The Book of Common Prayer
United States England Scotland Ireland Wales Canada World

   

Llyfr Gweddi Gyffredin
the Book of Common Prayer in Welsh


 
Y
COLECTAU, EPISTOLAU, A’R EFANGYLAU,

A ARFERIR TRWY’R FLWYDDYN.
 

Nodwch, Am y Colect a osodir i bob Sul, neu Wyl y bo iddi Nos-wyl neu Ucher-wyl, y dywedir ef ar y Gwasanaeth Prydnhawnol ar y Nos-wyl.

Y Sul cyntaf yn Adfent.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, dyro i ni ras i ymwrthod â gweithredoedd y tywyllwch, ac i wisgo arfau y goleuni, yn awr yn amser y bywyd marwol hwn, pryd y daeth dy Fab Iesu Grist i ymweled â ni mewn mawr ostyngeiddrwydd; fel y byddo i ni yn y dydd diweddaf, pan ddelo efe drachefn yn ei ogoneddus Fawredd i farnu byw a meirw, gyfodi i’r bywyd anfarwol drwyddo ef, yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thi a’r Yspryd Glân, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

¶ Y Colect hwn a ddywedir beunydd gyd â’r Colectau eraill yn Adfent, hyd Nos Nadolig.

The Collects, Epistles & Gospels
to be used throughout the Year.

 

Note that in the original the Biblical texts are printed out in full; only the citations are given here.

 

Yr Epistol. Rhuf. xiii. 8.

Yr Efengyl. St. Matth. xxi. 1.
  

Rom. 13:8-14

Matt. 21: 1-13

Yr ail Sul yn Adfent.
Y Colect.

Y Gwỳnfydedig Arglwydd, yr hwn a beraist fod yr holl Ysgrythyr Lân yn ysgrifenedig er mwyn ein hathrawiaeth a’n haddysg ni; Caniattâ fod i ni yn y cyfryw fodd ei gwrando, ei darllain, ei chwilio, a’i dysgu, ac i’n mewn ei mwynhâu; fel, trwy amynedd a diddanwch dy gyssegredig Air, y cofleidiom ac yr ymgynhaliom yn wastadol wrth fendigaid obaith y bywyd tragywyddol, yr hwn a roddaist i ni yn ein Hiachawdwr Iesu Grist. Amen.
 

Second Sunday in Advent

Yr Epistol. Rhuf. xv. 4.

Yr Efengyl. St. Luc xxi. 25.
 

 Rom. 15: 4-13

Luke 21: 25-33

Y trydydd Sul yn Adfent.
Y Colect.

O Arglwydd Iesu Grist, yr hwn ar dy ddyfodiad cyntaf a anfonaist dy genhadwr i barottôi dy ffordd o’th flaen; Caniattâ i weinidogion a goruchwylwŷr dy ddirgeledigaethau felly barottôi ac arloesi dy ffordd, gan droi calonnau y rhai anufudd i ddoethineb y cyfiawn, fel, ar dy ail ddyfodiad i farnu’r byd, y’n caffer yn bobl gymmeradwy yn dy olwg di, yr hwn wyt yn byw ac yn teyrnasu gyd â’r Tad a’r Yspryd Glân, byth yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.
 

Third Sunday in Advent

Yr Epistol. 1 Cor. iv. 1.

Yr Efengyl. St. Matth. xi. 2.
 

 1 Cor. 4:1-5

Matt. 11:2-10

Y pedwerydd Sul yn Adfent.
Y Colect.

DYRCHA, Arglwydd, attolwg i ti, dy gadernid, a thyred i’n plith, ac â mawr nerth cymmorth ni; fel gan fod arnom, o herwydd ein pechodau a’n hanwireddau, ddirfawr luddias a rhwystr i redeg yr yrfa a osodir o’n blaen, y byddo i’th ddaionus rad di a’th drugaredd ein cymmorth a’n gwared yn ebrwydd, trwy iawn digonol dy Fab ein Harglwydd: i’r hwn, gyd â thi a’r Yspryd Glân, y byddo anrhydedd a gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.
 

Fourth Sunday in Advent

Yr Epistol. Phil. iv. 4.

Yr Efengyl. St. Ioan i. 19.
 

 Phil. 4:4-7

John 1:19-28

Genedigaeth ein Harglwydd, neu
Dydd Nadolig Crist.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn a roddaist i ni dy uniganedig Fab i gymmeryd ein hanian arno, i’w eni ar gyfenw i’r amser yma o Forwyn bur; Caniattâ i ni, gan fod wedi ein had-genhedlu, a’n gwneuthur yn blant i ti trwy fabwys a rhad, beunydd ymadnewyddu trwy dy Lân Yspryd, trwy yr unrhyw ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thi, a’r unrhyw Yspryd, byth yn un Duw, yn oes oesoedd. Amen.
 

Christmas Day

Yr Epistol. Heb. i. 1.

Yr Efengyl. St. Ioan i. 1.
 

 Heb. 1:1-12

John 1:1-14

Dydd Gwyl Sant Stephan.
Y Colect.

CANIATTA i ni, O Arglwydd, yn ein holl ddïoddefiadau yma ar y ddaear, o herwydd tystiolaeth i’th wirionedd di, edrych yn ddyfal tu a’r nef, thrwy ffydd ganfod y gogoniant a ddatguddir; ac yn llawn o’r Yspryd Glân, ddysgu caru a bendithio ein herlidwŷr trwy esampl dy gyn-ferthyr Sant Stephan, yr hwn a weddïodd dros ei lofruddion arnat ti, O Iesu wỳnfydedig, yr hwn wyt yn sefyll ar ddeheulaw Dduw i gymmorth y rhai oll y sydd yn dïoddef er dyfwyn di, ein hunig Gyfryngwr a’n Dadleuwr. Amen.

¶ Yna y canlyn Colect y Nadolig, yr hwn a ddywedir yn wastad hyd Ucher-wyl Dydd Calan.
 

St. Stephen

Yn lle yr Epistol. Act. vii. 55.

Yr Efengyl. St. Matth. xxiii. 34.
 

 Acts 7:55-60

Matt. 23:34-39

Dydd Gwyl Sant Ioan Efangylwr.
Y Colect.

ARGLWYDD trugarog, ni a attolygwn i ti fwrw dy ddisglair belydr goleuni ar dy Eglwys; fel, wedi ei goleuo gan athrawiaeth dy wỳnfydedig Apostol ac Efangylwr Sant Ioan, y gallo hi rodio felly yngoleuni dy wirionedd, fel y delo hi yn y diwedd i oleuni bywyd tragywyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

St. John the Evangelist

Yr Epistol. 1 St. Ioan i. 1.

Yr Efengyl. St. Ioan xxi. 19.
 

 1 John 1:1-10

John 21:19-25

Dydd Gwyl y Gwirioniaid.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn o enau plant bychain, a rhai yn sugno, a beraist nerth, ac a wnaethost i blant aflafar dy ogoneddu trwy farw; Marweiddia a lladd bob rhyw anwiredd ynom, a nertha ni felly â’th ras, fel trwy fuchedd ddiniweid, a ffydd ddïysgog hyd angau, y gogoneddom dy Enw bendigedig; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Holy Innocents

Yn lle yr Epistol. Dat. xiv. 1.

Yr Efengyl. St. Matth. ii. 13.
 

 Rev. 14:1-5

Matt. 2:13-18

Y Sul gwedi’r Nadolig.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn a roddaist i ni dy unig-anedig Fab i gymmeryd ein hanian arno, i’w eni ar gyfenw i’r amser yma o Forwyn bur; Caniattâ i ni, gan fod wedi ein had-genhedlu, a’n gwneuthur yn blant i ti trwy fabwys a rhad, beunydd ymadnewyddu trwy dy Lân Yspryd, trwy yr unrhyw ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thi a’r unrhyw Yspryd, byth yn un Duw yn oes oesoedd. Amen.
 

Sunday after Christmas

Yr Epistol. Gal. iv. 1.

Yr Efengyl. St. Matth. i. 18.
 

 Gal. 4:1-7

Matt. 1:18-25

Dydd Enwaediad Crist
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn a wnaethost i’th wỳnfydedig Fab dderbyn enwaediad, a bod yn ufudd i’r ddeddf er mwyn dyn Caniattâ i ni iawn Enwaediad yr Yspryd, fel y bo i’n calonnau, a’n holl aelodau (wedi eu marwolaethu oddi wrth bob bydol a chnawdol anwydau) allu ym mhob rhyw beth ufuddhâu i’th wỳnfydedig ewyllys; trwy’r unrhyw dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Circumcision

Yr Epistol. Rhuf. iv. 8.

Yr Efengyl. St. Luc ii. 15.

¶ Yr un Colect, Epistol, ac a gaiff wasanaetho bob dydd ar ol hyn, hyd at yr Ystwyll.
 

 Rev. 4:8-14

Luke 2:15-21

Dydd Gwyl Ystwyll, neu’r Serenwyl,
sef Ymddatgudd Crist i’r Cenhedloedd.
Y Colect.

O Dduw, yr hwn trwy dywysiad seren a ddangosaist dy unig-anedig Fab i’r Cenhedloedd; Caniattâ yn drugarog i ni, y sawl ydym yn dy adnabod yr awr hon trwy ffydd, allu ar ol y fuchedd hon fwynhâu dy ogoneddus Dduwdod; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

The Epiphany

Yr Epistol. Ephes. iii. 1.

Yr Efengyl. St. Matth. ii. 1.
 

 Ephes. 3:1-12

Matt. 2:1-12

Y Sul cyntaf gwedi’r Ystwill.
Y Colect.

O Arglwydd, nyni a attolygwn i ti dderbyn yn drugarog weddïau dy bobl sydd yn galw arnat; a chaniattâ iddynt ddeall a gwybod yr hyn a ddylent ei wneuthur, a chael hefyd ras a gallu yn ffyddlon i wneuthur yr unrhyw; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

 Sunday after Epiphany

Yr Epistol. Rhuf. xii. 1.

Yr Efengyl. St. Luc ii. 41.
 

 Rom. 12:1- 5

Luke 2:41-52

Yr ail Sul gwedi’r Ystwyll.
Y Colect.

HOLL-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn wyt yn llywio pob peth yn y nef a’r ddaear; Clyw yn drugarog eirchion dy bobl, a chaniattâ i ni dy dangnefedd holl ddyddiau ein bywyd; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

 

 Second Sunday after Epiphany

Yr Epistol. Rhuf. xii. 6.

Yr Efengyl. St. Ioan ii. 1.
 

Rom. 12:6-16

John 2:1-11  

Y trydydd Sul gwedi’r Ystwyll.
Y Colect.

HOLL-alluog a thragywyddol Dduw, edrych yn drugarog ar ein gwendid; ac yn ein holl beryglon a’n hanghenion, estyn dy ddeheulaw i’n cymmorth ac i’n hamddiffyn; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

 Third Sunday after Epiphany

Yr Epistol. Rhuf. xii. 16.

Yr Efengyl. St. Matth. viii. 1.
 

 Rom. 12:16-21

Matt. 8:1-13

Y pedwerydd Sul gwedi’r Ystwyll.
Y Colect.

O Dduw, yr hwn a wyddost ein bod ni wedi ein gosod mewn cymmaint a chynnifer o beryglon, fel na’s gallwn, o herwydd gwendid ein dynol anian, sefyll bob amser yn uniawn; Caniattâ i ni y cyfryw nerth a nodded, ag a ’n cymhortho ym mhob perygl, ac a’n harweinio trwy bob profedigaeth; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

 Fourth Sunday after Epiphany

Yr Epistol. Rhuf. xiii. 1.

Yr Efengyl. St. Matth. viii. 23.
 

Rom. 13:1-7

Matt. 8:23-34  

Y pummed Sul gwedir Ystwyll.
Y Colect.

O Arglwydd, ni a attolygwn i ti gadw dy Eglwys a’th deulu yn wastad yn dy wir grefydd; fel y gallont hwy oll, y sawl sydd yn ymgynnal yn unig wrth obaith dy nefol ras, gael byth eu hamddiffyn gan dy alluog nerth; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
   

Fifth Sunday after Epiphany

Yr Epistol. Col. iii. 12.

Yr Efengyl. St. Matth. xiii. 24.
 

Col. 3:12-17

Matt. 13:24-30  

Y chweched Sul gwedi’r Ystwyll.
Y Colect.

O Dduw, bendigedig Fab yr hwn a ymddangosodd fel y dattodai weithredoedd diafol, ac y gwnai ni yn feibion i Dduw, ac yn etifeddion bywyd tragywyddol; Caniattâ i ni, ni a attolygwn i ti, gan fod gennym y gobaith hwn, ein puro ein hunain, megis y mae yntau yn bur; fel, pan yr ymddangoso eilwaith gyd â nerth a gogoniant mawr, y’n gwneler yn gyffelyb iddo ef yn ei dragywyddol a’i ogoneddus deyrnas; ym mha un, gyd â thi, O Dad, a chyd â thi, O Yspryd Glân, y mae efe yn byw ac yn teyrnasu, byth yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.
 

Sixth Sunday after Epiphany

Yr Epistol. 1 St. Ioan iii. l.

 Yr Efengyl. St. Matth. xxiv. 23.
 

1 John 3:1-8

Matt. 24:23-31  

Y Sul a elwir Septuagesima,
neu y trydydd Sul cyn y Garawys.
Y Colect.

O Arglwydd, ni a attolygwn i ti wrando yn ddarbodus weddïau dy bobl, fel y byddo i ni, y rhai a gospir yn gyfiawn am ein camweddau, yn drugarog gael ein hymwared gan dy ddaioni di; er gogoniant dy Enw, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr, yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thi a’r Yspryd Glân, byth yn un Duw heb drangc na gorphen. Amen.
 

Septuagesima

Yr Epistol. 1 Cor. ix 24.

Yr Efengyl. St. Matth. xx. 1.
 

1 Cor. 9:24-27

Matt. 20:1-16

Y Sul a elwir Sexagesima, neu’r
ail Sul cyn y Garawys.
Y Colect.

O Arglwydd Dduw, yi. hwn a weli nad ydym ni yn ymddiried mewn un weithred a wnelom; Caniattâ yn drugarog fod i ni, trwy dy nerth, gael ein hamddiffyn rhag pob gwrthwyneb; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Sexagesima

Yr Epistol. 2 Cor. xi. 19.

Yr Efengyl. St. Luc viii. 4.
 

1 Cor. 11:19-31

Luke 8:4-15

Y Sul a elwir Cwincwagesima, neu’r
Sul nesaf o flaen y Garawys.
Y Colect.

O Arglwydd, yr hwn a’n dysgaist, na thâl dim ein holl weithredoedd a wnelom, heb gariad perffaith; Anfon dy Yspryd Glân, a thywallt yn ein calonnau ragorol ddawn cariad perffaith, gwir rwymyn tangnefedd a holl rinweddau da, heb yr hwn pwy bynnag sydd yn byw, a gyfrifir yn farw ger dy fron di: Caniattâ hyn er mwyn dy un Mab Iesu Grist. Amen.
 

Quinquagesima

Yr Epistol. 1 Cor. xiii. 1.

Yr Efengyl. St. Luc xviii. 31.
 

1 Cor. 13:1-13

Luke 18:31-43

Y Dydd cyntaf o’r Garawys, yr hwn a elwir yngyffredin,
Dydd Merchur y Lludw.
Y Colect.

HOLL-gyfoethog a thragywyddol Dduw, yr hwn ni chasêi ddim a’r a wnaethost, ac a faddeui bechodau pawb y sydd edifeiriol; Crëa a gwna ynom newydd a drylliedig galonnau; fel y bo i ni, gan ddyledus ddolurio am ein pechodau, a chyfaddef ein trueni, gaffael gennyt ti, Dduw’r holl drugaredd, gwbl faddeuant a gollyngdod; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Y Colect hwn a ddarllenir bob dydd o’r Garawys, ar ol y Colect a osodir i’r diwrnod.
 

Ash Wednesday

Yn lle yr Epistol. Jöel ii. 12.

Yr Efengyl. St. Matth. vi. 16.
 

Joel 2:12-17

Matt. 6:16-21

Y Sul cyntaf yn y Garawys.
Y Colect.

O Arglwydd, yr hwn er ein mwyn a ymprydiaist ddeugain niwrnod a deugain nos; Dyro i ni ras i ymarfer â chyfryw ddirwest, fel, wedi gostwng ein cnawd i’r Yspryd, y gallom fyth ufuddhâu i’th dduwiol annogaethau mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd, i’th anrhydedd a’th ogoniant, yr hwn wyt yn byw ac yn teyrnasu gyd â’r Tad, a’r Yspryd Glân, yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.
 

First Sunday in Lent

Yr Epistol. 2 Cor. vi. 1.

Yr Efengyl. St. Matth. iv. l.
 

2 Cor. 6:1-10

Matt. 4:1-11

Yr ail Sul yn y Garawys.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn wyt yn gweled nad oes gennym o’n nerth ein hunain ddim meddiant i’n cymmorth ein hunain; Cadw di ni oddi fewn ac oddi allan, sef enaid a chorph; fel yr amddiffyner ni rhag pob gwrthwyneb a ddigwyddo i’r corph, a rhag pob drwg feddwl a wna niweid na chynnwrf i’r enaid; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Second Sunday in Lent

Yr Epistol. 1 Thess. iv. 1.

Yr Efengyl. St. Matth. xv. 21.
 

1 Thess. 4:1-8

Matt. 15:21-28

Y trydydd Sul yn y Garawys.
Y Colect.

NYNI a attolygwn i ti, Hollalluog Dduw, edrych o honot ar ddeisyfiadau diffuant dy ufudd weision, ac estyn deheulaw dy Fawredd i fod yn ymwared i ni yn erbyn ein holl elynion; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Third Sunday in Lent

Yr Epistol. Ephes. v. 1.

Yr Efengyl. St. Luc xi. 14.
 

Ephes. 5:1-14

Luke 11:14-28

Y pedwerydd Sul yn y Garawys.
Y Colect.

CANIATTA, ni a attolygwn i ti, Holl-alluog Dduw, fod i ni y rhai yn gyfiawn a haeddasom gael ein poeni am ein drwg weithredoedd, trwy ddiddanwch dy ras di allu yn drugarog gael esmwythâd; trwy ein Harglwydd a’n Iachawdwr Iesu Grist. Amen.
 

Fourth Sunday in Lent

Yr Epistol. Gal. iv. 21.

Yr Efengyl. St. Ioan vi. 1.
 

Gal. 4:21-31

John 6:1-14

Y pummed Sul yn y Garawys.
Y Colect.

NI a attolygwn i ti, Hollalluog Dduw, edrych o honot yn drugarog ar dy bobl; fel y bo iddynt, trwy dy fawr ddaioni, gael byth eu llywodraethu a’u cadw mewn enaid a chorph; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Fifth Sunday in Lent

Yr Epistol. Heb. ix. 11.

Yr Efengyl. St. Ioan viii. 46.
 

Heb. 9:11-15

John 8:46-59

Y Sul nesaf o flaen y Pasg.
Y Colect.

HOLL-gyfoethog a thragywyddol Dduw, yr hwn o’th garedigol serch ar ddyn, a ddanfonaist dy Fab ein Hiachawdwr Iesu Grist, i gymmeryd arno ein cnawd, ac i ddïoddef angau ar y groes, fel y gallai pob rhyw ddyn ddilyn esampl ei fawr ostyngeiddrwydd ef; Caniattâ o’th drugaredd fod i ni ganlyn esampl ei ddïoddefgarwch, a bod hefyd yn gyfrannogion o’i adgyfodiad; trwy yr unrhyw Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Sunday next before Easter
[Palm Sunday]

Yr Epistol. Phil. ii. 5.

Yr Efengyl. St. Matth. xxvii. 1.
 

Phil. 2:5-11

Matt. 27:1-54

Dydd Llun o flaen y Pasg.

Yn lle yr Epistol. Esay lxiii. 1.

Yr Efengyl. St. Marc xiv. 1.
 

Monday before Easter

Isaiah 63:1-19

Mark 14:1-72

Dydd Mawrth o flaen y Pasg.

Yn lle yr Epistol. Esay 1. 5.

Yr Efengyl. St. Marc xv. 1.
 

Tuesday before Easter

Isaiah 1:5-11

Mark 15:1-39

Dydd Merchur o flaen y Pasg.

Yr Epistol. Heb. ix. 16.

Yr Efengyl. St. Luc xxii. 1.
 

Wednesday before Easter

Heb. 9:16-28

Luke 22:1-71

Dydd Iou o flaen y Pasg.

Yr Epistol. 1 Cor. xi. 17.

Yr Efengyl. St. Luc xxiii. 1.
 

Thursday before Easter
[Maundy Thursday]

1 Cor. 11:17-34

Luke 23:1-49

Dydd Gwener y Croglith.
Y Colectau.

HOLL-alluog Dduw, nyni a attolygwn i ti edrych o honot yn rasusol ar dy deulu yma, dros yr hwn y bu foddlon gan ein Harglwydd Iesu Grist gael ei fradychu, a’i roddi yn nwylaw dynion anwir, a dïoddef angau ar y groes, yr hwn sydd yn awr yn byw ac yn teyrnasu gyd â thydi â’r Yspryd Glân, byth yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.

HOLL-alluog a thragywyddol Dduw, trwy Yspryd pa un y llywodraethir ac y sancteiddir holl gorph yr Eglwys; Derbyn ein herfynion a’n gweddïau, y rhai yr ydym ni yn eu hoffrwm ger dy fron dros bob gradd o ddynion yn dy sanctaidd Eglwys; fel y gallo pob aelod o honi, yn ei alwedigaeth a’i wasanaeth, yn gywir ac yn dduwiol dy wasanaethu di; trwy ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist. Amen.

O Drugarog Dduw, yr hwn a wnaethost bob dyn, ac ni chasêi ddim a’r a wnaethost, ac ni fynnit farwolaeth pechadur, ond yn hytrach ymchwelyd o hono, a byw: Trugarhâ wrth yr holl Iuddewon, Tyrciaid, Anffyddlonion, a Hereticiaid, a chymmer oddi wrthynt bob anwybodaeth, caledwch calon, a dirmyg ar dy air; ac felly dwg hwynt adref, wŷnfydedig Arglwydd, at dy braidd, fei y bônt gadwedig ym mhlith gweddillion y gwir Israeliaid, a bod yn un gorlan dan yr un bugail Iesu Grist ein Harglwydd, yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thydi a’r Yspryd Glân, byth yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.
 

Good Friday

Yr Epistol. Heb. x. 1.

Yr Efengyl. St. Ioan xix. l.
 

Heb. 10:1-25

John 19:1-37

Nos Basg.
Y Colect.

CANIATTA, O Arglwydd, megis y’n bedyddir i farwolaeth dy fendigedig Fab ein Hiachawdwr Iesu Grist; fod i ni felly, trwy farwolaethu yn wastad ein gwỳniau llygredig, gael ein claddu gyd âg ef; a thrwy’r bedd a phorth angau, fyned ym mlaen i’n hadgyfodiad llawen, trwy ei haeddedigaethau ef, yr hwn a fu farw, ac a gladdwyd, ac a ail-gyfododd er ein mwyn; sef, dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Easter Even

Yr Epistol. 1 St. Petr iii. 17.

Yr Efengyl. St. Matth. xxvii. 57.
 

1 Peter 3:17-22

Matt. 27:57-66

DYDD PASG.

¶ Ar Foreol Weddi, yn lle’r Psalm, Deuwch, canwn i’r Arglwydd, &c. y cenir, neu y dywedir, yr Anthemau hyn.

CRIST ein Pasg ni a aberthwyd drosom ni: am hynny cadwn wyl;
      Nid â hên lefain, nac â lefain malais a drygioni: ond â bara croyw purdeb a gwirionedd.   1 Cor. v. 7.

CRIST, wedi cyfodi oddi wrth y meirw, ni bydd marw mwyach : nid arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach.
     Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw unwaith i bechod : ac fel y mae yn byw, byw y mae i Dduw.
     Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod : eithr yn fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Rhuf. vi. 9.

CRIST a gyfodwyd oddi wrth y meirw : ac a wnaed yn flaen-ffrwyth y rhai a hunasant.
     Canys gan fod marwolaeth trwy ddyn: trwy ddyn hefyd y mae adgyfodiad y meirw.
     Oblegid, megis yn Adda y mae pawb yn meirw : felly hefyd yng Nghrist y bywhêir pawb.   1 Cor. xv. 20.
     Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd Glân;
     Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad : yn oes oesoedd. Amen.

Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn, trwy dy unig-anedig Fab Iesu Grist, a orchfygaist angau, ac a agoraist i ni borth y bywyd tragywyddol; Yn ufudd yr attolygwn i ti, megis (trwy dy ras hyspysol yn ein rhag-flaenu) yr wyt yn peri deisyfiadau da i’n meddyliau; felly, trwy dy ddyfal gymmorth, allu o honom eu dwyn i berffeithrwydd cyflawn, trwy Iesu Grist ein Harglwydd; yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thydi a’r Yspryd Glân, byth yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.
 

Easter Day

Yr Epistol. Col. iii. 1.

Yr Efengyl. St. Ioan xx. i.
 

Col. 3:1-7

John 20:1-10

Dydd Llun Pasg.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn, trwy dy unig-anedig Fab Iesu Grist, a orchfygaist angau, ac a agoraist i ni borth y bywyd tragywyddol; Yn ufudd yr attolygwn i ti, megis (trwy dy ras hyspysol yn ein rhag-flaenu) yr wyt yn peri deisyfiadau da i’n meddyliau; felly, trwy dy ddyfal gymmorth, allu o honom eu dwyn i berffeithrwydd cyflawn, trwy Iesu Grist ein Harglwydd; yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thydi a’r Yspryd Glân, byth yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.
 

 Monday in Easter Week

Yn lle yr Epistol. Act. x. 34.

Yr Efengyl. St. Luc xxiv. 13.
 

Acts 10:34-43

Luke 24:13-35

Dydd Mawrth Pasg.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn, trwy dy unig-anedig Fab Iesu Grist, a orchfygaist angau, ac a agoraist i ni borth y bywyd tragywyddol; Yn ufudd yr attolygwn i ti, megis (trwy dy ras hyspysol yn ein rhag-flaenu) yr wyt yn peri deisyfiadau da i’n meddyliau; felly, trwy dy ddyfal gymmorth, allu o honom eu dwyn i berffeithrwydd cyflawn, trwy Iesu Grist ein Harglwydd; yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thydi a’r Yspryd Glân, byth yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.
 

 Tuesday in Easter Week

Yn lle yr Epistol. Act. xiii. 26.

Yr Efengyl. St. Luc xxiv. 36.
 

Acts 13:26-41

Luke 24:36-48

Y Sul cyntaf gwedi’r Pasg.
Y Colect.

HOLL-alluog Dad, yr hwn a roddaist dy un Mab i farw dros ein pechodau, ac i gyfodi drachefn er ein cyfiawnhâd; Caniattâ i ni felly fwrw ymaith surdoes drygioni ac anwiredd, fel y gallom yn wastad dy wasanaethu di mewn purdeb buchedd a gwirionedd; trwy haeddedigaethau dy un Mab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

 First Sunday after Easter

Yr Epistol. 1 St. Ioan v. 4.

Yr Efengyl. St. Ioan xx. 19.
 

1 John 5:4-12

John 20:19-23

Yr ail Sul gwedi’r Pasg.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn a roddaist dy un Mab i ni yn aberth dros bechod, ac hefyd yn esampl o fuchedd dduwiol; Dyro i ni ras, fel y gallom byth yn ddïolchgar dderbyn ei annhraethol lesâd hynny; ac hefyd beunydd ymrôi i ganlyn bendigedig lwybrau ei wir lanaf fuchedd ef; trwy yr un Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Second Sunday after Easter

Yr Epistol. 1 St. Petr ii. 19.

Yr Efengyl. St. Ioan x. 11.
 

1 Peter 2:19-25

John 10:11-16

Y trydydd Sul gwedi’r Pasg.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn wyt yn dangos i’r sawl sydd ar gyfeiliorn, lewyrch dy wirionedd, er eu dwyn i ffordd cyfiawnder; Caniattà i bawb a dderbynier i gymdeithas Crefydd Grist, allu o honynt ochelyd y cyfryw bethau a’r y sydd wrthwyneb i’w proffes, a chanlyn y sawl bethau oll a’r a fyddo yn cyttuno â’r unrhyw; trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Amen.
 

Third Sunday after Easter

Yr Epistol. l St. Petr ii. 11.

Yr Efengyl. St. Ioan xvi. 16.
 

1 Peter 2:11-17

John 26:16-22

Y pedwerydd Sul gwedi’r Pasg.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn yn unig bïau llywodraethu afreolus chwantau a gwŷniau dynion pechadurus; Caniattâ i’th bobl, fod iddynt garu yr hyn yr wyt yn ei orchymyn, a deisyfu yr hyn yr wyt yn ei addaw; fel, ym mhlith amrywiol ac aml ddamweiniau ’r byd, y gallo’n calonnau gwbl aros yno lle y mae gwîr lawenydd i’w gaffael; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Fourth Sunday after Easter

Yr Epistol. St. Iago i. 17.

Yr Efengyl. St. Ioan xvi. 5.
 

James 1:17-21

John 16:5-14

Y pummed Sul gwedi’r Pasg.
Y Colect.

O Arglwydd, oddi wrth ba un y daw pob daioni; Caniattâ i ni, dy ufudd weision, allu o honom, trwy dy sanctaidd ysprydoliaeth di, feddwl y pethau a fo union; a thrwy dy drugarog dywysiad gyflawni yr unrhyw; trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Amen.
 

Fifth Sunday after Easter

Yr Epistol. St. Iago i. 22.

Yr Efengyl. St. Ioan xvi. 23.
 

James 1:22-27

John 16:23-33

Dydd Iou y Dyrchafael.
Y Colect.

CANIATTA, ni a attolygwn i ti, Holl-alluog Dduw, megis ag yr ỳm ni yn credu ddarfod i’th unig-anedig Fab ein Harglwydd Iesu Grist ddyrchafael i’r nefoedd; felly bod i ninnau â meddylfryd ein calon ymddyrchafael yno, a thrigo yn wastadol gyd âg ef; yr hwn sy’n byw ac yn teyrnasu gyd â thi a’r Yspryd Glân, yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.
 

Ascension Day

Yn lle yr Epistol. Act. i. l.

Yr Efengyl. St. Marc xvi. 14.
 

Acts 1:1-11

Mark 16:14-20

Y Sul ar ol Dydd y Dyrchafael.
Y Colect.

O Dduw, Brenhin y gogoniant, yr hwn a ddyrchefaist dy un Mab Iesu Grist â mawr oruchafiaeth i’th deyrnas yn y nefoedd; Attolwg i ti, na âd ni yn anniddan; eithr danfon i ni dy Yspryd Glân i’n diddanu, a dyrcha ni i’r un fan lle yr aeth ein Hiachawdwr Crist o’r blaen; yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thi a’r Yspryd Glân, yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.
 

Sunday after Ascension

Yr Epistol. 1 St. Petr iv. 7.

Yr Efengyl. St. Ioan xv. 26. a rhan o’r xvi. Bennod.
 

1 Peter 4:7-11

John 15:26-16:4

Y SULGWYN.
Y Colect.

DUW, yr hwn ar gyfenw i’r amser yma a ddysgaist galonnau dy ffyddlonion, gan anfon iddynt lewyrch dy Lân Yspryd; Caniattâ i nyni trwy yr unrhyw Yspryd feddiannu barn gywir ym mhob peth, a byth lawenychu yn ei wỳnfydedig ddiddanwch ef, trwy ryglyddau Iesu Grist ein Hiachawdwr; yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thi, yn undeb yr unrhyw Yspryd, yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.
 

Whitsunday
(Pentecost)

Yn lle yr Epistol. Act. ii. 1.

Yr Efengyl. St. Ioan xiv. 15.
 

Acts 2:1-11

John 14:15-31

Dydd Llun Sulgwyn.
Y Colect.

DUW, yr hwn ar gyfenw i’r amser yma a ddysgaist galonnau dy ffyddlonion, gan anfon iddynt lewyrch dy Lân Yspryd; Caniattâ i nyni trwy yr unrhyw Yspryd feddiannu barn gywir ym mhob peth, a byth lawenychu yn ei wỳnfydedig ddiddanwch ef, trwy ryglyddau Iesu Grist ein Hiachawdwr; yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thi, yn undeb yr unrhyw Yspryd, yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.
 

Monday in Whitsun-Week

Yn lle yr Epistol. Act. x. 34.

Yr Efengyl. St. Ioan iii. 16.
 

Acts 10:34-48

John 3:16-21

Dydd Mawrth Sulgwyn.
Y Colect.

DUW, yr hwn ar gyfenw i’r amser yma a ddysgaist galonnau dy ffyddlonion, gan anfon iddynt lewyrch dy Lân Yspryd; Caniattâ i nyni trwy yr unrhyw Yspryd feddiannu barn gywir ym mhob peth, a byth lawenychu yn ei wỳnfydedig ddiddanwch ef, trwy ryglyddau Iesu Grist ein Hiachawdwr; yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thi, yn undeb yr unrhyw Yspryd, yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.
 

Tuesday in Whitsun-Week

Yn lle yr Epistol. Act. viii. 14.

Yr Efengyl. St. Ioan x 1.
 

Acts 8:14-17

John 10:1-10

SUL Y DRINDOD.
Y Colect.

HOLL-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn a roddaist i ni dy weision ras, gan gyffesu ac addef y wir ffydd, i adnabod gogoniant y dragywyddol Drindod, ac yn nerth y Dwyfol Fawredd i addoli’r Undod; Nyni a attolygwn i ti ein cadw yn ddïysgog yn y ffydd hon, ac byth ein hamddiffyn oddi wrth bob gwrthwyneb, yr hwn wyt yn byw ac yn teyrnasu yn un Duw, byth heb ddiwedd. Amen.
 

Trinity Sunday

Yn lle yr Epistol. Dat. iv. 1.

Yr Efengyl. St. Ioan iii. 1.
 

Rev. 4:1-11

John 3:1-15

Y Sul cyntaf gwedi’r Drindod.
Y Colect.

O Dduw, yr hwn wyt nerth pawb oll a’r y sy’n ymddiried ynot; Yn drugarog derbyn ein gweddïau; a chan na allwn o ran gwendid ein marwol anian wneuthur dim da hebot ti, caniattâ i ni gymmorth dy ras; fel y bo i ni, gan gadw dy orchymynion, ryngu bodd i ti ar ewyllys a gweithred; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

First Sunday after Trinity

Yr Epistol. 1 St. Ioan iv. 7.

Yr Efengyl. St. Luc xvi. 19.
 

1 John 4:7-21

Luke 16:19-31  

Yr ail Sul gwedi’r Drindod.
Y Colect.

O Arglwydd, yr hwn ni phelli byth gynnorthwyo a llywodraethu y rhai yr ydwyt yn eu meithrin yn dy ddilys ofn a’th gariad; Cadw ni, nyni a attolygwn i ti, dan dy ddarbodus nodded, a phar i ni yn ddibaid ofni a charu dy Enw bendigedig; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Second Sunday after Trinity

Yr Epistol. 1 St. Ioan iii. 13.

Yr Efengyl. St. Luc xiv. 16.
 

1 John 3:13-24

Luke 14:16-24

Y trydydd Sul gwedi’r Drindod.
Y Colect.

O Arglwydd, ni a attolygwn i ti yn drugarog ein gwrando; a megis y rhoddaist i ni feddylfryd calon i weddïo, caniattâ, trwy dy fawr nerth, i ni gael ein hamddiffyn a’n diddanu ym mhob perygl ac adfyd; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Third Sunday after Trinity

Yr Epistol. 1 St. Petr v. 5.

Yr Efengyl. St. Luc xv. 1.
 

1 Peter 5:5-11

Luke 15:1-10

Y pedwerydd Sul gwedi’r Drindod.
Y Colect.

O Dduw, noddwr pawb oll y sydd yn ymddiried ynot, heb ba un nid oes dim nerthog, na dim sanctaidd; Ychwanega ac amlhâ arnom dy drugaredd, fel y gallom (a thi yn Llywiawdwr ac yn Dywysog i ni) dreiddio trwy bethau tymhorol, modd na chollom yn y diwedd y pethau tragywyddol. Caniattâ hyn, nefol Dad, er mwyn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Fourth Sunday after Trinity

Yr Epistol. Rhuf. viii. 18.

Yr Efengyl. St. Luc vi. 36.
 

Rom. 8:18-33

Luke 6:36-42

Y pummed Sul gwedi’r Drindod.
Y Colect.

CANIATTA, Arglwydd, ni a attolygwn i ti, fod i chwŷl y byd hwn, trwy dy reolaeth di, gael ei drefnu mor dangnefeddol, fel y gallo dy Eglwys di dy wasanaethu yn llawen ym mhob duwiol heddwch; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Fifth Sunday after Trinity

Yr Epistol. 1 St. Petr iii. 8.

Yr Efengyl. St. Luc v. l.
 

1 Peter 3:8-15

Luke 5:1-11

Y chweched Sul gwedi’r Drindod.
Y Colect.

O Dduw, yr hwn a arlwyaist i’r rhai a’th garant gyfryw bethau daionus a’r y sydd uwch ben pob deall dyn; Tywallt i’n calonnau gyfryw serch arnat, fel y byddo i ni, gan dy garu uwch law pob dim, allu mwynhâu dy addewidion, y rhai sy fwy rhagorol nâ dim a fedrom ni ei ddeisyf; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Sixth Sunday after Trinity

Yr Epistol. Rhuf. vi. 3.

Yr Efengyl. St. Matth. v. 20.
 

Rom. 6:3-11

Matt. 5:20-26

Y seithfed Sul gwedi’r Drindod.
Y Colect.

ARGLWYDD yr holl nerth a’r cadernid, yr hwn wyt awdwr a rhoddwr pob daioni; Planna yn ein calonnau gariad dy Enw; ychwanega ynom wir grefydd; maetha nyni â phob daioni, ac o’th fawr drugaredd cadw ni yn yr unrhyw; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Seventh Sunday after Trinity

Yr Epistol. Rhuf. vi. 19.

Yr Efengyl. St. Marc viii. l.
 

Rom. 6:19-23

Mark 8:1-9

Yr wythfed Sul gwedi’r Drindod.
Y Colect.

O Dduw, yr hwn trwy dy ddiball ragluniaeth wyt yn llywodraethu pob peth yn y nef a’r ddaear; Yn ufudd ni a attolygwn i ti fwrw oddi wrthym bob peth niweidiol, a rhoddi o honot i ni bob peth a fyddo da er ein lles; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Eighth Sunday after Trinity

Yr Epistol. Rhuf. viii. 12.

Yr Efengyl. St. Matth. vii. 15.
 

Rom. 8:12-17

Matt. 7:15-21

Y nawfed Sul gwedi’r Drindod.
Y Colect.

CANIATTA i ni, Arglwydd, attolwg i ti, yr Yspryd i feddwl ac i wneuthur byth y cyfryw bethau ag a fo cyfiawn; fel y byddo i ni, y rhai ni allwn hebot wneuthur dim sy dda, allu trwot ti fyw yn ol dy ewyllys; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Ninth Sunday after Trinity

Yr Epistol. 1 Cor. x. 1.

Yr Efengyl. St. Luc xvi. 1.
 

1 Cor. 10:1-13

Luke 16:1-9

Y degfed Sul gwedi’r Drindod.
Y Colect.

BYDDED dy drugarogion glustiau, O Arglwydd, yn agored i weddïau dy ufudd weision; ac fel y bo iddynt gael eu gofynion, gwna iddynt erchi y cyfryw bethau ag a ryngo bodd i ti; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Tenth Sunday after Trinity

Yr Epistol. l Cor. xii. l.

Yr Efengyl. St. Luc xix. 41.
 

1 Cor. 12:1-11

Luke 19:41-47

Yr unfed Sul ar ddeg gwedi’r Drindod.
Y Colect.

O Dduw, yr hwn wyt yn egluro dy Holl-alluog nerth yn bennaf trwy ddangos trugaredd a thosturi; Yn drugarog dyro i ni y cyfryw fesur o’th ras, fel y bo i ni, gan redeg ar hŷd ffordd dy orchymynion, gyrhaeddyd dy rasol addewidion, a chael ein gwneuthur yn gyfrannogion o’th nefol drysor; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Eleventh Sunday after Trinity

Yr Epistol. 1 Cor. xv. 1.

Yr Efengyl. St. Luc xviii. 9.
 

1 Cor. 15:1-11

Luke 18:9-14

Y deuddegfed Sul gwedi’r Drindod.
Y Colect.

HOLL-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn yn wastad wyt barottach i wrando, nâ nyni i weddïo, ac wyt arferol o roddi mwy nag a archom, neu a ryglyddom; Tywallt arnom amlder dy drugaredd; gan faddeu i ni y cyfryw bethau ag y mae ein cydwybod yn eu hofni, a rhoddi i ni y cyfryw ddaionus bethau nad ŷm deilwng i’w gofyn, ond trwy ryglyddon a chyfryngiad Iesu Grist dy Fab di, a’n Harglwydd ni. Amen.
 

Twelfth Sunday after Trinity

Yr Epistol. 2 Cor. iii. 4.

Yr Efengyl. St. Marc vii. 31.
 

2 Cor. 3:4-9

Mark 7:31-37

Y trydydd Sul ar ddeg gwedi’r Drindod.
Y Colect
.

HOLL-alluog a thrugarog Dduw, o rodd pa un yn unig y daw, bod i’th bobl ffyddlon dy wasanaethu yn gywir ac yn ganmoladwy; Caniattâ, ni a erfyniwn i ti, allu o honom felly dy wasanaethu di yn y bywyd hwn, fel na phallo gennym yn y diwedd fwynhâu dy nefol addewidion; trwy haeddedigaethau Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Thirteenth Sunday after Trinity

Yr Epistol. Gal. iii. 16.

Yr Efengyl. St. Luc x. 23.
 

Gal. 3:16-22

Luke 10:23-37

Y pedwerydd Sul ar ddeg gwedi’r Drindod.
Y Colect.

HOLL-alluog a thragywyddol Dduw, dyro i ni anghwaneg o ffydd, gobaith, a chariad perffaith; ac fel y caffom yr hyn yr wyt yn ei addaw, gwna i ni garu yr hyn yr wyt yn ei orchymyn; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Fourteenth Sunday after Trinity

Yr Epistol. Gal. v. 16.

Yr Efengyl. St. Luc xvii. 11. 
 

Gal. 5:16-24

Luke 17:11-19

Y pymthegfed Sul gwedi’r Drindod.
Y Colect.

CADW, ni a attolygwn i ti, Arglwydd, dy Eglwys â’th dragywyddol drugaredd: a chan na ddichon gwendid dyn hebot ti ond syrthio, cadw ni byth trwy dy gymmorth oddi wrth bob peth niweidiol, ac arwain ni at bob peth buddiol i’n hiachawdwriaeth; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Fifteenth Sunday after Trinity

Yr Epistol. Gal. vi. 11.

Yr Efengyl. St. Matth. vi. 24.
 

Gal. 6:11-18

Matt. 6:24-34

Yr unfed Sul ar bymtheg gwedi’r Drindod.
Y Colect.

O Arglwydd, ni a attolygwn i ti, fod i’th wastadol dosturi lanhâu ac amddiffyn dy Eglwys; a chan na all hi barhâu mewn dïogelwch heb dy nodded di, cadw hi byth trwy dy gymmorth a’th ddaioni; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Sixteenth Sunday after Trinity

Yr Epistol. Ephes. iii. 13.

Yr Efengyl. St. Luc vii. 11.
 

Ephes. 3:13-21

Luke 7:11-17

Yr eilfed Sul ar bymtheg gwedi’r Drindod.
Y Colect.

ARGLWYDD, ni a attolygwn i ti, fod dy ras bob amser yn ein rhagflaenu, ac yn ein dilyn; a pheri o honot i ni yn wastad ymroddi i bob gweithred dda; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Seventeenth Sunday after Trinity

Yr Epistol. Ephes. iv. 1.

Yr Efengyl. St. Luc xiv. 1.
 

Ephes. 4:1-6

Luke 14:1-11

Y deunawfed Sul gwedi’r Drindod.
Y Colect.

O Arglwydd, ni a attolygwn i ti, ganiattâu i’th bobl ras i wrthladd profedigaethau ’r byd, y cnawd, a’r cythraul; ac â phur galon a meddwl i’th ddilyn di yr unig Dduw; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Eighteenth Sunaday after Trinity

Yr Epistol. 1 Cor. i. 4.

Yr Efengyl. St. Matth. xxii. 34.
 

1 Cor. 1:4-8

Matt. 22:34-46

Y pedwerydd Sul ar bymtheg gwedi’r Drindod.
Y Colect.

O Dduw, gan na allwn ni hebot ti ryngu bodd i ti; O’th drugaredd caniattâ, fod i’th Lân Yspryd ym mhob peth gyfarwyddo a llywio ein calonnau; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Nineteenth Sunday after Trinity

Yr Epistol. Ephes. iv. 17.

Yr Efengyl. St. Matth. ix. i.
 

Ephes. 4:17-32

Matt. 9:1-8

Yr ugeinfed Sul gwedi’r Drindod.
Y Colect.

HOLL-gyfoethog a thrugaroccaf Dduw, o’th ragorol ddaioni cadw ni, ni a attolygwn i ti, rhag pob peth a’n dryga; fel y byddom yn barod, yn enaid a chorph, i allu â chalonnau ewyllysgar gyflawni y cyfryw bethau ag a fynnit ti eu gwneuthur; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Twentieth Sunday after Trinity

Yr Epistol. Ephes. v. 15.

Yr Efengyl. St. Matth. xxii. 1.
 

Ephes. 5:15-21

Matt. 22:1-14

Yr unfed Sul ar hugain gwedi’r Drindod.
Y Colect.

O Drugarog Arglwydd, ni a attolygwn i ti ganiattâu i’th ffyddlon bobl faddeuant a thangnefedd; fel y glanhâer hwynt oddi wrth eu holl bechodau, ac y gwasanaethont ti â meddwl heddychol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Twenty-first Sunday after Trinity

Yr Epistol. Ephes. vi. 10.

Yr Efengyl. St. Ioan iv. 46.
 

Ephes. 6:10-20

John 4:46-54

Yr eilfed Sul ar hugain gwedi’r Drindod.
Y Colect.

ARGLWYDD, ni a attolygwn i ti gadw dy deulu yr Eglwys mewn duwiolder gwastadol; fel y bo, trwy dy nodded di, iddi gael ei gwaredu oddi wrth bob gwrthwyneb, ac yn ddefosiynol ymrôi i’th wasanaethu dì mewn gweithredoedd da, er gogoniant i’th Enw; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Twenty-second Sunday after Trinity

Yr Epistol. Phil. i. 3.

Yr Efengyl. St. Matth. xviii. 21.
 

Phil. 1:3-11

Matt. 18:21-35

Y trydydd Sul ar hugain gwedi ’r Drindod.
Y Colect.

O Dduw, ein nodded a’n cadernid, yr hwn wyt awdwr pob duwiolder; Gwrando yn ebrwydd, ni a attolygwn i ti, ddefosiynol weddïau dy Eglwys; a chaniattâ i ni am yr hyn yr ŷm yn eu herchi yn ffyddlon, allu o honom eu cael yn gyflawn; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Twenty-third Sunday after Trinity

Yr Epistol. Phil. iii. 17.

Yr Efengyl. St. Matth. xxii. 15.
 

Phil. 3:17-21

Matt. 22:15-22

Y pedwerydd Sul ar hugain gwedi’r Drindod.
Y Colect.

O Arglwydd, ni a attolygwn i ti ollwng dy bobl oddi wrth eu camweddau; fel trwy dy ddawnus drugaredd y byddom ryddion oll oddi wrth rwymau’r pechodau hynny y rhai trwy ein cnawdol freuolder a wnaethom. Caniattâ hyn, O nefol Dad, er cariad ar Iesu Grist ein Harglwydd bendigedig a’n Hiachawdwr. Amen.
 

Twenty-fourth Sunday after Trinity

Yr Epistol. Col. i. 3.

Yr Efengyl. St. Matth. ix. 18. 
 

Col. 1:3-12

Matt. 9:18-26

Y pummed Sul ar hugain gwedi’r Drindod.
Y Colect.

DEFFRO, Arglwydd, ni a attolygwn i ti, ewyllysion dy ffyddloniaid; fel, trwy ddwyn aml ffrwyth gweithredoedd da, y caffont gennyt ti yn ehelaeth eu gobrwyo; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Twenty-fifth Sunday after Trinity

Yn lle yr Epistol. Jer. xxiii. 5.

Yr Efengyl. St. Ioan vi. 5.

¶ O bydd ychwaneg o Suliau o flaen Sul yr Adfent, cymmerer Gwasanaeth rhai o’r Suliau a adawyd heb ddarllen ar ol yr Ystwyll, i gyflawni cynnifer ag y sydd yn niffyg yma. Ac os bydd llai, gadawer y rhai a fo dros ben: eithr arferer y Colect, yr Epistol, a’r Efengyl ddiweddaf yma, bob amser ar y Sul nesaf o flaen yr Adfent.
 

Jere. 23:5-8

John 6:5-14

Dydd Sant Andreas Apostol.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn a roddaist gyfryw ras i’th fendigedig Apostol Sant Andreas, fel yr ufuddhaodd efe yn ebrwydd i alwad dy Fab Iesu Grist, ac a’i dilynodd ef yn ddïoed; Caniattâ i ni oll, wedi ein galw gan dy Air bendigedig, yn ebrwydd ymroddi o honom i gyflawni yn ufudd dy sanctaidd orchymynion; trwy yr unrhyw Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

St. Andrew the Apostle

Yr Epistol. Rhuf. x. 9.

Yr Efengyl. St. Matth. iv. 18.
 

Rom. 10:9-21

Matt. 4:18-22

Dydd Sant Thomas Apostol.
Y Colect.

HOLL-alluog a byth-fywiol Dduw, yr hwn, er mwy o gadarnhâd y Ffydd, a oddefaist i’th sanctaidd Apostol Thoinas ammeu adgyfodiad dy Fab; Caniattâ i ni mor berffaith a chwbl ddïammeu gredu yn dy Fab Iesu Grist, fel na cherydder ein ffydd un amser yn dy olwg. Gwrando arnom, O Arglwydd, trwy yr unrhyw Iesu Grist; i ba un, gyd â thi a’r Yspryd Glân, y bo’r holl anrhydedd a’r gogoniant, yr awr hon ac yn oes oesoedd. Amen.
 

 Saint Thomas, Apostle

Yr Epistol. Ephes. ii. 19.

Yr Efengyl. St. Ioan xx. 24.
 

Ephes. 2:19-22

John 20:24-31

Troad Sant Paul.
Y Colect.

O Dduw, yr hwn, trwy bregethiad y gwỳnfydedig Apostol Sant Paul, a beraist i oleuni’r Efengyl lewyrchu dros yr holl fyd; Caniattâ, ni a attolygwn i ti, allu o honom ni, gan ddal ei ryfedd dröedigaeth ef mewn coffa, ddangos ein dïolchgarwch i ti am yr unrhyw, trwy ddilyn dy fendigedig athrawiaeth yr hon a ddysgodd efe; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

 Conversion of St. Paul

Yn lle yr Epistol. Act. ix. 1.

Yr Efengyl. St. Matth. xix. 27.
 

Acts 9:1-22

Matt. 19-27-30

Cyflwyniad Crist yn y Deml; yr hwn a elwir yn gyffredinol, Puredigaeth y Fendigedig Fair Forwyn.
Y Colect.

HOLL-alluog a byth-fywiol Dduw, ni a attolygwn yn ufuddol i’th Fawredd, megis ag ar gyfenw i heddyw y cyflwynwyd yn y deml dy unig-anedig Fab yn sylwedd ein cnawd ni; felly ganiattâu o honot ein cyflwyno i ti â chalonnau purlan, trwy yr unrhyw dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

 Presentation of Christ in the Temple

Yn lle yr Epistol. Mal. iii. 1.

Yr Efengyl. St. Luc ii. 22.
 

Mal. 3:1-5

Luke 2:22-40

Dydd Sant Matthias Apostol.
Y Colect.

HOLL alluog Dduw, yr hwn yn lle Judas fradwr a ddetholaist dy ffyddlon was Matthïas i fod o nifer y deuddeg Apostol; Caniattâ i’th Eglwys, gan fod bob amser yn gadwedig oddi wrth apostolion gau, gael ei threfnu a’i llywodraethu gan ffyddlon a chywir Fugeiliaid; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

 St. Matthias, Apostle

Yn lle yr Epistol. Act. i. 15.

Yr Efengyl. St. Matth. xi. 25.
 

Acts 1:15-26

Matt. 11:25-30

Cyfarchiad Mair Wŷryf fendigedig.
Y Colect.

NI a attolygwn i ti, O Arglwydd, dywallt dy ras yn ein calonnau: fel, megis y gwyddom gnawdoliaeth Iesu Grist dy Fab trwy gennadwri angel; felly, trwy ei grog a’i ddïoddefaint, bod i ni gael ein dwyn i ogoniant ei adgyfodiad ef; trwy yr unrhyw Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Annunciation of the blessed Virgin Mary

Yn lle yr Epistol. Esay vii. 10.

Yr Efengyl. St. Luc i. 26.
 

Isaiah 7:10-15

Luke 1:26-38

Dydd Sant Marc Efangylwr.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn a ddysgaist dy sanctaidd Eglwys â nefol athrawiaeth dy Efangylwr Sant Marc; Dyro i ni ras, fel na byddom megis plant yn ein cylch-arwain gan bob awel o wag ddysgeidiaeth; eithr ein bod wedi ein sicrhâu yngwirionedd dy lân Efengyl; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

St. Mark, Evangelist

Yr Epistol. Ephes. iv. 7.

Yr Efengyl. St. Ioan xv. l.
 

Ephes. 4:7-16

John 15:1-11

Dydd Sant Phylip a Sant Iago, Apostolion.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn o’i wir adnabod yw bywyd tragywyddol; Caniattâ i ni berffaith adnabod dy Fab Iesu Grist i fod yn ffordd, yn wirionedd, ac yn fywyd; fel, gan ddilyn llwybrau dy sancteiddiol Apostolion Sant Phylip a Sant Iago, y bo i ni rodio yn ddïysgog ar y ffordd y sy’n arwain i fywyd tragywyddol; trwy’r unrhyw dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

St. Philip & St. James, Apostles

Yr Epistol. St. Iago i. 1.

Yr Efengyl. St. Ioan xiv. l.
 

James 1:1-12

John 14:1-14

Dydd Sant Barnabas Apostol.
Y Colect.

O Arglwydd Dduw Holl-alluog, yr hwn a wisgaist dy sanctaidd Apostol Barnabas â rhagorol roddion dy Yspryd Glân; Na ad i ni, ni a attolygwn i ti, fod yn ddiffygiol o’th amryw ddoniau, nac etto o ras i’w harfer hwynt bob amser i’th anrhydedd di a’th ogoniant; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

St. Barnabas , Apostle

Yn lle yr Epistol. Act. xi. 22.

Yr Efengyl. St. Ioan xv. 12.
 

Acts 11:22-30

John 15:12-16

Dydd Sant Ioan Fedyddiwr.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, o ragluniaeth pa un y ganed yn rhyfedd dy was Ioan Fedyddiwr, ac yr anfonwyd ef i arlwyo ffordd dy Fab Iesu Grist ein Hiachawdwr, gan bregethu edifeirwch; Gwna i ni felly ddilyn ei ddysgeidiaeth a’i sanctaidd fywyd ef, fel y gwir edifarhaom yn ol ei bregeth ef; ac ar ol ei esampl y traethom y gwirionedd yn wastadol, y ceryddom gamwedd yn hyderus, ac y dïoddefom yn ufudd er mwyn y gwirionedd; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

St. John the Baptist

Yn lle yr Epistol. Esay xl. 1.

Yr Efengyl. St. Luc i. 57.
 

Isaiah 11:1-11

Luke 1:57-80

Dydd Sant Petr Apostol.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn trwy dy Fab Iesu Grist a roddaist i’th Apostol Sant Petr laweroedd o ddoniau arbennig, ac a orchymynaist iddo o ddifrif borthi dy braidd; Gwna, ni a attolygwn i ti, i’r holl Esgobion a’r Bugeiliaid yn ddyfal bregethu dy sanctaidd Air, ac i’r bobl yn ufuddgar ddilyn yr unrhyw; fel y derbyniont goron y gogoniant tragywyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

St. Peter, Apostle

Yn lle yr Epistol. Act. xii. 1.

Yr Efengyl. St. Matth. xvi. 13.
 

Acts 12:1-11

Matt. 16:13-19

Dydd Sant Iago Apostol.
Y Colect.

CANIATTA, O drugarog Dduw, megis y bu i’th wỳnfydedig Apostol Sant Iago, gan ymado â’i dad, ac â chwbl a’r oedd eiddo, yn ebrwydd ufuddhâu i alwad dy Fab Iesu Grist, a’i ddilyn ef; felly i ninnau, gan ymwrthod â holl chwantau y byd a’r cnawd, yn wastad fod yn barod i ddilyn dy orchymynion sanctaidd; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

St. James, Apostle

Yn lle yr Epistol. Act. xi. 27, a rhan o’r xii. Bennod.

Yr Efengyl. St. Matth. xx. 20.
 

Acts 11:27-12:3

Matt. 20:20-28

Dydd Sant Bartholomëus Apostol.
Y Colect.

HOLL-alluog a byth-barhâus Dduw, yr hwn a roddaist ras i’th Apostol Bartholomëus, i wir gredu, ac i bregethu dy Air; Nyni a attolygwn i ti ganiattâu i th Eglwys garu y Gair a gredodd efe, a phregethu a derbyn yn unrhyw; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

St. Bartholomew, Apostle

Yn lle yr Epistol. Act. v. 12.

Yr Efengyl. St. Luc xxii. 24.
 

Acts 5:12-16

Luke 22:24-30

Dydd Sant Matthew Efangylwr.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn drwy dy wỳnfydedig Fab a elwaist Matthew, o’r dollfa, i fod yn Apostol, ac yn Efangylwr; Caniattâ i ni ras i ymwrthod â holl gybyddus ddeisyfion, ac â thrachwantus serch golud bydol, ac i ddilyn yr unrhyw dy Fab Iesu Grist, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gyd â thi a’r Yspryd Glân, yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.
 

St. Matthew, Evangelist

Yr Epistol. 2 Cor. iv. l.

Yr Efengyl. St. Matth. ix. 9.
 

2 Cor. 4:1-6

Matt. 4:9-13

Dydd Sant Mihangel a’r holl Angylion.
Y Colect.

O Dragywyddol Dduw, yr hwn a ordeiniaist ac a osodaist wasanaethau angylion a dynion mewn trefn ryfedd; Caniattâ yn drugarog, megis y mae dy angylion sanctaidd yn wastad yn gwneuthur i ti wasanaeth yn y nefoedd; felly bod o honynt, trwy dy drefniad di, yn gymmorth ac yn amddiffyn i ni ar y ddaear; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

St. Michael & All Angels

Yn lle yr Epistol. Dat. xii. 7.

Yr Efengyl. St. Matth. xviii. 1.
 

Rev. 12:7-13

Matt. 18:1-10

Dydd Sant Luc Efangylwr.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn a elwaist Luc y physygwr, yr hwn y mae ei glod yn yr Efengyl, i fod yn Efangylwr, a Physygwr i’r enaid; Rhynged bodd i ti, trwy iachus feddyginiaeth ei ddysgeidiaeth ef, iachâu holl heintiau ein heneidiau; trwy haeddedigaethau dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

St. Luke, Evangelist

Yr Epistol. 2 Tim. iv. 5.

Yr Efengyl. St. Luc x. 1.
 

2 Tim. 4:5-15

Luke 10:1-7

Dydd Sant Simon a Sant Judas, Apostolion.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn a adeiledaist dy Eglwys ar sail yr Apostolion a’r Prophwydi, ac Iesu Grist ei hun yn ben congl-faen; Caniattâ i ni fod felly wedi ein cyssylltu ynghŷd yn undeb yspryd gan eu dysgeidiaeth hwy, fel y’n gwneler yn sanctaidd deml gymmeradwy gennyt; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

St. Simon & St. Jude, Apostles

Yr Epistol. St. Judas 1.

Yr Efengyl. St. Ioan xv. 17.
 

Jude 1-8

John 15:17-27

Gwyl yr Holl Saint.
Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn a gyssylltaist ynghŷd dy Etholedigion yn un cyfundeb a chymdeithas yn nirgeledig gorph dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd; Caniattâ i ni ras felly i ganlyn dy wỳnfydedig Saint ym mhob rhinweddol a duwiol fuchedd, fel y delom i’r annhraethol lawenydd hwnnw, a barottoaist i’r rhai a’th garant yn ddiffuant; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

All Saints' Day

Yn lle yr Epistol. Dat. vii. 2.

Yr Efengyl. St. Matth. v. 1.

Rev. 7:2-12

Matt. 5:1-12

Llyfr Gweddi Gyffredin

The Book of Common Prayer in Welsh

Web author: Charles Wohlers U. S. EnglandScotlandIrelandWalesCanadaWorld