The Book of Common Prayer | |||||||
|
|
TREFN GWEINYDDIAD SWPPER YR ARGLWYDD. NEU Y CYMMUN BENDIGAID. ¶ CYNNIFER ag a fyddo yn amcanu bod yn gyfrannogion o'r Cymmun bendigedig, a hyspysant eu henwau i'r Curad ryw amser y diwrnod o'r blaen o'r lleiaf. ¶ Ac o bydd un o'r rhai hynny yn ddrwg-fucheddol cyhoedd, neu a wnaeth gam i'w gymmydog ar air, neu ar weithred, fel y byddo efe wrthwynebus gan y Gynnulleidfa; y Curad, wrth gael gwybodaeth o hynny, a'i geilw ef, ac a'i cynghora, na ryfygo efe er dim ddyfod i Ford yr Arglwydd, hyd oni ddatgano efe yn gyhoeddus ei fod yn wir edifeiriol, a darfod iddo wellháu ei ddrwg fuchedd o'r blaen, fel y boddloner y Gynnulleidfa wrth hynny, yr hon a rwystrasid o'r blaen: o darfod iddo wneuthur iawn i'r neb y gwnaethai gamwedd â hwynt; neu o'r lleiaf, ddatgan ei fod mewn cyflawn fryd i wneuthur felly, yn gyntaf ag y gallo yn gyfleus. ¶ Y drefn hon a arfer y Curad am y sawl y gwypo efe fod malais a chasineb yn teyrnasu rhyngddynt; heb ddïoddef iddynt fod yn gyfrannogion o Fwrdd yr Arglwydd, hyd pan wypo eu bod hwynt wedi cyttuno. Ac os un o'r pleidiau anheddychol a fydd boddlon i faddeu, o eigion ei galon gwbl ag a wnaethpwyd yn ei erbyn, ac i wneuthur iawn i bawb ag a rwystrodd yntau ei hunan; a'r blaid arall ni fyn ei ddwyn i dduwiol Undeb, ond sefyll yn wastad yn ei wrthnysigrwydd a'i folais: y Gweinidog yn yr achos hwnnw a ddylai dderbyn y dyn edifeiriol i'r Cymmun bendigedig, ac nid y dyn ystyfnig anhydyn. Darparer, fod pob Gweinidog felly yn troi heibio neb fel yr hyspysir yn hwn, neu'r rhag-wahannod nesaf o'r blaen o'r Rubric yma, yn rhwymedig i roddi cyfrif o'r unrhyw i'r Ordinari, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg ar ol hynny o'r pellaf. A'r Ordinari a ddylud yn erbyn y troseddwr yn ol y Canon. ¶ Y Bwrdd ar amser
Cymmun, â lliain gwyn teg arno, a saif ynghorph yr Eglwys, neu
yn y Ganghell, lle byddo'r Foreol a'r Brydnhawnol Weddi wedi ordeinio
eu dywedyd. A'r Offeiriad, gan sefyll wrth yr ystlys gogledd i'r Bwrdd,
a ddywed Weddi'r Arglwydd, a'r Colect y sydd yn canlyn, a'r bobl ar
eu gliniau. |
|
EIN
Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas.
Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw
ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y maddeuwn ni i'n
dyledwŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwared ni rhag drwg.
Amen. |
Lord's Prayer |
Y Colect.
YR Holl-alluog Dduw, i'r hwn y mae pob calon yn agored, a phob deisyf yn gydnabyddus, a rhag yr hwn nid oes dim dirgel yn guddiedig; Glanhâ feddyliau'n calonnau trwy ysprydoliaeth dy Lân Yspryd; fel y carom dydi yn berffaith, ac y mawrhaom yn deilwng dy Enw sanctaidd; trwy Grist ein Harglwydd. Amen. ¶ Yna yr Offeiriad,
gan droi at y bobl, a draetha yn eglur y DENG AIR DEDDF oll. A'r bobl
etto ar eu gliniau, ar ol pob un o'r Gorchymynion, a archant drugaredd
Duw am eu torri hwynt o'r blaen, a gras i gadw'r unrhyw rhag llaw; fel
y mae'n canlyn. |
Collect for Purity |
Gweinidog.
DUW a lefarodd y geiriau
hyn, ac a ddywedodd, Myfi yw'r Arglwydd dy Dduw: Na fydded it' dduwiau
eraill onid myfi. ¶ Yna y canlyn
un o'r ddau Golect hyn dros y Brenhin; ar Offeiriad yn ei sefyIl
megis o'r blaen, ac yn dywedyd, |
Ten Commandments |
Gweddïwn.
HOLL-alluog Dduw, yr hwn sydd â'i deyrnas yn dragywyddol, a'i allu yn anfeidrol; Cymmer drugaredd ar yr holl Eglwys; a rheola felly galon dy ddewisedig Wasaunaethwr GEORGE, ein Brenhin a'n Llywydd, fel y gallo ef (gan wybod i bwy y mae yn weinidog) uwch law pob dim geisio dy anrhydedd di a'th ogoniant; ac fel y gallom ninnau a'i holl ddeiliaid ef (gan feddylied yn ddyledus oddi wrth bwy y mae'r awdurdod sydd iddo) yn ffyddlon ei wasanaethu, ei anrhydeddu, ac yn ostyngedig ufuddhâu iddo, ynot ti, ac erot ti, yn ol dy fendigedig air a'th ordinhâd; trwy Iesu Grist ein Harglwydd; yr hwn, gyd â thi a'r Yspryd Glân, sydd yn byw ac yn teyrnasu yn dragywydd yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen. Neu, HOLL-alluog a thragywyddol Dduw, fe'n dysgir gan dy Air sanctaidd, fod calonnau brenhinoedd wrth dy reolaeth a'th lywodraeth di; ath fod di yn eu gosod hwynt ac yn eu hymchwelyd, fel y mae dy ddwyfol ddoethineb yn gweled bod yn oreu; Yr ydym ni yn ostyngedig yn attolwg i ti felly osod a llywodraethu calon GEORGE dy Wasanaethwr, ein Brenhin a'n Llywydd, fel y gallo ef, yn ei holl feddyliau, geiriau, a gweithredoedd, yn wastad geisio dy anrhydedd di a'th ogoniant, a myfyrio ar gadw dy bobl a rodded yn ei gadwraeth ef, mewn digonoldeb, tangnefedd, a duwioldeb. Caniattâ hyn, drugarog Dad, er cariad ar dy anwyl Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen. ¶ Yna y dywedir
Colect y Dydd. Ac yn nesaf ar ol y Colect, y darllen yr Offeiriad yr
Epistol, gan ddywedyd, Yr Epistol [neu, Y rhan o'r Ysgrythyr
a drefnwyd yn lle'r Epistol] sydd yn ysgrifenedig yn y Bennod
oyn dechreu ar yAdnod. Ac wedi diweddu'r Epistol, efe
a ddywed, Yma y terfyna'r Epistol. Yna y darllen efe yr Efengyl
(a'r bobl i gyd yn eu sefyll) gan ddywedyd, Yr Efengyl sanctaidd
a ysgrifenir yn yBennod oyn dechreu ar y—Adnod. Ac wedi
gorphen yr Efengyl, y cenir neu y dywedir y Credo sy'n canlyn
a'r bobl fyth yn sefyll, megis blaen. |
Collects for the King |
CREDAF yn un Duw, Tad
Holl-alluog, Creawdwr nef a daear, Ac oll weledigion ac anweledigion: ¶ Yna, Curad a fynega i'r bobl pa Wyliau neu Ymprydiau a fydd í'w cadw yn yr wythnos yn canlyn. Ac yna hefyd (o bydd achos) rhodder Rhybudd o'r Cymmun; a darllener Llythyrau Casgl, Dyfynnau, ac Ysgymmundodau. Ac ni chyhoeddir ac ni fynegir dim yn yr Eglwys, hyd y parhao Gwasanaeth Duw, ond gan y Gweinidog ei hun ; na dim ganddo yntau, ond a erchir yn Rheolau y Llyfr hwn, neu a orchymynir gan y Brenhin, neu gan Ordinari'r lle. ¶ Yna y canlyn y Bregeth, neu un o'r Homiliau a ddoded allan eisoes, neu a ddoder allan rhagllaw trwy awdurdod. ¶ Yna y dychwel
yr Offeiriad at Fwrdd yr Arglwydd, ac a ddechreu'r Offrymiad gan ddywedyd
un neu ychwaneg o'r Adnodau sy'n canlyn, y cyfryw o'i synwyr ei hun
a welo yn gymhwysaf. |
Nicene Creed |
LLEWYRCHED
felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd
da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd. St.
Matth. v. ¶ Tra bydder yn darllen yr adnodau hyn, y Dïaconiaid, Wardeniaid yr Eglwys, neu ryw un cymhesur arall a osoder i hynny, a dderbyniant yr Elusenau i'r tlodion, ac offrymmau eraill y bobl, mewn cawg gweddus, a ddarperir gan y Plwyf i hynny; ac a'i dygant yn barchus at yr Offeiriad: yntau a'i cyflwyna yn ufudd, ac a'i dŷd ar y Bwrdd sanctaidd. ¶ A phan fo Cymmun,
yr Offeiriad yna a esyd ar y Bwrdd gymmaint
o Fara a Gwin ag a dybio fod yn ddigon. Gwedi darfod hynny, y dywed
yr Offeiriad, |
Offertory sentences |
Gweddïwn dros holl ystâd Eglwys
Grist sy'n milwrio yma ar y ddaear.
HOLL-alluog a byth-fywiol
Dduw, yr hwn trwy dy sanctaidd Apostol a'n dysgaist i wneuthur gweddïau
ac erfyniau, ac i ddïolch dros bob dyn; yr ydym ni yn ostyngedig
yn attolwg i ti yn drugaroccaf [gymmeryd
ein heluseni a'n hoffrymmau, a] dderbyn ein gweddïau hyn, y
rhai yr ydym yn eu hoffrwm i'th Ddwyfol Fawredd; gan attolygu i ti ysprydoli
yn wastad yr Eglwys gyffredinol âg yspryd y gwirionedd, undeb,
a chyd-gordio: a chaniattâ i bawb a'r y sy'n cyffesu dy Enw sancteiddiol,
gyttuno yngwirionedd dy sanctaidd Air, a byw mewn undeb a duwiol gariad.
Ni a attolygwn i ti hefyd gadw ac amddiffyn holl Gristianus Frenhinoedd,
Tywysogion, a Llywiawdwŷr; ac yn enwedig dy Wasanaethwr GEORGE, ein
Brenhin, fel y caffom dano ef ein llywodraethu yn dduwiol ac yn heddychol:
a chaniattâ iw holl Gynghor ef, ac i bawb a'r y sydd wedi
eu gosod mewn awdurdod dano, allu yn gywir ac yn uniawn rannu cyfiawnder,
er cospi drygioni a phechod, ac er cynnal dy wir Grefydd di, a Rhinwedd
dda. Dyro ras, nefol Dad, ir holl Esgobion, a Churadiaid, fel
y gallont trwy eu buchedd a'u hathrawiaeth osod allan dy wir a'th fywiol
Air, a gwasanaethu dy sanctaidd Sacramentau yn iawn ac yn ddyladwy.
A dyro i'th holl bobl dy nefod ras; ac yn enwedig ir gynnulleidfa
hon sydd yma yn gyd-ddrychiol; fel y gallont âg ufudd galon a
dyledus barch wrando a derbyn dy sanctaidd Air, gan dy wasanaethu yn
gywir mewn sancteiddrwydd ac uniondeb holl ddyddiau eu bywyd. Ac yr
ŷm yn ostyngeiddiaf yn attolygu i ti o'th ddaioni, Arglwydd, gysuro
a nerthu pawb a'r y sydd yn y bywyd trangcedig hwn, mewn trallod, tristwch,
angen, clefyd, neu ryw wrthwyneb arall. Ac yr ŷm ni hefyd yn bendithio
dy Enw sanctaidd, o ran dy holl weision a ymadawsant â'r
bywyd yma yn dy ffydd di a'th ofn; gan attolygu i ti roddi i
ni ras felly i ddilyn eu hesamplau da hwy, fel gyd â hwynt y byddom
gyfrannogion o'th deyrnas nefol. Caniattâ hyn, O Dad, er cariad
ar Iesu Grìst, ein hunig Gyfryngwr a'n Dadleuwr. Amen. |
Prayer for the whole state of Christ's Church militant |
¶ Pan fo'r Gweinidog yn rhoddi rhybudd o Weinyddiad y Cymmun bendigedig, (yr hyn a wna efe yn wastad ar y Sul neu ryw Ddydd Gwyl nesaf o'r blaen,) ar ol diweddu'r Bregeth neu'r Homili, efe a dderllyn y Cyngor hwn sydd yn canlyn. FY anwyl garedigion, ar ddydd
nesaf yr wyf yn amcanu, trwy help Duw, weinyddu i bawb
a fo ffyddlon a defosiynol, dra-chysurus Sacrament Corph a Gwaed Crist,
i'w dderbyn ganddynt er coffâu ei ryglyddus Grog a'i Ddïoddefaint
ef, trwy ba un yn unig y cawn faddeuant am ein pechodau, ac y'n gwneir
yn gyfrannogion o deyrnas nef. O herwydd paham ein dyledswydd yw, talu
ufuddaf a ffyddlonaf ddïolch i'r Holl-alluog Dduw ein Tad nefol,
am iddo roddi ei Fab ein Hiachawdwr Iesu Grist, nid yn unig i farw drosom,
eithr i fod hefyd yn ymborth a lluniaeth ysprydol i ni yn y Sacrament
bendigedig hwnnw. Yr hwn beth, gan ei fod mor ddwyfol a chysurus i'r
sawl a'i derbyniant yn deilwng, ac mor enbydus i'r rhai a ryfygant ei
dderbyn yn annheilwng; fy nyled i yw, eich cynghori chwi yn y cyfamser
i ystyried ardderchowgrwydd y Dirgeledigaeth bendigedig hwnnw, a'r mawr
berygl o'i dderbyn yn annheilwng; ac felly i chwilio a phrofi eich cydwybodau
eich hunain (a hynny nid yn ysgafn, ac yn ol dull rhai yn rhagrithio
â Duw, ond) fel y deloch yn lân ac yn sanctaidd i'r cyfryw
wledd nefol, yn y wisg-brïodas yr hon a ofyn Duw yn yr Ysgrythyr
Lân, ac y'ch derbynier megis Cyfrannogion teilwng o'r Bwrdd bendigedig
hwnnw. |
First exhortation |
¶ Neu, lle y gwelo efe y bobl yn esgeulus am ddyfod i'r Cymmun bendigedig, yn lle y cyntaf efe a arfer y Cyngor yma. ANWYL garedigion frodyr,
ar — y mae yn fy mryd, trwy ras Duw, weinyddu Swpper yr Arglwydd:
i'r hwn o ran Duw y'ch gwahoddaf bawb a'r y sydd yma yn gyd-ddrychiol,
ac a attolygaf iwch, er cariad ar yr Arglwydd Iesu Grist, na wrthodoch
ddyfod iddo, gan eich bod mor garedigol wedi eich galw a'ch gwahodd
gan Dduw ei hunan. Chwi a wyddoch mor ofidus, ac mor angharedig o beth
yw, pan fo gwr wedi arlwy, gwledd werthfawr, wedi trwsio ei fwrdd â
phob rhyw arlwy, megis na bai ddim yn eisiau, ond y gwahoddedigion i
eistedd; ac etto y rhai a alwyd (heb ddim achos) yn annïolchusaf
yn gwrthod dyfod. Pwy o honoch chwi yn y cyfryw gyflwr ni chyffroai?
pwy ni thybygai fod cam a sarhâd mawr wedi eu gwneuthur iddo?
Herwydd paham, fy anwyl garediccaf frodyr yng Nghrist, gwyliwch yn dda,
rhag i chwi, wrth ymwrthod a'r Swpper sancteiddiol hwn, annog llid Duw
i'ch erbyn. Hawdd i ddyn ddywedyd, Ni chymmunaf fi, o herwydd
bod negesau bydol i'm rhwystro. Eithr y cyfryw esgusodion nid ydynt
mor hawdd eu derbyn yn gymmeradwy ger bron Duw. Os dywed neb, Yr wyf
fi yn bechadur brwnt, ac am hynny yn ofni dyfod: paham gan hynny nad
ydych chwi yn edifarhâu, ac yn gwellhâu? Pan fo Duw yn eich
galw, onid oes gywilydd arnoch ddywedyd, na ddeuwch chwi? Pan ddydech
chwi ymchwelyd at Dduw, a ymesgusodwch chwi, a dywedyd, nad ydych barod?
Ystyriwch yn ddifrif ynoch eich hunain, leied a dâl y cyfryw goeg
esgusodion ger bron Duw. Y rhai a wrthodasant y wledd yn yr Efengyl,
oblegid iddynt brynu tyddyn, neu y mynnent brofi eu hieuau ychain, neu
oblegid eu prïodi, ni chawsant felly mo'u hesgusodi, ond eu cyfrif
yn annheilwng o'r wledd nefol. Myfi, o'm rhan i, fyddaf barod; ac, o
herwydd fy swydd, yr ydwyf yn eich gwahodd yn Enw Duw, yr wyf yn eich
galw o ran Crist; ac, megis y caroch eich iachawdwriaeth eich hunain,
yr wyf yn eich cynghori i fod yn gyfrannogion o'r Cymmun bendigedig
hwn. Ac, fel y bu wiw gan Fab Duw ymado â'i einioes, gan drengu
ar y groes dros eich iachawdwriaeth chwi; felly yn yr un modd y dylech
chwithau gymmeryd y Cymmun, er cof am offrymmiadaeth ei angau ef, fel
y gorchymynodd efe ei hun. Yn awr, os chwychwi a esgeuluswch wneuthur
hyn, meddyliwch ynoch eich hunain, faint y camwedd yr ydych yn ei wneuthur
â Duw, ac mor flin yw'r boen y sy goruwch eich pennau am hynny;
pan ydych yn anhydyn yn ymgadw oddi wrth Fwrdd yr Arglwydd, ac yn ymneillduo
oddi wrth eich brodyr, y rhai sy'n dyfod i ymborthi ar wledd y nefolaidd
luniaeth hwnnw. Os chwi a ddyfal ystyriwch y pethau hyn, trwy ras Duw
chwi a ddychwelwch i feddwl a fo gwell; er mwyn caffael o honoch hynny,
nid arbedwn ni wneuthur yn ostyngedig ein herfyniau i'r Holl-alluog
Dduw ein Tad nefol. |
Second Exhortation |
¶ Ar amser Gweinyddiad y Cymmun, a'r Cymmunwŷr wedi eu cyflëu yn weddus i gymmeryd y Sacrament bendigedig, yr Offeiriad a ddywed y Cyngor hwn. ANWYL garedigion yn
yr Arglwydd, y sawl sydd yn meddwl dyfod i fendigedig Gymmun Corph a
Gwaed ein Hiachawdwr Crist, rhaid i chwi ystyried y modd y mae Sant
Paul yn cynghori pawb i'w profi ac i'w holi eu hunain yn ddyfal, cyn
iddynt ryfygu bwytta o'r Bara hwnnw, ac yfed o'r Cwppan hwnnw. Canys
fel y mae'r lles yn fawr, os â chalon wir edifeiriol, ac â
bywiol ffydd, y cymmerwn y Sacrament bendigedig hwnnw (canys yna yr
ŷm ni yn ysprydol yn bwytta Cnawd Crist, ac yn yfed ei Waed ef; yna
yr ydym yn trigo yng Nghrist, a Christ ynom ninnau; yr ŷm ni yn un a
Christ, a Christ â ninnau) felly y mae'r perygl yn fawr, os ni
ai cymmer yn annheilwng. Canys yna yr ŷm ni yn euog o Gorph a
Gwaed Crist ein Hiachawdwr; yr ydym ni yn bwytta ac yn yfed ein barnedigaeth
ein hunain, heb ystyried Corph yr Arglwydd; yr ydym yn ennyn digofaint
Duw i'n herbyn; yr ŷm ni yn ei annog ef i'n pläu âg amrywiol
glefdau, ac amryw fath ar angau. Bernwch gan hynny eich hunain (frodyr)
fel na'ch barner gan yr Arglwydd; gwir-edifarhêwch am eich pechodau
a aeth heibio; bydded gennych fywiol a dïogel ffydd yng Nghrist
ein Hiachawdwr; gwellhêwch eich buchedd, a byddwch mewn cariad
perffaith â phawb: felly y byddwch weddus gyfrannogion o'r Dirgeledigaethau
sancteiddiol hyn. Ac o flaen pob peth y mae'n rhaid i chwi roddi gostyngeiddiaf
a charediccaf ddïolch i Dduw, y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glân,
am brynedigaeth y byd trwy angau a dïoddefaint ein Hiachawdwr Crist,
Duw a dyn, yr hwn a ymostyngodd i angau'r groes, drosom ni bechaduriaid
truain, y rhai oeddym yn gorwedd mewn tywyllwch a chysgod angau, fel
y gallai efe ein gwneuthur ni yn blant i Dduw, a'n dyrchafael i fywyd
tragywyddol. Ac, er cofio o honom yn wastad ddirfawr gariad ein Harglwydd
a'n hunig Hiachawdwr Iesu Grist, fel hyn yn marw drosom, a'r aneirifddoniau
daionus, y rhai, trwy dywallt ei werthfawr waed, a ynnillodd efe
i ni; efe a osododd ac a ordeiniodd sanctaidd ddirgeledigaethau,
fel gwystlon o'i gariad, a gwastadol gof am ei angau, er mawr ac annherfynol
ddiddanwch i ni. Gan hynny iddo ef, gyd â'r Tad a'r Yspryd Glân,
rhoddwn (fel yr ŷm yn rhwymediccaf) wastadol ddïolch ; gan
ymostwng yn gwbl i'w sanctaidd ewyllys a'i orchymyn ef, a myfyrio ei
wasanaethu ef mewn gwir sancteiddrwydd a chyfiawnder, holl ddyddiau
ein heinioes. Amen. |
Third exhortation |
¶ Yma y dywed yr Offeiriad wrth y rhai a fo'n dyfod i gymmeryd y Cymmun bendigedig. CHWYCHWI y sawl sydd
yn wir ac yn ddifrifol yn edifarhâu arn eich pechodau, ac y sydd
mewn cariad perffaith â'ch cymmydogion, ac yn meddwl dilyn buchedd
newydd, a chanlyn gorchymynion Duw, a rhodio o hyn allan yn ei ffyrdd
sancteiddiol ef; Deuwch yn nês trwyffydd, a chymmerwch y Sacrament
sancteiddiol hwn i'ch cysur, a gwnewch eich gostyngedig gyffes i'r Holl-alluog
Duw, gan ostwng yn ufudd ar eich gliniau. |
Invitation |
¶ Yna y dywedir y Gyffes gyffredin hon, yn enw pawb o'r rhai a fyddont ar feddwl cymmeryd y Cymmun bendigedig, gan un o'r Gweinidogion; yntau a'r bobl oll yn gostwng yn ufudd ar eu gliniau, ac yn dywedyd, HOLL-alluog Dduw, Tad
ein Harglwydd Iesu Grist, Gwneuthurwr pob dim, Barnwr pob dyn; Yr ŷm
ni yn cydnabod ac yn ymofidio dros ein hamryw bechodau a'n hanwiredd,
Y rhai o ddydd i ddydd yn orthrymmaf a wnaethom, Ar feddwl, gair,
a gweithred, Yn erbyn dy Ddwyfol Fawredd, Gan annog yn gyfiawnaf
dy ddigofaint ath lid i'n herbyn. Yr ydym yn ddifrifol yn edifarhâu,
Ac yn ddrwg gan ein calonnau dros ein camweithredoedd hyn: Eu coffa
sy drwm gennym; Eu baich sydd anoddefadwy. Trugarhâ wrthym, Trugarhâ
wrthym, drugaroccaf Dad; Er mwyn dy un Mab ein Harglwydd Iesu Grist,
Maddeu i ni yr hyn oll a aeth heibio; A chaniattâ i ni allu byth
o hyn allan dy wasanaethu a'th foddloni mewn newydd-deb buchedd, Er
anrhydedd a gogoniant dy Enw; Trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen. |
Confession |
¶ Yna yr Offeiriad (neu'r Esgob, os bydd yn gyd-ddrychiol) a saif, gan droi at y bobl, ac a ddatgan y Gollyngdod hwn. HOLL-alluog Dduw, ein
Tad nefol, yr hwn o'i fawr drugaredd a addawodd faddeuant pechodau i
bawb gan edifeirwch calon a gwir ffydd a ymchwel atto; A drugarhao wrthych,
a faddeuo i chwi, ac a'ch gwaredo oddi wrth eich holl bechodau, a'ch
cadarnhao ac a'ch cryfhao ym mhob daioni, ac a'ch dygo i fywyd tragywyddol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen. |
Absolution |
¶Ar ol hynny y dywed yr Offeiriad, Gwrandêwch pa ryw eiriau cysurus a ddywed ein Hiachawdwr Crist wrth bawb a wir ymchwelant atto ef. DEUWCH attaf fi bawb
a'r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, ac mi a esmwythâf arnoch.
St. Matth. xi. 28. ¶ Ar ol y rhai hyn yr â'r Offeiriad rhagddo, gan ddywedyd, Dyrchefwch eich calonnau. ¶ Yna yr Offeiriad a drŷ at Fwrdd yr Arglwydd, ac a ddywed, Y Mae yn gwbl addas,
yn gyfiawn, a'n rhwymedig ddyled ni yw, bob amser, ac ym mhob lle, ddiolch
i ti. Arglwydd, [*
Sancteiddiol Dad,] Holl-alluog, dragywyddol Dduw. |
Comfortable words |
¶ Yma isod y canlyn y Rhagymadrodd prïodol wrth yr amser, os bydd yr un wedi ei osod yn hyspysol; ac onid ê, yn ddi-dor y canlyn, GAN hynny gyd âg
Angylion ac Arch-angylion, a chyd â holl gwmpeini nef, y moliannwn
ac y mawrhâwn dy ogoneddus Enw; gan dy foliannu yn wastad, a dywedyd,
Sanct, sanct, sanct, Arglwydd Dduw'r lluoedd, nef a daear sydd yn llawn
o'th ogoniant: Gogoniant a fo i ti, O Arglwydd goruchaf. Amen. |
|
Rhagymadroddion prïod. Ar Ddydd Nadolig Crist, a saith Niwrnod gwedi. AM i ti roddi Iesu Grist
dy un Mab i'w eni ar gyfenw i'r amser yma drosom ni; yr hwn trwy weithrediad
yr Yspryd Glân a wnaethpwyd yn wir ddyn, o hanfod y Forwyn Fair
ei fam, a hynny heb ddim pechod, i'n gwneuthur ni yn lân oddi
wrth bob pechod. Gan hynny gyd âg Angylion, &c. |
Proper Prefaces: Christmas |
Ar Dydd Pasg, a saith Niwrnod gwedi. OND yn bendifaddef,
yr ŷm yn rhwymedig i'th foliannu am anrhydeddus Adgyfodiad dy Fab Iesu
Grist ein Harglwydd canys efe yw'r gwir Oen Pasg, yr hwn a offrymmwyd
drosom, ac a ddileodd bechod y byd; yr hwn trwy ei angau ei hun a ddinystriodd
angau, a thrwy ei adgyfodiad i fywyd, a adferodd i ni fywyd tragywyddol.
Gan hynny gyd âg Angylion, &c. |
Easter |
Ar Ddydd y Dyrchafael, a saith Niwrnod gwedi. TRWY dy anwyl garedicaf
Fab Iesu Grist ein Harglwydd; yr hwn, ar ol ei anrhydeddusaf Adgyfodiad,
a ymddangosodd yn eglur i'w holl Apostolion, ac yn eu golwg a esgynodd
i'r nefoedd, i barottôi lle i ni; fel lle y mae efe, yno yr esgynom
ninnau hefyd, ac y teyrnasom gyd âg ef mewn gogoniant. Gan hynny
gyd âg Angylion, &c. |
Ascension |
Ar y Sulgwyn,
a chwe Diwrnod ar ol.
TRWY Iesu Grist ein Harglwydd; oddi
wrth yr hwn, yn ol ei gywiraf addewid, y disgynodd yr Yspryd Glân,
ar gyfenw i'r amser yma, o'r nef â disymmwth swn mawr, megis gwynt
nerthol, ar wedd tafodau tanllyd, gan ddisgyn ar yr Apostolion, i'w
dysgu hwynt, ac i'w harwain i bob gwirionedd; gan roddi iddynt ddawn
amryw ieithoedd, a hyder hefyd, gyd â chariad gwresog, yn ddyfal
i bregethu'r Efengyl i'r holl genhedloedd; trwy'r hyn y'n dygwyd allan
o dywyllwch a chyfeiliorni, i'th eglur oleuni, ac i wir wybodaeth am
danat ti, a'th Fab Iesu Grist. Gan hynny gyd âg Angylion, &c. |
Whitsunday |
Ar Wyl y Drindod yn unig. YR hwn wyt un Duw, un Arglwydd ; nid un Person yn unig, ond tri Pherson mewn un sylwedd. Canys yr hyn yr ydym ni yn ei gredu am ogoniant y Tad, hynny yr ydym yn ei gredu am y Mab, ac am yr Yspryd Glân, heb na gwahaniaeth nac anghyfartalwch. Gan hynny gyd âg Angylion, &c. ¶ Ar ol pob un o'r Rhagymadroddion hyn, yn ddi-dor y cenir, neu y dywedir, GAN hynny gyd âg
Angylion ac Arch-angylion, a chyd â holl gwmpeini nef, y moliannwn
ac y mawrhâwn dy ogoneddus Enw; gan dy foliannu yn wastad, a dywedyd,
Sanct, sanct, sanct, Arglwydd Dduw'r lluoedd, nef a daear sydd yn llawn
o'th ogoniant: Gogoniant a fo i ti, O Arglwydd goruchaf. Amen. |
Trinity Sunday |
¶ Yna yr Offeiriad, ar ei liniau wrth Fwrdd yr Arglwydd, a ddywed, yn enw yr holl rai a gymmerant y Cymmun, y Weddi hon y sydd yn canlyn. NID ŷm ni yn rhyfygu
dyfod i'th Fwrdd di yma, drugarog Arglwydd, gan ymddiried yn ein cyfiawnder
ein hunain, eithr yn dy aml a'th ddirfawr drugareddau di. Nid ydym ni
deilwng cymmaint ag i gasglu'r briwsion dan dy Fwrdd di: eithr tydi
yw yr un Arglwydd, yr hwn bïau o brïodoldeb yn wastad drugarhâu;
Caniattâ i ni gan hynny, Arglwydd grasol, felly fwytta cnawd dy
anwyl Fab Iesu Grist, ac yfed ei waed ef, fel y gwneler ein cyrph pechadurus
ni yn lân trwy ei gorph ef, ac y golcher ein heneidiau trwy ei
werthfawroccaf waed ef; ac fel y trigom byth ynddo ef, ac yntau ynom
ninnau. Amen. |
Prayer of Humble Access |
¶ Pan ddarffo i'r Offeiriad, yn sefyll wrth y Bwrdd, felly drefnu'r Bara a'r Gwin, fel y gallo yn barottach, ac yn weddeiddiach dorri'r Bara yngŵydd y bobl, a chymmeryd y Cwppan i'w ddwylaw; efe a ddywed Weddi y Cyssegriad, fel y mae yn canlyn. HOLL-alluog Dduw, ein
Tad nefol, yr hwn o'th dyner drugaredd a roddaist dy un Mab Iesu Grist
i ddïoddef angau ar y Groes er ein prynu; yr hwn a wnaeth yno (trwy
ei offrymmiad ei hun yn offryminedig unwaith) gyflawn, berffaith, a
digonol aberth, offrwm, ac iawn, dros bechodau'r holl fyd; ac a ordeiniodd,
ac yn ei sanctaidd Efengyl a orchymynodd i ni gadw tragywyddol goffa
am ei werthfawr angau hwnnw, nes ei ddyfod drachefn; Gwrando ni, drugarog
Dad, ni yn ostyngeiddiaf a attolygwn i ti; a chaniattâ i ni, gan
gymmeryd dy greaduriaid hyn o Fara a Gwin, yn ol sanctaidd Ordinhâd
dy Fab Iesu Grist ein Hiachawdwr, er cof am ei angau a'i ddïoddefaint,
allu bod yn gyfrannogion o'i fendigedig Gorph a'i Waed: yr hwn, ar y
nos honno y bradychwyd, y (a)
a gymmerth fara; ac wedi iddo ddïolch, (b) efe a i torrodd,
ac a'i rhoddes i'w ddisgyblion, gan ddywedyd, Cymmerwch, bwyttêwch;
(c) hwn yw fy Nghorph yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er
cof am danaf. Yr un modd gwedi swpper, (d) efe a gymmerth
y cwppan; ac wedi iddo ddïolch, efe a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd,
Yfwch O hwn bawb; canys hwn (e) yw fy Ngwaed o'r Testament Newydd,
yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch, a thros lawer, er maddeuant pechodau:
gwnewch hyn, cynnifer gwaith ag ei hyfoch, er cof am danaf. Amen. |
Prayer of Consecration |
¶ Yna y Gweinidog a gymmer y Cymmun yn gyntaf yn y ddau ryw, ei hun; ac yna yr â ym mlaen i roddi'r unrhyw i'r Esgobion, Offeiriaid, a Dïaconiaid, yr un modd (os bydd yr un yn bresennol) ac wedi hynny i'r bobl hefyd mewn trefn, i'w dwylaw, a phawb yn ostyngedig ar eu gliniau. A phan roddo 'r Bara i bob un, efe a ddywed, CORPH ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a roddwyd drosot ti, a gadwo dy gorph a'th enaid i fywyd tragywyddol. Cymmer a bwytta hwn, er cof farw o Grist drosot ti, ac ymborth arno yn dy galon trwy ffydd, gan roddi dïolch. ¶ A'r Gweindog a fo yn roddi y Cwppan i bob un, a ddywed, GWAED ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a dywalltwyd drosot ti, a gadwo dy gorph a'th enaid i fywyd tragywyddol. Yf hwn, er cof tywallt gwaed Crist drosot ti, a bydd ddïolchgar. ¶ Os bydd y Bara neu'r Gwin cysegredig wedi en treulio oll cyn cymmuno o bawb, cyssegred yr Offeiriad ychwaneg yn ol y dull uchod; gau ddechreu ar [Ein Hiachawdwr Crist, y nos, &c.] i fendigo'r Bara; ac ar [Yr un modd gwedi Swpper, &c.] i fendigo'r Cwppan. ¶ Pan fo pawb wedi cymmuno, y Gweinidog a ddychwel at Fwrdd yr Arglwydd, a thrwy barch a esyd arno a fo yngweddill o'r Elfennau cyssegredig, gan daenu llïaim glân drostynt. ¶ Yna yr Offeiriad
a ddywed Weddi'r Arglwydd; a'r bobl yn adrodd pob Arch o honi ar ei
ol ef. |
Words of Administration |
EIN Tad,
yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas. Bydded
dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein
bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y maddeuwn ni i'n dyledwŷr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwared ni rhag drwg. Amen. |
Lord's Prayer |
¶ Wedi hynny y dywedir fel y canlyn. O Arglwydd, a nefol Dad, yr ydym ni dy ostyngedig weision yn cwbl ddeisyfu ar dy dadol ddaioni, yn drugarog dderbyn ein haberth hwn o foliant a dïolch; gan erfyn arnat yn ostyngeiddiaf ganiattâu, bod, trwy ryglyddon ac angau dy Fab Iesu Grist, a thrwy Ffydd yn ei waed ef, i ni ac i'th holl Eglwys gael maddeuant o'n pechodau, a phob doniau eraill o'i ddïoddefaint ef. Ac yma yr ŷm yn offrwm ac yn cyflwyno i ti, O Arglwydd, ein hunain, ein heneidiau, a'n Cyrph, i fod yn aberth rhesymmol, sanctaidd, a bywiol, i ti; gan attolygu i ti yn ostyngedig, fod i bawb o honom y sy gyfrannogion o'r Cymmun bendigaid hwn, gael ein cyflawni â'th ras ac â'th nefol fendith. Ac er ein bod ni yn annheilwng, trwy ein hamryw bechodau, i offrwm i ti un aberth; etto ni a attolygwn i ti gymmeryd ein rhwymedig ddyled a'n gwasanaeth hwn; nid gan bwyso ein haeddedigaethau, ond gan faddeu ein pechodau, trwy Iesu Grist ein Harglwydd; trwy'r hwn, a chyd â'r hwn, yn undod yr Yspryd Glân, holl anrhydedd a gogoniant a fyddo i ti, Dad Holl-alluog, yn oes oesoedd. Amen. Neu hyn. HOLL-alluog a byth-fywiol
Dduw, yr ydym ni yn dirfawr ddïolch i ti, am fod yn wiw gennyt
ein porthi ni, y rhai a gymmerasom yn ddyledus y dirgeledigaethau sancteiddiol
hyn, âg ysprydol ymborth gwerthfawroccaf Gorph a Gwaed dy Fab,
ein Hiachawdwr Iesu Grist; ac wyt yn ein sicrhâu ni, trwy hynny,
o'th amgeledd ac o'th ddaioni i ni; a'n bod yn wir aelodau wedi ein
corpholaethu yn nirgel Gorph dy Fab, yr hwn yw gwynfydedig gynnulleidfa'r
holl ffyddlon bobl; a'n bod hefyd, trwy obaith, yn etifeddion
y Deyrnas dragywyddol, gan haeddedigaethau gwerthfawroccaf angau a dïoddefaint
dy anwyl Fab. Ac yr ŷm ni yn ostyngeiddiaf yn attolygu i ti, O nefol
Dad, felly ein cynnorthwyo ni â'th ras, fel yr arhosom yn wastad
yn y sanctaidd gymdeithas honno, ac y gwnelom bob rhyw weithredoedd
da a'r a ordeiniaist ti i ni rodio ynddynt; trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
i'r hwn, gyd â thi a'r Yspryd Glân, y bo holl anrhydedd
a gogoniant, yn dragywyddol. Amen. |
Post-communion Thanksgivings |
¶
Yna y dywedir, neu y cenir,
GOGONIANT i Dduw yn yr
uchelder, ac ar y ddaear tangnefedd, ewyllys da i ddynion. Nia'th folwn,
ni a'th fendithiwn, ni a'th addolwn, ni a'th ogoneddwn, i ti y dïolchwn
am dy fawr ogoniant, Arglwydd Dduw, Frenhin nefol, Duw Dad Holl-alluog. |
Gloria |
¶ Yna'r Offeiriad (neu'r Esgob, os bydd efe yn bresennol) a ollwng y bobl ymaith a'r Fendith hon. TANGNEFEDD Dduw yr hwn
sydd uwch law pob deall, a gadwo eich calonnau a'ch meddyliau yngwybodaeth
a chariad Duw, a'i Fab Iesu Grist ein Harglwydd: a bendith Dduw Holl-alluog,
y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glân, a fyddo i'ch plith, ac a drigo
gyd â chwi yn wastad. Amen. |
Dismissal |
¶ Colectau i'w dywedyd ar ol yr Offrymmiad, pryd na bo un Cymmun, bob rhyw ddiwrnod un neu ychwaneg; a'r un rhai a ellir eu dywedyd hefyd, cynnifer amser ag y bydda achos yn gwasanaethu, wedi'r Colectau ar y Foreol neu'r Brydnhawnol Weddi, y Cymmun, neu'r Litani, ,fod y gwelo'r Gweinidog fod yn gymhesur. CYNNORTHWYA ni yn drugarog, Arglwydd, yn ein gweddïau hyn a'n herfyniau; a llywodraetha ffordd dy wasanaeth-ddynion tu ag at gaffael iachawdwriaeth dragywyddol; fel, ym mysg holl gyfnewidiau a damweiniau'r bywyd marwol hwn, yr amddiffyner hwynt byth trwy dy radlonaf a'th barottaf gymmorth; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen. HOLL-alluog Arglwydd, a thragywyddol Dduw, ni a attolygwn i ti fod yn wiw gennyt unioni, sancteiddio, a llywodraethu, ein calonnau a'n cyrph yn ffyrdd dy ddeddfau, ac yngweithredoedd dy orchymynion fel, trwy dy gadarnaf nodded, yma ac yn dragywyddol, y bôm yn gadwedig gorph ac enaid; trwy ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist. Amen. CANIATTA, ni a attolygwn i ti, Holl-alluog Dduw, am y geiriau a glywsom heddyw â'n clustiau oddi allan, eu bod felly trwy dy ras wedi eu plannu yn ein calonnau oddi mewn, fel y dygont ynom ffrwyth buchedd dda, er anrhydedd a moliant i'th Enw; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen. RHAGFLAENA ni, O Arglwydd, yn ein holl weithredoedd â'th radlonaf hoffder, a rhwyddhâ ni â'th barhâus gymmorth; fel, yn ein holl weithredoedd, dechreuedig, annherfynedig, a therfynedig ynot ti, y moliannom dy sanctaidd Enw, ac yn y diwedd y caffom gan dy drugaredd fywyd tragywyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen. HOLL-alluog Dduw, ffynnon yr holl ddoethineb, yr hwn wyt yn gwybod ein hangenrheidiau cyn eu gofynom, a'n hanwybodaeth yn gofyn; Ni a attolygwn i ti, dosturio wrth ein gwendid; a'r pethau hynny y rhai oblegid ein hannheilyngdod ni feiddiwn, ac oblegid ein dallineb ni fedrwn eu gofyn, fod yn deilwng gennyt eu rhoddi i ni, er teilyngdod dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen. HOLL-alluog Dduw, yr
hwn a addewaist wrando eirchion y rhai a ofynant yn Enw dy Fab; Ni a
attolygwn i ti ostwng yn drugarog dy glustiau attom ni, y rhai a wnaethom
yr awrhon ein gweddïau a'n herfyniau attat; a chaniattâ am
y pethau hyn a archasom yn ffyddlon yn ol dy ewyllys, eu caffael o honom
yn hollol, i borthi ein hangen, ac er eglurhâu dy ogoniant; trwy
Iesu Grist ein Harglwydd. Amen. |
Collects to be said after the Offertory |
¶ Ar y Suliau a'r Gwyliau eraill (oni bydd Cymmun) y dywedir y cwbl a'r a osodwyd ar y Cymmun, hyd ddiwedd y Weddi gyffredin [Dros holI Ystâd Eglwys Grist yn milwrio yma ar y ddaear] ac un neu ychwaneg o'r Colectau a adroddwyd uchod, gan ddibennu â'r Fendith. ¶ Ac ni bydd gwasanaethu Swpper yr Arglwydd, oddi eithr bod nifer cymmwys o bobl i gymmuno gyd â'r Offeiriad, fel y gwe!o efe fod yn iawn. ¶ Ac oni bydd mwy nag ugein-nyn yn y Plwyf, o bwyll i gymmeryd y Cymmun; etto ni bydd un Cymmun, oni bydd pedwar, neu dri o'r lleiaf, i gymmuno gyd â'r Offeiriad. ¶ Ac mewn Eglwysydd Cadeiriol, Colegol, a Cholegau, lle byddo llawer o Offeiriaid, a Dïaconiaid, cymmerant hwy oll y Cymmun gyd â'r Offeiriad bob Sul o'r lleiaf oni bydd ganddynt achos rhesysmmol i'r gwrthwyneb. ¶ Ac er dilëu pob Achos o Ymryson ac Ofergoel y sydd, neu a allo fod gan neb yn y Bara a'r Gwin; efe a wasanaetha bad y Bara yn gyfryw ag y sydd arferedig i'w fwytta; eithr y Bara Gwenith goreu a'r puraf ag a aller ei gael yn gymmwys. ¶ Ac os bydd dim o'r Bara a'r Gwei heb ei gyssegru dros ben, y Curad a'i caiff iddo ei hun; eithr os bydd dim o'r hyn a gyssegrwyd yngweddill, ni ddygir dim o hono allan o'r Eglwys; eithr yr Offeiriad, a chyfryw eraill o'r Cymmunwŷr ag a eilw efe atto y pryd hwnnw, a fwyttâni ac a yfant yr unrhyw, trwy barch, yn ebrwydd ar ol y Fendith. ¶ Y Bara a'r Gwin i'r Cymmun a barottôir gan y Curad a Wardeniaid yr Eglwys ar gost y Plwyf. ¶ Nodwch hefyd, Bod i bob Plwyfol gymmuno o'r lleiaf dair gwaith yn y flwyddyn; ac o hynny bod y Pasg yn un. Ac ar y Pasg bob blwyddyn; bod i bob Plwyfol gyfrif â'i Berson, Ficer, neu ei Gurad, neu ei Brocurator neu ei Brocuratoriaid; a thalu iddynt, neu iddo ef yr holl Ddyledion Eglwysig a fo'n arferedig yn ddyledus yna, ar yr amser hwnnw i'w talu. ¶ Pan orphener Gwasanaeth
Duw, yr Arian a roddwyd ar yr Offrymmiadau a ddosperthir i ryw Wasanaeth
duwiol a chardodol, fel y bo i'r Gneinidog a Wardeniaid yr Eglwys weled
yn gymmwys. Os hwy ni chyttunant yn hynny, dosparther hwynt fel y trefno'r
Ordinari. |
|
LLE yr ordeinir yn y Gwasanaeth hwn o Weinyddiad Swpper yr Arglwydd, bod i'r Cymmunwŷr gymmeryd yr unrhyw ar eu gliniau (yr hyn a ordeiniwyd ar feddwl da; sef, yn arwyddocâd o'n hufudd a'n dïolchgar gydnabod o ddoniau daionus Crist a roddir ynddo i bob Cymrnunwr addas, ac er gochelyd y cyfryw halogedigaeth ac annhrefn yn y Cymmun bendigedig, ag a allai heb hyn ddigwyddo) er hynny, fel na bo i neb, nac o anwybodaeth a gwendid, gam-gymmeryd, nac o falais a chyndynrwydd, anurddo'r arwydd hwn o benlinio; hyspysir yma, Na feddylir trwy hyn, ac na ddylid gwneuthur dim addoliad, nac i Fara a Gwin y Sacrament a gymmerir yno yn gorphorol, nac i neb rhyw Gyd-ddrychiodeb corphorol o anianol Gnawd a Gwaed Crist. Canys y rnae Bara a Gwin y Sacrament yn aros yn wastad yn eu gwir anianol ddefnyddiau, fel nad aller eu haddoli (canys hyn a fyddai Eilun-addoliad, i'w ffieiddio gan bob Cristion ffyddlon;) Ac y mae Corph a Gwaed anianol ein Hiachawdwr Crist yn y nef ac nid yma; canys ni chyd-saif fod Corph Crist yn wir aniauol, ai fod ar yr un amser o fewn ychwaneg o fannau nag un. |
Web author: Charles Wohlers | U. S. England Scotland Ireland Wales Canada World |