The Book of Common Prayer
United States England Scotland Ireland Wales Canada World

   

Llyfr Gweddi Gyffredin
the Book of Common Prayer in Welsh


 

BOREOL WEDDI.

PSALM L. Deus deorum.

DUW y duwiau, sef yr Arglwydd, a lefarodd : ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad.
    2 Allan o Sïon, perffeithrwydd tegwch : y llewyrchodd Duw.
    3 Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymmestl ddirfawr fydd o’i amgylch.
    4 Geilw ar y nefoedd oddi uchod: ac ar y ddaear, i farnu ei bobl.
    5 Cesglwch fy saint ynghŷd attat fi : y rhai a wnaethant gyfammod â mi trwy aberth.
    6 A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef : canys Duw ei hun sy Farnwr.
    7 Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: Duw, sef dy Dduw di, ydwyf fi.
    8 Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boeth-offrymmau : am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.
    9 Ni chymmeraf fustach o’th dŷ : na bychod o’th gorlannau:
    10 Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi : a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd.
    11 Adwaen holl adar y mynyddoedd : a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi.
    12 Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti : canys y byd a’i gyflawnder sydd eiddof fi.
    13 A fwyttâf fi gig teirw : neu a yfaf fi waed bychod?
    14 Abertha foliant i Dduw : a thâl i’r Goruchaf dy addunedau.
    15 A galw arnaf fi yn nydd trallod : mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi.
    16 Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw : Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gyn1l11erech ar fy nghyfammod yn dy enau?
    17 Gan dy fod yn casâu addysg : ac yn taflu fy ngeiriau i’th ol.
    18 Pan welaist leidr, cyttunaist âg ef : a’th gyfran oedd gyd â’r godinebwŷr.
    19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni : a’th dafod a gydbletha ddichell.
    20 Eisteddaist, a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam.
    21 Hyn a wnaethost, a mi a dewais; tybiaist tithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun : ond mi a’th argyhoeddaf, ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid.
    22 Deallwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw: rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd.
    23 Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i : a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw.
 

Y 10 Dydd.
The 10th Day
Morning Prayer

PSALM LI. Miserere mei, Deus.

TRUGARHA wrthyf, O Dduw, yn ol dy drugarowgrwydd : yn ol llïaws dy dosturiaethau, dilea fy anwireddau.
    2 Golch fi yn llwyr-ddwys oddi wrth fy anwiredd: a glanhâ fi oddi wrth fy mhechod.
    3 Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau : a’m pechod sydd yn wastad ger fy mron.
    4 Yn dy erbyn di, dydi dy hunan, y pechais, ac y gwneuthum y drwg hwn yn dy olwg : fel y’th gyfiawnhâer pan leferych, ac y byddit bur pan farnech.
    5 Wele, mewn anwiredd y’m lluniwyd: ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.
    6 Wele, ceraist wirionedd oddi mewn : a pheri i mi wybod doethineb yn y dirgel.
    7 Glanhâ fi âg isop, a mi a lanhêir : golch fi, a byddaf wỳnnach nâ’r eira.
    8 Par i mi glywed gorfoledd a llawenydd : fel y llawenycho’r esgyrn a ddrylliaist.
    9 Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau : a dilea fy holl anwireddau.
    10 Crea galon lân ynof, O Dduw : ac adnewydda yspryd uniawn o’m mewn.
    11 Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron : ac na chymer dy Yspryd sanctaidd oddi wrthyf.
    12 Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth : ac â’th hael yspryd cynnal fi.
    13 Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir : a phechaduriaid a droir attat.
    14 Gwared fi oddi wrth waed, O Dduw, Duw fy iachawdwriaeth : a’m tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.
    15 Arglwydd, agor fy ngwefusau : a’m genau a fynega dy foliant.
    16 Canys ni chwennychi aberth; pe amgen, mi a’i rhoddwn : poeth-offrwm ni fynni.
    17 Aberthau Duw ydynt yspryd drylliedig : calon ddrylliog gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygi.
    18 Gwna ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Sïon : adeilada furiau Jerusalem.
    19 Yna y byddi foddlon i ebyrth cyfiawnder, i boethoffrwm ac aberth llosg : yna’r offrymmant fustych ar dy allor.
 

 

PSALM LII. Quid gloriaris?

PAHAM yr ymffrosti mewn drygioni, O gadarn : y mae trugaredd Duw yn parhâu yn wastadol.
    2 Dy dafod a ddychymmyg ysgelerder : fel ellyn llym, yn gwneuthur twyll.
    3 Hoffaist ddrygioni yn fwy nâ daioni: a chelwydd yn fwy nâ thraethu cyfiawnder.
    4 Hoffaist bob geiriau distryw : O dafod twyllodrus.
    5 Duw a’th ddistrywia dithau yn dragywydd : efe a’th gipia di ymaith, ac a’th dyn allan o’th babell, ac a’th ddiwreiddia o dir y rhai byw.
    6 Y cyfiawn hefyd a welant, ac a ofnant : ac a chwarddant am ei ben.
    7 Wele’r gwr ni osododd Dduw yn gadernid iddo: eithr ymddiriedodd yn llïosowgrwydd ei olud, ac a ymnerthodd yn ei ddrygioni.
    8 Ond myfi sy fel olewŷdden werdd yn nhŷ Dduw : ymddiriedaf yn nhrugaredd Duw byth ac yn dragywydd.
    9 Clodforaf di yn dragywydd, o herwydd i ti wneuthur hyn : a disgwyliaf wrth dy Enw; canys da yw ger bron dy saint.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM LIII. Dixit insipiens.

DYWEDODD yr ynfyd yn ei galon, Nid oes un Duw : Ymlygrasant, a gwnaethant ffiaidd anwiredd; nid oes un yn gwneuthur daioni.
    2 Edrychodd Duw i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion : i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio Duw.
    3 Ciliasai pob un o honynt yn ŵysg ei gefn; cyd-ymddifwynasent : nid oes a wnel ddaioni, nac oes un.
    4 Oni ŵyr gweithredwŷr anwiredd? y rhai sydd yn bwytta fy mhobl, fel y bwyttâent fara: ni alwasant ar Dduw.
    5 Yno’r ofnasant gan ofn, lle nid oedd ofn : canys Duw a wasgarodd esgyrn yr hwn a’th warchaeodd; gwaradwyddaist hwynt, am i Dduw eu dirmygu hwy.
    6 O na roddid iachawdwriaeth i Israel o Sïon : pan ymchwelo Duw gaethiwed ei bobl, y llawenycha Jacob, ac yr ymhyfryda Israel.
 

Evening Prayer

PSALM LIV. Deus, in nomine.

ACHUB fi, O Dduw, yn dy Enw : a barn fi yn dy gadernid.
   2 Duw, clyw fy ngweddi : gwrando ymadrodd fy ngenau:
    3 Canys dïeithriaid a gyfodasant i’m herbyn, a’r trawsion a geisiant fy enaid: ni osodasant Dduw o’u blaen.
    4 Wele, Duw sydd yn fy nghynnorthwyo : yr Arglwydd sydd ym mysg y rhai a gynhaliant fy enaid.
    5 Efe a dâl ddrwg i’m gelynion : tor hwynt ymaith yn dy wirionedd.
     6 Aberthaf i ti yn ewyllysgar : clodforaf dy Enw, O Arglwydd; canys da yw.
    7 Canys efe a’m gwaredodd o bob trallod : a’m llygad a welodd ei ewyllys ar fy ngelynion.
 

 

PSALM LV. Exaudi, Deus.

GWRANDO fy ngweddi, O Ddu w : ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad.
    2 Gwrando arnaf, ac erglyw fi : cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan;
    3 Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol : o herwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasâu yn llidiog.
    4 Fy nghalon a ofidia o’m mewn : ac ofn angau a syrthiodd arnaf.
    5 Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf : a dychryn a’m gorchuddiodd.
    6 A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colommen : yna’r ehed wn ymaith, ac y gorphwyswn.
    7 Wele, crwydrwn ym mhell : ac arhoswn yn yr anialwch.
    8 Brysiwn i ddi’angc : rhag y gwynt ystormus a’r dymmestl.
    9 Dinystria, O Arglwydd, a gwahan eu tafodau : canys gwelais drawsder a chynnen yn y ddinas.
    10 Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau : ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi.
    11 Anwireddau sydd yn ei chanol hi : ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi.
    12 Canys nid gelyn a’m difenwodd; yna y dïoddefaswn : nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef.
    13 Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd : fy fforddwr, a’m cydnabod,
    14 y rhai oedd felus gennym gyd-gyfrinachu : ac a rodiasom i d? Dduw yngh?d.
    15 Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynant i uffern yn fyw : canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.
    16 Myfi a waeddaf ar Dduw: a’r Arglwydd a’m hachub i.
    17 Hwyr a bore, a hanner dydd, y gweddïaf, a byddaf daer : ac efe a glyw fy lleferydd.
    18 Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfeloedd i’m herbyn : canys yr oedd llawer gyd â mi.
    19 Duw a glyw, ac a’u darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros eriôed : am nad oes gyfnewidiau iddynt, am hynny nid ofnant Dduw.
    20 Efe a estynodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon âg ef : efe a dorrodd ei gyfammod.
    21 Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei i galon : tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion.
    22 Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac efe a’th gynnal di : ni ad i’r cyflawn ysgogi byth.
    23 Tithau, Dduw, a’u disgyni hwynt i bydew dinystr : gw?r gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau; ond myfi a obeithiaf ynot ti.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM LVI. Miserere mei, Deus.

TRUGARHA wrthyf, O Dduw; canys dyn a’m llyngcai : beunydd, gan ymladd, y’m gorthrymma.
    2 Beunydd y’m llyngcai fy ngelynion : canys llawer sydd yn rhyfela i’m herbyn, O Dduw goruchaf.
    3 Y dydd yr ofnwyf : mi a ymddiriedaf ynot ti.
    4 Yn Nuw y clodforaf ei air, yn Nuw y gobeithiaf: nid ofnaf beth a wnel cnawd i mi.
    5 Beunydd y camant fy ngeiriau : eu holl feddyliau sydd i’m herbyn er drwg.
    6 Hwy a ymgasglant, a lechant: ac a wyliant fy nghamrau, pan ddisgwyliant am fy enaid.
    7 A ddïangant hwy trwy anwiredd : disgyn y bobloedd hyn, O Dduw, yn dy lidiowgrwydd.
    8 Ti a gyfrifaist fy symmudiadau; dod fy nagrau yn dy gostrel : onid ydynt yn dy lyfr di?
    9 Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol : hyn a wn, am fod Duw gyd â mi.
    10 Yn Nuw y moliannaf ei air : yn yr Arglwydd y moliannaf ei air.
    11 Yn Nuw yr ymddiriedais: nid ofnaf beth a wnel dyn i mi.
    12 Arnaf fi, O Dduw, y mae dy addunedau: talaf i ti foliant.
    13 Canys gwaredaist fy enaid rhag angau : oni waredi fy nhraed rhag syrthio, fel y rhodiwyf ger bron Duw yngoleuni y rhai byw?
 

Yr 11 Dydd.

PSALM LVII. Miserere mei, Deus.

TRUGARHA wrthyf, O Dduw, trugarhâ wrthyf; canys ynot y gobeithiodd fy enaid : ïe, ynghysgod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid el yr aflwydd hwn heibio.
    2 Galwaf ar Dduw goruchaf : ar Dduw a gwblhâ â mi.
    3 Efe a enfyn o’r nefoedd, ac a’m gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a’m llyngcai: Denfyn Duw ei drugaredd a’i wirionedd.
    4 Fy enaid sydd ym mysg llewod; gorwedd yr wyf ym mysg dynion poethion : sef meibion dynion, y rhai y mae eu dannedd yn waywffyn a saethau, a’u tafod yn gleddyf llym.
    5 Ymddyrcha, Dduw, uwch y nefoedd : a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.
    6 Darparasant rwyd i’m traed; crymmwyd fy enaid : cloddiasant bydew o’m blaen; syrthiasant yn ei ganol.
    7 Parod yw fy nghalon, O Dduw, parod yw fy nghalon: canaf a chanmolaf.
    8 Deffro, fy ngogoniant; deffro, nabl a thelyn : deffroaf yn fore.
    9 Clodforaf di, Arglwydd, ym mysg y bobloedd : canmolaf di ym mysg y cenhedloedd.
    10 Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd : a’th wirionedd hyd y cymmylau.
    11 Ymddyrcha, Dduw, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.
 

 

PSALM LVIII. Si vere utique.

AI cyfiawnder yn ddïau a draethwch chwi, O gynnulleidfa : a fernwch chwi uniondeb, O feibion dynion?
    2 Anwiredd yn hytrach a weithredwch yn y galon: trawsder eich dwylaw yr ydych yn ei bwyso ar y ddaear.
    3 O’r groth yr ymddïeithriodd y rhai annuwiol: o’r bru y cyfeiliornasant, gan ddywedyd celwydd.
    4 Eu gwenwyn sy fel gwenwyn sarph : y maent fel y neidr fyddar yr hon a gau ei chlustiau;
    5 Yr hon ni wrendy ar lais y rhinw?r : er cyfarwydded fyddo’r swynwr.
    6 Dryllia, O Dduw, eu dannedd yn eu geneuau : tor, O Arglwydd, gil-ddannedd y llewod ienaingc.
    7 Todder hwynt fel dyfroedd sydd yn rhedeg yn wastad : pan saetho eu saethau, byddant megis wedi eu torri.
    8 Aed ymaith fel malwoden dawdd, neu erthyl gwraig : fel na welont yr haul.
    9 Cyn i’ch crochanau glywed y mïeri, efe a’u cymmer hwynt ymaith megis â chorwynt, yn fyw, ac yn ei ddigofaint.
    10 Y cyfiawn a lawenycha pan welo ddïal : efe a ylch ei draed yngwâed yr annuwiol.
    11 Fel y dywedo dyn, Dïau fod ffrwyth i’r cyfiawn : dïau fod Duw a farna ar y ddaear.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM LIX. Eripe me de inimicis.

FY Nuw, gwared fi oddi wrth fy ngelynion : amddiffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant i’m herbyn.
    2 Gwared fi oddi wrth weithredw?r anwiredd : ac. achub fi rhag y gw?r gwaedlyd.
    3 Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid; ymgasglodd cedyrn i’m herbyn : nid ar fy mai na’m pechod i, O Arglwydd.
    4 Rhedant, ymbarottoant, heb anwiredd ynof fi : deffro dithau i’m cymmorth, ac edrych.
    5 A thi, Arglwydd Dduw’r lluoedd, Duw Israel, deffro i ymweled â’r holl genhedloedd : na thrugarhâ wrth neb a wnant anwiredd yn faleisus.
    6 Dychwelant gyd â’r hwyr: cyfarthant fel cwn, ac amgylchant y ddinas.
    7 Wele, bytheiriant â’u gennau; cleddyfau sydd yn eu gwefusau : canys pwy, meddant, a glyw?
    8 Ond tydi, O Arglwydd, a’u gwatwari hwynt : ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.
    9 O herwydd ei nerth ef, y disgwyliaf wrthyt ti : canys Duw yw fy amddiffynfa.
    10 Fy Nuw trugarog a’m rhag-flaena: Duw a wna i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion.
    11 Na ladd hwynt, rhag i’m pobl anghofio: gwasgar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, O Arglwydd ein tarian.
    12 Am bechod eu genau, ac ymadrodd eu gwefusau, dalier hwynt yn eu balchder : ac am y felldith a’r celwydd a draethant.
    13 Difa hwynt yn dy lid, difa, fel na byddont : a gwybyddant mai Duw sydd yn llywodraethu yn Jacob, hyd eithafoedd y ddaear.
    14 A dychwelant gyd â’r hwyr, a chyfarthant fel cwn : ac amgylchant y ddinas.
    15 Crwydrant am fwyd : ac oni’s digonir, grwgnachant.
    16 Minnau a ganaf am dy nerth, le, llafar-ganaf am dy drugaredd yn fore : canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfu yn y dydd y bu cyfyngder arnaf.
    17 I ti, fy nerth, y canaf : canys Duw yw fy amddiffynfa, a Duw fy nhrugaredd.
 

 

PSALM LX. Deus, repulisti nos.

O DDUW, bwriaist ni ymaith, gwasgeraist ni, a sorraist : dychwel attom drachefn.
    2 Gwnaethost i’r ddaear grynu, a holltaist hi : iachâ ei briwiau; canys y mae yn crynu.
    3 Dangosaist i’th bobl galedi : dlodaist ni â gwin madrondod.
    4 Rhoddaist faner i’r rhai a’th ofnant : i’w dyrchafu o herwydd y gwirionedd.
    5 Fel y gwareder dy rai anwyl : achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi.
    6 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem : a mesuraf ddyffryn Succoth.
    7 Eiddof fi yw Gilead, ac eiddof fi Manasseh : Ephraim hefyd yw nerth fy mhen; Judah yw fy neddfwr.
    8 Moab yw fy nghrochan golchi : dros Edom y bwriaf fy esgid; Philistia, ymorfoledda di o’m plegid i.
    9 Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn : pwy a’m harwain hyd yn Edom?
    10 Onid tydi, Dduw, yr hwn a’n bwriaist ymaith : a thydi, O Dduw, yr hwn nid ait allan gyd â’n lluoedd?
    11 Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder : canys ofer yw ymwared dyn.
    12 Yn Nuw y gwnawn wroldeb : canys efe a sathr ein gelynion.
 

 

PSALM LXI. Exaudi, Deus.

CLYW, O Dduw, fy llefain : gwrando ar fy ngweddi.
   2 O eithaf y ddaear y llefaf attat, pan lesmeirio fy nghalon : arwain fi i graig a fyddo uwch nâ mi.
    3 Canys buost yn noddfa i mi : ac yn d?r cadarn rhag y gelyn.
    4 Preswyliaf yn dy babell byth: a’m hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd.
    5 Canys ti, Dduw, a glywaist fy addunedau : rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy Enw.
    6 Ti a estyni oes y Brenhin : ei flynyddoedd fyddant fel cenhedlaethau lawer.
    7 Efe a erys byth ger bron Duw : darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef.
    8 Felly y canmolaf dy Enw yn dragywydd : fel y tal wyf fy addunedau beunydd.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM LXII. Nonne Deo?

WRTH Dduw yn unig y disgwyl fy enaid : o hono ef y daw fy iachawdwriaeth.
    2 Efe yn unig yw fy nghraig, a’m hiachawdwriaeth : a’m hamddiffyn ; ni’m mawr ysgogir.
    3 Pa hŷd y bwriedwch aflwydd yn erbyn gwr? lleddir chwi oll : a byddwch fel magwyr ogwyddedig, neu bared ar ei ogwydd.
    4 Ymgynghorasant yn unig i’w fwrw ef i lawr o’i fawredd; hoffasant gelwydd : â’u geneuau y bendithiant, ond o’u mewn y melldithiant.
    5 O fy enaid, disgwyl wrth Dduw yn unig : canys ynddo ef y mae fy ngobaith.
    6 Efe yn unig yw fy nghraig, a’m hiachawdwriaeth : efe yw fy amddiffynfa; ni’m hysgogir.
    7 Yn Nuw y mae fy iachawdwriaeth a’m gogoniant : craig fy nghadernid, a’m noddfa sydd yn Nuw.
    8 Gobeithiwch ynddo ef bob amser; O bobl, tywelltwch eich calon ger ei fron ef : Duw sy noddfa i ni.
    9 Gwagedd yn ddïau yw meibion dynion, geudab yw meibion gwŷr : i’w gosod yn y clorian, ysgafnach ydynt hwy i gyd nâ gwegi.
    10 Nac ymddiriedwch mewn trawsder, ac mewn trais na fyddwch ofer : os cynnydda golud, na roddwch eich calon arno.
    11 Unwaith y dywedodd Duw, clywais hynny ddwywaith : mai eiddo Duw yw cadernid.
    12 Trugaredd hefyd sydd eiddot ti, O Arglwydd : canys ti a deli i bob dyn yn ol ei weithred.
 

Y 12 Dydd.

PSALM LXIII. Deus, Deus meus.

TI, O Dduw, yw fy Nuw i; yn fore y’th geisiaf : sychedodd fy enaid am danat, hiraethodd fy nghnawd am danat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr;
    2 I weled dy nerth a’th ogoniant : fel y’th welais yn y cyssegr.
    3 Canys gwell yw dy drugaredd di nâ’r bywyd : fy ngwefusau a’th foliannant.
    4 Fel hyn y’th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylaw yn dy Enw.
    5 Megis â mer ac â brasder y digonir fy enaid : a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar.
    6 Pan y’th gofiwyf ar fy ngwely : myfyriaf am danat yngwyliadwriaethau’r nos.
    7 Canys buost gynhorthwy i mi : am hynny ynghysgod dy adenydd y gorfoleddaf.
    8 Fy enaid a l?n wrthyt : dy ddeheulaw a’m cynnal.
    9 Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw: a ant i iselderau’r ddaear.
    10 Syrthiant ar fin y cleddyf : rhan llwynogod fyddant.
    11 Ond y Brenhin a lawenycha yn Nuw; gorfoledda pob un a dyngo iddo ef : eithr cauir genau y rhai a ddywedant gelwydd.
 

 

PSALM LXIV. Exaudi, Deus.

CLYW fy llef, O Dduw, yn fy ngweddi: cadw fy einioes rhag ofn y gelyn.
    2 Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus : rhag terfysg gweithredw?r anwiredd;
    3 Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf: ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon;
    4 I saethu’r perffaith yn ddirgel : yn ddisymmwth y saethant ef, ac nid ofnant.
    5 Ymwrolant mewn peth drygionus; ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel: dywedant, Pwy a’u gwel hwynt?
    6 Chwiliant allan anwireddau; gorphenant ddyfal chwilio : ceudod a chalon pob un o honynt sy ddofn.
    7 Eithr Duw a’u saetha hwynt: â saeth ddisymmwth yr archollir hwynt.
    8 Felly hwy a wnant i’w tafodau eu hun syrthio arnynt : pob un a’u gwelo, a gilia:
    9 A phob dyn a ofna, ac a fynega waith Duw : canys doeth-ystyriant ei waith ef.
    10 Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd, ac a obeithia ynddo : a’r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM LXV. Te decet hymnus.

MAWL a’th erys di yn Sïon, O Dduw: ac i ti y telir yr adduned.
    2 Ti yr hwn a wrandewi weddi : attat ti y daw pob cnawd.
    3 Pethau anwir a’m gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhêi.
    4 Gwỳn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesâech attat; fel y trigo yn dy gynteddoedd : nyni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd.
    5 Attebi i ni trwy bethau ofnadwy yn dy gyfiawnder, O Dduw ein hiachawdwriaeth : gobaith holl gyrrau’r ddaear, a’r rhai sy bell ar y môr.
    6 Yr hwn a sicrhâ’r mynyddoedd trwy ei nerth : ac a wregysir â chadernid.
    7 Yr hwn a ostega dwrf y moroedd : twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd.
    8 A phreswylwŷr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion : gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu.
    9 Yr wyt yn ymweled â’r ddaear, ac yn ei dyfrhâu hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr âg afon Duw, yr hon sydd yn llawn dwfr : yr wyt yn parottôi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi.
    10 Gan ddyfrhâu ei chefnau, a gostwng ei rhychau : yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi.
    11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni: a’th lwybrrau a ddiferant frasder.
    12 Diferant ar borfeydd yr anialwch : a’r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch.
    13 Y dolydd a wisgir â defaid, a’r dyffrynoedd a orchuddir âg ŷd : am hynny y bloeddiant, ac y canant.
 

 

PSALM LXVI. Jubilate Deo.

LLAWEN-floeddiwch i Dduw : yr holl ddaear.
   2 Datgenwch ogoniant ei Enw : gwnewch ei foliant yn ogoneddus.
    3 Dywedwch wrth Dduw, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd : o herwydd maint dy nerth y cymmer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti.
    4 Yr holl ddaear a’th addolant di : ac a ganant i ti, ïe, canant i’th Enw.
    5 Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw : ofnadwy yw yn ei weithred tu ag at feibion dynion.
    6 Trodd efe’r môr yn sychdir : aethant trwy’r afon ar draed; yna y llawenychasom ynddo.
    7 Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd : nac ymddyrchafed y rhai anufudd.
    8 O bobloedd, bendithiwch ein Duw: a pherwch glywed llais ei fawl ef:
    9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd : ac ni ad i’n troed lithro.
    10 Canys profaist ni, O Dduw: coethaist ni, fol coethi arian.
    11 Dygaist ni i’r rhwyd: gosodaist wasgfa ar ein llwynau.
    12 Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau: aethom trwy’r tân a’r dwfr; a thi a’n dygaist allan i le diwall.
    13 Deuaf i’th dŷ âg offrymmau poeth : talaf i ti fy addunedau,
    14 Y rhai a adroddodd fy ngwefusau : ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder.
    15 Offrymmaf i ti boeth-offrymmau breision, yngh-offŷd âg arogl-darth hyrddod : aberthaf ychen a bychod.
    16 Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch Dduw : a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i’m henaid.
    17 Llefais arno â’m gennau : ac efe a ddyrchafwyd â’m tafod.
    18 Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon : ni wrandawsai’r Arglwydd.
    19 Duw yn ddïau a glybu : ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi.
    20 Bendigedig fyddo Duw, yr hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho : na’i drugaredd ef oddi wrthyf finnau.
 

 

PSALM LXVII. Deus misereatur.

DUW a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio : a thywynned ei wyneb arnom:
    2 Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear: a’th iachawdwriaeth ym mhlith yr holl genhedloedd.
    3 Molianned y bobl di, O Dduw : molianned yr holl bobl dydi.
    4 Llawenhâed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni’r bobl yn uniawn, ac a lywodraethi’r cenhedloedd ar y ddaear.
    5 Molianned y bobl di, O Dduw : molianned yr holl bobl dydi.
    6 Yna’r ddaear a rydd ei ffrwyth : a Duw, sef ein Duw ni, a’n bendithia.
    7 Duw a’n bendithia: a holl derfynau’r ddaear a’i hofnant ef.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM LXVIII. Exurgat Deus.

CYFODED Duw, gwasgarer ei elynion : a ffõed ei gaseion o’i flaen ef.
    2 Chweli hwynt fel chwalu mwg: fel y tawdd cwyr wrth y tân, difether y rhai annuwiol o flaen Duw.
    3 Ond llawenycher y rhai cyfiawn, a gorfoleddant ger bron Duw : a byddant hyfryd o lawenydd.
    4 Cenwch i Dduw, canmolwch ei enw : dyrchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd, a’i Enw yn JAH, a gorfoleddwch ger ei fron ef.
    5 Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon yw Duw : yn ei breswylfa sanctaidd.
    6 Duw sydd yn gosod yr unig mewn teulu; yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau : ond y rhai cyndyn a breswyliant gras-dir.
    7 Pan aethost, O Dduw, o flaen dy bobl : pan. gerddaist trwy’r anialwch;
    8 Y ddaear a grynodd, a’r nefoedd a ddiferasant o flaen Duw : Sinai yntau a grynodd o flaen Duw, sef Duw Israel.
    9 Dyhidlaist wlaw graslawn, O Dduw, ar dy etifeddiaeth: ti a’i gwrteithiaist wedi ei blino.
    10 Dy gynnulleidfa di sydd yn trigo ynddi : yn dy ddaioni, O Dduw, yr wyt yn darparu i’r tlawd.
    11 Yr Arglwydd a roddes y gair : mawr oedd mintai y rhai a’i pregethent.
    12 Brenhinoedd byddinog a ffoisant ar ffrwst : a’r hon a drigodd yn tŷ, a rannodd yr yspail.
    13 Er gorwedd o honoch ym mysg y crochanau: byddwch fel esgyll colommen wedi eu gwisgo âg arian, a’i hadenydd âg aur melyn.
    14 Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd ynddi : yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon.
    15 Mynydd Duw sy fel mynydd Basan : yn fynydd cribog fel mynydd Basan.
    16 Paham y llemmwch, chwi fynyddoedd cribog? dyma’r mynydd a chwennychodd Duw ei breswylio : le, preswylia’r Arglwydd ynddo byth.
    17 Cerbydau Duw ydynt ugain mil, sef miloedd o angylion : yr Arglwydd sydd yn eu plith, megis yn Sinai yn y cyssegr.
    18 Dyrchefaist i’r uchelder, caethgludaist gaethiwed: derbyniaist roddion i ddynion; le, i’r rhai cyndyn hefyd, fel y preswyliai’r Arglwydd Dduw yn eu plith.
    19 Bendigedig fyddo’r Arglwydd, yr hwn a’n llwytha beunydd â daioni : sef Duw ein hiachawdwriaeth.
    20 Ein Duw ni sy Dduw iachawdwriaeth : ac i’r Arglwydd Dduw y perthyn. dïangfaau rhag marwolaeth.
    21 Duw yn ddïau a archolla ben ei elynion : a choppa walltog yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau.
    22 Dywedodd yr Arglwydd, Dygaf fy mhobl drachefn o Basan : dygaf hwynt drachefn o ddyfnder y môr:
    23 Fel y trocher dy droed yngwâed dy elynion : a thafod dy gŵn yn yr unrhyw.
    24 Gwelsant dy fynediad, O Dduw: mynediad fy Nuw, fy Mrenhin, yn y cyssegr.
    25 Y cantorion a aethant o’r blaen, a’r cerddorion ar ol : yn eu mysg yr oedd y llangcesau yn canu tympanau.
    26 Bendithiwch Dduw yn y cynnulleidfaoedd : sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel.
    27 Yno y mae Benjamin fychan â’u llywydd, tywysogion Judah â’u cynnulleidfa : tywysogion Zabulon, a thywysogion Naphthali.
    28 Dy Dduw a orchymynodd dy nerth: cadarnhâ, O Dduw, yr hyn a wnaethost ynom ni.
    29 Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg: er mwyn dy deml yn Jerusalem.
    30 Cerydda dyrfa’r gwaywffyn, cynnulleidfa y gwrdd deirw, gyd â lloi’r bobl, fel y delont yn ostyngedig â darnau arian : gwasgar y bobl sy dda ganddynt ryfel.
    31 Pendefigion a ddeuant o’r Aipht : Ethiopia a estyn ei dwylaw’n brysur at Dduw.
    32 Teyrnasoedd y ddaear, cenwch i Dduw : canmolwch yr Arglwydd,
    33 Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd, y rhai oedd eriôed : wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef nerthol.
    34 Rhoddwch i Dduw gadernid : ei oruchelder sydd ar Israel, a’i nerth yn yr wybrennau.
    35 Ofnadwy wyt, O Dduw, o’th gyssegr : Duw Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i’r bobl. Bendigedig fyddo Duw.
 

Y 13 Dydd.

PRYDNRAWNOL WEDDI.

PSALM LXIX. Salvum me fac.

ACHUB fi, O Dduw : canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid.
    2 Soddais mewn tom dwfn, lle nid oes sefyllfa: daethum i ddyfnder dyfroedd, a’r ffrwd a lifodd drosof.
    3 Blinais yn llefain, sychodd fy ngheg, pallodd fy llygaid : tra’r ydwyf yn disgwyl wrth fy Nuw.
    4 Amlach nâ gwallt fy mhen yw y rhai a’m casânt heb achos : cedyrn yw fy ngelynion dïachos, y rhai a’m difethent; yna y telais yr hyn ni chymmerais.
    5 O Dduw, ti a adwaenost fy ynfydrwydd : ac nid yw fy nghamweddau guddiedig rhagot.
    6 Na chywilyddier o’m plegid i y rhai a obeithiant ynot ti, Arglwydd Dduw y lluoedd : na waradwydder o’m plegid i y rhai a’th geisiant di, O Dduw Israel.
    7 Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd : ac y todd cywilydd fy wyneb.
    8 Aethum yn ddïeithr i’m brodyr : ac fel estron gan blant fy mam.
    9 Canys zel dy dŷ a’m hysodd: a gwaradwyddiad y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiodd arnaf fi.
    10 Pan wylais, gan gystuddio fy enaid âg ympryd : bu hynny yn waradwydd i mi.
    11 Gwisgais hefyd sachlïain : ac aethum yn ddïareb iddynt.
    12 Yn fy erbyn y chwedleuai y rhai a eisteddent yn y porth : ac i’r meddwon yr oeddwn yn wawd.
    13 Ond myfi, fy ngweddi sydd attat ti, O Arglwydd, mewn amser cymmeradwy : O Dduw, yn llïsowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yngwirionedd dy iachawdwriaeth.
    14 Gwared fi o’r dom, ac na soddwyf : gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o’r dyfroedd dyfnion.
    15 Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lyngced y dyfnder fi : na chaued y pydew chwaith ei safn arnaf.
    16 Clyw fi, Arglwydd; canys da yw dy drugaredd: yn ol l1la’ws dy dosturiaethau edrych arnaf.
    17 Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was; canys y mae cyfyngder arnaf : brysia, gwrando fi.
    18 Nesâ at fy enaid, a gwarred ef : achub fi o herwydd fy ngelynion.
    19 Ti a adwaenost fy ngwarthrudd, a’m cywilydd, a’m gwaradwydd : fy holl elynion ydynt ger dy fron di.
    20 Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon; yr ydwyf mewn goffid : a disgwyliais am rai i dosturio wrthyf, ac nid oedd neb; ac am gysurwŷr, ac ni chefais neb.
    21 Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd : ac a’m dïodasant yn fy syched â finegr.
    22 Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron : a’u llwyddiant yn dramgwydd.
    23 Tywyller eu llygaid, fel na welont: a gwna i’w llwynau grynu bob amser.
    24 Tywallt dy ddig arnynt : a chyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt.
    25 Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd : ac na fydded a drigo yn eu pebyll.
    26 Canys erlidiasant yr hwn a darawsit ti : ac am ofid y rhai a archollaist ti, y chwedleuant.
    27 Dod di anwiredd at eu hanwiredd hwynt: ac na ddelont i’th gyfiawnder di.
    28 Dilëer hwynt o lyfr y rhai byw : ac na ysgrifener hwynt gyd â’r rhai cyfiawn.
    29 Minnau, truan a gofidus ydwyf: dy iachawdwriaeth di, O Dduw, a’m dyrchafo.
    30 Moliannaf Enw Duw ar gân : a mawrygaf ef mewn mawl.
    31 A hyn fydd well gan yr Arglwydd : nag ŷch neu fustach corniog, carnol.
    32 Y trueiniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch Dduw, a fydd byw.
    33 Canys gwrendy’r Arglwydd ar dlodion : ac ni ddïystyra efe ei garcharorion.
    34 Nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll a ymlusgo ynddo : molant ef.
    35 Canys Duw a achub Sïon, ac a adeilada ddinasoedd Judah : fel y trigont yno, ac y meddiannont hi.
    36 A hiliogaeth ei weision a’i meddiannant hi : a’r rhai a hoffant ei Enw ef, a breswyliant ynddi.
 

 

PSALM LXX. Deus in adjutorium.

O DDUW, prysura i’m gwaredu : brysia, Arglwydd, i’m cymmorth.
    2 Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid : troer yn eu hol a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi.
    3 Dattröer yn lle gwobr am eu cywilydd: y rhai a ddywedant, Ha, ha.
    4 Llawenyched a gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant : a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad, Mawryger Duw.
    5 Minnau ydwyf dlawd ac anghenus; O Dduw, brysia attaf : fy nghymmorth a’m gwaredydd ydwyt ti, O Arglwydd; na hir drig.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM LXXI. In te, Domine, speravi.

YNOT ti, O Arglwydd, y gobeithiais : na’m cywilyddier byth.
   2 Achub fi, a gwared fi yn dy gyfiawnder : gostwng dy glust attaf, ac achub fi.
    3 Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser : gorchymynaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a’m hamddiffynfa.
    4 Gwared fi, O fy Nuw, o law’r annuwiol: o law’r anghyfion a’r traws.
    5 Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd Dduw : fy ymddiried o’m hieuengctid.
    6 Wrthyt ti y’m cynhaliwyd o’r bru : ti a’m tynnaist o groth fy mam; fy mawl fydd yn wastad am danat ti.
    7 Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod : eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.
    8 Llanwer fy ngenau â’th foliant : ac â’th ogoniant beunydd.
    9 Na fwrw fi ymaith yn amser henaint : na wrthod fi pan ballo fy nerth.
    10 Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i’m herbyn : a’r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gyd-ymgynghorant,
    11 Gan ddywedyd, Duw a’i gwrthododd ef; erlidiwch a deliwch ef : canys nid oes gwaredydd.
    12 O Dduw, na fydd bell oddi wrthyf : fy Nuw, brysia i’m cymmorth.
    13 Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid : â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.
    14 Minnau a obeithiaf yn wastad : ac a’th foliannaf di fwyfwy.
    15 Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a’th iachawdwriaeth beunydd : canys ni wn rifedi arnynt.
    16 Ynghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi.
    17 O’m hieuengctid y’m dysgaist, O Dduw : hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.
    18 Na wrthod fi chwaith, O Dduw, mewn henaint a phenllwydni : hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth hon, a’th gadernid i bob un a ddelo.
    19 Dy gyfiawnder hefyd, O Dduw, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion : pwy, O Dduw, sy debyg i ti?
    20 Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau : a’m bywhei drachefn, ac a’m cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaear.
    21 Amlhêi fy mawredd : ac a’m cysuri oddi amgylch.
    22 Minnau a’th foliannaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd, O fy Nuw : canaf i ti â’r delyn, O Sanct Israel.
    23 Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti : a’m henaid, yr hwn a waredaist.
    24 Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd: o herwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a geisiant niweid i mi.
 

Y 14 Dydd.

PSALM LXXII. Deus, judicium.

O DDUW, dod i’r Brenhin dy farnedigaethau: ac i fab y Brenhin dy gyfiawnder.
    2 Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder : a’th drueiniaid â barn.
    3 y mynyddoedd a ddygant heddwch i’r bobl : a’r bryniau, trwy gyfiawnder.
    4 Efe a farn drueiniaid y bobl : efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia’r gorthrymmydd.
    5 Tra fyddo haul a lleuad y’th ofnant : yn oes oesoedd.
    6 Efe a ddisgyn fel gwlaw ar gnu gwlan : fel cawodydd yn dyfrhâu’r ddaear.
    7 Yn ei ddyddiau ef y blodeua’r cyfiawn : ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad.
    8 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr : ac o’r afon hyd derfynau y ddaear.
    9 O’i flaen ef yr ymgrymma trigolion yr anialwch: a’i elynion a lyfant y llwch.
    10 Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg : brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd.
    11 Ië, yr holl frenhinoedd a ymgrymmant iddo : yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef.
    12 Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo : y truan hefyd, a’r hwn ni byddo cynnorthwywr iddo.
    13 Efe a arbed y tlawd a’r i rheidus : ac a achub eneidiau y rhai anghenus.
    14 Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawsder : a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef.
    15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba : gweddïant hefyd drosto ef yn wastad; beunydd y clodforir ef.
    16 Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd; ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus : a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear.
    17 Ei Enw fydd yn dragywydd; ei Enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo : yr holl genhedloedd a’i galwant yn wỳntydedig.
    18 Bendigedig fyddo’r Arglwydd Dduw, Duw Israel : yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau.
    19 Bendigedig hefyd fyddo ei Enw gogoneddus ef yn dragywydd : a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. Amen, ac Amen.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM LXXIII. Quam bonus Israel!

YN ddïau da yw Duw i Israel : sef i’r rhai glân o galon.
   2 Minnau, braidd na lithrodd fy nhraed : prin na thripiodd fy ngherddediad.
    3 Canys cynfigennais wrth y rhai ynfyd: pan welais lwyddiant y rhai annuwiol.
    4 Canys nid oes rwymau yn eu marwolaeth : a’u cryfder sydd heini.
    5 Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill : ac ni ddïaleddir arnynt hwy gyd â dynion eraill.
    6 Am hynny y cadwynodd balchder hwynt : ac y gwisg trawsder am danynt fel dilledyn.
    7 Eu llygaid a saif allan gan frasder : aethant dros feddwl calon o gyfoeth.
    8 Y maent wedi llygru, yn chwedleua’n ddrygionus am drawsder : yn dywedyd yn uchel.
    9 Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd : a’u tafod a gerdd trwy’r ddaear.
    10 Am hynny y dychwel ei bobl ef yma : ac y gwesgir iddynt ddwfr phïol lawn.
    11 Dywedant hefyd, Pa fodd y gŵyr Duw : a oes gwybodaeth gan y Goruchaf?
    12 Wele, dyma y rhai annuwiol, a’r rhai sy lwyddiannus yn y byd : ac a amlhasant olud.
    13 Dïau mai yn ofer y glanheais fy nghalon : ac y golchais fy nwylaw mewn diniweidrwydd.
    14 Canys ar hŷd y dydd y’m maeddwyd : fy ngherydd a ddeuai bob bore.
    15 Os dywedwn, Mynegaf fel hyn : wele, â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam.
    16 Pan amcenais wybod hyn : blin oedd hynny yn fy ngolwg i;
    17 Hyd onid aethum i gyssegr Duw: yna y deallais eu diwedd hwynt.
    18 Dïau osod o honot hwynt mewn llithrigfa : a chwympo o honot hwynt i ddinystr.
    19 Mor ddisymmwth yr aethant yn anghyfannedd : pallasant, a darfuant gan ofn.
    20 Fel breuddwyd wrth ddihuno un : felly, O Arglwydd, pan ddetfrôech, y dirmygi eu gwedd hwynt.
    21 Fel hyn y gofidiodd fy nghalon : ac y’m pigwyd yn fy arennau.
    22 Mor ynfyd oeddwn, ac heb wybod : anifail oeddwn o’th flaen di.
    23 Etto yr ydwyf yn wastad gyd â thi : ymaflaist yn fy llawddehau.
    24 A’th gyngor y’m harweini : ac wedi hynny y’m cymmeri i ogoniant.
    25 Pwy sy gennyf fi yn y nefoedd ond tydi : ac ni ewyllysiais ar y ddaear neb gyd â thydi.
    26 Pallodd fy nghnawd a’m calon : ond nerth fy nghalon a’m rhan yw Duw yn dragywydd.
    27 Canys wele, difethir y rhai a bellhânt oddi wrthyt : torraist ymaith bob un a butteinio oddi wrthyt.
    28 Minnau, nesâu at Dduw sy dda i mi : yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fy ngobaith, i draethu dy holl weithredoedd.
 

 

PSALM LXXIV. Ut quid, Deus?

PAHAM, Dduw, y’n bwriaist heibio yn dragywydd: ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?
    2 Cofia dy gynnulleidfa yr hon a brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth yr hwn a waredaist : mynydd Sïon, yr hwn y preswyli ynddo.
    3 Dyrcha dy draed at anrhaith dragywyddol : sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cyssegr.
    4 Dy elynion a ruasant ynghanol dy gynnulleidfaoedd : gosodasant eu banerau yn arwyddion.
    5 Hynod oedd gwr : fel y codasai fwyill mewn dyrysgoed.
    6 Ond yn awr y maent yn dryllio ei cherfiadau ar unwaith : â bwyill ac â morthwylion.
    7 Bwriasant dy gyssegroedd yn tân: hyd lawr yr halogasant breswylfa dy Enw.
    8 Dywedasant yn eu calonnau, Cyd-anrheithiwn hwynt : llosgasant holl synagogau Duw yn y tir.
    9 Ni welwn ein harwyddion; nid oes brophwyd mwy : nid oes gennym a ŵyr pa hŷd.
    10 Pa hŷd, Dduw, y gwarthrudda’r gwrthwynebwr : a gabla’r gelyn dy Enw yn dragywydd?
    11 Paham y tynni yn ei hol dy law, sef dy ddeheulaw : tyn hi allan o ganol dy fynwes.
    12 Canys Duw yw fy Mrenhin o’r dechreuad : gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir.
    13 Ti yn dy nerth a berthaist y môr : drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd.
    14 Ti a ddrylliaist ben lefiathan : rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch.
    15 Ti a holltaist y ffynnon a’r afon : ti a ddyhyspyddaist afonydd cryfion.
    16 Y dydd sydd eiddot ti, y nos hefyd sydd eiddot ti : ti a barottoaist oleuni a haul.
    17 Ti a osodaist holl derfynnau’r ddaear : ti a luniaist haf a gauaf.
    18 Cofia hyn, i’r gelyn gablu, O Arglwydd : ac i’r bobl ynfyd ddifenwi dy Enw.
    19 Na ddyro enaid dy durtur i gynnulleidfa’r gelynion: nac anghofia gynnulleidfa dy drueiniaid byth.
    20 Edrych ar y cyfammod : canys llawn yw tywyll-leoedd y ddaear o drigfannau trawsder.
    21 Na ddychweled y tlawd yn waradwyddus: molianned y truan a’r anghenus dy Enw.
    22 Cyfod, O Dduw, dadleu dy ddadl : cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd.
    23 Nac anghofia lais dy elynion : dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM LXXV. Confitebimur tibi.

CLODFORWN dydi, O Dduw, clodforwn : canys agos yw dy Enw; dy ryfeddodau a fynegant hynny.
    2 Pan dderbyniwyf y gynnulleidfa : mi a farnaf yn uniawn.
    3 Ymddattododd y ddaear a’i holl drigolion : myfi sydd yn cynnal ei cholofnau.
    4 Dywedais wrth y rhai ynfyd, Nac ynfydwch : ac wrth y rhai annuwiol, Na ddyrchefwch eich corn;
    5 Na ddyrchefwch eich corn yn uchel : na ddywedwch yn warsyth.
    6 Canys nid o’r dwyrain, nac o’r gorllewin : nac o’r dehau, y daw goruchafiaeth.
    7 Ond Duw sydd yn barnu: efe a ostwng y naill, ac a gyfyd y llall.
    8 Oblegid y mae phïol yn llaw’r Arglwydd, a’r gwin sy goch, yn llawn cymmysg; ac efe a dywalltodd o hono : etto holl annuwiolion y tir a wasgant, ac a yfant ei waelodion.
    9 Minnau a fynegaf yn dragywydd : ac a ganaf i Dduw Jacob.
    10 Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol : a chyrn y rhai cyfiawn a ddyrchefir.
 

Y 15 Dydd.

PSALM LXXVI. Notus in Judæa.

HYNOD yw Duw yn Judah : mawr yw ei Enw ef yn Israel.
   2 Ei babell hefyd sydd yn Salem : a’i drigfa yn Sïon.
    3 Yna y torrodd efe saethau’r bwa : y tarian, y cleddyf hefyd, a’r frwydr.
    4 Gogoneddusach wyt a chadarnach : nâ mynyddoedd yr yspail.
    5 Yspeiliwyd y cedyrn galon, hunasant eu hûn : a’r holl wŷr o nerth ni chawsant eu dwylaw.
    6 Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob: y rhoed y cerbyd a’r march i gysgu.
    7 Tydi, tydi, wyt ofnadwy : a phwy a saif o’th flaen pan ennyno dy ddigter?
    8 O’r nefoedd y peraist glywed barn : ofnodd a gostegodd y ddaear,
    9 Pan gyfododd Duw i farn: i achub holl rai llednais y tir.
    10 Dïau cynddaredd dyn a’th folianna di : gweddill cynddaredd a waherddi.
    11 Addunedwch, a thelwch i’r Arglwydd eich Duw : y rhai oll ydynt o’i amgylch ef, dygant anrheg i’r Ofnadwy.
    12 Efe a dyr ymaith yspryd tywysogion : y mae yn ofnadwy i frenhinoedd y ddaear.
 

 

PSALM LXXVII. Voce mea ad Dominum.

A’M llef y gwaeddais ar Dduw: â’m llef ar Dduw; ac efe a’m gwrandawodd.
    2 Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd : fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd; fy enaid a wrthododd ei ddiddanu.
    3 Cofiais Dduw, ac a’m cythryblwyd : cwynais, a therfysgwyd fy yspryd.
    4 Deliaist fy llygaid yn neffro : synnodd arnaf, fel na allaf lefaru.
    5 Ystyriais y dyddiau gynt : blynyddoedd yr hen oesoedd.
    6 Cofio yr ydwyf fy nghân y nos; yr ydwyf yn ymddiddan â’m calon : fy yspryd sydd yn chwilio yn ddyfal.
    7 Ai yn dragywydd y bwrw’r Arglwydd heibio : ac oni bydd efe boddlon mwy?
    8 A ddarfu ei drugaredd ef dros byth : a balla ei addewid ef yn oes oesoedd?
    9 A anghofiodd Duw drugarhâu : a gauodd efe ei drugareddau mewn soniant?
    10 A dywedais, Dyma fy ngwendid : etto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf.
    11 Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd : ïe, cofiaf dy wyrthiau gynt.
    12 Myfyriaf hefyd ar dy holl waith : ac am dy weithredoedd y chwedleuaf.
    13 Dy ffordd, O Dduw, sydd yn y cyssegr : pa dduw mor fawr a’n Duw ni?
    14 Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyfeddodau : dangosaist dy nerth ym mysg y bobloedd.
    15 Gwaredaist â’th fraich dy bobl : meibion Jacob a Joseph.
    16 Y dyfroedd a’th welsant, O Dduw, y dyfroedd a’th welsant; hwy a ofnasant: y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd.
    17 Y cymmylau a dywalltasant ddwfr, yr wybrennau a roddasant dwrf : dy saethau hefyd a gerddasant.
    18 Twrf dy daran a glywyd o amgylch : mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear.
    19 Dy ffordd sydd yn y môr, a’th lwybrau yn y dyfroedd mawrion : ac nid adweinir dy ôl.
    20 Tywysaist dy bobl fel defaid: trwy law Moses ac Aaron.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM LXXVIII. Attendite, popule.

GWRANDO fy nghyfraith, fy mhobl : gostyngwch eich clust at eiriau fy ngenau.
    2 Agoraf fy ngenau mewn dïareb : traethaf ddamhegion o’r cynfyd;
    3 Y rhai a glywsom ac a wybuom : ac a fynegodd ein tadau i ni.
    4 Ni chelwn rhag eu meibion, gan fynegi i’r oes a ddêl foliant yr Arglwydd, a’i nerth : a’i ryfeddodau y rhai a wnaeth efe.
    5 Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel : y rhai a orchymynodd efe i’n tadau eu dysgu i’w plant:
    6 Fel y gwybyddai’r oes a ddel, sef y plant a enid : a phan gyfodent, y mynegent hwy i’w plant hwythau:
    7 Fel y gosodent eu gobaith ar Dduw: heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchymynion ef:
    8 Ac na byddent fel eu tadau, yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar : yn genhedlaeth ni osododd ei chalon yn union, ac nid yw ei hyspryd ffyddlon gyd â Duw.
    9 Meibion Ephraim, yn arfog ac yn saethu â bwa: a droisant eu cefnau yn nydd y frwydr.
    10 Ni chadwasant gyfammod Duw : eithr gwrthodasant rodio yn ei gyfraith ef;
    11 Ac anghofiasant ei weithredoedd : a’i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt.
    12 Efe a wnaethai wyrthiau o flaen eu tadau hwynt : yn nhir yr Aipht, ym maes Soan.
    13 Efe a barthodd y môr, ac a aeth â hwynt drwodd : gwnaeth hefyd i’r dwfr sefyll fel pentwr.
    14 y dydd hefyd y tywysodd efe hwynt â chwmmwl : ac ar hŷd y nos â goleuni tân.
    15 Efe a holltodd y creigiau yn yr anialwch: a rhoddes ddiod oddi yno megis o ddyfnderau dirfawr.
    16 Canys efe a ddug ffrydiau allan o’r graig : ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.
    17 Er hynny ’chwanegasant etto bechu yn ei erbyn ef : gan ddigio’r Goruchaf yn y diffaethwch.
    18 A themtiasant Dduw yn eu calon : gan ofyn bwyd wrth eu blys.
    19 Llefarasant hefyd yn erbyn Duw: dywedasant, A ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
    20 Wele, efe a darawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd : a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i’w bobl?
    21 Am hynny y clybu’r Arglwydd, ac y digiodd : a thân a ennynodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gynneuodd yn erbyn Israel;
    22 Am na chredent yn Nuw : ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef.
    23 Er iddo ef orchymyn i’r wybrennau oddi uchod : ac agoryd drysau’r nefoedd,
    24 A gwlawio manna arnynt i’w fwytta : a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd.
    25 Dyn a fwyttaodd fara angylion : anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol.
    26 Gyrrodd y dwyrein-wỳnt yn y nefoedd : ac yn ei nerth y dug efe ddeheu-wỳnt.
    27 Gwlawiodd hefyd gig arnynt fel llwch : ac adar asgellog fel tywod y môr:
    28 Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll : o amgylch eu preswylfeydd.
    29 Felly y bwyttasant, ac y llwyr-ddiwallwyd hwynt : ac efe a barodd eu dymuniad iddynt.
    30 Ni ommeddwyd hwynt o’r hyn a flysiasant : er hynny, tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau,
    31 Digllonedd Duw a gynneuodd yn eu herbyn hwynt : ac a laddodd y rhai brasaf o honynt, ac a gwympodd etholedigion Israel.
    32 Er hyn oll pechasant etto : ac ni chredasant i’w ryfeddodau ef.
    33 Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd : a’u blynyddoedd mewn dychryn.
    34 Pan laddai efe hwynt, hwy a’i ceisient ef : ac a ddychwelent, ac a geisient Dduw yn fore.
    35 Cofient hefyd mai Duw oedd eu Craig : ac mai’r goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd.
    36 Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â’u genau : a dywedyd celwydd wrtho â’u tafod:
    37 A’u calon heb fod yn uniawn gyd âg ef: na’u bod yn ffyddlon yn ei gyfammod ef.
    38 Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt : le, trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid.
    39 Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt : a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.
    40 Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch : ac y gofidiasant ef yn y diffaethwch?
    41 Ië, troisant a phrofasant Dduw : ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel.
    42 Ni chofiasant ei law ef : na’r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn:
    43 Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aipht : a’i ryfeddodau ym maes Soan;
    44 Ac y troisai eu hafonydd yn waed : a’u ffrydiau, fel na allent yfed.
    45 Anfonodd gymmysgbla yn eu plith, yr hon a’u difaodd hwynt: a llyffaint i’w difetha.
    46 Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i’r lindys : a’u llafur i’r locust.
    47 Distrywiodd eu gwinw?dd â chenllysg : a’u sycomorwŷdd â rhew.
    48 Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i’r cenllysg : a’u golud i’r mellt.
    49 Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiowgrwydd, a digter, a chyfyngder : trwy anfon angylion drwg.
    50 Cymhwysodd ffordd i’w ddigofaint; nid attaliodd eu henaid oddi wrth angau : ond eu bywyd a roddodd efe i’r haint.
    51 Tarawodd hefyd bob cyntaf-anedig yn yr Aipht : sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham:
    52 Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid : ac a’u , harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch.
    53 Tywysodd hwynt hefyd yn ddïogel, fel nad ofnasant : a’r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt.
    54 Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd : i’r mynydd hwn, a ynnillodd ei ddeheulaw ef.
    55 Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o’u blaen hwynt : ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.
    56 Er hynny temtiasant a digiasant Dduw goruchaf: ac ni chadwasant ei dystiolaethau;
    57 Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau : troisant fel bwa twyllodrus.
    58 Digiasant ef hefyd â’u huchel-fannau : a gyrrasant eiddigedd arno â’u cerfiedig ddelwau.
    59 Clybu Duw hyn, ac a ddigiodd : ac a ffieiddiodd Israel yn ddirfawr:
    60 Fel y gadawodd efe dabernacl Siloh: y babell a osodasai efe ym mysg dynion;
    61 Ac y rhoddodd ei nerth mewn caethiwed : a’i brydferthwch yn llaw’r gelyn.
    62 Rhoddes hefyd ei bobl i’r cleddyf : a digiodd wrth ei etifeddiaeth.
    63 Tân a ysodd eu gw?r ieuaingc : a’u morwynion ni phrïodwyd.
    64 Eu hoffeiriaid a laddwyd â’r cleddyf : a’u gwragedd gweddwon nid wylasant.
    65 Yna y deffrôdd yr Arglwydd fel un o gysgu : fel cadarn yn bloeddio gwedi gwin.
    66 Ac efe a darawodd ei elynion o’r tu ol : rhoddes iddynt warth tragywydd ol.
    67 Gwrthododd hefyd babell Joseph : ac ni etholodd lwyth Ephraim;
    68 Ond efe a etholodd lwyth Judah : mynydd Sïon, yr hwn a hoffodd.
    69 Ac a adeiladodd ei gyssegr fel llys uchel : fel y ddaear yr hon a seiliodd efe yn dragywydd.
    70 Etholodd hefyd Ddafydd ei was : ac a’i cymmerth o gorlannau’r defaid:
    71 Oddi ar ol y defaid cyfebron y daeth âg ef : i borthi Jacob ei bobl, ac Israel ei etifeddiaeth.
    72 Yntau a’u porthodd hwynt yn ol perffeithrwydd ei galon : ac a’u trinodd wrth gyfarwyddyd ei ddwylaw.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM LXXIX. Deus, venerunt.

Y Cenhedloedd, O Dduw, a ddaethant i’th etifeddiaeth : halogasant dy deml sanctaidd; gosodasant Jerusalem yn garneddau.
    2 Rhoddasant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd : a chig dy saint i fwystfilod y ddaear.
    3 Twywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Jerusalem: ac nid oedd a’u claddai.
    4 Yr ydym ni yn warthrudd i’n cymmydogion : dirmyg a gwatwargerdd i’r rhai sydd o’n hamgylch.
    5 Pa hŷd, Arglwydd? a ddigi di’n dragywydd : a lysg dy eiddigedd di fel tân?
    6 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd ni’th adnabuant : ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy Enw.
    7 Canys ysasant Jacob: ac a wnaethant ei breswylfa ef yn anghyfannedd.
    8 Na chofia’r anwireddau gynt i’n herbyn; brysia, rhagflaened dy dostur drugareddau ni : canys llesg iawn y’n gwnaethpwyd.
    9 Cynnorthwya ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, er mwyn gogoniant dy Enw : gwared ni hefyd, a thrugarhâ wrth ein pechodau, er mwyn dy Enw.
    10 Paham y dywed y cenhedloedd, Pa le y mae eu Duw hwynt : bydded hyspys ym mhlith y cenhedloedd yn ein gol wg ni, wrth ddïal gwaed dy weision yr hwn a dywalltwyd.
    11 Deued uchenaid y carcharorion ger dy fron : yn ol mawredd dy nerth cadw blant marwolaeth.
    12 A thâl i’n cymmydogion ar y seithfed i’w mynwes, eu cabledd : trwy’r hon y’th gablasant di, O Arglwydd.
    13 A ninnau dy bobl a defaid dy borfa, a’th foliannwn di yn dragywydd : datganwn dy foliant o genhedlaeth i genhedlaeth.
 

Yr 16 Dydd.

PSALM LXXX. Qui regis Israel.

GWRANDO, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseph fel praidd : ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y cerubiaid.
    2 Cyfod dy nerth o flaen Ephraim a Benjamin a Manasseh : a thyred yn iachawdwriaeth i ni.
    3 Dychwel ni, O Dduw: a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
    4 O Arglwydd Dduw’r lluoedd: pa hŷd y sorri wrth weddi dy bobl?
    5 Porthaist hwynt â bara dagrau: a dlodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr.
    6 Gosodaist ni yn gynnen i’n cymmydogion : a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun.
    7 O Dduw’r lluoedd, dychwel ni : a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
    8 Mudaist winwŷdden o’r Aipht : bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi.
    9 Arloesaist o’i blaen, a pheraist i’w gwraidd wreiddio : a hi a lanwodd y tir.
    10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod: a’i changhennau oedd fel cedrwŷdd rhagorol.
    11 Hi a estynodd ei changau hyd y môr : a’i blagur hyd yr afon.
    12 Paham y rhwygaist ei chaeau: fel y tynno pawb a elo heibio ar hŷd y ffordd ei grawn hi?
    13 Y baedd o’r coed a’i turia : a bwystfil y maes a’i pawr.
    14 O Dduw’r lluoedd, dychwel, attolwg : edrych o’r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â’r winwŷdden hon;
    15 A’r winllan a blannodd dy ddeheulaw : ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun.
    16 Llosgwyd hi â thân; torrwyd hi i lawr : gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt.
    17 Bydded dy law dros wr dy ddeheulaw : a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun.
    18 Felly ni chiliwn yn ol oddi wdhyt ti : bywhâ ni, a ni a alwn ar dy Enw.
    19 O Arglwydd Dduw’r lluoedd, dychwel ni : llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
 

 

PSALM LXXXI. Exultate Deo.

CENWCH yn llafar i Dduw ein cadernid : cenwch yn llawen i Dduw Jacob.
    2 Cymmerwch psalm, a moeswch dympan : y delyn fwyn a’r nabl.
    3 Udgenwch udgorn yn y lloer newydd : yn yr amser nodedig, yn nydd ein huchelwyl.
    4 Canys deddf yw hyn i Israel : a defod i Dduw Jacob.
    5 Efe a’i gosododd yn dystiolaeth yn Joseph : pan aeth efe allan trwy dir yr Aipht; lle y clywais iaith ni ddeallwn.
    6 Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich: ei ddwylaw a ymadawsant â’r crochanau.
    7 Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a’th waredais : gwrandewais di yn nirgelwch y daran; profais di wrth ddyfroedd Meribah.
    8 Clyw, fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti, Israel : os gwrandewi arnaf;
    9 Na fydded ynot dduw arall : ac nac ymgrymma i dduw dïeithr.
    10 Myfi yr Arglwydd dy Dduw yw’r hwn a’th ddug di allan o dir yr Aipht : lleda dy safn, a mi a’i llanwaf.
    11 Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef : ac Israel ni’m mynnai.
    12 Yna y gollyngais hwynt ynghyndynrwydd eu calon : aethant wrth eu cyngor eu hunain.
    13 O na wrandawsai fy mhobl arnaf : na rodiasai Israel yn fy ffyrdd!
    14 Buan y gostyngaswn eu gelynion : ac y troiswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwŷr.
    15 Caseion yr Arglwydd a gymmerasent arnynt ymostwng iddo ef : a’u hamser hwythau fuasai’n dragywydd.
    16 Bwydasai hwynt hefyd â brasder gwenith : ac â mel o’r graig y’th ddiwallaswn.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM LXXXII. Deus stetit.

DUW sydd yn sefyll ynghynulleidfa’r galluog : ym mhlith y duwiau y barn efe.
    2 Pa hŷd y bernwch ar gam : ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol?
    3 Bernwch y tlawd a’r amddifad : cyfiawnhêwch y cystuddiedig a’r rheidus.
    4 Gwaredwch y tlawd a’r anghenus : achubwch hwynt o law y rhai annuwiol.
    5 Ni wyddant, ac ni ddeallant; mewn tywyllwch y rhodiant : holl sylfaenau y ddaear a symmudwyd o’u lle.
    6 Myfi a ddywedais, Duwiau ydych chwi: a meibion y Goruchaf ydych chwi oll.
    7 Eithr byddwch feirw fel dynion : ac fel un o’r tywysogion y syrthiwch.
    8 Cyfod, O Dduw, barna’r ddaear : canys ti a etifeddi’r holl genhedloedd.
 

 

PSALM LXXXIII. Deus, quis similis?

O DDUW, na ostega; na thaw : ac na fydd lonydd, O Dduw.
   2 Canys wele, dy elynion sydd yn terfysgu : a’th gaseion yn cyfodi eu pennau.
    3 Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl : ac ymgynghorasant yn erbyn dy rai dirgel di.
    4 Dywedasant, Deuwch, a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl : ac na chofier Enw Israel mwyach.
    5 Canys ymgynghorasant yn unfryd : ac ymwnaethant i’th erbyn;
    6 Pebyll Edam, a’r Ismaeliaid: y Moabiaid, a’r Hagariaid;
    7 Gebal, ac Ammon, ac Amalec : y Philistiaid, gyd â phreswylwŷr Tyrus.
    8 Assur hefyd a ymgwplysodd â hwynt : buant fraich i blant Lot.
    9 Gwna di iddynt fel i Midian : megis i Sisera, megis i Jabin, wrth afon Cison;
    10 Yn Endor y difethwyd hwynt : aethant yn dail i’r ddaear.
    11 Gwna eu pendefigion fel Oreb, ac fel Zeeb : a’u holl dywysogion fel Zebah, ac fel Salmunnah;
    12 Y rhai a ddywedasant, Cymmerwn i ni : gyfanneddau Duw i’w meddiannu.
    13 Gosod hwynt, O fy Nuw, fel olwyn: fel sofl o flaen y gwynt.
    14 Fel y llysg tân goed : ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd;
    15 Felly erlid di hwynt â’th dymmestI :- a dychryna hwynt â’th gorwynt.
    16 Llanw eu hwynebau â gwarth: fel y ceisiont dy’Enw, O Arglwydd.
    17 Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd : ïe, gwaradwydder a difether hwynt;
    18 Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy Enw: wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.
 

 

PSALM LXXXIV. Quam dilecta!

MOR hawddgar yw dy bebyll di : O Arglwydd y lluoedd!
   2 Fy enaid a hiraetha, ïe, ac a flysia am gynteddau’r Arglwydd : fy nghalon a’m cnawd a waeddant am y Duw byw.
    3 Aderyn y tô hefyd a gafodd dŷ, a’r wennol nŷth iddi, lle y gesyd ei chywion : sef dy allorau di, O Arglwydd y lluoedd, fy Mrenhin, a’m Duw.
    4 Gwỳn fyd preswylwŷr dy dŷ : yn wastad y’th foliannant.
    5 Gwỳn ei fyd y dyn y mae ei gadernid ynot : a’th ffyrdd yn eu calon:
    6 Y rhai yn myned trwy ddyffryn Bacha, a’i gwnant yn ffynnon : a’r gwlaw a leinw’r llynnau.
    7 Ant o nerth i nerth : ymddengys pob un ger bron Duw yn Sïon.
    8 O Arglwydd Dduw’r lluoedd, clyw fy ngweddi : gwrando, O Dduw Jacob.
    9 O Dduw ein tarian, gwel : ac edrych ar wyneb dy Enneiniog.
    10 Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di nâ mil : dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb.
    11 Canys haul a tharian yw’r Arglwydd Dduw; yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant : ni attal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.
    12 O Arglwydd y lluoedd : gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.
 

 

PSALM LXXXV. Benedixisti, Domine.

GRASLAWN fuost, O Arglwydd, i’th dir: dychwelaist gaethiwed Jacob.
    2 Maddeuaist anwiredd dy bobl : cuddiaist eu holl bechod.
    3 Tynnaist ymaith dy holl lid : troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddigter.
    4 Tro ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth : a thor ymaith dy ddigofaint wrthym.
    5 Ai byth y digi wrthym : a estyni di dy sorriant hyn genhedlaeth a chenhedlaeth?
    6 Oni throi di a’n bywhâu ni : fel y llawenycho dy bobl ynot ti?
    7 Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd : a dod i ni dy iachawdwriaeth.
    8 Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint; ond na throant at ynfydrwydd.
    9 Dïau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant: fel y trigo gogoniant yn ein tir ni.
    10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant : cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant.
    11 Gwirionedd a dardda o’r ddaear : a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd.
    12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni : a’n daear a rydd ei chnwd.
    13 Cyfiawnder a â o’i flaen ef : ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM LXXXVI. Inclina, Domine.

GOSTWNG, O Arglwydd, dy glust, gwrando fi : canys truan ac anghenus ydwyf.
    2 Cadw fy enaid; canys sanctaidd ydwyf : achub di dy was, O fy Nuw, yr hwn sydd yn ymddiried ynot.
    3 Trugarhâ wrthyf, Arglwydd: canys arnat y llefaf beunydd.
    4 Llawenhâ enaid dy was: canys attat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.
    5 Canys ti, O Arglwydd, ydwyt dda a maddeugar : ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat.
    6 Clyw, Arglwydd, fy ngweddi : ac ymwrando â llais fy ymbil.
    7 Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat : canys gwrandewi fi.
    8 Nid oes fel tydi ym mysg y duwiau, O Arglwydd : na gweithredoedd fel dy weithredoedd di.
    9 Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant ac a addolant ger dy fron di, O Arglwydd : ac a ogoneddant dy Enw.
    10 Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau : ti yn unig wyt Dduw.
    11 Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd; mi a rodiaf yn dy wirionedd : una fy nghalon i ofni dy Enw.
    12 Moliannaf di, O Arglwydd fy Nuw, â’m holl galon : a gogoneddaf dy Enw yn dragywydd.
    13 Canys mawr yw dy drugaredd tu ag attaf fi : a gwaredaist fy enaid o uffern isod.
    14 Rhai beilchion a gyfodasant i’m herbyn, O Dduw : a chynnulleidfa’r trawsion a geisiasant fy enaid; ac ni’th osodasant di ger eu bron.
    15 Eithr ti, O Arglwydd, wyt Dduw trugarog a graslawn : hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd.
    16 Edrych arnaf, a thrugarhâ wrthyf : dyro dy nerth i’th was, ac achub fab dy wasanaethferch.
    17 Gwna i mi arwydd er daioni; fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwaradwydder hwynt : am i ti, O Arglwydd, fy nghynorthwyo a’m diddanu.
 

Yr 17 Dydd.

PSALM LXXXVII. Fundamenta ejus.

EI sail sydd : ar y mynyddoedd sanctaidd.
   2 Yr Arglwydd a gâr byrth Sïon : yn fwy nâ holl breswylfeydd Jacob.
    3 Gogoneddus bethau a ddywedir am danat ti : O ddinas Dduw.
    4 Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod : wele Philistia, a Thyrus, ynghŷd âg Ethiopia; yno y ganwyd hwn.
    5 Ac am Sïon y dywedir, Y gwr a’r gwr a anwyd ynddi : a’r Goruchaf ei hun a’i sicrhâ hi.
    6 Yr Arglwydd a gyfrif pan ysgrifen o’r bobl: eni hwn yno.
    7 Y cantorion a’r cerddorion a fyddant yno : fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.
 

 

PSALM LXXXVIII. Domine Deus.

O ARGLWYDD Dduw fy iachawdwriaeth : gwaeddais o’th flaen ddydd a nos.
    2 Deued fy ngweddi ger dy fron : gostwng dy glust at fy llefain.
    3 Canys fy enaid a lanwyd o flinderau : a’m heinioes a nesâ i’r beddrod.
    4 Cyfrifwyd fi gyd â’r rhai a ddisgynant i’r pwll: ydwyf fel gwr heb nerth.
    5 Yn rhydd ym mysg y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd : y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law.
    6 Gosodaist fi yn y pwll isaf : mewn tywyllwch, yn y dyfnderau.
    7 Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf: ac â’th holl donnau y’m cystuddiaist.
    8 Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthyf: gwnaethost fi yn ffieidd-dra iddynt; gwarchaewyd fi, fel nad awn allan.
    9 Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd : llefais arnat, Arglwydd, beunydd; estynais fy nwylaw attat.
    10 Ai i’r meirw y gwnei ryfeddod : a gyfyd y meirw a’th foliannu di?
    11 A draethir dy drugaredd mewn bedd : a’th wirionedd yn nistryw?
    12 A adwaenir dy ryfeddod yn y tywyllwch: a’th gyfiawnder yn nhir anghof?
    13 Ond myfi a lefais arnat, Arglwydd : yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen.
    14 Paham, Arglwydd, y gwrthodi fy enaid : y cuddi dy wyneb oddi wrthyf?
    15 Truan ydwyf fi, ac ar drangcedigaeth o’m hieuengctid : dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso.
    16 Dy sorriant a aeth drosof : dy ddychrynedigaethau a’m torrodd ymaith.
    17 Fel dwfr y’m cylchynasant beunydd : ac y’m cydamgylchasant.
    18 Câr a chyfaill a yrraist ym mhell oddi wrthyf : a’m cydnabod i dywyllwch.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM LXXXIX. Misericordias Domini.

TRUGAREDDAU yr Arglwydd a ddatganaf byth : â’m genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth.
    2 Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd : yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd.
    3 Gwnaethum ammod â’m hetholedig : tyngais i’m gwas Dafydd.
    4 Yn dragywydd y sicrhâf dy had di : ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfaingc di.
    5 A’r nefoedd, O Arglwydd, a foliannant dy ryfeddod : a’th wirionedd ynghynnulleidfa’r saint.
    6 Canys pwy yn y nef a gystedlir â’r Arglwydd : pwy a gyffelybir i’r Arglwydd ym mysg meibion y cedyrn?
    7 Duw sydd ofnadwy iawn ynghynnulleidfa’r saint : ac i’w arswydo yn ei holl amgylchoedd.
    8 O Arglwydd Dduw’r lluoedd, pwy sy fel tydi : yn gadarn Ior? a’th wirionedd o’th amgylch?
    9 Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr : pan gyfodo ei donnau, ti a’u gostegi.
    10 Ti a ddrylliaist yr Aipht, fel un lladdedig : trwy nerth i dy fraich y gwasgeraist dy elynion.
    11 y nefoedd ydynt eiddot ti, a’r ddaear sydd eiddot ti : ti a seiliaist y byd a’i gyflawnder.
    12 Ti a greaist ogledd a dehau : Tabor a Hermon a lawenychant yn dy Enw.
    13 y mae i ti fraich a chadernid : cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw.
    14 Cyfiawnder a barn yw trigfa dy orseddfaingc : trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb.
    15 Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfryd lais: yn llewyrch dy wyneb, O Arglwydd, y rhodiant hwy.
    16 Yn dy Enw di y gorfoleddant beunydd : ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant.
    17 Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti : ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni.
    18 Canys yr Arglwydd yw ein tarian : a Sanct Israel yw ein Brenhin.
    19 Yna’r ymddiddenaist mewn gweledigaeth â’th Sanct, ac a ddywedaist : Gosodais gymmorth ar un cadarn, dyrchefais un etholedig o’r bobl.
    20 Cefais Ddafydd fy ngwasanaethwr : enneiniais ef â’m holew sanctaidd;
    21 Yr hwn y sicrheir fy llaw gyd âg ef : a’m braich a’i nertha ef.
    22 Ni orthrymma’r gelyn ef : a’r mab anwir ni’s cystuddia ef.
    23 Ac mi a goethaf ei elynion o’i flaen : a’i gaseion a darawaf.
    24 Fy ngwirionedd hefyd a’m trugaredd fydd gyd âg ef : ac yn fy Enw y dyrchefir ei gorn ef.
    25 A gosodaf ei law yn y môr : a’i ddeheulaw yn yr afonydd.
    26 Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad : fy Nuw, a chraig fy iachawdwriaeth.
    27 Minnau a’i gwnaf yntau yn gynfab : goruwch brenhinoedd y ddaear.
    28 Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd : a’m cyfammod fydd sicr iddo.
    29 Gosodaf hefyd ei had yn dragywydd : a’i orseddfaingc fel dyddiau’r nefoedd.
    30 Os ei feibion a adawant fy nghyfraith : ac ni rodiant yn fy marnedigaethau;
    31 Os fy neddfau a halogant : a’m gorchymynion ni chadwant;
    32 Yna mi a ymwelaf â’u camwedd â gwïalen : ac â’u hanwiredd â ffrewyllau.
    33 Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho : ac ni phallaf o’m gwirionedd.
    34 Ni thorraf fy nghyfamod : ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o’m genau.
    35 Tyngais unwaith i’m sancteiddrwydd : na ddywedwn gelwydd i Ddafydd.
    36 Bydd ei had ef yn dragywydd : a’i orseddfaingc fel yr haul ger fy mron i.
    37 Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad : ac fel tyst ffyddlon yn y nef.
    38 Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist : ti a ddigiaist wrth dy Enneiniog.
    39 Diddymmaist gyfammod dy was : halogaist ei goron gan ei thaflu i lawr.
    40 Drylliaist ei holl gaeau ef : gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau.
    41 Yr holl fforddolion a’i hyspeiliant ef: aeth yn warthrudd i’w gymmydogion.
    42 Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwŷr : llawenheaist ei holl elynion.
    43 Troaist hefyd fin ei gleddyf : ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel.
    44 Peraist i’w harddwch ddarfod : a bwriaist ei orseddfaingc i lawr.
    45 Byrheaist ddyddiau ei ieuengetid : toaist gywilydd drosto ef.
    46 Pa hŷd, Arglwydd, yr ymguddi? ai yn dragywydd : a lysg dy ddigofaint di fel tân?
    47 Cofia pa amser sydd i mi : paham y creaist holl blant dynion yn ofer?
    48 Pa wr a fydd byw, ac ni wel farwolaeth : a wared efe ei enaid o law’r bedd?
    49 Pa le y mae dy hen drugareddau, O Arglwydd : y rhai a dyngaist i Ddafydd yn dy wirionedd?
    50 Cofia, O Arglwydd, waradwydd dy weision : yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion;
    51 A’r hwn y gwaradwyddodd dy elynion, O Arglwydd : â’r hwn y gwaradwyddasant ôl troed dy Enneiniog.
    52 Bendigedig fyddo’r Arglwydd yn dragywydd : Amen, ac Amen.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM XC. Domine, refugium.

TI, Arglwydd, fuost yn breswylfa i ni : ym mhob cenhedlaeth.
   2 Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio o honot y ddaear, a’r byd : ti hefyd wyt Dduw o dragywyddoldeb hyd dragywyddoldeb.
    3 Troi ddyn i ddinystr : a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion.
    4 Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe : wedi’r el heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos.
    5 Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hûn : y bore y maent fel llysieuyn a newidir.
    6 Y bore y blodeua, ac y tyf : prydnhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa.
    7 Canys yn dy ddig y difethwyd ni : ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd.
    8 Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron : ein dirgel bechodau yngoleuni dy wyneb.
    9 Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di : treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl.
    10 Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrugain; ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd : etto eu nerth sy boen a blinder; canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith.
    11 Pwy a edwyn nerth dy sorriant : canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddigter.
    12 Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau : fel y dygom ein calon i ddoethineb.
    13 Dychwel, Arglwydd, pa hŷd : ac edifarhâ o ran dy weision.
    14 Diwalla ni yn fore â’th drugaredd : fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau.
    15 Llawenhâ ni yn ol y dyddiau y cystuddiaist ni : a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd.
    16 Gweler dy waith tu ag at dy weision : a’th ogoniant tu ag at eu plant hwy.
    17 A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni : a threfn a weithred ein dwylaw ynom ni; le, trefna waith ein dwylaw.
 

Y 18 Dydd.

PSALM XCI. Qui habitat.

YR hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf: a erys ynghysgod yr Holl-alluog.
    2 Dywedaf am yr Arglwydd, Fy noddfa a’m hamdditlynfa ydyw : fy Nuw; ynddo yr ymddiriedaf.
    3 Canys efe a’th wareda di o fagl yr heliwr : ac oddi wrth haint echryslon.
    4 A’i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi dïogel : ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti.
    5 Nid ofni rhag dychryn nos : na rhag y saeth a ehedo’r dydd;
    6 Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch : na rhag y dinystr a ddinystrio ganol dydd.
    7 Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng mil wrth dy ddeheulaw: ond ni ddaw yn agos attat ti.
    8 Yn unig ti a ganfyddi a’th lygaid : ac a weli dâl y rhai annuwiol.
    9 Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa : sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti;
    10 Ni ddigwydd i ti niweid : ac ni ddaw pla yn agos i’th babell.
    11 Canys efe a orchymyn i’w angylion am danat ti : dy gad w yn dy holl ffyrdd.
    12 Ar eu dwylaw y’th ddygant: rhag taro dy droed wrth garreg.
    13 Ar y llewa’r asp y cerddi : y cenaw llewa’r ddraig a fethri.
    14 Am iddo roddi ei serch arnaf, am hynny y gwaredaf ef: am iddo adnabod fy Enw y dyrchafaf ef.
    15 Efe a eilw arnaf, a mi a’i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gyd âg ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef.
    16 Digonaf ef â hir ddyddiau : a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.
 

 

PSALM XCII. Bonum est confiteri.

DA yw moliannu’r Arglwydd : a chanu mawl i’th Enw di, y Goruchaf;
    2 A mynegi’r bore aril dy drugaredd : a’th wirionedd y nosweithiau;
    3 Ar ddegtant, ac ar y nabl: ac ar y delyn yn fyfyriol.
    4 Canys llawenychaist fi, O Arglwydd, â’th weithred : yngwaith dy ddwylaw y gorfoleddaf.
    5 Mor fawredig, O Arglwydd, yw dy weithredoedd : dwfn iawn yw dy feddyliau.
    6 Gwr annoeth ni ŵyr: a’r ynfyd ni ddeall hyn.
    7 Pan flodeuo y rhai annuwiol fel y llysieuyn, a blaguro holl weithredwyr anwiredd : hynny sydd i’w dinystrio byth bythoedd.
    8 Tithau, Arglwydd : wyt ddyrchafedig yn dragywydd.
    9 Canys wele, dy elynion, O Arglwydd, wele, dy elynion a ddifethir : gwasgerir holl weithredwyr anwiredd.
    10 Ond fy nghorn i a ddyrchefi fel unicorn: âg olew ir y’m henneinir.
    11 Fy llygad hefyd a wêl fy ngwỳnfyd ar fy ngwrthwynebwŷr : fy nghlustiau a glywant fy ewyllys am y rhai drygionus a gyfodant i’m herbyn.
    12 Y cyfiawn a flodeua fel palmwŷdden : ac a gynnydda fel cednwŷdden yn Libanus.
    13 y rhai a blannwyd yn nhŷ’r Arglwydd: a flodeuant ynghynteddoedd ein Duw.
    14 Ffrwythant etto yn eu henaint : tirfion ac iraidd fyddant;
    15 I fynegi mai uniawn yw’r Arglwydd fy nghraig: ac nad oes anwiredd ynddo.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM XCIII. Dominus regnavit.

YR Arglwydd sydd yn teyrnasu, efe a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr Arglwydd nerth, ac ymwregysodd : y byd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo.
    2 Darparwyd dy orseddfaingc eriôed : ti wyt er tragywyddoldeb.
    3 y llifeiriaint, O Arglwydd, a ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf : y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau.
    4 Yr Arglwydd yn yr uchelder sy gadarnach nâ thwrf dyfroedd lawer : nâ chedyrn donnau y môr.
    5 Sicr iawn yw dy dystiolaethau : sancteiddrwydd a weddai i’th dŷ, O Arglwydd, byth.
 

 

PSALM XCIV. Deus ultionum.

O ARGLWYDD Dduw’r dïal : O Dduw’r dïal, ymddisgleiria.
   2 Ymddyrcha, Farnwr y byd: tâl eu gwobr i’r beilchion.
    3 Pa hyd, Arglwydd, y caiff yr annuwiolion : pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu?
    4 Pa hyd y siaradant ac y dywedant yn galed : yr ymfawryga holl weithredwŷr anwiredd?
    5 Dy bobl, Arglwydd, a ddrylliant : a’th etifeddiaeth a gystuddiant.
    6 Y weddw a’r dïeithr a laddant : a’r amddifad a ddïeneidiant.
    7 Dywedant hefyd, Ni wêl yr Arglwydd : ac nid ystyria Duw Jacob hyn.
    8 Ystyriwch, chwi rai anmoeth ym mysg y bobl : ac ynfydion, pa bryd y deallwch?
    9 Oni chlyw’r hwn a blannodd y glust : oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?
    10 Oni cherydda’r hwn a gospa’r cenhedloedd : oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn?
    11 Gŵyr yr Arglwydd feddylian dyn : mai gwagedd ydynt.
    12 Gwỳn ei fyd y gwr a geryddi di, O Arglwydd : ac a ddysgi yn dy gyfraith;
    13 I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd: hyd oni chloddier ffos i’r annuwiol.
    14 Canys ni ad yr Arglwydd ei bobl : ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth.
    15 Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder : a’r holl rai uniawn o galon a ant ar ei ol.
    16 Pwy a gyfyd gyd â mi yn erbyn y rhai drygionus : pwy a saif gyd â mi yn erbyn gweithredwŷr anwiredd?
    17 Oni buasai’r Arglwydd yn gymmorth i mi : braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd.
    18 Pan ddywedais, Llithrodd fy nhroed : dy drugaredd di, O Arglwydd, a’m cynhaliodd.
    19 Yn amlder fy meddyliau o’m mewn : dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid.
    20 A fydd cyd-ymdeithas i ti â gorseddfaingc anwiredd : yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?
    21 Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn : a gwaed gwirion a farnant yn euog.
    22 Eithr yr Arglwydd sydd yn amddiffynfa i mi : a’m Duw yw craig fy nodded.
    23 Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a’u tyr ymaith yn eu drygioni : yr Arglwydd ein Duw a’u tyr hwynt ymaith.
 

 

BOREOL WEDDI.

PSALM XCV. Venite, exultemus.

DEUWCH, canwn i’r Arglwydd : ymlawenhâwn yn nerth ein hiechyd.
    2 Deuwn ger ei fron ef â dïolch : canwn yn llafar iddo â psalmau.
    3 Canys yr Arglwydd sy Dduw mawr : a Brenhin mawr goruwch yr holl dduwiau.
    4 Yr hwn y mae gorddyfnderau’r ddaear yn ei law : ac uchelderau’r mynyddoedd yn eiddo.
    5 Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylaw a luniasant y sychdir.
    6 Deuwch, addolwn, ac ymgrymmwn : gostyngwn ar ein gliniau ger bron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr.
    7 Canys efe yw ein Duw ni : a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddyw, os gwrandêwch ar ei leferydd,
    8 Na chaledwch eich calonnau: megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch;
    9 Pan demtiodd eich tadau fi : y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd.
    10 Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon : a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd;
    11 Wrth y rhai y tyngais yn fy llid : na ddelent i’m gorphwysfa.
 

Y 19 Dydd.

PSALM XCVI. Cantate Domino.

CENWCH i’r Arglwydd ganiad newydd : cenwch i’r Arglwydd, yr holl ddaear.
    2 Oenwch i’r Arglwydd, bendigwch ei Enw : cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.
    3 Datgenwch ym mysg y cenhedloedd ei ogoniant ef : ym mhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.
    4 Canys mawr yw’r Arglwydd, a chanmoladwy iawn : ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.
    5 Canys holl dduwiau’r bobloedd ydynt eilunod : ond yr Arglwydd a wnaeth y nefoedd.
    6 Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef : nerth a hyfrydwch sydd yn ei gyssegr.
    7 Tylwythau’r bobl, rhoddwch i’r Arglwydd : rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant a nerth.
    8 Rhoddwch i’r Arglwydd ogoniant ei Enw : dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd.
    9 Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd : yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef.
    10 Dywedwch ym mysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu : a’r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo; efe a farna’r bobl yn uniawn.
    11 Llawenhâed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear : rhued y môr a’i gyflawnder.
    12 Gorfoledded y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo : yna holl breniau’r coed a ganant
    13 O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod, canys y mae’n dyfod i farnu’r ddaear : efe a farna’r byd trwy gyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.
 

 

PSALM XCVII. Dominus regnavit.

YR Arglwydd sydd yn teyrnasu : gorfoledded y ddaear, llawenyched ynysoedd lawer.
    2 Cymmylau a thywyllwch sydd o’i amgylch ef : cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfaingc ef.
    3 Tân a â allan o’i flaen ef : ac a lysg ei elynion o amgylch.
    4 Ei fellt a lewyrchasant y byd : y ddaear a welodd, ac a grynodd.
    5 Y mynyddoedd a doddasant fel cwyr o flaen yr Arglwydd : o flaen Arglwydd yr holl ddaear.
    6 Y nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef : a’r holl bobl a welant ei ogoniant.
    7 Gwaradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedig, y rhai a ymffrostiant mewn eilunod : addolwch ef, yr holl dduwiau.
    8 Sïon a glywodd, ac a lawenychodd; a merched Judah a orfoleddasant : o herwydd dy farnedigaethau di, O Arglwydd.
    9 Canys ti, Arglwydd, wyt oruchel goruwch yr holl ddaear : dirfawr y’th ddyrchafwyd goruwch yr holl dduwiau.
    10 Y rhai a gerwch yr Arglwydd, casewch ddrygioni : efe sydd yn cadw eneidiau ei saint; efe a’u gwared o law y rhai annuwiol.
    11 Hauwyd goleuni i’r cyfiawn : a llawenydd i’r rhai uniawn o galon.
    12 Y rhai cyfiawn, llawenychwch yn yr Arglwydd : a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
 

 

PRYDNHAWNOL WEDDI.

PSALM XCVIII. Cantate Domino.

CENWCH i’r Arglwydd ganiad newydd; canys efe a wnaeth bethau rhyfedd : ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth.
    2 Hyspysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth : datguddiodd ei gyfiawnder yngolwg y cenhedloedd.
    3 Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel : holl derfynau’r ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni.
    4 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear : llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch.
    5 Cenwch i’r Arglwydd gyd â’r delyn : gyd â’r delyn, a llef psalm.
    6 Ar udgyrn a sain cornet : cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenhin.
    7 Rhued y môr a’i gyflawnder : y byd a’r rhai a drigant o’i fewn.
    8 Cured y llifeiriaint eu dwylaw: a chyd-ganed y mynyddoedd
    9 O flaen yr Arglwydd; canys y mae’n dyfod i farnu’r ddaear : efe a farna’r byd â chyfiawnder, a’r bobloedd âg uniondeb.
 

 

PSALM XCIX. Dominus regnavit.

YR Arglwydd sydd yn teyrnasu; cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y cerubiaid; ymgynhyrfed y ddaear.
    2 Mawr yw’r Arglwydd yn Sïon : a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd.
    3 Moliannant dy Enw mawr ac ofnadwy : canys sanctaidd yw.
    4 A nerth y Brenhin a hoffa farn; ti a sicrhêi uniondeb : barn a chyfiawnder a wnei di yn Jacob.
    5 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymmwch o flaen ei ’stol-draed ef : canys sanctaidd yw.
    6 Moses ac Aaron ym mhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ym mysg y rhai a alwant ar ei Enw : galwasant ar yr Arglwydd, ac efe a’u gwrandawodd hwynt.
    7 Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmmwl : cadwasant ei dystiolaethau, a’r ddeddf a roddodd efe iddynt.
    8 Gwrandewaist arnynt, O Arglwydd ein Duw : Duw, oeddit yn eu harbed, ïe, pan ddïelit am eu dychymmygion.
    9 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymmwch ar ei fynydd sanctaidd : canys sanctaidd yw’r Arglwydd ein Duw.
 

 

PSALM C. Jubilate Deo.

CENWCH yn llafar i’r Arglwydd : yr holl ddaear.
   2 Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd : deuwch o’i flaen ef â chân.
    3 Gwybyddwch mai’r Arglwydd sy Dduw; efe a’n gwnaeth, ac nid ni ein hunain : ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.
    4 Ewch i mewn i’w byrth ef â dïolch, ac i’w gynteddau â mawl : dïolchwch iddo, a bendithiwch ei Enw.
    5 Canys da yw’r Arglwydd; ei drugaredd sydd yn dragywydd : a’i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
 

 

PSALM CI. Misericordiam et judicium.

CANAF am drugaredd a barn : i ti, Arglwydd, y canaf.
   2 Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith : Pa bryd y deui attaf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ.
    3 Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid : cas gennyf waith y rhai cildynnus; ni lŷn wrthyf fi.
    4 Calon gyndyn a gilia oddi wrthyf: nid adnabyddaf ddyn drygionus.
    5 Torraf ymaith yn hwn a enllibio ei gymmydog yn ddirgel : yr uchel o olwg, a’r balch ei galon, ni allaf ei ddïoddef.
    6 Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir, fel y trigont gyd â mi : yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith, hwnnw a’m gwasanaetha i.
    7 Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a wnelo dwyll : ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd.
    8 Yn fore y torraf ymaith holl annuwiolion y tir : i ddiwreiddio holl weithredwŷr anwiredd o ddinas yr Arglwydd.
 

 
 

Psalmau 1-49; 102-150

Llyfr Gweddi Gyffredin

The Book of Common Prayer in Welsh

Web author: Charles Wohlers U. S. EnglandScotlandIrelandWalesCanadaWorld