The Book of Common Prayer
United States England Scotland Ireland Wales Canada World

   

Llyfr Gweddi Gyffredin
the Book of Common Prayer in Welsh


 

Y

PSALLWYR NEU

PSALMAU DAFYDD.


Y DYDD CYNTAF.

BOREOL WEDDI.

PSALM 1. Beatus vir, qui non abiit. 

GWYN ei fyd y gwr ni rodia ynghyngor yr annuwiolion, ac ni saif yn ffordd pechaduriaid : ac nid eistedd yn eisteddfa gwatwarwŷr.
    2 Ond sydd â’i ewyllys ynghyfraith yr Arglwydd : ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.
    3 Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd : a’i ddalen ni wywa, a pha beth bynnag a wnel, efe a lwydda.
    4 Nid felly y bydd yr annuwiol : ond fel mân us yr hwn a chwal y gwỳnt ymaith.
    5 Am hynny yr annuwiolion ni safant yn y farn : na phechaduriaid ynghynnulleidfa y rhai cyfiawn.
    6 Canys yr Arglwydd a edwyn ffordd y rhai cyfiawn : ond ffordd yr annuwiolion a ddifethir.
 

The

Psalter, or

Psalms of David.

 

The first Day.

Morning Prayer

PSALM II. Quare fremuerunt gentes?

PAHAM y terfysga’r cenhedloedd : ac y myfyria’r bobloedd beth ofer?
    2 Y mae brenhinoedd y ddaear yn ymosod, a’r pennaethiaid yn ymgynghori ynghŷd : yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef, gan ddywedyd,
    3 Drylliwn eu rhwymau hwy : a thaflwn eu rheffynnau oddi wrthym.
    4 Yr hwn sydd yn preswylio yn y nefoedd a chwardd : yr Arglwydd a’u gwatwar hwynt.
    5 Yna y llefara efe wrthynt yn ei lid : ac yn ei ddigllonrwydd y dychryna efe hwynt.
    6 Minnau a osodais fy Mrenhin : ar Sïon fy mynydd sanctaidd.
    7 Mynegaf y ddeddf; dywedodd yr Arglwydd wrthyf : Fy mab ydwyt ti; myfi heddyw a’th genhedlais.
    8 Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti : a therfynau’r ddaear i’th feddiant.
    9 Drylli hwynt â gwïalen haiarn : maluri hwynt fel llestr pridd.
    10 Gan hynny’r awr hon, frenhinoedd, byddwch synhwyrol : barnwŷr y ddaear,  cymmerwch ddysg.
    11 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn ofn: ac ymlawenhêwch mewn dychryn.
    12 Cusenwch y mab, rhag iddo ddigio, a’ch difetha chwi o’r ffordd : pan gynneuo ei lid ef ond ychydig. Gwyn eu byd pawb a ymddiriedant ynddo ef.
 

 

PSALM III. Domine, quid multiplicati?

ARGLWYDD, mor aml yw fy nhrallodwŷr : llawer yw y rhai sy’n codi i’m herbyn.
    2 Llawer yw y rhai sy’n dywedyd am fy enaid : Nid oes iachawdwriaeth iddo yn ei Dduw.
    3 Ond tydi, Arglwydd, ydwyt darian i mi : fy ngogoniant, a dyrchafydd fy mhen.
    4 A’m llef y gelwais ar yr Arglwydd: ac efe a’m clybu o’i fynydd sanctaidd.
    5 Mi a orweddais, ac a gysgais, ac a ddeffroais : canys yr Arglwydd a’m cynhaliodd.
    6 Nid ofnaf fyrddiwn o bobl : y rhai o amgylch a ymosodasant i’m herbyn.
    7 Cyfod, Arglwydd; achub fi, fy Nuw : canys tarewaist fy holl elynion ar garr yr ên; torraist ddannedd yr annuwiolion.
    8 Iachawdwriaeth sydd eiddo’r Arglwydd : dy fendith sydd ar dy bobl.
 

 

PSALM IV. Cum invocarem.

GWRANDO fi pan alwyf, O Dduw fy nghyfiawnder : mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf; trugarhâ wrthyf, ac erglyw fy ngweddi.
    2 O feibion dynion, pa hŷd y trowch fy ngogoniant yn warth : yr hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd?
    3 Ond gwybyddwch i’r Arglwydd neillduo’r duwiol iddo ei hun : yr Arglwydd a wrendy pan alwyf arno.
    4 Ofnwch, ac na phechwch : ymddiddenwch â’ch calon ar eich gwely, a thewch.
    5 Aberthwch ebyrth cyfiawnder: a gobeithiwch yn yr Arglwydd.
    6 Llawer sy n dywedyd, Pwy a ddengys i ni ddaioni : Arglwydd, dyrcha arnom lewyrch dy wyneb.
    7 Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon : mwy nâ’r amser yr amlhaodd eu hŷd a’u gwin hwynt.
    8 Mewn heddwch hefyd y gorweddaf ac yr hunaf : canys ti, Arglwydd, yn unig a wnei i mi drigo mewn dïogelwch.
 

 

PSALM V. Verba mea auribus.

GWRANDO fy ngeiriau, Arglwydd: deall fy myfyrdod.
    2 Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenhin, a’m Duw: canys arnat y gweddïaf.
    3 Yn fore, Arglwydd, y clywi fy llef: yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi attat, ac yr edrychaf i fynu.
    4 O herwydd nid wyt ti Dduw’n ewyllysio anwiredd : a drwg ni thrig gyd â thi.
    5 Ynfydion ni safant yn dy olwg : caseaist holl weithredwŷr anwiredd.
    6 Difethi y rhai a ddywedant gelwydd : yr Arglwydd a ffieiddia’r gwr gwaedlyd a’r twyllodrus.
    7 A minnau a ddeuaf i’th dỳ di yn amlder dy drugaredd : ac a addolaf tu a’th deml sanctaidd yn dy ofn di.
    8 Arglwydd, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion : ac uniona dy ffordd o’m blaen.
    9 Canys nid oes uniondeb yn eu genau: eu ceudod sydd anwireddau : hedd agored yw  eu ceg; gwenhieithiant â’u tafod.
    10 Distrywia hwynt, O Dduw; syrthiant oddi wrth eu cynghorion : gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau; canys gwrthryfelasant i’th erbyn.
    1l Ond llawenhâed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti : llafar-ganant yn dragywydd, am i ti orchuddio drostynt; a’r rhai a garant dy Enw, gorfoleddant ynot.
    12 Canys ti, Arglwydd, a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM VI. Domine, ne in furore.

ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd : ac na chospa fi yn dy lid.
    2 Trugarhâ wrthyf, Arglwydd, canys llesg ydwyf ti : iachâ fi, O Arglwydd; canys fy esgyrn a gystuddiwyd.
    3 A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr : tithau, Arglwydd, pa hŷd?
    4 Dychwel, Arglwydd, gwared fy enaid : achub fi er mwyn dy drugaredd.
    5 Canys yn angau nid oes goffa am danat : yn y bedd pwya’th folianna?
    6 Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa : yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau.
    7 Treuliodd fy llygad gan ddigter : heneiddiodd o herwydd fy holl elynion.
    8 Ciliwch oddi wrthyf, holl weithred wŷr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain.
    9 Clybu’r Arglwydd fy neisyfiad : yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi.
    10 Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion : dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymmwth.
 

Evening Prayer

PSALM VII. Domine, Deus meus.

ARGLWYDD fy Nuw, ynot yr ymddiriedais : achub fi rhag fy holl erlidwŷr, a gwared fi.
    2 Rhag iddo larpio fy enaid fel llew, gan ei rwygo: pryd na byddo gwaredydd.
    3 O Arglwydd fy Nuw, os gwneuthum hyn : od oes anwiredd yn fy nwylaw;
    4 O thei ais ddrwg i’r neb oedd heddychol â mi : (ïe, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos;)
    5 Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded: sathred hefyd fy mywyd i’r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch.
    6 Cyfod, Arglwydd, yn dy ddigllonedd, ym ddyrcha, o herwydd llid fy ngelynion : deffro hefyd drosof i’r farn a orchymynaist.
    7 Felly cynnulleidfa’r bobloedd a’th amgylchynant : er eu mwyn dychwel dithau i’r uchelder.
    8 Yr Arglwydd a farn y bobloedd; barn fi, O Arglwydd : yn ol fy nghyfiawnder, ac yn ol fy mherffeithrwydd sydd ynof.
    9 Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn : canys y Duw cyfiawn a chwilia’r calonnau a’r arennau.
    10 Fy amddiffyn sydd o Dduw : Iachawdwr y rhai uniawn o galon.
    11 Duw sydd Farnydd cyfiawn : a Duw sy ddigllon beunydd wrth yr annuwiol.
    12 Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf: efe a annelodd ei fwa, ac a’i parottôdd.
    13 Parottôdd hefyd iddo arfau angheuol : efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlid wŷr.
    14 Wele, efe a ymddŵg anwiredd : ac a feichiogodd ar gam wedd, ac a esgorodd ar gelwydd.
    15 Torrodd bwll, cloddiodd ef : syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth.
    16 Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun : a’i draha a ddisgyn ar ei goppa ei hun.
    17 Clodforaf yr Arglwydd yn ol ei gyfiawnder: a chanmolaf Enw’r Arglwydd goruchaf.
 

 

PSALM VIII. Domine, Dominus noster.

ARGLWYDD ein Ior ni, mor ardderchog yw dy Enw ar yr holl ddaear : yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd;
    2 O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion : i ostegu y gelyn a’r ymddïalydd.
    3 Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd : y lloer a’r ser, y rhai a ordeiniaist;
    4 Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio : a mab dyn, i ti i ymweled âg ef?
    5 Canys gwnaethost ef ychydig is nâ’r angylion: ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch.
    6 Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylaw: gosodaist bob peth dan ei draed ef;
    7 Defaid ac ychen oll : ac anifeiliaid y maes hefyd;
    8 Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr : ac y sydd yn tramwyo llwybrau’r moroedd.
    9 Arglwydd ein Ior : mor ardderchog yw dy Enw ar yr holl ddaear!
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM IX. Confitebor tibi.

CLODFORAF di, O Arglwydd, â’m holl galon : mynegaf dy holl ryfeddodau.
    2 Llawenychaf a gorfoleddaf ynot : canaf i’th Enw di, y Goruchaf.
    3 Pan ddychweler fy ngelynion yn eu hol : hwy a gwympant ac a ddifethir o’th flaen di.
    4 Canys gwnaethost fy marn a’m matter yn dda : eisteddaist ar orseddfaingc, gan farnu yn gyfiawn.
    5 Ceryddaist y cenhedloedd, distrywiaist yr annuwiol : eu henw hwynt a ddileaist byth bythol.
    6 Ha elyn, darfu am ddinystr yn dragywydd : a diwreiddiaist y dinasoedd; darfu eu coffadwriaeth gyd â hwynt.
    7 Ond yr Arglwydd a bery yn dragywydd : efe a barottôdd ei orseddfaingc i farn.
    8 Ac efe a farn y byd mewn cyfiawnder: efe a farn y bobloedd mewn uniondeb.
    9 Yr Arglwydd hefyd fydd noddfa i’r gorthrymmedig : noddfa yn amser trallod.
    10 A’r rhai a adwaenant dy Enw, a ymddiriedant ynot : canys ni adewaist, O Arglwydd, y rhai a’th geisient.
    11 Canmolwch yr Arglwydd, yr hwn sydd yn preswylio yn Sïon : mynegwch ym mysg y bobloedd ei weithredoedd ef.
    12 Pan ymofyno efe am waed, efe a’u cofia hwynt : nid anghofia waedd y cystuddiol.
    13 Trugarhâ wrthyf, Arglwydd; gwel fy mlinder gan fy nghaseion : fy nyrchafydd o byrth angau;
    14 Fel y mynegwyf dy holl foliant ym mhyrth merch Sïon : llawenychaf yn dy iachawdwriaeth.
    15 Y cenhedloedd a soddasant yn y ffos a wnaethant : yn y rhwyd a guddiasant, y daliwyd eu troed eu hun.
    16 Adweinir yr Arglwydd wrth y farn a wna: yr annuwiol a faglwyd yngweithredoedd ei ddwylaw ei hun.
    17 Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern : a’r holl genhedloedd a anghofiant Dduw.
    18 Canys nid anghofir y tlawd byth : gobaith y trueiniaid ni chollir byth.
    19 Cyfod, Arglwydd; na orfydded dyn : barner y cenhedloedd ger dy fron di.
    20 Gosod, Arglwydd, ofn arnynt : fel gwybyddo’r cenhedloedd mai dynion ydynt.
 

Yr 2 Dydd.
The 2nd Day; Morning Prayer

PSALM X. Ut quid, Domine?

PARAM, Arglwydd, y sefi o bell : yr ymguddi yn amser cyfyngder?
    2 Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd : dalier hwynt yn y bwriadau a ddychymmygasant.
    3 Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon : ac a fendithia’r cybydd, yr hwn y mae’r Arglwydd yn ei ffieiddio.
    4 Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni chais Dduw : nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef.
    5 Ei ffyrdd sy flin bob amser; uchel yw dy farnedigaethau allan o’i olwg ef : chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion.
    6 Dywedodd yn ei galon, Ni’m symmudir : o herwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
    7 Ei enau sydd yn llawn melldith, a dichell, a thwyll : dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd.
    8 Y mae efe yn eistedd ynghynllwynfa’r pentrefydd : mewn cilfachau y lladd efe’r gwirion; ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd.
    9 Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd; efe a ddeil y tlawd, gan ei dynnu i’w rwyd.
    10 Efe a ymgrymma, ac a ymostwng : fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef.
    11 Dywedodd yn ei galon, Anghofiodd Duw : cuddiodd ei wyneb; ni wêl byth.
    12 Cyfod, Arglwydd; O Dduw, dyrcha dy law : nac anghofia’r cystuddiol.
    13 Paham y dirmyga’r annuwiol Dduw : dywedodd yn ei galon, Nid ymofyni.
    14 Gwelaist hyn; canys ti a ganfyddi anwiredd a cham, i roddi tâl â’th ddwylaw dy hun : arnat ti y gedy’r tlawd; ti yw cynnorthwywr yr amddifad.
    15 Tor fraich yr annuwiol a’r drygionus : cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim.
    16 Yr Arglwydd sy Frenhin byth ac yn dragywydd : difethwyd y cenhedloedd allan o’i dir ef.
    17 Arglwydd, clywaist ddymuniad y tlodion : parottôi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt;
    18 I farnu’r amddifad a’r gorthrymmedig: fel na’chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.
 

 

PSALM XI. In Domino confido.

YN yr Arglwydd yr wyf yn ymddiried : pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, Eheda i’ch mynydd fel aderyn?
    2 Canys wele, y drygionus a annelant fwa, parottoisant eu saethau ar y llinyn : i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon.
    3 Canys y seiliau a ddinystriwyd: pa beth a wna’r cyfiawn?
    4 Yr Arglwydd sydd yn nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa’r Arglwydd sydd yn y nefoedd : y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion.
    5 Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr cas gan ei enaid ef y drygionus, a’r hwn sydd hoff ganddo drawsder.
    6 Ar yr annuwiolion y gwlawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoethwỳnt ystormus: dyma ran eu phïol hwynt.
    7 Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder : ei wyneb a edrych ar yr uniawn.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.
 
PSALM XII. Salvum me fac.

ACHUB, Arglwydd; canys fi darfu y trugarog : o herwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion.
    2 Oferedd a ddywedant bob un wrth ei gymmydog : â gwefus wenhieithgar, ac â chalon ddau-ddyblyg, y llefarant.
    3 Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gwenhieithus : a’r tafod a ddywedo fawrhydri.
    4 Y rhai a ddywedant, A’n tafod y gorfyddwn : ein gwefusau sydd eiddom ni : pwy sydd arglwydd arnom ni?
    5 O herwydd anrhaith y rhai cystuddiedig, o herwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd : rhoddaf mewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo.
    6 Geiriau’r Arglwydd ydynt eiriau purion : fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seithwaith.
    7 Ti, Arglwydd, a’u cedwi hwynt : cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd.
    8 Yr annuwiolion a rodiant o amgylch : pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion.
 

 

PSALM XIII. Usque quo, Domine?

PA hŷd, Arglwydd, y’m hanghofi? ai yn dragywydd : pa hŷd y cuddi dy wyneb rhagof?
    2 Pa hŷd y cymmeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon : pa hŷd y dyrchefir fy ngelyn arnaf?
    3 Edrych, a chlyw fi, O Arglwydd fy Nuw : goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau.
    4 Rhag dywedyd o’m gelyn, Gorchfygais ef: ac i’m gwrthwynebwŷr lawenychu, os gogwyddaf.
    5 Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth : Canaf i’r Arglwydd, am iddo synio arnaf; [ïe, canmolaf Enw’r Arglwydd Goruchaf.]
 

 

PSALM XIV.  Dixit insipiens.

YR ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un Duw : Ymlygrasant; ffieiddwaith a wnaethant; nid oes a wnel ddaioni, [nac oes un.]
    2 Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion: i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â Duw.
    3 Ciliodd pawb; cyd-ymddifwynasant : nid oes a wnel ddaioni, nac oes un.
    [4 Bedd agored yw eu ceg; â’u tafodau y gwnaethant ddichell: gwenwyn aspiaid sy dan eu gwefusau.
    5 y rhai y mae eu genau yn llawn melldith a chwerwedd: buan yw eu traed i dywallt gwaed.
    6 Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd, a ffordd tangnefedd nid adnabuant : nid oes ofn Duw ger bron eu llygaid. ]
    7 Oni ŵyr holl weithredwŷr anwiredd? y rhai sy’n bwytta fy mhobl fel y bwyttâent fara, : ni alwasant ar yr Arglwydd.
    8 Yno y dychrynasant gan ofn : canys y mae Duw ynghenhedlaeth y cyfiawn.
    9 Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi: am fod yr Arglwydd yn obaith iddo.
    10 Pwya ddyry iachawdwriaeth i Israel o Sïon? pan ddychwelo’r Arglwydd gaethiwed ei bobl : yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenhâ Israel.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM XV. Domine, quis habitabit?

ARGLWYDD, pwya drig yn dy babell : pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd?
    2 Yr hwn a rodia yn berffaith : ac a wnel gyfiawnder, ac a ddywed wir yn ei galon:
    3 Heb absennu â’i dafod, heb wneuthur drwg i’w gymmydog : ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymmydog:
    4 Yr hwn y mae’r drygionus yn ddirmygus yn ei olwg; ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr Arglwydd: yr hwn a dwng i’w niweid ei hun, ac ni newidia:
    5 Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth, ac ni chymmer wobr yn erbyn y gwirion. A wnelo hyn, nid ysgogir yn dragywydd.
 

Y 3 Dydd
The 3rd Day

PSALM XVI. Conserva me, Domine.

CADW fi, O Dduw : canys ynot yr ymddiriedaf.
   2 Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd : Fy Arglwydd ydwyt ti; fy nâ nid yw ddim i ti;
    3 Ond i’r saint, sydd ar y ddaear, a’r rhai rhagorol : yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch.
    4 Gofidiau a amlhânt i’r rhai a frysiant ar ol duw dïeithr : eu dïod-offrwm o waed nid offrymmaf fi, ac ni chymmeraf cu henwau yn fy ngwefusau.
    5 Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i, a’m phïol : ti a gynheli fy nghoelbren.
    6 Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd : ïe, y mae i mi etifeddiaeth deg.
    7 Bendithiaf yr Arglwydd, yr hwn a’m cynghorodd: fy I arennau hefyd a’m dysgant y nos.
    8 Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron : am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir.
    9 O herwydd hynny llawenychodd fy nghalon, ac ymhyfrydodd fy ngogoniant : fy nghnawd hefyd a orphwys mewn gobaith.
    10 Canys ni adewi fy enaid yn uffern : ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth.
    11 Dangosi i mi lwybr bywyd; digonolrwydd llawenydd sy ger dy fron : ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd.
 

 

PSALM XVII. Exaudi, Domine.

CLYW, Arglwydd, gyfiawnder; ystyria fy llefain : gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll.
    2 Deued fy marn oddi ger dy fron : edryched dy lygaid ar uniondeb.
    3 Profaist fy nghalon, gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim : bwriedais na throseddai fy ngenau.
    4 Tu ag at am weithredoedd dynion: wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr yspeilydd.
    5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau : fel na lithro fy nhraed.
    6 Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust attaf, ac erglyw fy ymadrodd.
    7 Dangos dy ryfedd drugareddau, O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot : rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw.
    8 Cadw fi fel can wyll llygad : cudd fi dan gysgod dy adenydd,
    9 Rhag yr annuwiolion, y rhai a’m gorthrymmant : rhag fy ngelynion marwol, y rhai a’m hamgylchant.
    10 Canasant gan eu brasder: â’u genau y llefarant mewn balchder.
    11 Ein cynniweirfa ni a gylchynasant hwy yr awrhon : gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear.
    12 Eu dull sy fel llew a chwennychai ‘sglyfaethu : ac megis llew ieuangc yn aros mewn lleoedd dirgel.
    13 Cyfod, Arglwydd, achub ei flaen ef, cwympa ef : gwared fy enaid rhag yr annuwiol, yr hwn yw dy gleddyf di;
    14 Rhag dynion, y rhai yw dy law, O Arglwydd, rhag dynion y byd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma, a’r rhai y llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor : llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i’w rhai bychain.
    15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder : digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM XVIII. Diligam te, Domine.

CARAF di, Arglwydd : fy nghadernid.
   2 Yr Arglwydd yw fy nghraig’, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd; fy Nuw, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf: fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, a’m huchel-dŵr.
    3 Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy : felly y’m cedwir rhag fy ngelynion.
    4 Gofidion angau a’m cylchynasant : ac afonydd y fall a’m dychrynasant i.
    5 Gofidiau uffern a’m cylchynasant : maglau angau a achubasant fy mlaen.
    6 Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd ger ei fron a ddaeth i’w glustiau ef.
    7 Yna y siglodd ac y crynodd y ddaear : a seiliau’r mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio.
    8 Dyrchafodd mwg o’i ffroenau, a thân a ysodd o’i enau : glo a ennynasant ganddo.
    9 Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddisgynodd : a thywyllwch oedd dau ei draed ef.
    10 Marchogodd hefyd ar y cerub, ac a ehododd : ïe, efe a ehedodd ar adenydd y gwŷnt.
    11 Efe a wnaeth dywyllwch yn ddirgelfa iddo : a’i babell o’i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd, a thew-gymmylau yr awyr.
    12 Gan y disgleirdeb oedd ger ei fron, ei gymmylau a aethant heibio : cenllysg a marwor tanllyd.
    13 Yr Arglwydd hefyd a daranodd yn y nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef : cenllysg a marwor tanllyd.
    14 Ië, efe a anfonodd ei saethau, ac a’u gwasgarodd hwynt: ac a saethodd ei fellt, ac a’u gorchfygodd hwynt.
    15 Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau’r byd a ddinoethwyd gan dy gerydd di, O Arglwydd: a chan chwŷthad anadl dy ffroenau.
    16 Anfonodd oddi uchod, cymmerodd fi : tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer.
    17 Efe a’m gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion : canys yr oeddynt yn drech nâ mi.
    18 Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid : ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi.
    19 Dug fi hefyd i ehangder: gwaredodd fi; canys ymhoffodd ynof.
    20 Yr Arglwydd a’m gobrwyoc1d yn ol fy nghyfiawnder: yn ol glendid fy nwylaw y talodd efe i mi.
    21 Canys cedwais ffyrdd yr Arglwydd : ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw.
    22 O herwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i : a’i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf.
    23 Bûm hefyd yn berffaith gyd âg ef : ac ymgedwais rhag fy anwiredd.
    24 A’r Arglwydd a’m gobrwyodd yn ol fy nghyfiawnder: yn ol purdeb fy nwylaw o flaen ei lygaid ef.
    25 A’r trugarog y gwnei drugaredd : â’r gwr perffaith y gwnei berffeithrwydd.
    26 A’r glân y gwnei lendid: ac â’r cyndyn yr ymgyndynni.
    27 Canys ti a waredi’r bobl gystuddiedig : ond ti a ostyngi olygon uchel.
    28 O herwydd ti a oleui fy nghan wyll : yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch.
    29 Oblegid ynot ti y rhedais trwy fyddin : ac yn fy Nuw y llemmais dros fur.
    30 Duw sy berffaith ei ffordd; gair yr Arglwydd sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.
    31 Canys pwy sy Dduw heb law yr Arglwydd : a phwy sy graig ond ein Duw ni?
    32 Duw sy’n fy ngwregysu â nerth : ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith.
    33 Gosod y mae efe fy nhraed fel traed ewigod : ac ar fy uchel-fannau y’m sefydla.
    34 Efe sy’n dysgu fy nwylaw i ryfel : fel y dryllir bwa dur yn fy mreichiau.
    35 Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth : a’th ddeheulaw a’m cynhaliodd, a’th fwynder a’m llïosogodd.
    36 Ehengaist fy ngherddediad danaf : fel na lithrodd fy nhraed.
    37 Erlidiais fy ngelynion, ac a’u goddiweddais: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.
    38 Archollais hwynt, fel na allent godi : syrthiasant dan fy nhraed.
    39 Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel : darostyngaist danaf y rhai a ymgododd i’m herbyn.
    40 Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion : fel y difethwn fy nghaseion.
    41 Gwaeddasant, ond nid oedd achubydd : sef ar yr Arglwydd, ond nid attebodd efe hwynt.
    42 Maluriais hwynt hefyd fel llwch o flaen y gwynt : teflais hwynt allan megis tom yr heolydd.
    43 Gwaredaist fi rhag cynhennau’r bobl; gosodaist fi yn ben cenhedloedd : pobl nid adnabûm, a’m gwasanaethant.
    44 Pan glywant am danaf, ufuddhânt i mi : meibion dïeithr a gymmerant arnynt ymddarostwng i mi.
    45 Meibion dïeithr a ballant : ac a ddychrynant allan o’u dirgel-fannau.
    46 Byw yw’r Arglwydd, a bendithier fy nghraig : a dyrchafer Duw fy iachawdwriaeth.
    47 Duw sydd yn rhoddi i mi allu ymddïal : ac a ddarostwng y bobloedd danaf.
    48 Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion : ïe, ti a’m dyrchefi uwchlaw y rhai a gyfodant i’m herbyn : achubaist fi rhag y gwr traws.
    49 Am hynny y moliannaf di, O Arglwydd, ym mhlith y cenhedloedd : ac y canaf i’th Enw.
    50 Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i’w Frenhin : ac yn gwneuthur trugaredd i’w enneiniog, i Ddafydd, ac i’w had ef byth.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM XIX. Cœli enarrant.

Y NEFOEDD sy’n datgan gogoniant Duw: a’r ffurfafen sy’n mynegi gwaith ei ddwylaw ef.
    2 Dydd i ddydd a draetha ymadrodd : a nos i nos a ddengys wybodaeth.
    3 Nid oes iaith nac ymadrodd : lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt.
    4 Eu llinyn a aeth trwy’r holl ddaear, a’u geiriau hyd eithafoedd byd : i’r haul y gosododd efe babell ynddynt;
    5 Yr hwn sy fel gwr prïod yn dyfod allan o’i ystafell : ac a ymlawenhâ fel cawr i redeg gyrfa.
    6 O eithaf y nefoedd y mae ei fynediad ef allan, a’i amgylchiad hyd eu heithafoedd hwynt : ac nid ymgûdd dim oddi wrth ei wres ef.
    7 Cyfraith yr Arglwydd sy berffaith, yn troi’r enaid: tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth.
    8 Deddfau’r Arglwydd sydd uniawn, yn llawenhâu’r galon: gorchymyn yr Arglwydd sy bur, yn goleuo’r llygaid.
    9 Ofn yr Arglwydd sy lân, yn parhâu yn dragywydd : barnau’r Arglwydd ydynt wirionedd, cyfiawn ydynt i gyd.
    10 Mwy dymunol ŷnt nag aur, ïe, nag aur coeth lawer : melusach hefyd nâ’r mel, ac nâ diferiad diliau mel.
    11 Ynddynt hwy hefyd y rhybuddir dy was: o’u cadw y mae gwobr lawer.
    12 Pwya ddeall ei gamweddau : glanhâ fi oddi wrth fy meiau cuddiedig.
    13 Attal hefyd dy was oddi wrth bechodau rhyfygus; na arglwyddiaethont arnaf : yna y’m perffeithir, ac y’m glanheir oddi wrth anwiredd lawer.
    14 Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon, yn gymmeradwy ger dy fron: O Arglwydd, fy nghraig a’m prynwr.
 

Y 4 Dydd

PSALM XX. Exaudiat te Dominus.

GWRANDAWED yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder: Enw Duw Jacob a’th ddiffyno.
    2 Anfoned i ti gymmorth o’r cyssegr : a nerthed di o Sïon.
    3 Cofied dy holl offrymmau : a bydded foddlon i’th boethoffrwm.
    4 Rhodded i ti wrth fodd dy galon : a chyflawned dy holl gyngor .
    5 Gorfoleddwn yn dy iachawdwriaeth di, a dyrchafwn faner yn enw ein Duw: cyfflawned yr Arglwydd dy holl ddymuniadau.
    6 Yr awr hon y gwn y gwarred yr Arglwydd ei enneiniog : efe a wrendy arno o nefoedd ei sancteiddrwydd, yn nerth iechyd ei ddeheulaw ef.
    7 Ymdc1iried rhai mewn cerbydau, a rhai mewn meirch : ond nyni a gofiwn Enw yr Arglwydd ein Duw.
    8 Hwy a gwympasant, ac a syrthiasant : ond nyni a gyfodasom, ac a safasom.
    9 Achub, Arglwydd: gwrandawed y Brenhin arnom yn y dydd y llefom.
 

 

PSALM XXI. Domine, in virtute tua.

ARGLWYDD, yn dy nerth y llawenycha’r Brenhin : ac yn dy iachawdwriaeth di mor ddirfawr yr ymhyfryda!
    2 Deisyfiad ei galon a roddaist iddo : a dymuniad ei wefusau ni’s gommeddaist.
    3 Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.
    4 Gofynodd oes gennyt, a rhoddaist iddo : ïe, hir oes, byth ac yn dragywydd.
    5 Mawr yw ei ogoniant yn dy iachawdwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch.
    6 Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragywyddol : llawenychaist ef â llawenydd â’th wynebpryd.
    7 O herwydd bod y Brenhin yn ymddiried yn yr Arglwydd : a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef.
    8 Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion : dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gaseion.
    9 Ti a’u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid : yr Arglwydd yn ei ddigllonedd a’u llwngc hwynt, a’r tân a’u hysa hwynt.
    10 Eu ffrwyth hwynt a ddinystri di oddi ar y ddaear: a’u had o blith meibion dynion.
    11 Canys bwriadasant ddrwg i’th erbyn : meddyliasant amcan, heb allu o honynt ei gwblhâu.
    12 Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau : ar dy linynnau y parottôi di saethau yn erbyn eu hwynebau.
    13 Ym ddyrcha, Arglwydd, yn dy nerth : canwn, a chanmolwn dy gadernid.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM XXII. Deus, Deus meus.

FY Nuw, fy Nuw, paham y’m gwrthodaist : paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iachawdwriaeth, a geiriau fy llefain?
    2 Fy Nuw, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi : y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi.
    3 Ond tydi wyt sanctaidd : O dydi yr hwn wyt yn cyfanneddu ym moliant Israel.
    4 Ein tadau a obeithiasant ynot : gobeithiasant, a gwaredaist hwynt.
    5 Arnat ti y llefasant, ac achubwyd hwynt : ynot yr ymddiriedasant, ac ni’s gwaradwyddwyd hwynt.
    6 A minnau, pryf ydwyf, ac nid gwr : gwarthrudd dynion, a dirmyg y bobl.
    7 Pawb a’r a’m gwelant, a’m gwatwarant : llaesant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd,
    8 Ymddiriedodd yn yr Arglwydd; gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo.
    9 Canys ti a’m tynnaist o’r groth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam.
    10 Arnat ti y’m bwriwyd o’r bru: o groth fy mam fy Nuw ydwyt.
    11 Nac ymbellhâ oddi wrthyf; o herwydd cyfyngder sydd agos : canys nid oes cynnorthwywr.
    12 Teirw lawer a’m cylchynasant : gwrdd deirw Basan a’m hamgylchasant.
    13 Agorasant arnaf eu gennau : fel llew rheibus a rhuadwy.
    14 Fel dwfr y’m tywalltwyd, a’m hesgyrn oll a ymwahanasant : fy nghalon sy fel cwyr; hi a doddodd ynghanol fy mherfedd.
    15 Fy nerth a wywodd fel priddlestr; a’m tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau : ac i lwch angau y’m dygaist.
    16 Canys cwn a’m cylchynasant; cynnulleidfa’r drygionus a’m hamgylchasant : trywanasant fy nwylaw a’m traed.
    17 Gallaf gyfrif fy holl esgyrn : y maent yn tremio ac yn edrych arnaf.
    18 Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg : ac ar fy ng wisg yn bwrw coelbren.
    19 Ond tydi, Arglwydd, nac ymbellhâ : fy nghadernid, brysia i’m cynnorthwyo.
    20 Gwared fy enaid rhag y cleddyf: fy unig enaid o feddiant y ci.
    21 Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn unicorniaid y’m gwrandewaist.
    22 Mynegaf dy enw i’m brodyr : ynghanol y gynnulleidfa y’th folaf.
    23 Y rhai sydd yn ofni’r Arglwydd, molwch ef : holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch ef.
    24 Canys ni ddirmygodd ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd: ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo; ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd.
    25 Fy mawl sydd o honot ti yn y gynnulleidfa fawr : fy addunedau a dalaf ger bron y rhai a’i hofnant ef.
    26 y tlodion a fwyttânt, ac a ddiwellir: y rhai a geisiant yr Arglwydd, a’i moliannant ef; eich calon fydd byw yn dragywydd.
    27 Holl derfynau’r ddaear a gofiant, ac a droant at yr Arglwydd : a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di.
    28 Canys eiddo’r Arglwydd yw’r deyrnas : ac efe sydd yn llywodraethu ym mhlith y cenhedloedd.
    29 Yr holl rai breision ar y ddaear a fwyttânt, ac a addolant : y rhai a ddisgynant i’r llwch, a ymgrymmant ger ei fron ef; ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun.
    30 Eu had a’i gwasanaetha ef : cyfrifir ef i’r Arglwydd yn genhedlaeth.
    31 Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i’r bobl a enir: mai efe a wnaeth hyn.
 

 

PSALM XXIII. Dominus regit me.

YR Arglwydd yw fy mugail: ni bydd eisiau arnaf.
   2 Efe a wna i mi orwedd mewn porfeydd gwelltog : efe a’m tywys ger llaw’r dyfroedd tawel.
    3 Efe a ddychwel fy enaid : efe a’m harwain ar hŷd llwybrau cyfiawnder er mwyn ei enw.
    4 Ië, pe rhodiwn ar hŷd glyn cysgod angau, nid ofnaf niweid : canys yr wyt ti gyd â mi; dy wïalen a’th ffon a’m cysurant.
    5 Ti a arlwyi ford ger fy mron yngŵydd fy ngwrthwynebwŷr : iraist fy mhen âg olew; fy phïol sy lawn.
    6 Daioni a thrugaredd yn ddïau a’m canlynant holl ddyddiau fy mywyd : a phreswyliaf yn nhŷ’r Arglwydd yn dragywydd.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM XXIV. Domini est terra.

EIDDO’R Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder : y byd, ac a breswylia ynddo.
    2 Canys efe a’i seiliodd ar y moroedd : ac a’i sicrhaodd ar yr afonydd.
    3 Pwy a esgyn i fynydd yr Arglwydd : a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef?
    4 Y glân ei ddwylaw, a’r pur ei galon : yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo.
    5 Efe, a dderbyn fendith gan yr Arglwydd: a chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth.
    6 Dyma genhedlaeth y rhai a ‘i ceisiant ef: y rhai a geisiant dy wyneb di, O Jacob.
    7 O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragywyddol : a Brenhin y gogoniant a ddaw i mewn.
    8 Pwy yw’r Brenhin gogoniant hwn: yr Arglwydd nerthol a chadarn, yr Arglwydd cadarn mewn rhyfel.
    9 O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragywyddol : a Brenhin y gogoniant a ddaw i mewn.
    10 Pwy yw’r Brenhin gogoniant hwn: Arglwydd y lluoedd, efe yw Brenhin y gogoniant.
 

Y 5 Dydd

PSALM XXV. Ad te, Domine, levavi.

ATTAT ti, O Arglwydd : y dyrchafaf fy enaid.
   2 O fy Nuw, ynot ti’r ymddiriedais : na’m gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf.
    3 Ië, na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti : gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos.
    4 Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O Arglwydd : dysg i mi dy lwybrau.
    5 Tywys fi yn dy wirionedd, a dysg fi : canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hŷd y dydd.
    6 Cofia, Arglwydd, dy dosturiaethau, a’th drugareddau: canys eriôed y maent hwy.
    7 Na chofia bechodau fy ieuengctid, na’m camweddau: yn ol dy drugaredd meddwl di am danaf, er mwyn dy ddaioni, Arglwydd.
    8 Da ac uniawn yw yr Arglwydd : o herwydd hynny y dysg’ efe bechaduriaid yn y ffordd.
    9 Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn : a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig.
    10 Holl lwybrau’r Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionedd : i’r rhai a gadwant ei gyfammod a’i dystiolaethau ef.
    11 Er mwyn dy enw, Arglwydd: maddeu fy anwiredd; canys mawr yw.
    12 Pa wr yw efe sy’n ofni’r Arglwydd : efe a’i dysg ef yn y ffordd a ddewiso.
    13 Ei enaid ef a erys mewn daioni : a’i had a etifedda’r ddaear.
    14 Dirgelwch yr Arglwydd sy gyd â’r rhai a’i hofnant ef : a’i gyfammod hefyd i’w cyfarwyddo hwynt.
    15 Fy llygaid sydd yn wastad ar yr Arglwydd : canys efe a ddwg fy nhraed allan o’r rhwyd.
    16 Tro attaf, a thrugarhâ wrthyf: canys unig a thlawd ydwyf.
    17 Gofidiau fy nghalon a helaethwyd: dwg fi allan o’m cyfyngderau.
    18 Gwel fy nghystudd a’m helbul : a maddeu fy holl bechodau.
    19 Edrych ar fy ngelynion; canys amlhasant: â chasineb traws hefyd y’m casasant.
    20 Cadw fy enaid, ac achub fi : na’m gwaradwydder; canys ymddiriedais ynot.
    21 Cadwed perffeithrwydd ac uniondeb fi : canys yr wyf yn disgwyl wrthyt.
    22 O Dduw, gwared Israel : o’i holl gyfyngderau.
 

 

PSALM XXVI. Judica me, Domine.

BARN fi, Arglwydd; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd : ymddiriedais hefyd yn yr Arglwydd; am hynny ni lithraf.
    2 Hola fi, Arglwydd, a phrawf fi : chwilia fy arennau a’m calon.
    3 Canys dy drugaredd sydd o flaen fy llygaid : ac mi a rodiais yn dy wirionedd.
    4 Nid eisteddais gyd â dynion coegion : a chyd â’r rhai trofâus nid âf.
    5 Caseais gynnulleidfa’r drygionus : a chyd â’r annuwiolion nid eisteddaf.
    6 Golchaf fy nwylaw mewn diniweidrwydd: a’th allor, O Arglwydd, a amgylchynaf:
    7 I gyhoeddi â llef clodforedd : ac i fynegi dy holl ryfeddodau.
    8 Arglwydd, hoffais drigfan dy dŷ : a lle preswylfa dy ogoniant.
    9 Na chasgl fy enaid gyd â phechaduriaid: na’m bywyd gyd â dynion gwaedlyd:
    10 Y rhai y mae ysgelerder yn eu dwylaw: a’u deheulaw yn llawn gwobrau.
    11 Eithr mi a rodiaf yn fy mherffeithrwydd : gwared fi, a thrugarhâ wrthyf.
    12 Fy nhroed sydd yn sefyll ar yr union : yn y cynnulleidfaoedd y’th fendithiaf, O Arglwydd.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM XXVII. Dominus illttminatio.

YR Arglwydd yw fy ngoleuni a’m hiachawdwriaeth; rhag pwy yr ofnaf : yr Arglwydd yw nerth fy mywyd; rhag pwy y dychrynaf?
    2 Pan nesaodd y rhai drygionus, sef fy ngwrthwynebwŷr a’m gelynion, i’m herbyn, i fwytta fy nghnawd : hwy a dramgwyddasant ac a syrthiasant.
    3 Pe gwersyllai llu i’m herbyn, nid ofna fy nghalon : pe cyfodai cad i’m herbyn, yn hyn mi a fyddaf hyderus.
    4 Un peth a ddeisyfiais i gan yr Arglwydd, hynny a geisiaf : sef caffael trigo yn nhŷ’r Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar brydferthwch yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei deml.
    5 Canys yn y dydd blin y’m cuddia o fewn ei babell : yn nirgelfa ei babell y’m cuddia; ar graig y’m cyfyd i.
    6 Ac yn awr y dyrcha efe fy mhen goruwch fy ngelynion o’m hamgylch : am hynny’r aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd; canaf, ïe, canmolaf yr Arglwydd.
    7 Clyw, O Arglwydd, fy lleferydd pan lefwyf : trugarhâ hefyd wrthyf, a gwrando arnaf.
    8 Pan ddywedaist, Ceisiwch fy wyneb : fy nghalon a ddywedodd wrthyt, Dy wyneb a geisiaf, O Arglwydd.
    9 Na chuddia dy wyneb oddi wrthyf; na fwrw ymaith dy was mewn sorriant : fy nghymmorth fuost; na ad fi, ap na wrthod fi, O Dduw fy iachawdwriaeth.
    10 Pan yw fy nhad a’m mam yn fy ngwrthod : yr Arglwydd a’m derbyn.
    11 Dysg i mi dy ffordd, Arglwydd : ac arwain fi ar hŷd llwybrau uniondeb, o herwydd fy ngelynion.
    12 Na ddyro fi i fynu i ewyllys fy ngelynion : canys gau dystion, a rhai a adroddant drawsder, a gyfodasant i’m herbyn.
    13 Diffygiaswn: pe na chredaswn weled daioni’r Arglwydd yn nhir y rhai byw.
    14 Disgwyl wrth yr Arglwydd; ymwrola, ac efe a nertha dy galon : disgwyl, meddaf, wrth yr Arglwydd.
 

 

PSALM XXVIII. Ad te, Domine.

ARNAT ti, Arglwydd, y gwaeddaf; fy nghraig, na ddistawa wrthyf: rhag, o thewi wrthyf, i mi fod yn gyffelyb i rai yn disgyn i’r pwll.
    2 Erglyw lef fy ymbil, pan waedd wyf arnat : pan ddyrchafwyf fy nwylaw tu ag at dy gafell sanctaidd.
    3 Na thyn fi gyd â’r annuwiolion, a chyd â gweithredwŷr anwiredd : y rhai a lefarant heddwch wrth eu cymmydogion, a drwg yn eu calon.
    4 Dyro iddynt yn ol eu gweithred, ac yn ol drygioni eu dychymmygion : dyro iddynt yn ol gweithredoedd eu dwylaw; tâl iddynt eu haeddedigaethau.
    5 Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylaw ef : y dinystria efe hwynt, ac ni’s adeilada hwynt.
    6 Bendigedig fyddo’r Arglwydd : canys clybu lef fy ngweddïau.
    7 Yr Arglwydd yw fy nerth, a’m tarian; ynddo ef yr ymddiriedodd fy nghalon, a myfi a gynnorthwywyd : o herwydd hyn y llawenychodd fy nghalon, ac ar fy nghân y clodforaf ef.
    8 Yr Arglwydd sy nerth i’r cyfryw rai : a chadernid iachawdwriaeth ei Enneiniog yw efe.
    9 Cadw by bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dyrcha hwynt yn dragywydd.
 

 

PSALM XXIX. Afferte Domino.

MOESWCH i’r Arglwydd, chwi feibion cedyrn : moeswch i’r Arglwydd ogoniant a nerth.
    2 Moeswch i’r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd.
    3 Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd; Duw y gogoniant a darana : yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion.
    4 Llef yr Arglwydd sy mewn grym : llef yr Arglwydd sy mewn prydferthwch.
    5 Llef yr Arglwydd sy’n dryllio’r cedrwŷdd : ïe, dryllia’r Arglwydd gedrwŷdd Libanus.
    6 Efe a wna iddynt lammu fel llo : Libanus a Sirion fel llwdn unicorn.
    7 Llef yr Arglwydd: a wasgara’r fflammau tân.
    8 Llef yr Arglwydd a wna i’r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu.
    9 Llef yr Arglwydd a wna i’r ewigod lydnu, ac a ddynoetha’r coedydd : ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef.
    10 Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant : ïe, yr Arglwydd a eistedd yn Frenhin yn dragywydd.
    11 Yr Arglwydd a ddyry nerth i’w bobl : yr Arglwydd a fendithia ei bobl â thangnefedd.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM XXX. Exaltabo te, Domine.

MAWRYGAF di, O Arglwydd; canys dyrchefaist fi : ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid.
    2 Arglwydd fy Nuw, llefais arnat : a thithau a’m hiacheaist.
    3 Arglwydd, dyrchefaist fy enaid o’r bedd : cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll.
    4 Cenwch i’r Arglwydd, ei saint ef : a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
    5 Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; yn ei foddlonrwydd y mae bywyd : dros brydnhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd.
    6 Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant : Ni’m syflir yn dragywydd.
    7 O’th ddaioni, Arglwydd, y gosodaist gryfder yn fy mynydd : cuddiaist dy wyneb, a bum helbulus.
    8 Arnat ti, Arglwydd, y llefais: ac â’r Arglwydd yr ymbiliais.
    9 Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgyn wyf i’r ffos : a glodfora’r llwch di? a fynega efe dy wirionedd?
    10 Clyw, Arglwydd, a thrugarhâ wrthyf: Arglwydd, bydd gynnorthwywr i mi.
    11 Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi : dïosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd;
    12 Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo : O Arglwydd fy Nuw, yn dragywydd ol y’th foliannaf.
 

Y 6 Dydd.

PSALM XXXI. In te, Domine, speravi.

YNOT ti, Arglwydd, yr ymddiriedais; na’m gwaradwydder yn dragywydd : gwarred fi yn dy gyfiawnder.
    2 Gogwydda dy glust attaf; gwared fi at: frys : bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddiffyn i’m cadw.
    3 Canys fy nghraig a’m castell ydwyt : gan hynny er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain fi.
    4 Tyn fi allan o’r rhwyd a guddiasant i mi : canys ti yw fy nerth.
    5 I’th law y gorchymynaf fy yspryd : gwaredaist fi, O Arglwydd Dduw y gwirionedd.
    6 Caseais y rhai sy’n dal ar ofer-wagedd : minnau a obeithiaf yn yr Arglwydd.
    7 Ymlawenhâf ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd : canys gwelaist fy adfyd; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau;
    8 Ac ni warchaeaist fi yn llaw y gelyn: ond gosodaist fy nhraed mewn ehangder.
    9 Trugarhâ wrthyf, Arglwydd; canys cyfyng yw arnaf : dadwinodd fy llygad gan ofid, ïe, fy enaid a’m bol.
    10 Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a’m blynyddoedd gan ochain : fy nerth a ballodd o herwydd fy anwiredd, a’m hesgyrn a bydrasant.
    11 Yn warthrudd yr ydwyf ym mysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ym mysg fy nghymmydogion : ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant; y rhai a’m gwelent allan, a gilient oddi wrthyf.
    12 Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig.
    13 Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn oedd o bob parth : pan gyd-ymgynghorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy ïeneidio.
    14 Ond mi a obeithiais ynot ti, Arglwydd : dywedais, Fy Nuw ydwyt.
    15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwŷr.
    16 Llewyrcha dy wyneb ar dy was : achub fi er mwyn dy drugaredd.
    17 Arglwydd, na waradwydder fi; canys gelwais arnat : gwaradwydder yr annuwiolion, torrer hwynt i’r bedd.
    18 Gosteger y gwefusau celwyddog : y rhai a ddywedant yn galed, trwy falchder a dïystyrwch, yn erbyn y cyfiawn.
    19 Mor fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i’r sawl a’th ofnant : ac a wnaethost i’r rhai a ymddiriedant ynot, ger bron meibion dynion!
    20 Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb rhag balchder dynion : cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafodau.
    21 Bendigedig fyddo’r Arglwydd : canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn.
    22 Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst, Fe’m bwriwyd allan o’th olwg : er hynny ti a wrandewaist lais fy ngweddïau pan lefais arnat.
    23 Cerwch yr Arglwydd, ei holl saint ef : yr Arglwydd a geidw’r ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i’r neb a wna falchder.
    24 Ymwrolwch, ac efe a gryfhâ eich calon : chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr Arglwydd.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM XXXII. Beati, quorum.

GWYN ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd : ac y cuddiwyd ei bechod.
    2 Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd : ac ni bo dichell yn ei yspryd.
    3 Tra y tewais, heneiddiodd fy esgyrn : gan fy rhuad ar hŷd y dydd.
    4 Canys trymhaodd dy law arnaf ddydd a nos : fy irder a dröwyd yn sychder haf.
    5 Addefais fy mhechod wrthyt, a’m hanwiredd ni chuddiais : dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r Arglwydd; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod.
    6 Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr amser y’th geffir : yn ddïau yn llifeiriant dyfroedd mawrion, ni chânt nesâu atto ef.
    7 Ti ydwyt loches i mi; cedwi fi rhag ing : amgylchyni fi â chaniadau ymwared.
    8 Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn y ffordd yr elych : â’m llygad arnat y’th gynghoraf.
    9 Na fyddwch fel march, neu ful, heb ddeall : yr hwn y mae rhaid attal ei ên â genfa ac â ffrwyn, rhag ei ddynesâu attat.
    10 Gofidiau lawer fydd i’r annuwiol : ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, trugaredd a’i cylchyna ef.
    11 Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn yr Arglwydd : a’r rhai uniawn o galon oll, cenwch yn llafar.
 

 

PSALM XXXIII. Exultate, justi.

YMLAWENHEWCH, y rhai cyfiawn, yn yr Arglwydd: i’r rhai uniawn gweddus yw mawl.
    2 Molwch yr Arglwydd â’r delyn : cenwch iddo â’r nabl, ac â’r degtant.
    3 Cenwch iddo ganiad newydd : cenwch yn gerddgar: yn soniarus.
    4 Canys uniawn yw gair yr Arglwydd: a’i holl weithredoedd a wnaed mewn ffyddlondeb.
    5 Efe a gâr gyfiawnder a barn : o drugaredd yr Arglwydd y mae’r ddaear yn gyflawn.
    6 Trwy air yr Arglwydd y gwnaethpwyd y nefoedd : a’u holl luoedd hwy trwy yspryd ei enau ef.
    7 Casglu y mae efe ddyfroedd y môr ynghŷd megis pentwr : y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn trysorau.
    8 Ofned yr holl ddaear yr Arglwydd : holl drigolion y byd arswydant ef.
    9 Canys efe a ddywedodd, ac felly y bu : efe a orchymynodd, a hynny a safodd.
    10 Yr Arglwydd sydd yn diddymmu cyngor y cenhedloedd : y mae efe yn diddymmu amcanion pobloedd.
    11 Cyngor yr Arglwydd a saif yn dragywydd : meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth.
    12 Gwyn ei byd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi: a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun.
    13 Yr Arglwydd sy’n edrych i lawr o’r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion.
    14 O breswyl ei drigfa : yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear.
    15 Efe a gyd-luniodd eu calon hwynt : efe a ddeall eu holl weithredoedd.
    16 Ni waredir brenhin gan lïaws llu : ni ddïangc cadarn trwy ei fawr gryfder.
    17 Peth ofer yw march i ymwared : ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder.
    18 Wele, y mae llygad yr Arglwydd ar y rhai a’i hofnant ef: sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef;
    19 I waredu eu henaid rhag angau, ac i’w cadw yn fyw yn anser newyn.
    20 Ein henaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd : efe yw ein porth a’n tarian.
    21 Canys ynddo ef y llawenycha ein calon : o herwydd i ni obeithio yn ei Enw sanctaidd ef.
    22 Bydded dy drugaredd, Arglwydd, arnom ni : megis yr ydym yn ymddiried ynot.
 

 

PSALM XXXIV. Benedicam Domino.

BENDITHIAF yr Arglwydd bob amser: ei foliant fydd yn fy ngenau yn wastad.
    2 Yn yr Arglwydd y gorfoledda fy enaid : y rhai gostyngedig a glywant hyn, ac a lawenychant.
    3 Mawrygwch yr Arglwydd gyd â mi : a chyd-ddyrchafwn ei Enw ef.
    4 Ceisiais yr Arglwydd, ac efe a’m gwrandawodd: gwaredodd fi hefyd o’m holl ofn.
    5 Edrychasant arno, a hwy a oleuwyd: a’u hwynebau ni chywilyddiwyd.
    6 Y tlawd hwn a lefodd, a’r Arglwydd a’i clybu : ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau.
    7 Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a’i hofnant ef: ac a’u gwared hwynt.
    8 Profwch, a gwelwch mor dda yw’r Arglwydd: gwỳn ei fyd y gwr a ymddiriedo ynddo.
    9 Ofnwch yr Arglwydd, ei saint ef : canys nid oes eisiau ar y rhai a’i hofnant ef.
    10 Y mae eisiau a newyn ar y llewod ieuaingc : ond y sawl a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim daioni.
    11 Deuwch, blant, gwrandêwch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd.
    12 Pwy yw’r gwr a chwennych fywyd : ac a gâr hir ddyddiau, i weled daioni?
    13 Cadw dy dafod rhag drwg : a’th wefusau rhag traethu twyll.
    14 Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda : ymgais â thangnefedd, a dilyn hi.
    15 Llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn: a’i glustiau sydd yn agored i’w llefain hwynt.
    16 Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg : i dorri eu coffa oddi ar y ddaear.
    17 Y rhai cyfiawn a lefant; a’r Arglwydd a glyw: ac a’u gwared o’u holl drallodau.
    18 Agos yw’r Arglwydd at y rhai drylliedig o galon : ac efe a geidw y rhai briwedig o yspryd.
    19 Aml ddrygau a gaiff y cyfiawn : ond yr Arglwydd a’i gwared ef oddi wrthynt oll.
    20 Efe a geidw ei holl esgyrn ef : ni thorrir un o honynt.
    21 Drygioni a ladd yr annuwiol : a’r rhai a gasânt y cyfiawn a anrheithir.
    22 Yr Arglwydd a wared eneidiau ei weision : a’r rhai oll a ymddiriedant ynddo ef, nid anrheithir hwynt.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM XXXV. Judica, Domine.

DADLEU fy nadl, Arglwydd, yn erbyn y rhai a ddadleuant i’m herbyn : ymladd â’r rhai a ymladdant â mi.
    2 Ymafael yn y darian a’r astalch : a chyfod i’m cymmorth.
    3 Dwg allan y waywffon, ac argaea yn erbyn fy erlidwŷr : dywed wrth fy enaid, Myfi yw dy iachawdwriaeth.
    4 Cywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy enaid : ymchweler yn eu hol a gwarthâer y sawl a fwriadant fy nrygu.
    5 Byddant fel us o flaen y gwynt : ac angel yr Arglwydd yn eu herlid.
    6 Bydded eu ffordd yn dywyllwch ac yn llithrigfa : ac angel yr Arglwydd yn eu hymlid.
    7 Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew : yr hwn heb achos a gloddiasant i’m henaid.
    8 Deued arno ddistryw ni wypo; a’i rwyd yr hon a guddiodd, a’i dalio : syrthied yn y distryw hwnnw.
    9 A llawenycha fy enaid i yn yr Arglwydd : efe a ymhyfryda yn ei iachawdwriaeth ef.
    10 Fy holl esgyrn a ddywedant, O Arglwydd, pwy sy fel tydi, yn gwaredu’r tlawd rhag yr hwn a fyddo trech nag ef : y truan hefyd a’r tlawd, rhag y neb a’i hyspeilio?
    11 Tystion gau a gyfodasant: holasant i mi yr hyn ni’s gwn oddi wrtho.
    12 Talasant i mi ddrwg dros dda: i yspeilio fy enaid.
    13 A minnau, pan glafychent hwy, oeddwn â’m gwisg o sachlen; gostyngais fy enaid âg ympryd : a’m gweddi a ddychwelodd i’m mynwes fy hun.
    14 Ymddygais fel pe buasai’n gyfaill, neu yn frawd i mi : ymostyngais mewn galarwisg, fel un yn galaru am ei fam.
    15 Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i, ac ymgasglasant : ïe, ymgasglodd efryddion yn fy erbyn, ac ni’s gwyddwn; rhwygasant fi, ac ni pheidient.
    16 Ym mysg y gwatwarwŷr rhagrithiol mewn gwleddoedd: ysgyrnygasant eu dannedd arnaf.
    17 Arglwydd, pa hŷd yr edrychi di ar hyn : gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt, fy unig enaid rhag y llewod.
    18 Mi a’th glodforaf yn y gynnulleidfa fawr : moliannaf di ym mhlith pobl lawer.
    19 Na lawenychant o’m herwydd y rhai sydd elynion i mi heb achos : y sawl a’m casânt yn ddïachos, nac amneidiant â llygad:
    20 Gan nad ymddiddanant yn dangnefeddus : eithr dychymmygant eiriau dichellgar yn erbyn y rhai llonydd yn y tir.
    21 Lledasant eu safn arnaf, gan ddywedyd : Ha, ha, gwelodd ein llygad.
    22 Gwelaist hyn, Arglwydd: na thaw dithau; nac ymbellhâ oddi wrthyf, O Arglwydd.
    23 Cyfod, a deffro i’m barn : sef i’m dadl, fy Nuw a’m Harglwydd.
    24 Barn fi, Arglwydd fy Nuw, yn ol dy gyfiawnder: ac na lawenhânt o’m plegid.
    25 Na ddywedant yn eu calon, O ein gwỳrnfyd : na ddywedant, Llyngcasom ef.
    26 Cywilyddier a gwaradwydder hwy i gŷd, y rhai sy lawen am fy nrygfyd : gwisger â gwarth ac â chywilydd y rhai a ymfawrygant i’m herbyn.
    27 Caned a llawenyched y rhai a hoffant fy nghyfiawnder : dywedant hefyd yn wastad, Mawryger yr Arglwydd, yr hwn a gâr lwyddiant ei was.
    28 Fy nhafod innau a lefara am dy gyfiawnder : a’th foliant ar hŷd y dydd.
 

Y 7 Dydd.

PSALM XXXVI. Dixit injustus.

Y MAE anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon : nad oes ofn Duw o flaen ei lygaid ef.
    2 O herwydd ymwenhieithio y mae efe iddo ei hun yn ei ol wg ei hunan : nes cael ei anwiredd yn atgas.
    3 Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll : peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni.
    4 Anwiredd a ddychymmyg efe ar ei wely; efe a’i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda : nid ffiaidd gantho ddrygioni.
    5 Dy drugaredd, Arglwydd, sydd hyd y nefoedd : a’th wirionedd hyd y cymmylau.
    6 Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau : dyn ac anifail a gedwi di, Arglwydd.
    7 Mor werthfawr yw dy drugaredd, O Dduw: am hynny’r ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd.
    8 Llawn-ddigonir hwynt â brasder dy dŷ : ac âg afon dy hyfrydwch y dlodi hwynt.
    9 Canys gyd â thi Y mae ffynnon y bywyd : yn dy oleuni di y gwelwn oleuni.
    10 Estyn dy drugaredd i’r rhai a’th adwaenant : a’th gyfiawnder i’r rhai uniawn o galon.
    11 Na ddeued troed balchder i’m herbyn : na syfled llaw yr annuwiol fi.
    12 Yno y syrthiodd gweithwŷr anwiredd : gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM XXXVII. Noli æmulari.

NAC ymddigia o herwydd y rhai drygionus : ac na chynfigenna wrth y rhai a wnant anwiredd.
    2 Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt : ac y gwywant fel gwyrdd-lysiau.
    3 Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda : felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddïau.
    4 Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd : ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon.
    5 Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo : ac efe a’i dwg i ben.
    6 Efe a dd wg allan dy gyfiawnder fel y goleuni : a’th farn fel hanner dydd.
    7 Distawa yn yr Arglwydd, a disgwyl wrtho: nac ymddigia o herwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gwr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion.
    8 Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg.
    9 Canys torrir ymaith y drwg ddynion : ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr Arglwydd, hwynt-hwy a etifeddant y tir.
    10 Canys etto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol : a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim o hono.
    11 Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear : ac a ymhyfrydant gan lïaws tangnefedd.
    12 Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn: ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno.
    13 Yr Arglwydd a chwardd am ei ben ef : canys gwel fod ei ddydd ar ddyfod.
    14 Yr annuwiolion a dynnasant eu cleddyf, ac a annelasant eu bwa : i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd.
    15 Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain : a’u bwaau a ddryllir.
    16 Gwell yw’r ychydig sy gan y cyfiawn: nâ mawr olud annuwiolion lawer.
    17 Canys breichiau’r annuwiolion a dorrir : ond yr Arglwydd a gynnal y rhai cyfiawn.
    18 Yr Arglwydd a edwyn ddyddiau y rhai perffaith : a’u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd.
    19 Ni’s gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd : ac yn amser newyn y cânt ddigon.
    20 Eithr collir yr annuwiolion; a gelynion yr Arglwydd fel brasder ŵyn a ddiflannant : yn fwg y diflannant hwy.
    21 Yr annuwiol a echwyna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn sy drugarog, ac yn rhoddi.
    22 Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir : a’r rhai a felldithio efe, a dorrir ymaith.
    23 Yr Arglwydd a fforddia gerddediad gwr da : a da fydd ganddo ei ffordd ef.
    24 Er iddo gwympo, ni lwyrfwrir ef i lawr: canys yr Arglwydd sydd yn ei gynnal ef â’i law.
    25 Mi a fum ieuangc, ac yr ydwyf yn hen: etto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na’i had yn cardotta bara.
    26 Bob amser y mae efe yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg : a’i had a fendithir.
    27 Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna dda : a chyfannedda yn dragywydd.
    28 Canys yr Arglwydd a gâr farn, ac ni edy ei saint : cedwir hwynt yn dragywydd; ond had yr annuwiol a dorrir ymaith.
    29 Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear : ac a breswyliant ynddi yn dragywydd.
    30 Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb : a’i dafod a draetha farn.
    31 Deddf ei Dduw sydd yn ei galon ef: a’i gamrau ni lithrant.
    32 Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn : ac a gais ei ladd ef.
    33 Ni ad yr Arglwydd ef yn ei law ef : ac ni ad ef yn euog pan ei barner.
    34 Gobeithia yn yr Arglwydd, a chadw ei ffordd ef, ac efe a’th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir : pan ddifether yr annuwiolion, ti a’i gweli.
    35 Gwelais yr annuwiol yn gadarn : ac yn frigog fel y lawryf gwyrdd.
    36 Er hynny efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy o hono: a mi a’i ceisiais, ac nid oedd i’w gael.
    37 Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gwr hwnnw fydd tangnefedd.
    38 Ond y troseddwŷr a gyd-ddistrywir : diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith.
    39 A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr Arglwydd : efe yw eu nerth yn amser trallod.
    40 A’r Arglwydd a’u cymmorth hwynt, ac a’u gwared : efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a’u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM XXXVIII. Domine, ne in furore.

ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lid : ac na chospa fi yn dy ddigllonedd.
    2 Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof : a’th law yn drom arnaf.
    3 Nid oes iechyd yn fy nghnawd, o herwydd dy ddigllonedd : ac nid oes heddwch i’m hesgyrn, oblegid fy mhechod.
    4 Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen : megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi.
    5 Fy nghleisiau a bydrasant : ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd.
    6 Crymmwyd a darostyngwyd fi’n ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus.
    7 Canys fy lwynau a lanwyd o ffieidd-glwyf : ac nid oes iechyd yn fy nghnawd.
    8 Gwanhawyd, a drylliwyd fi’n dramawr : rhuais gan aflonyddwch fy nghalon.
    9 O’th flaen di, Arglwydd, y mae fy holl ddymuniad : ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt.
    10 Fy nghalon sydd yn llammu; fy nerth a’m gadawodd : a llewyrch fy llygaid nid yw ch waith gennyf.
    11 Fy ngharedigion a’m cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla : a’m cyfneseifiaid a safent o hirbell.
    12 Y rhai hefyd a geisient fy einioes a osodasant faglau : a’r rhai a geisient fy niweid, a draethent anwireddau, ac a ddychymmygent ddichellion ar hŷd y dydd.
    13 A minnau fel byddar ni chlywn : eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau.
    14 Felly’r oeddwn fel gwr ni chlywai : ac heb argyhoeddion yn ei enau.
    15 O herwydd i mi obeithio ynot, Arglwydd: ti, Arglwydd fy Nuw, a wrandewi.
    16 Canys dywedais, Gwrando fi, rhag llawenychu o honynt i’m herbyn : pan lithrai fy nhroed, ymfawrygent i’m herbyn.
    17 Canys parod wyf i gloffi : a’m dolur sy ger fy mron yn wastad.
    18 Dïau y mynegaf fy anwiredd : ac y pryderaf o herwydd fy mhechod.
    19 Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn : amlhawyd hefyd y rhai a’m casânt ar gam.
    20 A’r rhai a dalant ddrwg dros dda, a’m gwrthwynebant : am fy mod yn dilyn daioni.
    21 Na ad fi, O Arglwydd : fy Nuw, nac ymbellhâ oddi wrthyf.
    22 Brysia i’m cymmorth : O Arglwydd fy iachawdwriaeth.
 

Y 8 Dydd

PSALM XXXIX. Dixi, custodiam.

DYWEDAIS, Cadwaf fy ffyrdd, rhag pechu â’m tafod : cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo’r annuwiol yn fy ngolwg.
    2 Tewais yn ddistaw, ïe, tewais â daioni : a’m dolur a gyffrôdd.
    3 Gwresogodd fy nghalon o’m mewn : tra’r oeddwn yn myfyrio, ennynodd tân, a mi a leferais â’m tafod.
    4 Arglwydd, par i mi wybod fy niwedd, a pheth yw mesur fy nyddiau : fel y gwypwyf o ba oedran y byddaf fi.
    5 Wele, gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd; a’m heinioes sy megis diddym yn dy olwg di : dïau mai cwbl wagedd yw pob dyn, pan fo ar y goreu.
    6 Dyn yn ddïau sydd yn rhodio mewn cysgod, ac yn ymdrafferthu yn ofer : efe a dyrra olud, ac ni’s gŵyr pwy a’i casgl.
    7 Ac yn awr beth a ddisgwyliaf, O Arglwydd : fy ngobaith sydd ynot ti.
    8 Gwared fi o’m holl gamweddau : ac na osod fi yn waradwydd i’r ynfyd.
    9 Aethum yn fud, ac nid agorais fy ngenau : canys ti a wnaethost hyn.
    10 Tyn dy bla oddi wrthyf : gan ddyrnod dy law y darfûm i.
    11 Pan gospit ddyn â cheryddon am anwiredd, dattodit fel gwyfyn ei ardderchowgrwydd ef : gwagedd yn ddïau yw pob dyn.
    12 Gwrando fy ngweddi, Arglwydd, a chlyw fy llef; na thaw wrth fy wylofain : canys ymdeithydd ydwyf gyd â thi, ac alltud, fel fy holl dadau.
    13 Paid â mi, fel y cryfhawyf: cyn fy myned, ac na byddwyf mwy.
 

 

PSALM: XL. Expectans expectavi.

DISGWYLIAIS yn ddyfal am yr Arglwydd : ac efe a ymostyngodd attaf, ac a glybu fy llefain.
    2 Cyfododd fi hefyd o’r pydew erchyll, allan o’r pridd tomlyd : ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad.
    3 A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i’n Duw ni : llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd.
    4 Gwỳn ei fyd y gwr a osodo’r Arglwydd yn ymddiried iddo : ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a ŵyrant at gelwydd.
    5 Llïosog y gwnaethost ti, O Arglwydd fy Nuw, dy ryfeddodau, a’th amcanion tu ag attom; ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti : pe mynegwn a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo.
    6 Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau : poeth-offrwm a phechaberth ni’s gofynaist.
    7 Yna y dywedais, Wele’r ydwyf yn dyfod : yn rhol y llyfr yr ysgrifenwyd am danaf.
    8 Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O fy Nuw : a’th gyfraith sydd o fewn fy nghalon.
    9 Pregethais gyfiawnder yn y gynnulleidfa fawr : wele, nid atteliais fy ngwefusau; ti, Arglwydd, a’i gwyddost.
    10 Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb a’th iachawdwriaeth : ni chelais dy drugaredd na’th wirionedd yn y gynnulleidfa lïosog.
    11 Tithau, Arglwydd, nac attal dy drugareddau oddi wrthyf : cadwed dy drugaredd a’th wirionedd fi byth.
    12 Canys drygau annifeiriol a’m cylchynasant o amgylch; fy mhechodau a’m daliasant, fel na allwn edrych i fynu : amlach ydynt nâ gwallt fy mhen; am hynny y pallodd fy nghalon gennyf.
    13 Rhynged bodd i ti, Arglwydd, fy ngwaredu: brysia, Arglwydd, i’m cymmorth.
    14 Cyd-gywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy einioes i’w difetha : gyrrer yn eu hol a chywilyddier y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg.
    15 Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwaradwydd : y rhai a ddywedant wrthyf, Ha, ha.
    16 Llawenyched ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a’th geisiant : dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth bob amser, Mawryger yr Arglwydd.
    17 Ond yr wyf fi yn dlawd ac yn anghenus; etto yr Arglwydd a feddwl am danaf: fy nghymmorth a’m gwaredydd ydwyt ti; fy Nuw, na hir drig.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM XLI. Beatus qui intelligit.

GWYN ei fyd a ystyria wrth y tlawd : yr Arglwydd a’i gwared ef yn amser adfyd.
    2 Yr Arglwydd a’i ceidw, ac a’i bywhâ ; gwỳnfydedig fydd ar y ddaear: na ddod dithau ef wrth ewyllys ei elynion.
    3 Yr Arglwydd a’i nertha ef ar ei glaf wely : cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd.
    4 Mi a ddywedais, Arglwydd, trugarhâ wrthyf: iachâ fy enaid; canys pechais i’th erbyn.
    5 Fy ngelynion a lefarant ddrwg am danaf, gan ddywedyd : Pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef?
    6 Ac os daw i’m hedrych, efe a ddywed gelwydd : ei galon a gasgl atti anwiredd; pan el allan, efe a’i traetha.
    7 Fy holl gaseion a gydhustyngant i’m herbyn : yn fy erbyn y dychymmygant ddrwg i mi.
    8 Aflwydd, meddant, a lŷn wrtho : a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy.
    9 Hefyd y gwr oedd anwyl gennyf, yr hwn yr ymddiriedais iddo : ac a fwyttaodd fy mara, a ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn.
    10 Eithr ti, Arglwydd, trugarhâ wrthyf: a chyfod fi, fel y talwyf iddynt.
    11 Wrth hyn y gwn hoffi o , honot fi : am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i’m herbyn.
    12 Ond am danaf fi, yn fy mherffeithrwydd y’m cynheli : ac y’m gosodi ger dy fron yn dragywydd.
    13 Bendigedig’ fyddo Arglwydd Dduw Israel: o dragywyddoldeb a hyd dragywyddoldeb. Amen, ac Amen.
 

 

PSALM XLII. Quemadmodum.

FEL y brefa’r hŷdd am yr afonydd dyfroedd : felly’r hiraetha fy enaid am danat ti, O Dduw.
    2 Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw : pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf ger bron Duw?
    3 Fy nagrau oedd fwyd i mi ddydd a nos : tra dywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw?
    4 Tywalltwn fy enaid ynof, pan gofiwn hynny : canys aethwn gyd â’r gynnulleidfa; cerddwn gyd â hwynt i dŷ Dduw, mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gwyl.
    5 Paham, fy enaid, y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof: gobeithia yn Nuw; oblegid moliannaf ef etto am iachawdwriaeth ei wynebpryd.
    6 Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof : am hynny y cofiaf di o dir yr Iorddonen, a’r Hermoniaid o fryn Misar.
    7 Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth swn dy bistylloedd di : dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant drosof fi.
    8 Etto yr Arglwydd a orchymyn ei drugaredd liw dydd : a’i gân fydd gyd â mi liw nos; sef gweddi ar Dduw fy einioes.
    9 Dywedaf wrth Dduw fy nghraig, Paham yr anghofiaist fi : paham y rhodiaf yn alarus trwy orthrymder y gelyn?
    10 Megis â chleddyf yn fy esgyrn y mae fy ngwrthwynebwŷr yn fy ngwaradwyddo: pan ddywedant wrthyf bob dydd, Pa le y mae dy Dduw?
    11 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof : ymddiried yn Nuw; canys etto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.
 

 

PSALM XLIII. Judica me, Deus.

BARN fi, O Dduw, a dadleu fy nadl yn erbyn y genhedlaeth annhrugarog : gwarred fi rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn.
    2 Canys ti yw Duw fy nerth; paham y’m bwri ymaith : paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn?
    3 Anfon dy oleuni a’th wirionedd; tywysant hwy fi : ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i’th bebyll.
    4 Yna’r af at allor Duw, at Dduw hyfrydwch fy ngorfoledd : a mi a’th foliannaf ar y delyn, O Dduw, fy Nuw.
    5 Paham y’th ddarostyngir, fy enaid? a phaham y terfysgi ynof: gobeithia yn Nuw; canys etto y moliannaf ef, sef iachawdwriaeth fy wyneb, a’m Duw.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM XLIV. Deus, auribus.

DUW, clywsom â’n clustiau, ein taclau a fynegasant i ni: y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt.
    2 Ti â’th law a yrraist allan y cenhedloedd, ac a’u plennaist hwythau : ti a ddrygaist y bobloedd, ac a u cynnyddaist hwythau.
    3 Canys nid â u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt : eithr dy ddeheulaw di, a’th fraich, a llewyrch dy wyneb, o herwydd i ti eu hoffi hwynt.
    4 Ti, Dduw, yw fy Mrenhin : gorchymyn iachawdwriaeth i Jacob.
    5 Ynot ti y cilgwthiwn ni ein gelynion : yn dy Enw di y sathrwn y rhai a gyfodant i’n herbyn.
    6 O herwydd nid yn fy mwa’r ymddiriedaf : nid fy nghleddyf chwaith a’m hachub.
    7 Eithr ti a’n hachubaist ni oddi wrth ein gwrthwynebwŷr : ac a waradwyddaist ein caseion.
    8 Yn Nuw yr ymffrostiwn drwy’r dydd : a ni a glodforwn dy Enw yn dragywydd.
    9 Ond ti a’n bwriaist ni ymaith, ac a’n gwaradwyddaist : ac nid wyt yn myned allan gyd â’n lluoedd.
    10 Gwnaethost i ni droi yn ol oddi wrth y gelyn : a’n caseion a anrheithiasant iddynt eu hun.
    11 Rhoddaist ni fel defaid i’w bwytta : a gwasgeraist ni ym mysg y cenhedloedd.
    12 Gwerthaist dy bobl heb elw : ac ni chwanegaist dy olud o’u gwerth hwynt.
    13 Gosodaist ni yn warthrudd i’n cymmydogion : yn watwargerdd ac yn wawd i’r rhai ydynt o’n hamgylch.
    14 Gosodaist ni yn ddïareb ym mysg y cenhedloedd : yn rhai i ysgwyd pen arnynt ym mysg y bobloedd.
    15 Fy ngwarthrudd sy beunydd ger fy mron : a chywilydd fy wyneb a’m todd;
    16 Gan lais y gwarthruddwr a’r cablwr: o herwydd y gelyn a’r ymddïalwr.
    17 Hyn oll a ddaeth arnom : etto ni’th anghofiasom di, ac ni buom anffyddlon yn dy gyfammod.
    18 Ni throdd ein calon yn ei hol : ac nid aeth ein cerddediad allan o’th lwybr di;
    19 Er i ti ein curo yn nhrigfa dreigiau : a thoi trosom â chysgod angau.
    20 Os anghofiasom Enw ein Duw : neu estyn ein dwylaw at dduw dïeithr;
    21 Oni chwilia Duw hyn allan : canys efe a ŵyr ddirgeloedd y galon.
    22 Ië, er dy fwyn di y’n lleddir beunydd : cyfrifir ni fel defaid i’w lladd.
    23 Deffro, paham y cysgi, O Arglwydd : cyfod, na· fwrw ni ymaith yn dragywydd.
    24 Paham y cuddi dy wyneb : ac yr anghofi ein cystudd a’n gorthrymder?
    25 Canys gostyngwyd ein henaid i’r llwch: glynodd ein bòl wrth y ddaear.
    26 Cyfod yn gynhorthwy i ni : a gwared ni er mwyn dy drugaredd.
 

Y 9 Dydd.

PSALM XLV. Eructavit cor meum.

TRAETHA fy nghalon beth da; dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenhin : fy nhafod sy bin ysgrifenydd buan.
    2 Teccach ydwyt nâ meibion dynion; tywalltwyd gras ar dy wefusau : o herwydd hynny y’th fendithiodd Duw yn dragywydd.
    3 Gwregysa dy gleddyf ar dy glun, O Gadarn : â’th ogoniant a’th harddwch.
    4 Ac yn dy harddwch marchoga yn llwyddiannus, o herwydd gwirionedd, a lledneisrwydd, a chyfiawnder : a’th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy.
    5 Pobl a syrthiant danat : o herwydd dy saethau llymion yn glynu ynghalon gelynion y Brenhin.
    6 Dy orsedd di, O Dduw, sy byth ac yn dragywydd: teyrnwïalen uniondeb yw teyrnwïalen dy frenhiniaeth di.
    7 Oeraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni : am hynny y’th enneiniodd Duw, sef dy Dduw di, âg olew llawenydd yn fwy nâ’th gyfeillion.
    8 Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o’r palasau ifori, â’r rhai y’th lawenhasant.
    9 Merched brenhinoedd oedd ym mhlith dy bendefigesau : safai’r frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Ophir.
    10 Gwrando, ferch, a gwel, a gostwng dy glust : ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad.
    11 A’r Brenhin a chwennych dy degwch : canys efe yw dy Ior di; ymostwng dithau iddo ef.
    12 Merch Tyrus hefyd fydd yno âg anrheg : a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb.
    13 Merch y Brenhin sydd oll yn ogoneddus o fewn : gemwaith aur yw ei gwisg hi.
    14 Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenhin : y morwynion y rhai a ddeuant ar ei hol, yn gyfeillesau iddi, a ddygir attat ti.
    15 Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt : deuant i lys y Brenhin.
    16 Dy feibion fydd yn lle dy dadau : y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir.
    17 Paraf gofio dy Enw ym mhob cenhedlaeth ac oes : am hynny y bobl a’th foliannant byth ac yn dragywydd.
 

 

PSALM XLVI. Deus noster refugium.

DUW sy noddfa a nerth i ni : cymmorth hawdd ei gael mewn cyfyngder.
    2 Am hynny nid ofnwn pe symmudai’r ddaear : a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr.
    3 Er rhuo a therfysgu o’i ddyfroedd: er crynu o’r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef.
    4 Y mae afon, a’i ffrydiau a lawenhânt ddinas Dduw: cyssegr preswylfeydd y Goruchaf.
    5 Duw sydd yn ei chanol; nid ysgog hi : Duw a’i cynorthwya yn fore iawn.
    6 Y cenhedloedd a derfysgasant, y teyrnasoedd a ysgogasant : efe a roddes ei lef, toddodd y ddaear.
    7 Y mae Arglwydd y lluoedd gyd â ni : y mae Duw Jacob yn amddiffynfa i ni.
    8 Deuwqh, gwelwch weithredoedd yr Arglwydd : pa anghyfannedd-dra a wnaeth efe ar y ddaear.
    9 Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear : efe a ddryllia’r bwa, ac a dyr y waywffon; efe a lysg y cerbydau â thân.
    10 Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sy Dduw: dyrchefir fi ym mysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear.
    11 Y mae Arglwydd y lluoedd gyd â ni : amddiffynfa i ni yw Duw Jacob.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM XLVII. Omnes gentes, plaudite.

YR holl bobl, curwch ddwylaw : llafar-genwch i Dduw â llef gorfoledd.
    2 Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy : Brenhin mawr ar yr holl ddaear.
    3 Efe a ddwg y bobl danom ni : a’r cenhedloedd dan ein traed.
    4 Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni : ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe.
    5 Dyrchafodd Duw â llawenfloedd : yr Arglwydd â sain udgorn.
    6 Cenwch fawl i Dduw, cennwch : cenwch fawl i’n Brenhin, cenwch.
    7 Canys Brenhin yr holl ddaear yw Duw: cenwch fawl yn ddeallus.
    8 Duw sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd : eistedd y mae Duw ar orseddfaingc ei sancteiddrwydd.
    9 Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghŷd, sef pobl Duw Abraham : canys tariannau y ddaear ydynt eiddo Duw: dirfawr y dyrchafwyd ef.
 

 

PSALM XLVIII. Magnus Dominus.

MAWR yw’r Arglwydd, a thra moliannus : yn ninas ein Duw ni, yn ei fynydd sanctaidd.
    2 Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear, yw mynydd Sïon : yn ystlysau’r gogledd, dinas y Brenhin mawr.
    3 Duw yn ei phalasau : a adwaenir yn amddiffynfa.
    4 Canys wele, y brenhinoedd a ymgynnullasant : aethant heibio ynghŷd.
    5 Hwy a welsant, felly y rhyfeddasant : brawychasant, ac aethant ymaith ar ffrwst.
    6 Dychryn a ddaeth arnynt yno : a dolur, megis gwraig yn esgor.
    7 A gwynt y dwyrain : y drylli longau’r môr.
    8 Megis y clywsom, felly y gwelsom yn ninas Arglwydd y lluoedd, yn ninas ein Duw ni : Duw a’i sicrhâ hi yn dragywydd.
    9 Meddyliasom, O Dduw, am dy drugaredd : ynghanol dy deml.
    10 Megis y mae dy Enw, O Dduw, felly y mae dy fawl hyd eithafoedd y tir : cyflawn o gyfiawnder yw dy ddeheulaw.
    11 Llawenyched mynydd Sïon, ac ymhyfryded merched Judah : o herwydd dy farnedigaethau.
    12 Amgylchwch Sïon, ac ewch o’i hamgylch hi : rhifwch ei thyrau hi.
    13 Ystyriwch ei rhagfuriau, edrychwch ar ei phalasau: fel y mynegoch i’r oes a ddelo ar ol.
    14 Canys y Duw hwn yw ein Duw ni byth ac yn dragywydd : efe a’n tywys ni hyd angau.
 

 

PSALM XLIX. Audite hœc, omnes.

CLYWCH hyn, yr holl bobloedd : gwrandewch hyn, holl drigolion y byd;
    2 Yn gystal gwreng a bonheddig : cyfoethog a thlawd ynghŷd.
    3 Fy ngenau a draetha ddoethineb : a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall.
    4 Gostyngaf fy nghlust at ddïareb : fv nammeg a ddatguddiaf gyd â’r delyn.
    5 Paham yr ofnaf yn amser adfyd : pan y’m hamgylchyno anwiredd fy sodlau?
    6 Rhai a ymddiriedant yn eu golud : ac a ymffrostiant yn llïosowgrwydd eu cyfoeth.
    7 Gan waredu ni wared neb ei frawd : ac ni all efe roddi iawn drosto i Dduw:
    8 (Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid : a hynny a baid byth:)
    9 Fel y byddo efe byw byth : ac na welo lygredigaeth.
    10 Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw : yr un ffunud y derfydd am ffol ac ynfyd; gadawant eu golud i eraill.
    11 Eu meddwl yw, y pery eu tai yn dragywydd, a’u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth : henwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain.
    12 Er hynny dyn mewn anrhydedd, nid erys : tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.
    13 Eu ffordd yma yw eu hynfydrwydd : etto eu hiliogaeth ydynt foddlon i’w hymadrodd.
    14 Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern; angau a ymborth arnynt; a’r rhai cyfiawn a lywodraetha arnynt y bore : a’u tegwch a dderfydd yn y bedd, o’u cartref.
    15 Etto Duw a wared fy enaid i o feddiant uffern : canys efe a’m derbyn i.
    16 Nac ofna pan gyfoethogo un : pan ychwanego gogoniant ei dŷ ef.
    17 Canys wrth farw ni dd wg efe ddim ymaith : ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ol ef.
    18 Er iddo yn ei fywyd fendithio ei enaid : canmolant dithau, o byddi da wrthyt dy hun.
    19 Efe a â at genhedlaeth ei dadau : ac ni welant oleuni byth.
    20 Dyn mewn anrhydedd, ac heb ddeall : sy gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir.
 

 
 

Psalmau 50-101; 102-150

Llyfr Gweddi Gyffredin

The Book of Common Prayer in Welsh

Web author: Charles Wohlers U. S. EnglandScotlandIrelandWalesCanadaWorld