The Book of Common Prayer
United States England Scotland Ireland Wales Canada World

   

Llyfr Gweddi Gyffredin
the Book of Common Prayer in Welsh


 

TREFN Y

WEDDI BRYDNHAWNOL,

BOB DYDD TRWY’R FLWYDDYN.

¶ Ar ddechreu’r Weddi Brydnhawnol, darllened y Gweinidog, â llef uchel, ryw un neu ychwaneg o’r adnodau hyn o’r Ysgrythyr Lân y rhai sydd yn canlyn. Ac yna dyweded yr hyn y sydd ysgrifenedig ar ol yr unrhyw adnodau.

PAN ddychwelo ’r annuwiol oddi wrth ei ddrygioni yr hwn a wnaeth, a gwneuthur barn a chyfiawnder, hwnnw geidw yn fyw ei enaid. Ezec. xviii. 27.
    Yr wyf yn cydnabod fy nghainweddau, a’m pechod sydd yn wastad ger fy mron. Psal. li. 3.
    Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl anwireddau. Psal. li. 9.
   
Aberthau Duw ydynt yspryd drylliedig: calon ddrylliog, gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygi. Psal. li. 17.
    Rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad, ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw: o herwydd graslawn a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg. Jöel ii. 13.
    Gan yr Arglwydd ein Duw y mae trugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu o honom i’w erbyn: ni wrandawsom chwaith ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ei gyfreithiau ef, y rhai a roddodd efe o’n blaen ni. Dan. ix. 9, 10.
    Cospa fi, Arglwydd, etto mewn barn; nid yn dy lid, rhag it’ fy ngweuthur yn ddiddym. Jer. x. 24. Psal. vi. 1.
    Edifarhêwch; canys nesaodd terynas nefoedd. St. Matt. iii. 2.
    Mi a godaf, ac a âf at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau, ac mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw yn fab i ti. St. Luc xv. 18, 19.
    Arglwydd, na ddos i farn â’th was; o herwydd ni chyfiawnhêir neb byw yn dy olwg di. Psal. cxliii. 2.
    Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a’r gwirionedd nid yw ynom. Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y’n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder. i Ioan i. 8, 9
 

 

FY anwyl gariadus frodyr, y mae’r Ysgrythyr Lân yn ein cynhyrfu, mewn amrywiol fannau, i gydnabod ac i gyffesu ein haml bechodau a’n hanwiredd ; ac na wnelem na’u cuddio na’u celu yngŵydd yr Holl-alluog Dduw ein Tad nefol; eithr eu cyffesu â gostyngedig, isel, edifarus, ac ufudd galon; er mwyn caffael o honom faddeuant am danynt, trwy ei anfeidrol ddaioni a’i drugaredd ef. Ac er y dylem ni bob amser addef yn ostyngedig ein pechodau ger bron Duw; etto ni a ddylem yn bennaf wneuthur hynny, pan ymgynhullom i gyd-gyfarfod, i dalu dïolch am yr aml ddaioni a dderbyniasom ar ei law ef, i ddatgan ei haeddediccaf foliant, i wrando ei sancteiddiaf Air ef, ac i erchi y cyfryw bethau ag a fyddo cymmwys ac angenrheidiol, yn gystal ar les y corph a’r enaid. O herwydd paham myfi a erfyniaf ac a attolygaf i chwi, cynnifer ag y sydd yma yn bresennol, gyd-dynnu myfi â chalon bur, ac â lleferydd ostyngedig, hyd yngorseddfa’r nefol râd, gan ddywedyd ar fy ol i;

 
Invitation

¶ Cyffes gyffredin, i’w dywedyd gan yr holl Gynnulleidfa ar ol y Gweinidog, gan ostwng ar eu gliniau oll,

HOLL-alluog Dduw a thrugaroccaf Dad; Nyni a aethom ar gyfeiliorn allan o’th ffyrdd di fel defaid ar gyfrgoll. Nyni a ddilynasom ormod ar amcanion a chwantau ein calonnau ein hunain. Nyni a wnaethom yn erbyn dy sancteiddiol gyfreithiau. Nyni a adawsom heb wneuthur y pethau a ddylesym eu gwneuthur; Ac a wnaethom y pethau ni ddylesym eu gwneuthur; Ac nid oes iechyd ynom. Eithr tydi, O Arglwydd, cyminer drugaredd arnom, ddrwg weithred wŷr truain. Arbed di hwynt-hwy, O Dduw, y rhai sy’n cyffesu eu beiau. Cyweiria di’r sawl sydd yn edifarus; Yn ol dy addewidion a hyspyswyd i ddyn yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. A chaniattâ, drugaroccaf Dad, er ei fwyn ef; Fyw o honom rhag llaw mewn duwiol, union, a sobr fuchedd, I ogoniant dy sancteiddiol Enw. Amen.
 

Confession

¶ Y Gollyngdod, neu Faddeuant pechodau, i’w ddatgan gan yr Offeriaid yn unig, yn ei sefyll: a’r bobl etto ar eu gliniau.

YR Holl-alluog DDuw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn ni ddelsyf farwolaeth pechadur, eithr yn hytrach ymchwelyd o hono oddi wrth ei anwiredd, a byw; ac a roddes allu a gorchymyn i’w Weinidogion, i ddatgan ac i fynegi i’w bobl, sydd yn edifarus, Ollyngdod a Maddeuant am eu pechodau: Efe a bardyna ac a ollwng y rhai oll sydd wir edifeirol, ac yn ddiffuant yn credu i’w sancteiddiol Efengyl ef. O herwydd paham attolygwn ni iddo ganiattâu i ni wir edifeirwch, a’i Yspryd Glân; fel y byddo boddlon ganddo’r pethau yr ydym y pryd hwn yn eu gwneuthur, a bod y rhan arall o’n bywyd rhag llaw yn bur ac yn sancteiddiol; modd y delom o’r diwedd i’w lawenydd tragywyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
 

Absolution

¶ Yna y gostwng y Gweinidog ar ei liniau, ac a ddywed Weddi’r Arglwydd â llef uchel; a’r bobl hefyd ar eu gliniau, yn ei dywedyd gyd âg ef.

EIN Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y maddeuwn ni i ’n dyledwŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwared ni rhag drwg: Canys eiddot ti yw’r deyrnas, A’r gallu, A’r gogoniant, Yn oes oesoedd. Amen.

Yna y dywed efe yn yr un modd,

Arglwydd, agor ein gwefusau.
    Atteb. A’n genau a fynega dy foliant.
    Offeiriad. Duw, brysia i’n cynnorthwyo.
    Atteb. Arglwydd, prysura i’n cymmorth.

Yna, a phawb yn eu sefyll, yr Offeiriad a ddywed,

     Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab: ac i’r Yspryd Glân;
    Atteb.Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.
    Offeiriad. Molwch yr Arglwydd.
    Atteb. Moliannus fyddo Enw’r Arglwydd.
 

 

 

Lord’s Prayer

¶ Yna y dywedir, neu y cenir, y Psalmau mewn trefn, megis y gosodwyd hwy. Yna Llith o’r Hen Destament, megis ag yr gosodwyd. Ar ol hynny, y Magnificat (neu Gân y fendigedig Fair Forwyn) yn Gymraeg, megis y canlyn.

Magnificat. St. Luc i.

FY enaid a fawrhâ yr Arglwydd : a’m hyspryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr.
    Canys efe a edrychodd : ar ostyngeiddrwydd ei wasanaethyddes.
    Oblegid wele, o hyn allan : yr holl genhedlaethau a ’m geilw yn wynfydedig.
    Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd : a sanctaidd yw ei Enw ef.
    A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd : ar y rhai a’i hofnant ef.
    Efe a ddangosodd nerth â’i fraich : efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriadau eu calonnau.
    Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’u heisteddfaau : ac a ddyrchafodd y rhai isel radd.
    Efe a lanwodd y rhai newynog â phethau da : ac a anfonodd ymaith y rhai goludog mewn eisiau.
    Efe a gynnorthwyodd ei was Israel, gan goflo ei drugaredd : fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a’i had, yn dragywydd.
    Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd Glân;
    Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.
 

Psalm and First Lesson

¶ Neu ynte y Psalm hon; oddi eithr ar y namyn un ugeinfed dydd o’r mis, pan ddarllenir hi yn nhrefn gyffredin y Psalmau.

Cantate Domino. Psal. xcviií.

CENWCH i’r Arglwydd ganiad newydd : canys efe a wnaeth bethau rhyfedd â’i ddeheulaw, ac â’i fraich sanctaidd, y parodd iddo ei hun iachawdwriaeth.
    Hyspysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth : a datguddiodd ei gyfiawnder yngolwg y cenhedloedd.
    Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel : a holl derfynau’r ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni.
    Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear : llefwch, ac ymawenhêwch, a chenwch.
    Cenwch i’r Arglwydd gyd â’r delyn : sef gyd â’r delyn â llef canmoliaeth.
    Cenwch yn llafar o fiaen yr Arglwydd y Brenhin : ar yr udgyrn a sain cornet.
    Rhued y môr, ac y sydd ynddo : y byd, a’r rhai a drigant o’i fewn.
    Cured y llifeiriaint eu dwylaw, a chyd-ganed y mynyddoedd o flaen yr Arglwydd : canys efe a ddaeth i farnu’r ddaear.
    Efe a farna’r byd mewn cyfiawnder : a’r bobloedd mewn uniondeb.
    Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd Glân;
    Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad : yn oes oesoedd. Amen.
 

 

¶ Yna Llith o’r Testament Newydd, megis y gosodwyd: ac ar ol hynny, Nunc dimittis (neu Gân Simeon) yn Gymraeg, megis y canlyn.

Nunc dimittis, St. Luc ii. 29.

YR awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd : yn ol dy air.
    Canys fy llygaid a welsant : dy iachawdwriaeth,
    Yr hon a barottoaist : ger bron wyneb yr holl bobl;
    I fod yn oleuni i oleuo’r Cenhedloedd : ac yn ogoniant i’th bobl Israel.
    Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd Glân;
    Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.

¶ Neu y Psalm hon; oddi eithr ar y deuddegfed dydd o’r mis.

Deus misereatur. Psal. lxvii.

DUW a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio : a thywynned llewyrch ei wyneb arnom, a thrugarhâed wrthym.
    Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear : a’th iachawdwriaeth ym mhlith yr holl genhedloedd.
    Molianned y bobl di, O Dduw : molianned yr holl bobl dydi.
    Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd : canys tydi a ferni’r bobl yn uniawn, ac a lywodraethi’r cenhedloedd ar y ddaear.
    Molianned y bobl di, O Dduw : molianned yr holl bobl dydi.
    Yna’r ddaear a rydd ei ffrwyth : a Duw, sef ein Duw ni, a’n bendithia.
    Duw a’n bendithia : a holl derfynau’r ddaear a’i hofnant ef.
    Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd Glân;
    Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.
 

New Testament Lesson

  ¶ Yna y cenir, neu y dywedir, Credo’r Apostolion, gan y Gweinidog. a’r bobl, yn eu sefyll.

CREDAF yn Nuw Dad Holl-gyfoethog, Creawtdwr nef a daear :
    Ac yn Iesu Grist ei un Mab ef, ein Harglwydd ni; Yr hwn a gaed trwy yr Yspryd Glân, A aned o Fair Forwyn, A ddïoddefodd dan Pontius Pilatus, A groeshoeliwyd, a fu farw, ac a gladdwyd; A ddisgynodd i uffern; Y trydydd dydd y cyfododd o feirw; A esgynodd i’r nefoedd, Ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw Dduw Dad Holl-gyfoethog; Oddi yno y daw i farnu byw a meirw.
    Credaf yn yr Yspryd Glân; Yr Eglwys Lân Gatholig; Cymmun y Saint; Maddeuant Pechodau; Adgyfodiad y cnawd, A’r Bywyd tragywyddol. Amen.

 

¶ Ac ar ol hynny, y Gweddïau hyn sy’n canlyn, a phawb yn gostwng yn ddefosiynol ar eu gliniau; y Gweinidog yn gyntaf a lefara â llef uchel,

    Yr Arglwydd a fo gyd â chwi.
    Atteb.
A chyd â ’th yspryd dithau.

    Gweinidog. Gweddïwn.
Arglwydd, trugarhâ wrthym.
    Crist, trugarhâ wrthym.
Arglwydd, trugarhâ wrthym.
 

 

Apostles' Creed

Yna’r Gweinidog, yr Ysgolheigion, a’i bobl, a ddywedant Weddi yr Arglwydd â lleferydd uchel.

EIN Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y ddeuwn ni i’n dyledwŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth ; Eithr gwared ni rhag drwg. Amen.

Lord's Prayer

¶ Yna y Gweinidog yn ei sefyll a ddywed

    Arglwydd, dangos dy drugaredd arnom.
    Atteb. A chaniattâ i ni dy iachawdwriaeth.
    Offeiriad. Arglwydd, cadw y Brenhin.
    Atteb. A gwrando ni yn drugarog pan alwom arnat.
    Offeiriad. Gwisg dy Weinidogion âg iawnder.
    Atteb.
A gwna dy ddewisol bobl yn llawen.
    Offeiriad. Arglwydd, cadw dy bobl.
    Atteb. A bendithia dy etifeddieth.
    Offeiriad. Arglwydd, dyro dangnefedd yn ein dyddiau.
    Atteb. Gan nad oes neb arall a ymladd drosom, ond tydi, Dduw, yn unig.
    Offeiriad. Duw, glanhâ ein calonnau ynom.
    Atteb. Ac na chymmer dy Yspryd Glân oddi wrthym.
 

Suffrages

¶ Yna y canlyn tri Cholect y cyntaf, o’r Dydd; yr ail, am Dangnefedd; y trydydd, am Gynhorthwy yn erbyn pob Perygl, fel y canlyn yma rhagllaw. A’r ddau Golect diweddaf a ddywedir bob dydd ar Brydnhawnol Weddi, heb gyfnewid.

Yr ail Golect, ar y Brydnhawnol Weddi.

DUW, oddi wrth ba un y daw pob adduned sanctaidd, pob cyngor da, a phob gweithred gyfiawn; Dyro i’th wasanaeth-ddynion y rhyw dangnefedd a’r na ddichon y byd ei roddi; modd y gallo ein calonnau ymrôi i ufuddhâu i’th orchymynion, ac hefyd trwy’n hamddiffyn ni rhag ofn ein gelynion, allu o honom dreulio ein hamser mewn heddwch a thangnefedd; trwy haeddedigaethau Iesu Grist ein Hiachawdwr. Amen.
 

 

 

Second Collect

Y trydydd Colect, am Gynhorthwy yn erbyn pob Peryglon.

GOLEUA ein tywyllwch, ni a attolygwn i ti, O Arglwydd; a thrwy dy fawr drugaredd amddiffyn nyni rhag pob perygl ac enbydrwydd y nos hon; er serch ar dy un Mab, einHiachawdwr Iesu Grist. Amen.
 

Third Collect, for Aid against all Perils

¶ Mewn Corau, a Mannau, lle’r arferont ganu, yma y canlyn yr Anthem.

Gweddi dros Fawrhydi’r Brenhin.

O Arglwydd, ein Tad nefol, goruchel a galluog, Brenhin y brenhinoedd, Arglwydd yr argwyddi, unig Lywiawdwr y tywysogion, yr hwn wyt o’th eisteddle yn edrych ar holl drigolion y ddaear; Ni a attolygwn ac a erfyniwn i ti, edrych o honot yn ddarbodus ar ein grasusaf oruchel Arglwydd, y Brenhin GEORGE; ac felly ei gyflawni ef o ras dy Sanctaidd Yspryd, fel y bo iddo yn wastadol bwyso at dy feddwl, a rhodio yn dy ffordd: Cynnysgaedda ef yn helaeth â doniau nefol; caniattâ iddo mewn llwyddiant ac iechyd hir hoedl; nertha ef modd y gallo oresgyn a gorchfygu ei holl elynion; ac o’r diwedd, ar ol y fuchedd hon, bod iddo fwynhâu llawenydd a dedwyddyd tragywyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

 

Prayer for the King's Majesty

Gweddi dros y Brenhinol Deulu.

HOLL-alluog Dduw, ffynnon pob daioni, yr ydym ni yn ostyngedig yn attolwg i ti fendithio ein grasusol Frenhines Elizabeth, Mary y Fam Frenhines, y Dywysoges Elizabeth, a’r holl Frenhinol Deulu: Cynnysgaedda hwy â’th Yspryd Glân; cyfoethoga hwy â’th nefol ras; llwydda hwy â phob dedwyddwch; a dwg hwy i’th dragywyddol deyrnas; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Prayer for the Royal Family

Gweddi dros yr Offeiriaid a’r bobl.

HOLL-gyfoethog a thragywyddol Dduw, yr hwn wyt yn unig yn gwneuthur rhyfeddodau; Danfon i lawr ar ein Hesgobion a’n Curacliaid, a’r holl gynnulleidfaon a orchymynwyd dan eu gofal hwynt, iachol Yspryd dy ras; ac fel y gallont wir ryngu bodd i ti, tywallt arnynt ddyfal wlith dy fendith. Caniattâ hyn, Arglwydd, er anrhydedd ein Dadleuwr a’n Cyfryngwr, Iesu Grist. Amen.
 

Prayer for Clergy & People

Gweddi o waith St. Chrysostom.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn a roddaist i ni ras y pryd hwn, trwy gyfundeb a chydgyfarch, i weddïo arnat; ac wyt yn addaw, pan ymgynhullo dau neu dri yn dy Enw, bod i ti ganiattâu eu gofynion: Cyflawna yr awr hon, O Arglwydd, ddymuniad a deisyfiad dy weision, fel y bo mwyaf buddiol iddynt; gan ganiattâu i ni yn y byd hwn wybodaeth am dy wirionedd, ac yn y byd a ddaw, fywyd tragywyddol. Amen.

2 Cor. xiii.

GRAS ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Yspryd Glân, a fyddo gyd â ni oll byth bythoedd. Amen.

Yma y diwedd Trefn y Bryanhawnol Weddi trwy’r Flwyddyn.


 

 

CREDO SANT ATHANASIUS.

¶ Ar y Gwyliau hyn; sef, dydd Nadolig Crist, dydd gwyl Ystwyll, dydd gwyl Sant Matthias, dydd Pasg, y Dyrchafael, y Sulgwyn, dydd Gwyl Sant Ioan Fedyddiwr, Sant Iago, Sant Bartholomeus, Sant Matthew, Sant Simon a Sant Judas, Sant Andreas, a Sul y Drindod; y cenir, neu y dywedir, ar y Foreol Weddi, yn lle Credo yr Apostolion, y Gyffes hon o’n Ffydd Gristionogol, a elwir yn gyffredin, Credo Sant Athanasius, gan y Gweinidog a’r Bobl, yn sefyll.

Quicunque vult.

PWY bynnag a fynno fod yn gadwedig : o flaen dim rhaid iddo gynnal y Ffydd Gatholig.
    Yr hon Ffydd, oni’s ceidw pob dyn yn gyfan ac yn ddihalog : diammeu y collir ef yn dragywydd.
    A’r Ffydd Gatholig yw hon : Bod i ni addoli un Duw yn Drindod, a’r Drindod yn Undod.
    Nid cymmysgu o honom y Personnau : na gwahanu ’r Sylwedd.
    Canys un Person sydd i’r Tad, arall i’r Mab : ac arall i’r Yspryd Glân.
    Eithr Duwdod y Tad, y Mab, Yspryd Glân, sydd unrhyw : Gogoniant gogyfuwch, Mawrhydi gogyd-tragywyddol.
    Unrhyw yw ’r Tad, unrhyw yw ’r Mab: unrhyw yw ’r Yspryd Glân.
    Digrëedig Dad, digrëedig Fab : digrëedig Yspryd Glân.
    Anfesuredig Dad, anfesuredig Fab : anfesuredig Yspryd Glân.
    Tragywyddol Dad, tragywyddol Fab : tragywyddol Yspryd Glân.
    Ac etto nid ydynt dri thragywydolion : ond un tragywyddol.
    Ac fel nad ynt dri anfesuredigion, na thri digrëedigion ond un digrëedig, ac un anfesuredig.
    Felly yn gyffelyb, Holl-alluog yw ’r Tad, Holl-alluog yw ’r Mab : Holl-alluog yw ’r Yspryd Glân.
    Ac etto nid ynt dri Holl-alluogion : ond un Holl-alluog.
    Felly y Tad sy Dduw, y Mab sy Dduw : a’r Yspryd Glân sy Dduw.
    Ac etto nid ynt dri Duwiau : ond un Duw.
    Felly y Tad sydd Arglwytdd, y Mab sydd Arglwydd : a’r Yspryd Glân sydd Arglwydd;
    Ac etto nid ynt dri Arglwyddi namyn un Arglwydd.
    Canys fel y’n cymhellir trwy y Cristionogaidd wirionedd : i gyfaddef bod pob Person o hono ei hun yn Dduw ac yn Arglwydd;
    Felly y’n gwaherddir trwy’r Gatholig Grefydd : i ddywedyd, hod tri Duwiau, neu dri Arglwyddi.
    Y Tad ni wnaethpwyd gan neb : ni’s crëwyd, ac ni’s cenhedlwyd.
    Y Mab sydd o’r Tad yn unig : heb ei wneuthur, na’i grëu; eithr wedi ei genhedlu.
    Yr Yspryd Glân sydd o’r Tad a’r Mab : heb ei wneuthur, na’i grëu, na’i genhedlu; eithr yn deilliaw.
    Wrth hynny, un Tad y sydd, nid tri Thad; un Mab, nid tri Mab : un Yspryd Glân, nid tri o Ysprydion Glân.
    Ac yn y Drindod hon, nid oes un cynt, neu gwedi eu gilydd : nid oes un mwy na llai nâ’u gilydd;
    Eithr yr holl dri Phersonau ydynt ogyd-tragywyddol : a gogyfuwch.
    Ac felly ym mhob peth, fel y dywedwyd uchod : yr Undod yn y Drindod, a’r Drindod yn yr Undod sydd i’w haddoli.
    Pwy bynnag gan hynny a fynno fod yn gadwedig : synied felly o’r Drindod.
    Y mae hefyd yn anghenraid, er mwyn tragywyddol iachawdwriaeth : gredu o ddyn yn ffyddlon am gnawdodiaeth ein Harglwydd Iesu Grist.
    Canys yr iawn ffydd yw, credu a chyffesu o honom: fod ein Harglwydd ni Iesu Grist, Fab Duw, yn Dduw ac yn Ddyn;
    Duw, o Sylwedd y Tad, wedi ei genhedlu cyn yr oesoedd : a Dyn, o Sylwedd ei fam, wedi ei eni yn y byd;
    Perffaith Dduw, a pherffaith Ddyn : o enaid rhesymmol, a dynol gnawd yn hanfod;
    Gogyfuwch a’r Tad, oblegid ei Dduwdod : a llai nâ’r Tad, oblegid ei Ddyndod.
    Yr hwn er ei fod yn Dduw ac yn Ddyn : er hynny nid yw efe ddau, ond un Crist.
    Un; nid trwy ymchwelyd y Duwdod yn gnawd : ond gan gymmeryd y Dyndod at Dduw;
    Un i gyd oll; nid gan gymmysgu ’r Sylwedd : ond drwy undod Person.
    Canys fel y mae yr enaid rhesymmol a’r cnawd yn un dyn : felly Duw a Dyn sydd un Crist:
    Yr hwn a ddïoddefodd er ein hiachawdwriaeth : a ddisgynodd i uffern, a gyfododd y trydydd dydd o feirw.
    Esgynodd i’r nefoedd, ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw ’r Tad, Duw Holl-alluog : oddi yno y daw i farnu byw a meirw.
    Ac ar ei ddyfodiad y cyfyd pob dyn yn eu cyrph eu hunain : ac a roddant gyfrif arn eu gweithredoedd prïod.
    A’r rhai a wnaethant dda, a ant i’r bywyd tragywyddol : a’r rhai a wnaethant ddrwg, i’r tân tragywyddol.
    Hon yw y Ffydd Gatholig: yr hon pwy bynnag a’r ni’s cretto yn ffyddlon, ni all efe fod yn gadwedig.
    Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd Glân;
    Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad : yn oes oesoedd. Amen.

 

Creed of Saint Athanasius

Llyfr Gweddi Gyffredin

The Book of Common Prayer in Welsh

Web author: Charles Wohlers U. S. EnglandScotlandIrelandWalesCanadaWorld