWCH yr Arglwydd. Gwỳn ei fyd y gwr a ofna’r Arglwydd : ac sydd yn hoffi ei orchymynion ef yn ddirfawr.
    2 Ei had fydd cadarn ar y ddaear : cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir.
    3 Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef : a’i gyfiawnder sydd yn parhâu byth.
    4 Cyfyd goleuni i’r rhai uniawn yn y tywyllwch : trugarog, a thosturiol, a chyfiawn, yw efe.
    5 Gwr da sy gymmwynasgar, ac yn rhoddi benthyg : wrth farn y llywodraetha efe ei achosion.
    6 Yn ddïau nid ysgogir ef byth : y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth.
    7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg : ei galon sy ddisigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd.
    8 Attegwyd ei galon; nid ofna efe : hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion.
    9 Gwasgarodd, rhoddodd i’r tlodion : a’i gyfiawnder sydd yn parhâu byth; ei gorn a ddyrchefir mewn gogoniant.
    10 Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia; efe a ysgyrnyga ei ddannedd, ac a dawdd ymaith : derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.
 

 

PSALM CXIII. Laudate, pueri.

MOLWCH yr Arglwydd. Gweision yr Arglwydd, molwch : le, molwch Enw’r Arglwydd.
    2 Bendigedig fyddo Enw’r Arglwydd : o hyn allan ac yn dragywydd.
    3 O godiad haul hyd ei fachludiad : moliannus yw Enw’r Arglwydd.
    4 Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd : a’i ogoniant sy goruwch y nefoedd.
    5 Pwy sy fel yr Arglwydd ein Duw ni : yr hwn sydd yn preswylio yn uchel,
    6 Yr hwn a ymddarostwng : i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear?
    7 Efe sydd yn codi’r tlawd o r llwch : ac yn dyrchafu yr anghenus o’r dommen,
    8 I’w osod gyd â phendefigion : le, gyd â phendefigion ei bobl.
    9 Yr hwn a wna i’r ammhlantadwy gadw tŷ : a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr Arglwydd.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM CXIV. In exitu Israel.

PAN aeth Israel o’r Aipht : tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith;
   2 Judah oedd ei sancteiddrwydd : ac Israel ei arglwyddiaeth.
    3 Y môr a welodd hyn, ac a giliodd : yr Iorddonen a drodd yn ol.
    4 Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod : a’r bryniau fel ŵyn defaid.
    5 Beth a ddarfu i ti, O fôr, pan giliaist : tithau Iorddonen, paham y troaist yn ol?
    6 Paham, fynyddoedd, y neidiech fel hyrddod : a’r bryniau fel ŵyn defaid?
    7 Ofna di, ddaear, rhag yr Arglwydd: rhag Duw Jacob;
    8 Yr hwn sydd yn troi’r graig yn llyn dwfr: a’r gallestr yn ffynnon dyfroedd.
 

 

PSALM CXV. Non nobis, Domine.

NID i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i’th Enw dy hun dod ogoniant : er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd.
    2 Paham y dywedai’r cenhedloedd : Pa le yn awr y mae eu Duw hwynt?
    3 Ond ein Duw ni sydd yn y nefoedd : efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.
    4 Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian : gwaith dwylaw dynion.
    5 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant : llygaid sy ganddynt, ond ni welant;
    6 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant : ffroenau sy ganddynt, ond ni aroglant.
    7 Dwylaw sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant : ni leisiant ch waith â’u gwddf.
    8 Y rhai a’u gwnant ydynt fel hwythau : a phob un a ymddiriedo ynddynt.
    9 O Israel, ymddiried di yn yr Arglwydd : efe yw eu porth a’u tarian.
    10 Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr Arglwydd : efe yw eu porth a’u tarian.
    11 Y rhai a ofnwch yr Arglwydd, ymddiriedwch yn yr Arglwydd : efe yw eu porth a’u tarian.
    12 Yr Arglwydd a’n cofiodd ni; efe a’n bendithia : bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron.
    13 Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwydd : fychain a mawrion.
    14 Yr Arglwydd a’ch ’chwanega chwi fwyfwy : chwychwi a’ch plant hefyd.
    15 Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd : yr hwn a wnaeth nef a daear.
    16 Y nefoedd, ïe, ’r nefoedd ydynt eiddo’r Arglwydd : a’r ddaear a roddes efe i feibion dynion.
    17 Y meirw ni foliannant yr Arglwydd : na’r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd.
    18 Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd : o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM CXVI. Dilexi, quoniam.

DA gennyf wrando o’r Arglwydd : ar fy llef a’m gweddïau.
   2 Am ostwng o hono ei glust attaf : am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef.
    3 Gofidion angau a’m cylchynasant, a gofidiau uffern a’m daliasant : ing a blinder a gefais.
    4 Yna y gelwais ar Enw’r Arglwydd: Attolwg, Arglwydd, gwared fy enaid.
    5 Graslawn yw’r Arglwydd, a chyfiawn : a thosturiol yw ein Duw ni.
    6 Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai annichellgar : tlodais, ac efe a’m hachubodd.
    7 Dychwel, O fy enaid, i’th orphwysfa: canys yr Arglwydd fu dda wrthyt.
    8 O herwydd i ti waredu fy enaid oddi wrth angau : fy llygaid oddi wrth ddagrau, a’m traed rhag llithro:
    9 Rhodiaf o flaen yr Arglwydd: yn nhir y rhai byw.
    10 Credais, am hynny y lleferais : cystuddiwyd fi’n ddirfawr.
    11 Mi a ddywedais yn fy ffrwst : Pob dyn sy gelwyddog.
    12 Beth a dalaf i’r Arglwydd : am ei holl ddoniau i mi?
    13 Phïol iachawdwriaeth a gymmeraf : ac ar Enw’r Arglwydd y galwaf.
    14 Fy addunedau a dalaf i’r Arglwydd : yn awr yngŵydd ei holl bobl ef.
    15 Gwerthfawr yngolwg yr Arglwydd : yw marwolaeth ei saint ef.
    16 O Arglwydd, yn ddïau dy was di ydwyf fi; dy was ch ydwyf fi : mab dy wasanaethwraig; dattodaist fy rhwymau.
    17 Aberthaf i ti aberth m011iant : a galwaf ar Enw’r Arglwydd.
    18 Talaf fy addunedau i’r Arglwydd : yn awr yngŵydd ei holl bobl,
    19 Ynghynteddoedd tŷ’r Arglwydd : yn dy ganol di, O Jerusalem. Molwch yr Arglwydd.
 

Y 24 Dydd.

PSALM CXVII. Laudate Dominum.

MOLWCH yr Arglwydd, yr holl genhedloedd : clodforwch ef, yr holl bo bloedd.
    2 O herwydd ei drugaredd ef tu ag attom ni sy fawr : a gwirionedd yr Arglwydd a bery yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.
 

 

PSALM CXVIII. Confitemini Domino.

CLODFORWCH yr Arglwydd; canys da yw : o herwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.
    2 Dyweded Israel yr awr hon : fod ei drugaredd ef yn parhâu yn dragywydd.
    3 Dyweded tŷ Aaron yn awr : fod ei drugaredd ef yn parhâu yn dragywydd.
    4 Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr Arglwydd : fod ei drugaredd ef yn parhâu yn dragywydd.
    5 Mewn ing y gelwais ar yr Arglwydd: yr Arglwydd a’m clybu, ac a’m gosododd mewn ehangder.
    6 Yr Arglwydd sy gyd â mi : nid ofnaf beth a wna dyn i mi?
    7 Yr Arglwydd sy gyd â mi ym mhlith fy nghynnorthwywŷr : am hynny y caf weled fy ewyllys ar fy nghaseion.
    8 Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd : nag ymddiried mewn dyn.
    9 Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd : nag ymddiried mewn tywysogion.
    10 Yr holl genhedloedd a’m hamgylchynasant : ond yn Enw’r Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith.
    11 Amgylchynasant fi; ïe, amgylchynasant fi : ond yn Enw’r Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith.
    12 Amgylchynasant fi fel gwenyn; diffoddasant fel tân drain : o herwydd yn Enw’r Arglwydd mi a’u torraf hwynt ymaith.
    13 Gan wthio y gwthiaist fi, fel y syrthiwn : ond yr Arglwydd a’m cynnorthwyodd.
    14 Yr Arglwydd yw fy nerth a’m cân : ac sydd iachawdwriaeth i mi.
    15 Llef gorfoledd a iachawdwriaeth sydd ym mhebyll y cyfiawn : deheulaw’r Arglwydd sydd yn gwneuthur grymmusder.
    16 Deheulaw’r Arglwydd a ddyrchafwyd : deheulaw’r Arglwydd sydd yn gwneuthur grymmusder.
    17 Ni byddaf farw, ond byw : a mynegaf weithredoedd yr Arglwydd.
    18 Gan gospi y’m cospodd yr Arglwydd : ond ni’m rhoddodd i farwolaeth.
    19 Agorwch i mi byrth cyfiawnder : af i mewn iddynt, a chlodforaf yr Arglwydd.
    20 Dyma borth yr Arglwydd: y rhai cyfiawn a ant i mewn iddo.
    21 Clodforaf di; o herwydd i ti fy ngwrando : a’th fod yn iachawdwriaeth i mi.
    22 Y maen a wrthododd yr adeiladwŷr: a aeth yn ben i’r gongl.
    23 O’r Arglwydd y daeth hyn : hyn oedd ryfedd yn ein gol wg ni.
    24 Dyma’r dydd a wnaeth yr Arglwydd : gorfoledd wn a llawenychwn ynddo.
    25 Attolwg, Arglwydd, achub yn awr : attolwg, Arglwydd, par yn awr lwyddiant.
    26 Bendigedig yw a ddêl yn Enw’r Arglwydd : bendithiasom chwi o dŷ’r Arglwydd.
    27 Duw yw’r Arglwydd, yr hwn a lewyrchodd i ni : rhwymwch yr aberth â rhaffau, hyd wrth gyrn yr allor.
    28 Fy Nuw ydwyt ti, a mi a’th glodforaf: dyrchafaf di, fy Nuw.
    29 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw : o herwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM CXIX. Beati immaculati.

GWYN fyd y rhai perffaith eu ffordd : y rhai a rodiant ynghyfraith yr Arglwydd.
    2 Gwyn fyd y rhai a gadwant ei dystiolaethau ef : ac a’i ceisiant ef â’u holl galon.
    3 y rhai hefyd ni wnant anwiredd : hwy a rodiant yn ei ffyrdd ef.
    4 Ti a orchymynaist : gadw . dy orchymynion yn ddyfal.
    5 O am gyfeirio fy ffyrdd : i gadw dy ddeddfau!
    6 Yna ni’m gwaradwyddid: pan edrych wn ar dy holl orchymynion.
    7 Clodforaf di âg uniondeb calon : pan ddysgwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.
    8 Cadwaf dy ddeddfau : O na ad fi’n hollol.

In quo corriget?

PA fodd y glanhâ llangc ei lwybr : wrth ymgadw yn ol dy air di.
   10 A’m holl galon y’th geisiais : na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchymynion.
    11 Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon : fel na phechwn i’th erbyn.
    12 Ti, Arglwydd, wyt fendigedig : dysg i mi dy ddeddfau.
    13 A’m gwefusau y traethais: holl farnedigaethau dy enau.
    14 Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau : â’r holl olud.
    15 Yn dy orchymynion y myfyriaf : ac ar dy lwybrau yr edrychaf.
    16 Yn dy ddeddfau’r ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.

Retribue servo tuo.

BYDD dda wrth dy was: fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.
    18 Datguddia fy llygaid: fel, y gwelwyf bethau rhyfedd allan o’th gyfraith di.
    19 Dïeithr ydwyf fi ar y ddaear : na chudd di rhagof dy orchymynion.
    20 Drylliwyd fy enaid gan awydd : i’th farnedigaethau bob amser.
    21 Ceryddaist y beilchion melldigedig : y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchymynion.
    22 Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg : oblegid dy dystiolaethau di a gedwais.
    23 Trywysogion hefyd a eisteddasant, ac a ddywedasant i’m herbyn : dy was dithau a fyfyriai yn dy ddeddfau.
    24 A’th dystiolaethau oeddynt fy hyfrydwch : a’m cynghorwŷr.

Adhmsit pavimento.

GLYNODD fy enaid wrth y llwch : bywhâ fi yn ol dy air.
   26 Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi : dysg i mi dy ddeddfau.
    27 Gwna i mi ddeall ffordd dy orchymynion : a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.
    28 Diferodd fy enaid gan ofid : nertha fi yn ol dy air.
    29 Cymmer oddi wrthyf ffordd y celwydd: ac yn raslawn dod i mi dy gyfraith.
    30 Dewisais ffordd gwirionedd : gosodais dy farnedigaethau o’m blaen.
    31 Glynais wrth dy dystiolaethau : O Arglwydd, na’m gwaradwydda.
    32 Ffordd dy orchymynion a redaf: pan ehangech fy nghalon.
 

 

BOREOL WEDDI.

Legem pone.

DYSG i mi, O Arglwydd, ffordd dy ddeddfau : a chadwaf hi hyd Y diwedd.
    34 Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith : ïe, cadwaf hi â’m holl galon.
    35 Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchymynion : canys ynddo y mae fy ewyllys.
    36 Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau : ac nid at gybydd-dra.
    37 Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd : a bywhâ fi yn dy ffyrdd.
    38 Sicrhâ dy air i’th was : yr hwn sy’n ymroddi i’th ofn di.
    39 Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni : canys dy farnedigaethau sy dda.
    40 Wele, awyddus ydwyf i’th orchymynion : gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.

Et veniat super me.

DEUED i mi dy drugaredd, Arglwydd : a’th iachawdwriaeth yn ol dy air.
    42 Yna yr attebaf i’m cablydd : o herwydd yn dy air y gobeithiais.
    43 Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr : o herwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais.
    44 A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol : byth ac yn dragywydd.
    45 Rhodiaf hefyd mewn ehangder : o herwydd dy orchymynion di a geisiaf.
    46 Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd : ac ni bydd cywilydd gennyf.
    47 Ac ymddigrifaf yn dy 0r’chymynion : y rhai a hoffais.
    48 A’m dwylaw a ddyrchafaf at dy orchymynion, y rhai a gerais : a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.

Memor esto servi tui.

COFIA’r gair wrth dy was : yn yr hwn y peraist i mi obeithio.
   50 Dyma fy nghysur yn fy nghystudd : canys dy air di a’m bywhaodd i.
    51 Y beilchion a’m gwatwarasant yn ddirfawr : er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di.
    52 Cofiais, O Arglwydd, dy farnedigaethau eriôed : ac ymgysurais.
    53 Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion : y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.
    54 Dy ddeddfau oedd fy nghân : yn nhŷ fy mhererindod.
    55 Cofiais dy Enw, Arglwydd, y nos : a chedwais dy g’yfraith.
    56 Hyn oedd gennyf: am gadw o honof dy orchymynion di.

Portio mea, Domine.

O ARGLWYDD, fy rhan ydwyt : dywedais y cadwn dy eiriau.
   58 Ymbiliais â’th wyneb â’m holl galon : trugarhâ wrthyf yn ol dy air.
    59 Meddyliais am fy ffyrdd : a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di.
    60 Brysiais, ac nid oedais : gadw dy orchymynion.
    61 Minteioedd yr annuwiolion a’m hyspeiliasant : ond nid anghofiais dy gyfraith di.
    62 Hanner nos y cyfodaf i’th foliannu : am farnedigaethau dy gyfiawnder.
    63 Cyfaill ydwyf fi i’r rhai oll a’th ofnant : ac i’r rhai a gadwant dy orchymynion.
    64 Llawn yw’r ddaear o’th drugaredd, O Arglwydd : dysg i mi dy ddeddfau.

Bonitatem fecisti.

GWNAETHOST yn dda â’th was, O Arglwydd : yn ol dy air.
   66 Dysg i mi ia wn ddeall a gwybodaeth : o herwydd dy orchymynion di a gredais.
    67 Cyn fy nghystuddio, yr oeddwn yn cyfeiliorni : ond yn awr cedwais dy air di.
    68 Da ydwyt, a daionus : dysg i mi dy ddeddfau.
    69 y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn : minnau a gadwaf dy orchymynion a’m holl galon.
    70 Cyn frased â’r bloneg yw eu calon : minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di.
    71 Da yw i mi fy nghystuddio : fel y dysgwn dy ddeddfau.
    72 Gwell i mi gyfraith dy enau ; nâ miloedd o aur ac arian.
 

Y 25 Dydd.

PRYDNHAWNOL WEDDI.

Manus tuæ fecerunt me.

DY ddwylaw a’m gwnaethant, ac a’m lluniasant : par i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchymynion.
    74 Y rhai a’th ofnant a’m gwelant, ac a lawenychant : oblegid gobeithio o honof yn dy air di.
    75 Gwn, Arglwydd, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau : ac mai mewn ffyddlondeb y’m cystuddiaist.
    76 Bydded, attolwg, dy drugaredd i’m cysuro : yn ol dy air i’th wasanaethwr.
    77 Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw : o herwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch.
    78 Cywilyddier y beilchion; canys gwnant gam â mi yn ddiachos : ond myfi a fyfyriaf yn dy orchymynion di.
    79 Troer attaf fi y rhai a’th ofnant di : a’r rhai a adwaenant dy dystiolaethau.
    80 Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau : fel na’m cywilyddier.

Defecit anima mea.

DIFFYGIODD fy enaid am dy iachawdwriaeth: wrth dy air yr ydwyf yn disgwyl.
    82 Y mae fy llygaid yn pallu am dy air : gan ddywedyd, Pa bryd y’m diddeni?
    83 Canys ydwyf fel costrel mewn mwg: ond nid anghofiais dy ddeddfau.
    84 Pa nifer yw dyddiau dy was : pa bryd y gwnei farn ar y rhai a’m herlidiant?
    85 Y beilchion a gloddiasant byllau i mi : yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di.
    86 Dy holl orchymynion ydynt wirionedd : ar gam y’m herlidiasant; cymmorth fi.
    87 Braidd na’m difasant ar y ddaear : minnau ni adewais dy orchymynion.
    88 Bywhâ fi yn ol dy drugaredd : felly y cadwaf dystiolaeth dy enau.

In æternum, Domine.

YN dragywydd, O Arglwydd: y mae dy air wedi ei sicrhâu yn y nefoedd.
    90 Dy wirionedd sydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth : seiliaist y ddaear, a hi a saif.
    91 Wrth dy farnedigaethau y safant heddyw : canys dy weision yw pob peth.
    92 Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi : darfuasai yna am danaf yn fy nghystudd.
    93 Byth nid anghofiaf dy orchymynion : canys â hwynt y’m bywheaist.
    94 Eiddot ti ydwyf, cadw fi : o herwydd dy orchymynion a geisiais.
    95 y rhai annuwiol a ddisgwyliasant am danaf i’m difetha : ond dy dystiolaethau di a ystyriaf fi.
    96 Yr ydwyf yn gweled diwedd ar bob perffeithrwydd : ond dy orchymyn di sy dra ehang.

Quomodo dilexi!

MOR gu gennyf dy gyfraith di : hi yw fy myfyrdod beunydd.
   98 A’th orchymynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach nâ’m gelynion : canys byth y maent gyd â mi.
    99 Deallais fwy na’m holl athrawon: o herwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.
    100 Deallais yn well nâ’r henuriaid : am fy mod yn cadw dy orchymynion di.
    101 Atteliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg: fel y cadwn dy air di.
    102 Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau : o herwydd ti a’m dysgaist.
    103 Mor felus yw dy eiriau i’m genau : melusach nâ mel i’m safn.
    104 Trwy dy orchymynion di y pwyllais : am hynny y caseais bob gau lwybr .
 

 

BOREOL WEDDI.

Lucerna pedibus meis.

LLUSERN yw dy air i’m traed : a llewyrch i’m llwybr.
   106 Tyngais, a chyflawn af : y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.
    107 Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywhâ fi, O Arglwydd, yn ol dy air.
    108 Attolwg, Arglwydd, bydd foddlon i ewyllysgar offrymmau fy ngenau : a dysg i mi dy farnedigaethau.
    109 Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol : er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith.
    110 Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi : ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchymynion.
    111 Cymmerais dy orchymynion yn etifeddiaeth dros byth : o herwydd llawenydd fy nghalon ydynt.
    112 Gostyngais fy nghalon: i wneuthur dy ddeddfau byth hyd y diwedd.

Iniquos odio habui.

MEDDYLIAU ofer a gaseais : a’th gyfraith di a hoffais.
   114 Fy lloches a’m tarian ydwyt: yn’ dy air y gobeithiaf.
    115 Ciliwch oddi wrthyf, rai drygionus : canys cadwaf orchymynion fy Nuw.
    116 Cynnal fi yn ol dy air, fel y byddwyf byw : ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith.
    117 Cynnal fi, a dïangol fyddaf : ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol.
    118 Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau : canys twyllodrus yw eu dichell hwynt.
    119 Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel sothach : am hynny’r hoffais dy dystiolaethau.
    120 Dychrynodd fy nghnawd rhag dy ofn : ac ofnais rhag dy farnedigaethau.

Feci judicium.

GWNAETHUM farn a chyfiawnder : na ad fi i’m gorthrymmwŷr.
   122 Mechnïa dros dy was er daioni : na ad i’r beilchion fy ngorthrymmu.
    123 Fy llygaid a ballasant am dy iachawdwriaeth : ac am ymadrodd dy gyfiawnder.
    124 Gwna i’th was yn ol dy drugaredd : a dysg i mi dy ddeddfau.
    125 Dy was ydwyf fi; par i mi ddeall : fel y gwypwyf dy dystiolaethau.
    126 Amser yw i’r Arglwydd weithio : diddymmasant dy gyfraith di.
    127 Am hynny’r hoffais dy orchymynion : yn fwy nag aur; ïe, yn fwy nag aur coeth.
    128 Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchymynion am bob peth : a chaseais bob gau lwybr.

Mirabilia.

RHYFEDD yw dy dystiolaethau : am hynny y ceidw fy enaid hwynt.
   130 Agoriad dy eiriau a rydd oleuni : pair ddeall i rai annichellgar.
    131 Agorais fy ngenau, a dyheais : oblegid awyddus oeddwn i’th orchymynion di.
    132 Edrych arnaf, a thrugarhâ wrthyf: yn ol dy arfer i’r rhai a garant dy Enw.
    133 Cyfarwydda fy nghamrau yn dy air : ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf.
    134 Gwared fi oddi wrth orthrymder dynion : felly y cadwaf dy orchymynion.
    135 Llewyrcha dy wyneb ar dy was : a dysg i mi dy ddeddfau.
    136 Afonydd o ddyfroedd a redant o’m llygaid : am na chadwasant dy gyfraith di.

Justus es, Domine.

CYFIAWN ydwyt ti, O Arglwydd : ac uniawn yw dy farnedigaethau.
   138 Dy dystiolaethau y rhai a orchymynaist : ydynt gyfiawn, a ffyddlon iawn.
    139 Fy zel a’m difaodd : o herwydd i’m gelynion anghofio dy eiriau di.
    140 Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr : am hynny y mae dy was yn ei hoffi.
    141 Bychan ydwyf fi a dirmygus : ond nid anghofiais dy orchymynion.
    142 Dy gyfiawnder sy gyfiawnder byth : a’th gyfraith sydd wirionedd.
    143 Adfyd a chystudd a’m goddiweddasant : a’th orchymynion oedd fy nigrifwch.
    144 Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd : gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.
 

Y 26 Dydd.

PRYDNHAWNOL WEDDI.

Clamavi in toto corde meo.

LLEFAIS â’m holl galon : clyw fi, O Arglwydd; dy ddeddfau a gadwaf.
    146 Llefais arnat; achub fi : a chadwaf dy dystiolaethau.
    147 Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais : wrth dy air y disgwyliais.
    148 Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau’r nos : i fyfyrio yn dy air di.
    149 Clyw fy llef yn ol dy drugaredd : Arglwydd, bywhâ fi yn ol dy farnedigaethau.
    150 Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf : ymbellasant oddi wrth dy gyfraith di.
    151 Tithau, Arglwydd, wyt agos : a’th holl orchymynion sydd wirionedd.
    152 Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau : seilio o honot hwynt yn dragywydd.

Vide humilitatem.

GWEL fy nghystudd, a gwared fi : canys nid anghofiais dy gyfraith.
    154 Dadleu fy nadl, a gwarred fi : bywhâ fi yn ol dy air.
    155 Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol : o herwydd ni cheisiant dy ddeddfau di.
    156 Dy drugareddau, Arglwydd, sydd aml: bywhâ fi yn ol dy farnedigaethau.
    157 Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fy ngwrthwynebu : er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.
    158 Gwelais y troseddwŷr, a gresynais: am na chadwent dy air di.
    159 Gwel fy mod yn hoffi dy orchymynion : Arglwydd, bywhâ fi yn ol dy drugarowgrwydd.
    160 Gwirionedd o’r dechreuad yw dy air : a phob un o’th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd.

Principes persecuti sunt.

TYWYSOGION a’m herlidiasant heb achos : er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di.
    162 Llawen ydwyf fi oblegid dy air : fel un yn cael ysglyfaeth lawer.
    163 Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais : a’th gyfraith di a hoffais.
    164 Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori : o herwydd dy gyfiawn farnedigaethau.
    165 Heddwch mawr fydd i’r rhai a garant dy gyfraith : ac nid oes dramgwydd iddynt.
    166 Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O Arglwydd : a gwnaethum dy orchymynion.
    167 Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau : a hoff iawn gennyf hwynt.
    168 Cedwais dy orchymynion a’th dystiolaethau : canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di.

Appropinquet deprecatio.

NESAED fy ngwaedd o’th flaen, Arglwydd : gwna i mi ddeall yn ol dy air.
    170 Deued fy ngweddi ger dy fron : gwared fi yn ol dy air.
    171 Fy ngwefusau a draetha foliant : pan ddysgech i mi dy ddeddfau.
    172 Fy nhafod a ddatgan dy air : o herwydd dy holl orchymynion sy gyfiawnder.
    173 Bydded dy law i’m cynorthwyo : o herwydd dy orchymynion di a ddewisais.
    174 Hiraethais, O Arglwydd, am dy iachawdwriaeth: a’th gyfraith yw fy hyfrydwch.
    175 Bydded byw fy enaid, fel y’th folianno di : a chynorthwyed dy farnedigaethau fi.
    176 Cyfeiliornais fel dafad wedi colli : cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchymynion.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM CXX. Ad Dominum.

AR yr Arglwydd y gwaeddais yn fy nghyfyngder : ac efe a’m gwrandawodd i.
    2 Arglwydd, gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddog : ac oddi wrth dafod twyllodrus.
    3 Beth a roddir i ti? neu pa beth a wneir i ti : dydi dafod twyllodrus?
    4 Llymion saethau cawr : ynghŷd â marwor meryw.
    5 Gwae fi, fy mod yn preswylio ym Mesech : yn cyfanneddu ym mhebyll Cedar.
    6 Hir y trigodd fy enaid : gyd â’r hwn oedd yn casâu tangnefedd.
    7 Heddychol ydwyf fi : ond pan lefarwyf, y maent yn barod i ryfel.
 

 

PSALM CXXI. Levavi oculos.

DYRCHAF AF fy llygaid i’r mynyddoedd : o’r lle y daw fy nghymmorth.
    2 Fy nghymmorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd : yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.
    3 Ni ad efe i’th droed lithro : ac ni huna dy geidwad.
    4 Wele, ni huna : ac ni chwsg ceidwad Israel.
    5 Yr Arglwydd yw dy geidwad : yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddeheulaw.
    6 Ni’th dery’r haul y dydd : na’r lleuad y nos.
    7 Yr Arglwydd a’th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid.
    8 Yr Arglwydd a geidw dy fynediad, a’th ddyfodiad : o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
 

 

PSALM CXXII. Lætatus sum

LLAWENYCHAIS pan ddywedent wrthyf : A wn i dŷ’r Arglwydd.
    2 Ein traed a safant o fewn dy byrth di : O Jerusalem.
    3 Jerusalem a adeiladwyd : fel dinas wedi ei chyd-gyssylltu ynddi ei hun.
    4 Yno’r esgyn y llwythau, llwythau’r Arglwydd : yn dystiolaeth i Israel, i foliannu Enw’r Arglwydd.
    5 Canys yno y gosodwyd gorseddfeingciau barn : gorseddfeingciau tŷ Ddafydd.
    6 Dymunwch heddwch Jerusalem : llwydded y rhai a’th hoffant.
    7 Heddwch fyddo o fewn dy ragfur : a ffyniant yn dy balasau.
    8 Er mwyn fy mrodyr a’m cyfeillion: y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti.
    9 Er mwyn tŷ’r Arglwydd ein Duw: y ceisiaf i ti ddaioni.
 

 

PSALM CXXIII. Ad te levavi oculos meos.

ATTAT ti Y dyrchafaf fy llygaid : ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd.
    2 Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu meistraid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres : felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni.
    3 Trugarhâ wrthym, Arglwydd, trugarhâ wrthym : canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr.
    4 Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog : ac â dïystyrwch y beilchion.
 

 

PSALM CXXIV. Nisi quia Dominus.

ONI buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyd â ni : y gall Israel ddywedyd yn awr;
    2 Oni buasai’r Arglwydd yr hwn a fu gyd â ni : pan gyfododd dynion yn ein herbyn;
    3 Y na y’n llyngcasent ni yn fyw : pan ennynodd eu llid hwynt i’n herbyn;
    4 Yna y dyfroedd a lifasai drosom : y ffrwd a aethai dros ein henaid;
    5 Yna’r aethai dros ein henaid : ddyfroedd chwyddedig.
    6 Bendigedig fyddo’r Arglwydd : yr hwn ni roddodd ni yn ysglyfaeth i’w dannedd hwynt.
    7 Ein henaid a ddïangodd fel aderyn o fagl yr adarwŷr : y fagl a dorrwyd, a ninnau a ddïangasom.
    8 Ein porth ni sydd yn Enw’r Arglwydd : yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.
 

 

PSALM CXXV. Qui confidunt.

Y RHAI a ymddiriedant yn yr Arglwydd, fyddant fel mynydd Sïon: yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd.
    2 Fel y mae Jerusalem â’r mynyddoedd o’i hamgylch : felly y mae’r Arglwydd o amgylch ei bobl, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
    3 Canys ni orphwys gwïalen annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn: rhag i’r rhai cyfiawn estyn eu dwylaw at anwiredd.
    4 O Arglwydd, gwna ddaioni i’r rhai daionus : ac i’r rhai uniawn yn eu calonnau.
    5 Ond y rhai a ymdroant i’w trofeydd, yr Arglwydd a’u gyr gyd â gweithredwŷr anwiredd : a bydd tangnefedd ar Israel.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM CXXVI. In Convertendo.

PAN ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Sïon: yr oeddym fel rhai yn breuddwydio.
    2 Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu : yna y dywedasant ym mysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn.
    3 Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion: am hynny’r ydym yn llawen.
    4 Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni : fel yr afonydd yn y dehau.
    5 Y rhai sydd yn hau mewn dagrau : a fedant mewn gorfoledd.
    6 Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr: gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.
 

 

PSALM CXXVII. Nisi Dominus.

OS yr Arglwydd nid adeilada’r, tŷ, ofer y llafuria ei adeiladwŷr wrtho : os yr Arglwydd ni cheidw’r ddinas, ofer y gwylia’r ceidwad.
    2 Ofer i chwi fore-godi, myned yn hwyr i gysgu, bwytta bara gofidiau : felly y rhydd efe hun i’w anwylyd.
    3 Wele, plant ydynt etifeddiaeth yr Arglwydd : ei wobr ef yw ffrwyth y groth.
    4 Fel y mae saethau yn llaw y cadarn : felly y mae plant ieuengctid.
    5 Gwyn ei fyd y gwr a lanwodd ei gawell saethau â hwynt : ni’s gwaradwyddir hwy pan ymddiddanant â’r gelynion yn y porth.
 

 

PSALM CXXVIII. Beati omnes.

GWYN ei fyd pob un sydd yn ofni’r Arglwydd : yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.
    2 Canys mwynhei lafur dy ddwylaw: gwyn dy fyd, a da fydd i ti.
    3 Dy wraig fydd fel gwinwŷdden ffrwythlawn ar hŷd ystlysau dy dŷ : dy blant fel planhigion olewŷdd o amgylch dy ford.
    4 Wele, fel hyn yn ddïau y bendithir y gwr : a ofno’r Arglwydd.
    5 Yr Arglwydd a’th fendithia allan o Sïon : a thi a gei weled daioni Jerusalem holl ddyddiau dy einioes;
    6 A thi a gei weled plant dy blant : a thangnefedd ar Israel.
 

 

PSALM CXXIX. Sæpe expugnaverunt.

LLAWER gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuengctid: y dichon Israel ddywedyd yn awr;
    2 Llawer gwaith y’m cystuddiasant : o’m hieuengctid; etto ni’m gorfuant.
    3 Yr arddwŷr a arddasant ar fy nghefn : estynasant eu cwysau yn hirion.
    4 Yr Arglwydd sy gyfiawn: efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol.
    5 Gwaradwydder hwy oll, a gyrrer yn eu hol : y rhai a gasânt Sïon.
    6 Byddant fel glaswellt pen tai : yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymaith;
    7 A’r hwn ni leinw y pladurwr ei law : na’r hwn fyddo yn rhwymo yr ysgubau, ei fynwes.
    8 Ac ni ddywed y rhai a ant heibio, Bendith yr Arglwydd arnoch : bendithiwn chwi yn Enw’r Arglwydd.
 

 

PSALM CXXX. De profundis.

O’R dyfnder y llefais arnat : O Arglwydd.
   2 Arglwydd, clyw fy llefain: ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau.
    3 Os creffi ar anwireddau, Arglwydd: O Arglwydd, pwy a saif?
    4 Ond y mae gyd â thi faddeuant : fel y’th ofner.
    5 Disgwyliaf am yr Arglwydd, disgwyl fy enaid : ac yn ei air ef y gobeithiaf.
    6 Fy enaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd : yn fwy nag y mae y gwylwŷr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwŷr am y bore.
    7 Disgwylied Israel am yr Arglwydd : o herwydd y mae trugaredd gyd â’r Arglwydd, ac aml ym wared gyd âg ef.
    8 Ac efe a wared Israel : oddi wrth ei holl anwireddau.
 

 

PSALM CXXXI. Domine, non est.

O ARGLWYDD, nid ymfalchïodd fy nghalon, ac nid ymddyrchafodd fy llygaid : ni rodiais chwaith mewn pethau rhy fawr a rhy uchel i mi.
    2 Eithr gosodais a gostegais fy enaid, fel un wedi ei ddiddyfnu oddi wrth ei fam : fy enaid sydd ynof fel un wedi ei ddiddyfnu.
    3 Disgwylied Israel wrth yr Arglwydd: o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM CXXXII. Memento, Domine.

O ARGLWYDD, cofia Ddafydd : a’i holl flinder;
   2 Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd : ac yr addunodd i rymmus Dduw Jacob.
    3 Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ : ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely;
    4 Ni roddaf gwsg i’m llygaid : na hun i’m hamrantau;
    5 Hyd oni chaffwyf le i’r Arglwydd : preswylfod i rymmus Dduw Jacob.
    6 Wele, clywsom am dani yn Ephratah : cawsom hi ym meusydd y coed.
    7 Awn i’w bebyll ef : ymgrymmwn o flaen ei faingc draed ef.
    8 Cyfod, Arglwydd, i’th orphwysfa : ti, ac arch dy gadernid.
    9 Gwisged dy offeiriaid gyfiawnder : a gorfoledded dy saint.
    10 Er mwyn Dafydd dy was: na thro ymaith wyneb dy Enneiniog.
    11 Tyngodd yr Arglwydd mewn gwirionedd i Ddafydd; ni thry efe oddi wrth hynny : O ffrwyth dy gorph y gosodaf ar dy orseddfaingc.
    12 Os ceidw dy feibion fy nghyfammod a’m tystiolaeth, y rhai a ddysgwyf iddynt : eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orseddfaingc.
    13 Canys dewisodd yr Arglwydd Sïon : ac a’i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun.
    14 Dyma fy ngorphwysfa yn dragywydd : yma y trigaf; canys chwennychais hi.
    15 Gan fendithio y bendithiaf ei lluniaeth : diwallaf ei thlodion â bara.
    16 Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf âg iachawdwriaeth : a’i saint dan ganu a ganant.
    17 Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro : darperais lamp i’m Henneiniog.
    18 Ei elynion ef a wisgaf â chywilydd : arno yntau y blodeua ei goron.
 

Yr 28 Dydd.

PSALM CXXXIII. Ecce, quam bonum!

WELE, mor ddaionus ac mor hyfryd yw : trigo o frodyr ynghŷd.
    2 Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen, yn disgyn ar hŷd y farf, sef barf Aaron : yr hwn oedd yn disgyn ar hŷd ymyl ei wisgoedd ef;
    3 Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Sïon : canys yno y gorchymynodd yr Arglwydd y fendith, sef bywyd yn dragywydd.
 

 

PSALM CXXXIV. Ecce nunc.

WELE, holl weision yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd : y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ’r Arglwydd y nos.
    2 Dyrchefwch eich dwylaw yn y cyssegr : a bendithiwch yr Arglwydd.
    3 Yr Arglwydd yr hwn a wnaeth nefoedd a daear: a’th fendithio di allan o Sïon.
 

 

PSALM CXXXV. Laudate Nomen.

MOLWCH yr Arglwydd. Molwch Enw’r Arglwydd : gweision yr Arglwydd, molwch ef.
    2 Y rhai ydych yn sefyll yn nhy’r Arglwydd : ynghynteddoedd tŷ ein Duw ni.
    3 Molwch yr Arglwydd; canys da yw’r Arglwydd : cennwch i’w Enw; canys hyfryd yw.
    4 Oblegid yr Arglwydd a ddetholodd Jacob iddo ei hun : ac Israel yn brïodoriaeth iddo.
    5 Canys mi a wn mai mawr yw’r Arglwydd : a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.
    6 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear : yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau.
    7 Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghŷd â’r gwlaw : gan ddwyn y gwŷnt allan o’i drysorau.
    8 Yr hwn a darawodd gyntafanedig yr Aipht : yn ddyn ac yn anifail.
    9 Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i’th ganol di, yr Aipht : ar Pharaoh, ac ar ei holl weision.
    10 Yr hwn a darawodd genhedloedd lawer : ac a laddodd frenhinoedd cryfion;
    11 Sehon brenhin yr Amoriaid, ac Og brenhin Basan : a holl frenhiniaethau Canaan;
    12 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth : yn , etifeddiaeth i Israel ei bobl.
    13 Dy Enw, O Arglwydd, a bery yn dragywydd : dy goffadwriaeth, O Arglwydd, o genhedlaeth i genhedlaeth.
    14 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl: a bydd edifar gantho o ran ei weision.
    15 Delwau’r cenhedloedd ydynt arian ac aur : gwaith dwylaw dyn.
    16 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant : llygaid sy ganddynt, ond ni welant.
    17 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant: nid oes chwaith anadl yn eu genau.
    18 Fel hwynt y mae y rhai a’u gwnant : a phob un a ymddiriedo ynddynt.
    19 Tŷ Israel, bendithiwch yr Arglwydd : bendithiwch yr Arglwydd, tŷ Aaron.
    20 Tŷ Lefi, bendithiwch yr Arglwydd: y rhai a ofnwch yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd.
    21 Bendithier yr Arglwydd o Sïon: yr hwn sydd yn trigo yn Jerusalem. Molwch yr Arglwydd.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM CXXXVI. Confitemini.

CLODFORWCH yr, Arglwydd; canys da yw : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
    2 Clodforwch Dduw y duwiau : oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.
    3 Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
    4 Yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
    5 Yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
    6 Yr hwn a estynodd y ddaear oddi ar y dyfroedd : oblegid ei drugaredd sydd yn dragywydd.
    7 Yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd;
    8 Yr haul, i lywodraethu’r dydd : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd;
    9 Y lleuad a’r ser, i lywodraethu’r nos : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
    10 Yr hwn a darawodd yr Aipht yn eu cyntaf-anedig : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;
    11 Ac a ddug Israel o’u mysg hwynt: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;
    12 A llaw gref, ac â braich estynedig : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
    13 Yr hwn a rannodd y môr coch yn dd wy ran : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;
    14 Ac a wnaeth i Israel fyned trwy ei ganol : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
    15 Ac a ysgytiodd Pharaoh a’i lu yn y môr coch : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
    16 Ac a dywysodd ei bobl trwy’r anialwch : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
    17 Yr hwn a darawodd frenhinoedd mawrion: o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;
    18 Ac a laddodd frenhinoedd ardderchog : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;
    19 Sehon bren hin yr Amoriaid : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;
    20 Ac Og brenhin Basan : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;
    21 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;
    22 Yn etifeddiaeth i Israel ei was : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
    23 Yr hwn yn ein hisel radd a’n cofiodd ni : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd;
    24 Ac a’n hachubodd ni oddi wrth ein gelynion : o herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
    25 Yr hwn sydd yn rhoddi ymborth i bob cnawd : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
    26 Clodforwch Dduw’r nefoedd : canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
 

 

PSALM CXXXVII. Super flumina.

WRTH afonydd Babilon, yno yr eisteddasom, ac wylasom : pan feddyliasom am Sïon.
    2 Ar yr helyg o’u mewn : y crogasom ein telynau.
    3 Canys yno y gofynodd y rhai a’n caethiwasent i ni gân, a’r rhai a’n hanrheithiasai, lawenydd : gan ddywedyd, Cenwch i ni rai o ganiadau Sïon.
    4 Pa fodd y canwn gerdd yr Arglwydd : mewn gwlad ddïeithr?
    5 Os anghofiaf di, Jerusalem: anghofied fy neheulaw ganu.
    6 Glyned fy nhafod wrth; daflod fy ngenau : oni chofiaf di; oni chodaf Jerusalem goruwch fy llawenydd pennaf.
    7 Cofia, Arglwydd, blant Edom yn nydd Jerusalem : y rhai a ddywedant, Dinoethwch, dinoethwch hi, hyd ei sylfaen.
    8 O ferch Babilon, a anrheithir : gwyn ei fyd a dalo i ti fel y gwnaethost i ninnau:
    9 Gwỳn ei fyd a gymmero : ac a darawo dy rai bach wrth y meini.
 

 

PSALM CXXXVIII. Confitebor tibi.

CLODFORAF di â’m holl galon : yngŵydd y duwiau y canaf i ti.
    2 Ymgrymmaf tu â’th deml sanctaidd, a chlodforaf dy Enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy Enw oll.
    3 Y dydd y llefais, y’m gwrandewaist : ac a’m cadarnheaist â nerth yn fy enaid.
    4 Holl frenhinoedd y ddaear a’th glodforant, O Arglwydd: pan glywant eiriau dy enau.
    5 Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd.
    6 Er bod yr Arglwydd yn uchel, etto efe a edrych ar yr isel : ond y balch a edwyn efe o hirbell.
    7 Pe rhodiwn ynghanol cyfyngder, ti a’m bywhêit : estynit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a’th ddeheulaw a’m hachubai.
    8 Yr Arglwydd a gyflawna â mi: dy drugaredd, Arglwydd, sydd yn dragywydd; nac esgeulusa waith dy ddwylaw.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM CXXXIX. Domine, probâsti.

ARGLWYDD, chwiliaist: ac adnabuost fi.
   2 Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad : dealli fy meddwl o bell.
    3 Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa : a hyspys wyt yn fy holl ffyrdd.
    4 Canys nid oes air ar fy nhafod : ond wele, Arglwydd, ti a’i gwyddost oll.
    5 Amgylchynaist fi yn ol ac ym mlaen : a gosodaist dy law arnaf.
    6 Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi : uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.
    7 I ba le yr af oddi wrth dy yspryd : ac i ba le y ffoaf o’th ŵydd?
    8 Os dringaf i’r nefoedd, yno yr wyt ti : os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno.
    9 Pe cymmerwn adenydd y wawr : a phe trigwn yn eithafoedd y môr;
    10 Yno hefyd y’m tywysai dy law: ac y’m daliai dy ddeheulaw.
    11 Pe dywedwn, Dïau y tywyllwch a’m cuddiai: yna y byddai y nos yn oleuni o’m hamgylch.
    12 Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd : un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti.
    13 Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi ynghrôth fy mam.
    14 Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a wŷr hynny yn dda.
    15 Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt : pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear.
    16 Dy lygaid a welsant fy anelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifenwyd hwynt oll : y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un o honynt.
    17 Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O Dduw : mor fawr yw eu swm hwynt!
    18 Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt nâ’r tywod : pan ddeffro wyf, gyd â thi’r ydwyf yn wastad.
    19 Yn ddïau, O Dduw, ti a leddi’r annuwiol : am hynny, y gwŷr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthyf;
    20 Y rhai a ddywedant ysgelerder yn dy erbyn : dy elynion a gymmerant dy Enw yn ofer.
    21 Onid cas gennyf, O Arglwydd, dy gaseion di : onid ffiaidd gennyf y rhai a gyfodant i’th erbyn?
    22 A chas cyflawn y caseais hwynt: cyfrifais hwynt i mi yn elynion.
    23 Chwilia fi, O Dduw, a gwybydd fy nghalon : prawf fi, a gwybydd fy meddyliau;
    24 A gwel a oes ffordd annuwiol gennyf : a thywys fi yn y ffordd dragywyddol.
 

Y 29 Dydd.

PSALM CXL. Eripe me, Domine.

GWARED fi, O Arglwydd, oddi wrth y dyn drwg : cadw fi rhag’ y gwr traws.
    2 Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon : ymgasglant beunydd i ryfel.
    3 Golymmasant eu tafodau fel sarph : gwenwyn asp sy dan eu gwefusau.
    4 Cadw fi, O Arglwydd, rhag dwylaw’r annuwiol : cadw fi rhag y gwr traws, y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed.
    5 Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant ! rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau : gosodasant hoenynnau ar fy medr.
    6 Dywedais wrth yr Arglwydd, Fy Nuw ydwyt ti : clyw, O Arglwydd, lef fy ngweddïau.
    7 Arglwydd Dduw, nerth fy iachawdwriaeth : gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.
    8 Na chaniattâ, Arglwydd, ddymuniad yr annuwiol : na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt.
    9 Y pennaf o’r rhai a’m hamgylchyno : blinder eu gwefusau a’u gorchuddio.
    10 Syrthied marwor arnynt, a bwrier hwynt yn tân : ac mewn ceu-ffosydd, fel na chyfodant.
    11 Na sicrhâer dyn siaradus ar y ddaear : drwg’ a hela y gwr traws i’w ddistryw.
    12 Gwn y dadleu’r Arglwydd ddadl y truan : ac y barna efe y tlodion.
    13 Y cyfiawn yn ddïau a glodforant dy Enw di : y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.
 

 

PSALM CXLI. Domine, clamavi.

ARGLWYDD, yr wyf yn gwaeddi arnat; brysia attaf : clyw fy llais, pan lefwyf arnat.
    2 Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl-darth : a dyrchafiad fy nwy law fel yr offrwm prydnhawnol.
    3 Gosod, Arglwydd, gadwraeth o flaen fy ngenau : cadw ddrws fy ngwefusau.
    4 Na ostwng fy nghalon at ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni gyd fi. gwŷr a weithredant anwiredd : ac na ad i mi fwytta o’u dainteithion hwynt.
    5 Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi : na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen; canys fy ngweddi fydd etto yn eu drygau hwynt.
    6 Pan dafler eu barnwŷr i lawr mewn lleoedd carregog : clywant fy ngeiriau; canys melus ydynt.
    7 Y mae ein hesgyrn ar wasgar ar fin y bedd : megis un yn torri neu yn hollti coed ar y ddaear.
    8 Eithr arnat ti, O Arglwydd Dduw, y mae fy llygaid : ynot ti y gobeithiais; na ad fy enaid yn ddïymgeledd.
    9 Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi : a hoenynnau gweithredwŷr anwiredd.
    10 Cyd-gwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun: tra’r elwyf fi heibio.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM CXLII. Voce mea ad Dominum.

GWAEDDAIS â’m llef ar yr Arglwydd : â’m llef yr ymbiliais â’r Arglwydd.
    2 Tywalltais fy myfyrdod o’i flaen ef : a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef.
    3 Pan ballodd fy yspryd o’m mewn, tithau a adwaenit fy llwybr : Yn y ffordd y rhodiwn, y cuddiasant i mi fagl.
    4 Edrychais ar y tu dehau, a deliais sulw, ac nid oedd neb a’m hadwaenai : pallodd nodded i mi; nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid.
    5 Llefais arnat, O Arglwydd; a dywedais : Ti yw fy ngobaith, a’m rhan yn nhir y rhai byw.
    6 Ystyr wrth fy ngwaedd; canys truan iawn ydwyf : gwared fi oddi wrth fy erlidwŷr; canys trech ydynt nâ mi.
    7 Dwg fy enaid allan o garchar, fel y moliannwyf dy Enw : y rhai cyfiawn a’m cylchynant; canys ti a fyddi da wrthyf.
 

 

PSALM CXLIII. Domine, exaudi.

ARGLWYDD, clyw fy ngweddi, a gwrando ar fy neisyfiadau : erglyw fi yn dy wirionedd, ac yn dy gyfiawnder.
    2 Ac na ddos i farn â’th was : o herwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di.
    3 Canys y gelyn a erlidiodd fy enaid; curodd fy enaid i lawr : gwnaeth i mi drigo mewn tywyllwch, fel y rhai a fu feirw er ys talm.
    4 Yna y pallodd fy yspryd o’m mewn : ac y synnodd fy nghalon ynof.
    5 Cofiais y dyddiau gynt; myfyriais ar dy holl waith : ac yngweithredoedd dy ddwylaw y myfyriaf.
    6 Lledais fy nwylaw attat : fy enaid fel tir sychedig sydd yn hiraethu am danat.
    7 O Arglwydd, gwrando fi yn ebrwydd; pallodd fy yspryd : na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; rhag fy mod yn gyffelyb i’r rhai a ddisgynant i’r pwll.
    8 Par i mi glywed dy drugarowgrwydd y bore; o herwydd ynot ti y gobeithiaf : par i mi wybod y ffordd y rhodiwyf; oblegid attat ti y dyrchafaf fy enaid.
    9 Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O Arglwydd: gyd â thi’r ynlguddiais.
    10 Dysg i mi wneuthur dy ewyllys di; canys ti yw fy Nuw: tywysed dy Yspryd daionus fi i dir uniondeb.
    11 Bywhâ fi, O Arglwydd, er mwyn dy Enw : dwg fy enaid allan o ing, er mwyn dy gyfiawnder.
    12 Ac er dy drugaredd dinystria fy ngelynion, a difetha holl gystuddwŷr fy enaid : oblegid dy was di ydwyf fi.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM CXLIV. Benedictus Dominus.

BENDIGEDIG fyddo’r Arglwydd fy nerth: yr hwn sydd yn dysgu fy nwylaw i ymladd, a’m bysedd i ryfela.
    2 Fy nhrugaredd, a’m hamddiffynfa; fy nhŵr, a’m gwaredydd; fy nharian yw efe, ac ynddo y gobeithiais : yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl danaf.
    3 Arglwydd, beth yw dyn, pan gydnabyddit ef : neu fab dyn, pan wneit gyfrif o hono?
    4 Dyn sy debyg i wagedd : ei ddyddiau sy fel cysgod yn myned heibio.
    5 Arglwydd, gostwng dy nefoedd, a disgyn : cyffwrdd â’r mynyddoedd, a mygant.
    6 Saetha fellt, a gwasgar hwynt : ergydia dy saethau, a difa hwynt.
    7 Anfon dy law oddi uchod: achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron;
    8 Y rhai y llefara eu genau wagedd : ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalsder.
    9 Canaf i ti, O Dduw, ganiad newydd : ar y nabl a’r deg tant y canaf i ti.
    10 Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd : yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol.
    11 Achub fi, a gwared fi o law meibion estron : y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalsder;
    12 Fel y byddo ein meibion fel planwŷdd yn tyfu yn eu hieuengctid : a’n merched fel congl-faen nadd, wrth gyffelybrwydd palas;
    13 Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth: a’n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd;
    14 A’n hychen yn gryfion i lafurio; heb na rhuthro i mewn, na myned allan : na gwaedd yn ein heolydd.
    15 Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt : gwyn eu byd y bobl y mae’r Arglwydd yn Dduw iddynt.
 

Y 30 Dydd.

PSALM CXLV. Exaltabo te, Deus.

DYRCHAF AF di, fy Nuw, O Frenhin : a bendithiaf dy Enw byth ac yn dragywydd.
    2 Beunydd y’th fendithiaf : a’th Enw a folaf byth ac yn dragywydd.
    3 Mawr yw’r Arglwydd, a chanmoladwy iawn: a’i fawredd sydd anchwiliadwy.
    4 Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd : ac a fynega dy gadernid.
    5 Ardderchowgrwydd gogoniant cly fawredd: a’th bethau rhyfedd, a draethaf;
    6 Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy : mynegaf finnau dy fawredd.
    7 Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant: a’th gyfiawnder a ddatganant.
    8 Graslawn a thrugarog yw’r Arglwydd : hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd.
    9 Daionus yw’r Arglwydd i bawb : a’i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd.
    10 Dy holl weithredoedd a’th glodforant, O Arglwydd: a’th saint a’th fendithiant.
    11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth : a thraethant dy gadernid;
    12 I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef: a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth.
    13 Dy frenhiniaeth di sy frenhiniaeth dragywyddol : a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd.
    14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant : ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd.
    15 Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt : ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd;
    16 Gan agoryd dy law : a diwallu pob peth byw â’th ewyllys da.
    17 Cyfiawn yw’r Arglwydd yn ei holl ffyrdd : a sanctaidd yn ei holl weithredoedd.
    18 Agos yw’r Arglwydd at y rhai oll a alwant arno : at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd.
    19 Efe a wna ewyllys y rhai a’i hofnant : gwrendy hefyd eu llefain, ac a’u hachub hwynt.
    20 Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a’i carant ef : ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe.
    21 Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd : a bendithied pob cnawd ei Enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.
 

 

PSALM CXLVI. Lauda, anima mea.

MOLWCH yr Arglwydd : Fy enaid, mola di’r Arglwydd.
   2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i’m Duw tra fyddwyf.
    3 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn : yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo.
    4 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear : y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef.
    5 Gwỳn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymmorth iddo : sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw;
    6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt : yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd;
    7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymmedig, yn rhoddi bara i’r newynog: Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhŷdd.
    8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion : yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd; yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.
    9 Yr Arglwydd sydd yn cadw’r dïeithriaid; efe a gynnal yr amddifad a’r weddw : ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol.
    10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth : sef dy Dduw di, Sïon, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM CXLVII. Laudate Dominum.

MOLWCH yr Arglwydd; canys da yw canu i’n Duw ni : o herwydd hyfryd yw, ïe, gweddus yw mawl.
    2 Yr Arglwydd sydd yn adeiladu Jerusalem : efe a gasgl wasgaredigion Israel.
    3 Efe sydd yn iachâu y rhai briwedig o galon : ac yn rhwymo eu doluriau.
    4 Y mae efe yn rhifo rhifedi’r ser : geilw hwynt oll wrth eu henwau.
    5 Mawr yw ein Harglwydd, a mawr ei nerth : aneirif yw ei ddeall.
    6 Yr Arglwydd sydd yn dyrchafu y rhai llariaidd : gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr.
    7 Cyd-genwch i’r Arglwydd mewn dïolchgarwch: cenwch i’n Duw â’r delyn;
    8 Yr hwn sydd yn toi’r nefoedd â chymmylau : yn parottôi gwlaw i’r ddaear, gan beri i’r gwellt dyfu ar y mynyddoedd.
    9 Efe sydd yn rhoddi i’r anifail ei borthiant: ac i gywion y gigfran, pan lefant.
    10 Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march : ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gwr.
    11 Yr Arglwydd sydd hoff ganddo y rhai a’i hofnant ef : sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef.
    12 Jerusalem, mola di’r Arglwydd : Sïon, molianna dy Dduw.
    13 O herwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth: efe a fendithiodd dy blant o’th fewn.
    14 Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol : ac a’th ddiwalla di â brasder gwenith.
    15 Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddaear : a’i air a red yn dra buan.
    16 Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlan : ac a daena rew fel lludw.
    17 Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tammeidiau : pwy a erys gan ei oerni ef?
    18 Efe a enfyn ei air, ac a’u tawdd hwynt : â’i wỳnt y chwŷth efe, a’r dyfroedd a lifant.
    19 Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob : ei ddeddfau a’i farnedigaethau i Israel.
    20 Ni wnaeth efe felly âg un genedl : ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr Arglwydd.
 

 

PSALM CXLVIII. Laudate Dominum.

MOLWCH yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd o’r nefoedd : molwch ef yn yr uchelderau.
    2 Molwch ef, ei holl angylion: molwch ef, ei holl luoedd.
    3 Molwch ef, haul a lleuad : molwch ef: yr holl ser goleuni.
    4 Molwch ef, nef y nefoedd: a’r dyfroedd y rhai ydych oddi ar y nefoedd.
    5 Molant Enw’r Arglwydd : o herwydd efe a orchymynnodd, a hwy a grëwyd.
    6 A gwnaeth iddynt barhâu byth yn dragywydd : gosododd ddeddf, ac ni’s troseddir hi.
    7 Molwch yr Arglwydd o’r ddaear : y dreigiau, a’r holl ddyfnderau;
    8 Tân, a chenllysg; eira, a tharth : gwynt ystormus, yn gwneuthur ei air ef;
    9 Y mynyddoedd, a’r bryniau oll : y coed ffrwythlawn, a’r holl gedrwŷdd;
    10 Y bwystfilod, a phob anifail : yr ymlusgiaid, ac adar asgellog;
    11 Brenhinoedd y ddaear, a’r holl bobloedd : tywysogion, a holl farnwŷr y byd;
    12 Gwŷr ieuaingc, a gwyryfon hefyd : henafgwŷr, a llangciau.
    13 Molant Enw’r Arglwydd; o herwydd ei Enw ef yn unig sy ddyrchafadwy : ei ardderchowgrwydd ef sydd uwchlaw daear a nefoedd.
    14 Ac efe sydd yn dyrchafu corn ei bobl, moliant. ei holl saint: sef meibion Israel, pobl agos atto. Molwch yr Arglwydd.
 

 

PSALM CXLIX. Cantate Domino.

MOLWCH yr Arglwydd. Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd : a’i foliant ef ynghynnulleidfa’r saint.
    2 Llawenhâed Israel yn yr hwn a’i gwnaeth : gorfoledded meibion Sïon yn eu Brenhin.
    3 Molant ei Enw ef ar y dawns : canant iddo ar dympan a thelyn.
    4 O herwydd hoffodd yr Arglwydd ei bobl : efe a brydfertha y rhai llednais â iachawdwriaeth.
    5 Gorfoledded y saint mewn gogoniant : a chanant ar eu gwelŷau.
    6 Bydded ardderchog foliant Duw yn eu genau : a chleddyf dau-finiog yn eu dwylaw;
    7 I wneuthur dïal ar y cenhedloedd : a chosp ar y bobloedd;
    8 I rwymo eu brenhinoedd â chadwynau : a’u pendefigion â gefynnau heiyrn;
    9 I wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig : yr ardderchowgrwydd hwn sydd i’w holl saint ef. Molwch yr Arglwydd.
 

 

PSALM CL. Laudate Dominum.

MOLWCH yr Arglwydd. Molwch Dduw yn ei sancteiddrwydd : molwch ef yn ffurfafen ei nerth.
    2 Molwch ef am ei gadernid : molwch ef yn ol amlder ei fawredd.
    3 Molwch ef â llais udgorn : molwch ef â nabl ac â thelyn.
    4 Molwch ef â thympan ac â dawns : molwch ef â thannau ac âg organ.
    5 Molwch ef â symbalau soniarus : molwch ef â symbalau llafar.
    6 Pob perchen anadl : molianned yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.
 

 
 

Psalmau 1-49; 50-101

Llyfr Gweddi Gyffredin

The Book of Common Prayer in Welsh

Web author: Charles Wohlers U. S. EnglandScotlandIrelandWalesCanadaWorld