The Book of Common Prayer
United States England Scotland Ireland Wales Canada World

   

Llyfr Gweddi Gyffredin
the Book of Common Prayer in Welsh


 

Y  LITANI.

¶ Yma y canlyn y Litani, neu Ymbiliau Cyffredinol, i’w canu, neu i’w dywedyd, ar ol y Foreol Weddi, ar y Suliau, y Merchurau, a’r Gwenerau, ac ar Amserau eraill, pan orchymyner gan yr Ordinari.

DUW Dad, o’r nef : trugarhâ wrthym wir bechaduriaid.
    Duw Dad, o’r nef: trugarhâ wrthym wir bechaduriaid.
   
Duw Fab, Brynwr y byd trugarhâ wrthym wir bechaduriaid.
    Duw Fab, Brynwr y byd trugarhâ wrthym wir bechaduriaid.
   
Duw Yspryd Glân, yn deilliaw oddi wrth y Tad a’r Mab : trugarhâ wrthym wir bechaduriaid.
    Duw Yspryd Glân, yn deilliaw oddi wrth y Tad a’r Mab : trugarhâ wrthym wir bechaduriaid.
   
Yr ogoned, lân, fendigaid Drindod, tri Pherson, ac un Duw : trugarhâ wrthym wir bechaduriaid.
    Yr ogoned, lân, fendigaid Drindod, tri Pherson, ac un Duw : trugarhâ wrthym wir bechaduriaid.
   
Na chofia, Arglwydd, ein hanwiredd, nac anwiredd ein rhïeni; ac na ddyro ddïal am ein pechodau : arbed nyni, Arglwydd daionus, arbed dy bobl a brynaist â’th werthfawroccaf waed, ac na lidia wrthym yn dragywydd.
    Arbed ni, Arglwydd daionus.
   
Oddi wrth bob drwg ac anffawd; oddi wrth bechod, oddi wrth ystryw ac ymgyrch y cythraul; oddi wrth dy lid, ac oddi wrth farnedigaeth dragywyddol,
    Gwared ni, Arylwydd daionus.
   
Oddi wrth bob dallineb calon; oddi wrth falchder, a gwag-ogoniant, a ffug sancteiddrwydd; oddi wrth gynfigen, digasedd, a bwriad drwg, a phob anghariadoldeb,
    Gwared ni, Arglwydd daionus.
   
Oddi wrth anniweirdeb, a phob pechod marwol arall; ac oddi wrth holl dwyll y byd, y cnawd, a’r cythraul,
    Gwared ni, Arylwydd daionus.
   
Oddi wrth fellt a thymmestl; oddi wrth bla, haint y nodau, a newyn; oddi wrth ryfel, a llofruddiaeth, ac oddi wrth angau disyfyd,
    Gwared ni, Arglwydd daionus.
   
Oddi wrth bob terfysg, dirgel frad, a gwrthryfel; oddi wrth bob gau ddysgeidiaeth, heresi, a sism; oddi wrth galedrwydd calon, a dirmyg ar dy Air a’th Orchymyn,
    Gwared ni, Arglwydd daionus.
   
Trwy ddirgelwch dy lân Gnawdoliaeth; trwy dy sanctaidd Enedigaeth, a’th Enwaediad; trwy dy Fedydd, dy Ympryd, a’th Brofedigaeth,
    Gwared ni, Arglwydd daionus.
   
Trwy dy ddirfawr Ing, a’th Chwŷs gwaedlyd; trwy dy Grog, a’th Ddïoddefaint; trwy dy werthfawr Angau, a’th Gladdedigaeth; trwy dy anrhydeddus Adgyfodiad, a’th Esgyniad; a thrwy ddyfodiad yr Yspryd Glân,
    Gwared ni, Arglwydd daionus.
   
Yn holl amser ein trallod, yn holl amser ein gwynfyd; yn awr angau, ac yn nydd y farn,
    Gwared ni, Arglwydd daionus.
   
Nyni bechaduriaid a attolygwn i ti ein gwrando, O Arglwydd Dduw; a theilyngu o honot gadw, rheoli, a llywodraethu dy lân Eglwys Gyffredinol yn y ffordd union;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot gadw a nerthu i th wir addoli, mewn iawnder a glendid buchedd, dy Wasanaethwr GEORGE, ein grasusaf Frenhin a’n Pen-llywydd;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot lywodraethu ei galon yn dy ffydd, ofn, a chariad; ac iddo ymddiried byth ynot, ac ymgais yn wastad â’th anrhydedd a’th ogoniant;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot ei amddiffyn a’i gadw, gan roddi iddo fuddugoliaeth ar ei holl elynion;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot fendithio a chadw ein grasusol Frenhines Elizabeth, Mary y Fam Frenhines, y Dywysoges Elizabeth, a’r holl Frenhinol Deulu;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot lewyrchu yr holl Esgobion, Offeiriaid, a Dïaconiaid, âg iawn wybodaeth a deall dy Air; ac iddynt hwy, trwy eu pregeth a’u buchedd, ei fynegi a’i ddangos yn ddyladwy;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot gynnysgaeddu Arglwyddi’r Cynghor, a’r holl Fonedd, â gras, doethineb, a deall;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot fendithio a chadw y Pen-swyddogion; gan roddi iddynt ras i wneuthur cyfiawnder, ac i amddiffyn y gwir;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot fendithio a chadw dy holl bobl;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot roddi i bob cenedl undeb, tangnefedd, a chyd-gordio;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot roddi i ni galon i’th garu ac i’th ofni, ac i fyw yn ddïesgeulus yn ol dy orchymynion;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot roddi i’th holl bobl ychwaneg o ras, i wrando yn ufudd dy Air, ac i’w dderbyn o bur ewyllys, ac i gynhyrchu ffrwythau yr Yspryd;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot ddwyn i’r ffordd wir bawb a’r a aeth ar gyfeiliorn, ac a dwyllwyd;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot nerthu y rhai sydd yn sefyll; a chysuro chynnorthwyo y rhai sydd â gwan galon, a chyfodi ‘r sawl a syrthiant, ae o’r diwedd curo i lawr Satan dan ein traed;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot gymmorth, helpu, a diddanu, pawb a’r sy mewn perygl, angenoctid, a thrallod;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot gadw pawb a’r y sydd yn ymdaith ar fôr neu dir, pob gwraig wrth esgor plant, yr holl gleifion, a rhai bychain; a thosturio wrth bawb a fyddo mewn caethiwed a charchar;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot amddiffyn ac amgeleddu y plant amddifaid, a’r gwragedd gweddwon, a phawb a’r y sydd yn unig, ac yn goddef gorthrymder;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot drugarhau wrth bob dyn;
    Nyni a attolygwn i tì ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot faddeu i’n gelynion, erlynwŷr, ac enllibwyr, a throi eu calonnau;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot roddi a chadw er ein lles, amserol ffrwythau’r ddaear, modd y caffom mewn amser dyledus eu mwynhâu;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Teilyngu o honot roddi i ni wir edifeirwch; a maddeu i ni ein holl bechodau, ein hesgeulusdra, a’n hanwybod; a’n cynnysgaeddu â gras dy Yspryd Glân, i wellhâu ein buchedd yn ol dy Air sanctaidd;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
   
Mab Duw : attolygwn i ti ein gwrando.
    Mab Duw: attolygwn i ti ein gwrando.
   
Oen Duw : yr hwn wyt yn dilëu pechodau ‘r byd;
    Caniattâ i ni dy dangnefedd.
   
Oen Duw : yr hwn wyt yn dilëu pechodau ‘r byd;
      Trugarhâ wrthym.
   
Crist, clyw nyni.
      Crist, clyw nyni.
   
Arglwydd, trugarhâ wrthym.
      Arglwydd, trugarhâ wrthym.
    Crist, trugarhâ wrthym.
      Crist, trugarhâ wrthym.
   
Arglwydd, trugarhâ wrthym.
      Arglwydd, trugarhâ wrthym.
 

The Litany
¶ Yna y dywed yr Offeiriad, a’r bobl gyd âg ef, Weddi ‘r Arglwydd.

EIN Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y maddeuwn ni i 'n dyledwŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwared ni rhag drwg: Canys eiddot ti yw'r deyrnas, A'r gallu, A'r gogoniant, Yn oes oesoedd. Amen.
    Offeiriad. Arglwydd, na wna â nyni yn ol ein pechodau.
    Atteb. Ac na obrwya ni yn ol ein hanwireddau.

Gweddïwn.

DUW Dad trugarog, yr hwn nid wyt yn dirmygu uchenaid calon gystuddiedig, nac adduned y gorthrymmedig; Cynnorthwya yn drugarog ein gweddïau, y rhai yr ŷm ni yn eu gwneuthur ger dy fron yn ein holl drallod a’n blinfyd, pa bryd bynnag y gwasgant arnom; a gwrando ni yn rasusol, fel y bo i’r drygau hynny, y rhai y mae ystryw a dichell diafol neu ddyn yn eu gwneuthur i’n herbyn fyned yn ofer; a thrwy ragluniaeth dy ddaioni di iddynt fod yn wasgaredig, modd na’n briwer ni dy weision drwy erlyn neb, a gallu o honom byth ddïolch i ti yn dy lân Eglwys; trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

    O Arglwydd, eyfod, cymmorth ni, a gwared ni, er mwyn dy Enw.

O Dduw, ni a glywsom â’n clustiau, a’n tadau a fynegasant i ni, y gweithredoedd ardderchog a wnaethost yn eu dyddiau, ac yn y cynfyd o’u blaen hwy.

    O Arglwydd, cyfod, cymmorth ni, a gwared ni, er mwyn dy Anrhydedd.

    Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd Glân;
    Atteb. Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.
 

 

The Lord's Prayer

    Rhag ein gelynion amddiffyn ni, O Crist.
    Yn rasol edrych ar ein poenedigaethau.
   
Yn dosturus ystyria wrth drymder ein calonnau.
    Yn drugarog maddeu bechodau dy bobl.
   
Yn garedigol gan drugaredd gwrando ein gweddïau.
    Iesu Fab Dafydd, trugarhâ urthym.
   
Yr awr hon a phob amser teilynga ein gwrando, O Crist.
    Yn rasol clyw ni, O Crist; yn rasol clyw nyni, O Arglwydd Grist.
   
Offeiriad. Arglwydd, dangos dy drugaredd arnom;
    Atteb. Fel yr ym yn ymddiried ynot.

Gweddïwn.

NYNI yn ufudd a attolygwn i ti, O Arglwydd Dad, yn drugarog edrych ar ein gwendid; ac, er gogoniant dy Enw, ymchwel oddi wrthym yr holl ddrygau a ddarfu i ni o wir gyfiawnder eu haeddu; a chaniattâ fod i ni yn eìn holl drallod ddodi ein cyfan ymddiried a’n gobaith yn dy drugaredd, ac byth dy wasanaethu mewn sancteiddrwydd a phurdeb buchedd, i’th anrhydedd a’th ogoniant; trwy ein hunig Gyfryngwr a’n Dadleuwr, Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Gweddi o waith St. Chrysostom.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn a roddaist i ni ras y pryd hwn, trwy gyfundeb a chydgyfarch, i weddïo arnat; ac wyt yn addaw, pan ymgynhullo dau neu dri yn dy Enw, bod i ti ganiattâu eu gofynion : Cyflawna yr awr hon, O Arglwydd, ddymuniad a deisyfiad dy weision, fel y bo mwyaf buddiol iddynt; gan ganiattâu i ni yn byd hwn wybodaeth am dy wirionedd, ac yn y byd a ddaw, fywyd tragywyddol. Amen.

2Cor.xiii.

GRAS ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Yspryd Glân, a fyddo gyd â ni oll byth byth oedd. Amen.

Yma y diwedd y LITANI.


 

 

GWEDDIAU A DIOLCHIADAU

AR AMRYW ACHOSION;

¶ I'w harfer o flaen y ddwy Weddi ddiweddaf o’r Litani, neu o’r Foreol a’r Brydnhawnol Weddi.

 

GWEDDIAU.
 

Prayers & Thanksgivings

Am Wlaw.

O Dduw, nefol Dad, yr hwn trwy dy Fab Iesu Grist a addewaist i bawb a geisiant dy deyrnas a’th gyfiawnder, bob peth angenrheidiol i’w cynhaliaeth corphorol; Danfon i ni wrth ein hangenoctid hwn, ni a attolygwn i ti, gyfryw wlaw a chawodydd cymhedrol, modd y derbyniom ffrwythau ‘r ddaear i’n mwyniant ni, ac i’th ogoniant dithau, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

For Rain

Am Dywydd teg.

HOLL-alluog Arglwydd Dduw, yr hwn am bechod dyn a foddaist unwaith yr holl fyd, oddi eithr wyth-nyn o bobl, ac ar ol hynny o’th fawr drugaredd a addewaist na’s distrywit ef felly byth drachefn; Yn ostyngedig ni a attolygwn i ti, er i ni am ein hanwireddau gyfiawn haeddu pla o wlaw a dyfroedd; etto, wrth ein gwir edifeirwch, danfon i ni y cyfryw dywydd a hinon, fel y derbyniom ffrwythau’r ddaear mewn amser dyladwy; ac y dysgom drwy dy gospedigaeth wellhâu ein bucheddau, ac am dy fwynder roddi i ti foliant a gogoniant; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

For Fair Weather

Ar amser Drudaniaeth a Newyn.

O Dduw, Dad o’r nef, trwy ddawn pa un y disgyn y gwlaw, y mae ‘r ddaear yn ffrwythlawn, yr hilia anifeiliaid, ac yr amlhâ’r pysgod; Edrych, attolwg, ar adfyd dy bobl; a chaniattâ am y prinder a’r drudaniaeth (yr ym ni yr awr hon yn eu dïoddef yn gwbl gyfiawn am ein hanwiredd) iddynt, trwy dy drugarog ddaioni di, ymchwelyd yn rhad ac yn helaethrwydd, er cariad ar Iesu Grist ein Harglwydd; i’r hwn, gyd â thydi a’r Yspryd Glân, y bo ‘r holl anrhydedd a’r gogoniant, yr awr hon ac yn oes oesoedd. Amen.
 

In Time of Dearth and Famine

Neu hon.

O Dduw, drugarog Dad, yr hwn, yn amser Elisëus y prophwyd, a droaist yn ddisymmwth y prinder mawr a’r drudaniaeth yn Samaria yn helaethrwydd a rhad; Cymmer drugaredd arnom, fel y bo i ni, y rhai am ein pechodau a boenir yr awr hon â’r cyffelyb adfyd, dderbyn yr un fath brydol gymmorth: Trwy dy nefol fendith par gynnyrch ar ffrwythau’r ddaear; a chaniattâ fod i ni, sy ‘n derbyn dy haelionus lawnder, arferu ‘r unrhyw i’th ogoniant di, i gymmorth eraill y sy ‘n dwyn eisiau, ac i’n diddanwch ein hunain; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

(or this)

Ar amser Rhyfel a Therfysgau.

HOLL-alluog Ddu, Brenhin yr holl frenhinoedd, a Phen-llywiawdwr pob peth, yr hwn ni ddichon neb creadur wrthladd ei nerth, i’r hwn y perthyn o gyfiawnder gospi pechaduriaid, a bod yn drugarog wrth y rhai a fyddont Wir edifeiriol; Cadw a gwared nyni, yn ostyngedig ni a attolygwn i ti, rhag dwylaw ein gelynion; gostwng eu balchder, gwareiddia eu drygioni, a gwaradwydda eu bwriadau; modd y gallom, yn arfogion gan dy amddiffyn di, fod byth yn gadwedig rhag pob perygl, i'th ogneddu di yr hwn wyt unig roddwr pob buddugoliaeth, trwy haeddedigaethau dy un Mab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

In time of War & Tumult

Yn amser Pla cyffredin, neu Glefyd.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn yn dy lid a anfonaist bla ar dy bobl dy hun yn yr anialwch, oblegid eu gwar-sythni a’u gwrthryfel yn erbyn Moses ac Aaron; ac hefyd, yn amser y brenhin Dafydd, a leddaist â phla ‘r nodau ddengmil a thriugeinmil, ac yn y man, gan gofio dy drugaredd, a gedwaist y lleill; Trugarhâ wrthym wir bechaduriaid, â’r rhai yr ymwelir yr awr hon â dirfawr haint a marwolaeth; fel megis y pryd hwnnw y derbyniaist gymmodaeth, ac y gorchymynaist i’r Angel dinystriol beidio â chospi, felly bod yn awr yn deilwng gennyt wrthladd oddi wrthym y bla a’r gofidus haint yma; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

In time of common Plague or Sickness

Yn Wythnosau y Cyd-goriau, i’w dywedyd bob dydd dros y rhai a fyddant i dderbyn Urddau Cyssegredig.

HOLL-alluog Dduw, ein Tad nefol, yr hwn a brynaist it’ Eglwys gyffredinol trwy werthfawr waed dy anwyl Fab; Edrych yn ddarbodus ar yr unrhyw; ac ar hyn o amser cyfarwydda a llywia felly feddyliau dy weision yr Esgobion a Bugeiliaid dy braidd, fel na ddodont ddwylaw yn ebrwydd ar neb, eithr bod iddynt ddewis yn ffyddlon ac yn bwyllog rai cymmwys i wasanaethu yn sanctaidd Weinidogaeth dy Eglwys. A dyro dy ras a’th fendith nefol i’r sawl a urddir i bob swyddogaeth sancteiddlân; fel y bo iddynt trwy eu buchedd a’u hathrawiaeth osod allan dy ogoniant di, a hyfforddio iachawdwriaeth pawb oll; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

In the Ember Weeks

Neu hon.

HOLL-alluog Dduw, rhoddwr pob dawn daionus, yr hwn o’th ddwyfol ddarbodaeth a osodaist amryw Raddau yn dy Eglwys; Ni yn ufudd a attolygwn i ti roddi dy ras i’r sawl oll a alwer i bob Swydd a Gweinyddiaeth yn yr unrhyw; ac felly cyflawna hwynt â’th wir Athrawiaeth, a chynnysgaedda hwynt â diniweidrwydd buchedd, fel y gwasanaethont yn ffyddlon ger dy fron, i ogoniant dy ddirfawr Enw, ac er lles i’th Eglwys sanctaidd; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

(or this)

¶ Gweddi a ellir ei dywedyd ar ol pob un o’r rhai o’r blaen.

O Dduw, yr hwn bïau o naturiaeth a phrïodoldeb drugarhâu yn wastad a maddeu, derbyn ein hufudd weddïau; ac er ein bod ni yn rhwym gan gaethiwed cadwynau ein pechodau, er hynny dattoder ni gan dosturi dy fawr drugaredd, er anrhydedd Iesu Grist ein Cyfryngwr a’n Dadleuwr. Amen.
 

Prayer that may be said after any of the former

¶ Gweddi dros Oruchel Lys y Parliament, i’w dywedyd tra byddont yn eistedd.

O Dduw grasusaf, yn ufudd attolygwn i ti, megis dros y Deyrnas hon yn gyffredinol, felly yn enwedig dros yr Uchel Lys Parliament, ymgynnulledig yr awrhon dan ein duwiolaf a’n grasusaf Frenhin; Deilyngu o honot lywio a llwyddo eu holl ymgynghoriadau er dyrchafiad i'th Ogoniant, er daioni i’th Eglwys, ac er dïogelwch, anrhydedd, a llwyddiant i’n Brenhin a’i Arglwyddiaethau; trwy eu llafur hwy felly trefner a gwastattâer pob peth ar y sail oreu a chadarnaf, fel y bo heddwch a dedwyddwch, gwirionedd a chyfiawnder, ffydd a duwioldeb, yn sefydlog yn ein plith trwy ‘r holl genhedlaethau. Hyn, a phob peth arall anghenraid iddynt hwy, i ni, ac i’th Eglwys oll, yr ŷm yn ostyngedig yn eu herfyn yn Enw a Chyfryngdod Iesu Grist ein Harglwydd a’n Hiachawdwr bendigedig. Amen.
 

Prayer for Parliament

¶ Colect neu Weddi dros bob Cyflwr o ddynion, i’w harfer pan na bo osodedig dywedyd y Litani.

O Arglwydd, Creawdwr a Cheidwad pob rhyw ddyn, yn ostyngedig attolygwn i ti dros bob cyflwr a gradd o ddynion, ar fod yn wiw gennyt hyspysu iddynt dy ffyrdd, dy iachawdwriaeth i’r holl genhedloedd. Yn bennaf erfyniwn arnat dros lwyddiannus gyflwr yr Eglwys Gatholig; fel, gan gael ei harwain a’i llywio gan dy Yspryd grasusol, y caffo pawb yn eu proffesu ac yn eu galw eu hunain yn Gristionogion eu tywys ar hŷd ffordd y gwirionedd, a chynnal y ffydd mewn undeb yspryd, rhwymyn tangnefedd, ac uniondeb buchedd. Yn ddiweddaf, ni a orchymynwn i’th dadol amgeledd y rhai oll a gystuddir mewn un modd, neu sydd yn gyfyng arnynt mewn meddwl, corph, neu ystâd;Hyn a ddywedir pan ddymuno neb Weddiau y Gynnulleidfa. [*yn enwedig y sawl dros ba rai y dymunir ein gweddïau,] ryngu bodd i ti eu diddanu a’u cymmorth yn ol angenrheidiau pob un; gan roddi iddynt amynedd dan eu dïoddefiadau, a dedwyddol ymwared o’n holl gystuddiau. A hyn a erfyniwn er mwyn Iesu Grist. Amen.


 

Collect or Prayer for all Conditions of men

FFURFIAU O DALU DIOLCH.

¶ Dïolch cyffredinol.

HOLL-alluog Dduw, Tad yr holl drugareddau, yr ydym ni dy weision annheilwng yn rhoddi i ti ddïolch gostyngeiddiaf a ffyddlonaf am dy holl ddaioni a’th drugareddau i ni, ac i bob Dyweder hyn pan fo neb un a weddiwyd drosto yn deisyf talu diolch.dyn; [* yn arbennig i’r rhai y sydd yr awr hon yn ewyllysso offrymmu it’ eu moliannau a’u dïolch am y tosturi a ryglyddaist iddynt yn ddiweddar.] Ni a’th fendithiwn am ein creadigaeth, am ein cadwraeth, ac am holl fendithion y bywyd hwn; eithr uwch law pob dim, am dy anfeidrol gariad ym mhrynedigaeth y byd trwy ein Harglwydd Iesu Grist; am foddion gras, ac am obaith gogoniant. Ac ni a attolygwn i ti roddi i ni y cyfryw ddwys ac iawn ymsyniad ar dy holl drugareddau, fel y bo 'n calonnau yn ddiffuant yn ddïolchgar; ac fel y mynegom dy foliant, nid â’n gwefusau yn unig, eithr yn ein bucheddau; tywy ymroddi i’th wasanaeth, a thrwy rodio ger dy fron mewn sancteiddrwydd ac uniondeb dros ein holl ddyddiau; trwy Iesu Grist ein Harglwydd, i’r hwn gyd â thydi a’r Yspryd Glân, bydded yr holl anrhydedd a’r gogoniant, byth bythoedd. Amen.
 

Thanksgivings

General Thanksgiving

Am gael Gwlaw.

O Dduw, ein Tad nefol, yr hwn drwy dy rasol ragluniaeth wyt yn peri i’r gwlaw cynnar a’r diweddar ddisgyn ar y ddaear, fel y dygo ffrwyth er mwyniant dyn; Yr ydym ni yn rhoi i ti ostyngedig ddïolch, fod yn wiw gennyt, wrth ein dirfawr anghenraid, ddanfon i ni o’r diwedd wlaw hyfryd ar dy etifeddaeth, a’i hireiddio pan oedd sech; i’n mawr ddiddanwch ni dy weision anwiw, ac i ogoniant dy sanctaidd Enw; trwy dy drugareddau yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

For Rain

Am Dywydd teg.

O Arglwydd Dduw, yr hwn yn gyfiawn a’n darostyngaist ni trwy dy ddiweddar bla o wlaw a dyfroedd anghymhedrol, ac yn dy drugaredd a gymhorthaist ac a ddiddenaist ein heneidiau trwy y tymhoraidd a’r bendigedig gyfnewid yma ar dywydd; Nyni a foliannwn ac a ogoneddwn dy sanctaidd Enw am dy drugaredd hon; ac a ddatganwn byth dy dosturi o genhedlaeth i genhedlaeth; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

For fair Weather

Am Helaethrwydd.

O Drugaroccaf Dad, yr hwn o’th raslon ddaioni a wrandewaist ddifrifol Weddïau dy Eglwys, ac a droaist ein prinder ni a’n drudaniaeth yn rhad ac yn helaethrwydd; Yr ydym yn rhoi i ti ostyngedig ddïolch ain dy ragorol haelioni yma gan attolygu i ti barhâu dy garedigrwydd tu ag attom, fel y rhoddo ein tir i ni ei ffrwythau toreithiog, i’th ogoniant di a’n diddanwch ninnau; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

For Plenty
Am Heddwch ac Ymwared oddi wrth ein Gelynion.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn wyt gadarn dŵr amddiffynfa i’th weision rhag wyneb eu gelynion; Yr ydym ni yn rhoddi i ti foliant a dïolch am ein hymwared ni oddi wrth y mawr a’r amlwg beryglon oedd yn ein hamgylchu: Yr ydym ni yn cydnabod mai dy ddaioni di yw, na ‘n rhoddwyd ni i fynu yn ysglyfaeth iddynt hwy; gan attolygu i ti yn wastadol barhâu dy gyfryw drugareddau tu ag attom, fel y gwypo ‘r holl fyd mai tydi yw ein Hachubwr a’n cadarn Waredwr ni; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

For Peace & Deliverance from our Enemies

Am adferu Heddwch cyffredinol Gartref

Y Tragywyddol Dduw, ein Tad nefol, yr hwn yn unig wyt yn gwneuthur i ddynion fod yn unfryd mewn tŷ, ac yn gostegu cynddeiriowgrwydd pobl angerddol ac afreolus; Ni a fendithiwn dy Enw sanctaidd, am fod yn wiw gennyt lonyddu y cythrwfl terfysgus a gyffrowyd yn ddiweddar yn ein plith; ac yn ostyngedig yr attolygwn i ti ganiattâu i bawb o honom ras, i rodio o hyn allan yn ufudd i’th orchymynion sanctaidd; a chan fyw mewn buchedd lonydd a heddychol ym mhob duwioldeb a gonestrwydd, i offrymmu yn ddibaid i ti ein haberth o foliant a dïolchgarwch am dy drugareddau hyn tu ag attom; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

For restoring Public Peace at Home

Am Ymwared oddi wrth Bla y Nodau, neu neb rhyw Glefyd arall.

O Arglwydd Dduw, yr hwn a’n harchollaist ni am ein pechodau, ac a’n difeaist am ein hanwireddau, trwy dy ddiweddar ymweliad gorthrwm ac ofnadwy; ac etto ynghanol dy farnedigaethau a gofiaist dy drugaredd, ac a achubaist ein heneidiau allan o safn angau; Yr ydym ni yn offrwm i’th dadol ddaioni ein hunain, ein heneidiau, a’n cyrph, y rhai a waredaist ti, i fod yn aberth bywiol i ti; gan foliannu a mawrygu yn wastadol dy drugareddau ynghanol dy Eglwys ; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

For deliverance from the Plague
Neu hon.

YR ydym ni yn ostyngedig yn cyfaddef ger dy fron di, O drugaroccaf Dad, y gallasai yr holl gospedigaethau a fygythir yn dy gyfraith, yn gyfiawn ddisgyn arnom ni, o herwydd ein haml droseddau a chaledwch ein calonnau. Etto, gan fod yn wiw gennyt, o’th dyner drugaredd, ar ein gwan a’n hannheilwng ymddarostyngiad ni, esmwythâu y bla niweidiol, â’r hon yn ddiweddar y’n cystuddiwyd yn ddirfawr, ac adferu llef gorfoledd ac iechyd yn ein cyfanneddau; yr ydym ni yn offrwm i’th Ddwyfol Fawredd, aberth moliant a dïolch, gan glodfori a mawrygu dy ogoneddus Enw, o herwydd dy amgeledd a’th rag-ddarbodaeth drosom ; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

(or this)

 

Llyfr Gweddi Gyffredin

The Book of Common Prayer in Welsh

Web author: Charles Wohlers U. S. EnglandScotlandIrelandWalesCanadaWorld