The Book of Common Prayer
United States England Scotland Ireland Wales Canada World

   

Llyfr Gweddi Gyffredin
the Book of Common Prayer in Welsh


 

FFURF A DULL

GWNEUTHUR, URDDO, A CHYSSEGRU,

ESGOBION, OFFEIRIAID, A DIACONIAID,

YN OL TREFN EGLWYS LOEGR.


Y RHAGYMADRODD.

HYSPYS yw i bawb yn dyfal ddar1lain yr Ysgrythyr Lân, a hen Awelwŷr, fod y Graddau hyn o Weinidogion yn Eglwys Grist er amser yr Apostolion; sef, Esgobion, Offeiriaid, a Diaconiaid. A’r cyfryw barchus fri ydoedd eriôed ar y Swyddau hyn, fel na allai neb ryfygu gweini yn yr un o honynt, oddi eithr yn gyntaf iddo gael ei alw, ei brofi, ei holi, ac amlygu fod ganddo Gynneddfau cymmwys i’r unrhyw; ac oddi eithr hefyd cael, trwy Weddi gyhoedd, ynghŷd âg Arddodiad Dwylaw, ei gymmeradwyo a’i dderbyn i’r Swydd gan Awdurdod gyfreithlon. O herwydd paham, fel y byddo’r Swyddau hyn yn barhâus, ac y caffont barchus ymarferiad ac anrhydedd o fewn Eglwys Loegr; ni chyfrifir ac ni chymmerir neb am Esgob, Offeiriad, neu Ddiacon cyfreithlon, o fewn Eglwys Loegr, ac ni oddefir iddo weini yn yr un o’r Swyddau dywededig, oddi eithr iddo gael â alw, ci brofi, a’i holi, a’i dderbyn iddynt, yn ol y Ffurf y sydd yn canlyn yma, neu oni chafodd Esgobawl Gyssegriad, neu Urddiad, ym mlaen llaw.
    Ac ni dderbynir neb yn Ddiacon, hyd oni bo yn dair Blwydd ar hugain o oedran, oddi eithr iddo gael Cennad. A bydded pob un a dderbynir yn Offeiriad, yn llawn bedair Blwydd ar hugain o oedran. A bydded pob un a urddir neu a gyssegrir yn Esgob, yn gyflawn ddeng Mlwydd ar hugain o oedran.
    A’r Esgob, naill ai yn gwybod ei hun, neu trwy Dystiolaeth ddigonol, fod neb rhyw un yn Wr o Fuchedd rinweddus, ac yn ddifeius, ac yn ei gael ef, yn ol ei holi a’i brofi, yn ddysgedig yn y Lladiniaith, ac yn ddigon cyfarwydd yn yr Ysgrythyr Lân; efe a all ei wneuthur ef yn Ddiacon yngŷydd yr Eglwys, ar yr Amseroedd gosodedig yn y Canon; neu, ar Achos mawr yn cymmell, ar ryw Ddydd Sul neu Ddydd Gwyl arall, yn Y cyfryw Fodd a Ffurf ag sydd yma’n canlyn.

 


 

The Form and Manner
of Making, Ordaining & Consecrating

Bishops, Priests, and Deacons

 

The Preface

FFURF A DULL GWNEUTHUR

DIACONIAID.


¶ AR Y Dydd gosodediq gan yr Esgob, pan orphener y Gwasanaeth Boreol, y bydd Pregeth neu Gyngor yn mynegi Swydd a Dyledswydd y cyfryw ag a ddeuant i’w gwneuthur yn Ddïaconiaid; mor angenrheidiol yw y Radd honno yn Eglwys Grist; ac hefyd, pa faint y dylai’r Bobl eu perchi hwy yn eu Swydd.


¶ Yn gyntaf, yr Archdïacon, neu ei Raglaw ef, a gyflwyna i’r Esgob (ac ef yn eistedd yn ei Gadair ger llaw’r Bwrdd bendigedig) gynnifer ag a ddymunant eu hurddo yn Ddïaconiaid (a phob un o honynt wedi ymwisgo yn hardd) gan ddywedyd y Geiriau hyn.

ANRHYDEDDUS Dad yn Nuw, yr wyf yn cyflwyno i chwi y gwŷr presennol hyn i’w gwneuthur yn Ddiaconiaid.

¶ Yr Esgob.

GWILIWCH ar fod y rhai yr ydych yn eu cyflwyno i ni, yn addas ac yn gymmwys, o herwydd eu dysg a’u duwiol ymarweddiad, i iawn gyflawni eu Gweinidogaeth, er anrhydedd i Dduw, ac er adeiladaeth i’w Eglwys.

¶ Yr Archdïacon a ettyb.

MYFI a ymofynais am danynt, ac a’u holais hwynt eu hunain; ac yr wyf fi yn meddwl eu bod hwy felly.

¶ Yna yr Esgob a ddywed wrth y Bobl,

FY mrodyr, od oes neb o honoch a ŵyr un Rhwystr, neu Fai cyhoeddus, yn neb o’r rhai hyn a gyflwynwyd i’w hurddo yn Ddiaconiaid, o herwydd yr hwn ni ddylai gael ei dderbyn i’r Swydd honno, deued ger bron, yn Enw Duw, a dangosed beth yw’r Bai neu’r Rhwystr.

¶ Ac os rhyw Fai gorthrwm, neu Rwystr, a honnir, yr Esgob a arbed urddo’r Dyn hwnnw, hyd pan gaffer y cyhuddedig yn ddïargyhoedd o’r Bai hwnnw.

¶ Yna yr Esgob (gan orchymyn y rhai a gaffer yn gymmwys i’w hurddo, i Weddïau’r Gynnulleidfa) gyd â’r Offeiriaid a’r bobl bresennol, a (lân, neu a ddywed, y Litani, gyd â’r Gweddïau, fel y canlyn.
 

Form & Manner of Making

Deacons

Y Litani a’r Cyd-eirchion.

DUW Dad o’r nef : trugarhâ wrthym wir bechaduriaid.
   Duw Dad o’r nef : trugarhâ wrthym wir bechaduriaid.
   
Duw Fab, Brynwr y byd : trugarhâ wrthym wir bechaduriaid.
    Duw Fab, Brynwr y byd : trugarhei wrthym wir bechaduriaid.
    Duw Yspryd Glân, yn deilliaw oddi wrth y Tad a’r Mab : trugarhâ wrthym wir bechaduriaid.
    Duw Yspryd Glân, yn deilliaw oddi wrth y Tad a’r Mab : trugarhâ wrthym wir bechaduriaid.
    Yr ogoned, lân, fendigaid Drindod, tri Pherson, ac un Duw : trugarhâ wrthym wir bechaduriaid.
    Yr ogoned, lân, fendigaid Drindod, tri Pherson, ac un Duw : trugarhâ wrthym wir bechaduriaid.
    Na chofia, Arglwydd, ein hanwiredd, nac anwiredd ein rhieni; ac na ddyro ddial am ein pechodau : arbed nyni, Arglwydd daionus, arbed dy bobl a brynaist â ‘th werthfawroccaf waed, ac na lidia wrthym yn dragywydd.
    Arbed ni, Arglwydd daionus.
    Oddi wrth bob drwg ac anffawd; oddi wrth bechod, oddi wrth ystryw ac ymgyrch y cythraul; oddi wrth dy lid, ac oddi wrth farnedigaeth dragywyddol,
    Gwared ni, Arglwydd daionus.
    Oddi wrth bob dallineb calon; oddi wrth falchder, a gwag-ogoniant, a ffug sancteiddrwydd; oddi wrth gynfigen, digasedd, a bwriad drwg, a phob anghariadoldeb,
    Gwared ni, Arglwydd daionus.
    Oddi wrth anniweirdeb, a phob pechod marwol arall; ac oddi wrth holl dwyll y byd, y cnawd, a’r cythraul,
    Gwared ni, Arglwydd daionus.
    Oddi wrth fellt a thymmestl; oddi wrth bla, haint y nodau, a newyn; oddi wrth ryfel, a llofruddiaeth, ac oddi wrth angau disyfyd,
    Gwared ni, Arglwydd daionus.
    Oddi wrth bob terfysg, dirgel frad, a gwrthryfel; oddi wrth bob gau ddysgeidiaeth, heresi, a sism; oddi wrth galedrwydd calon, a dirmyg ar dy Air a’th Orchymyn,
    Gwared ni, Arglwydd daionus.
    Trwy ddirgelwch dy hin Gnawdoliaeth; trwy dy sanctaidd Enedigaeth, a’th Enwaediad; trwy dy Fedydd, dy Ympryd, a’th Brofedigaeth,
    Gwared ni, Arglwydd daionus.
    Trwy dy ddirfawr Ing, a’th Chwŷs gwaedlyd; trwy dy Grog, a’th Ddioddefaint; trwy dy werthfawr Angau, a’th Gladdedigaeth; trwy dy anrhydeddus Adgyfodiad, a’th Esgyniad; a thrwy ddyfodiad yr Yspryd Glân,
    Gwared ni, Arglwydd daionus.
    Yn holl amser ein trallod, yn holl amser ein gwỳnfyd; yn awr angau, ac yn nydd y farn,
    Gwared ni, Arglwydd daionus.
    Nyni bechaduriaid a attolygwn i ti ein gwrando, O Arglwydd Dduw; a theilyngu o honot gadw, rheoli, a llywodraethu dy lân Eglwys Gyffredinol yn y ffordd union;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot gadwa nerthu i’th wir addoli, mewn iawnder a glendid buchedd, dy Wasanaethyddes VICTORIA, ein grasusaf Frenhines a’n Pen-llywydd;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot lywodraethu ei chalon yn dy ffydd, ofn, a chariad; ac iddi ymddiried byth ynot, ac ymgais yn wastad â’th anrhydedd a’th ogoniant;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot ei hamddiffyn a’i chadw, gan roddi iddi fuddugoliaeth ar ei holl elynion;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot fendithio a chadw Albert Edward Tywysog Cymru, Tywysoges Cymru, a’r holl Frenhinol Deulu;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot lewyrchu yr holl Esgobion, Offeiriaid, a Diaconiaid, âg iawn wybodaeth a deall dy Air; ac iddynt hwy, trwy eu pregeth a’u buchedd, ei fynegi a’i ddangos yn ddyladwy;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu O honot fendithio dy Weision hyn, sydd yr awr hon i’w derbyn i Swydd Diaconiaid [neu Offeiriaid] a thywallt dy Ras arnynt; fel y gwasanaethont eu Swydd yn gywir, er adeiladaeth i’th Eglwys, a gogoniant i’th Enw sanctaidd;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot gynnysgaeddu Arglwyddi’r Cynghor, a’r holl Fonedd, â gras, doethineb, a deall;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot fendithio a chadw y Penswyddogion; gan roddi iddynt ras i wneuthur cyfiawnder, ac i amddiffyn y gwir;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot fendithio a chadw dy holl bobl;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot roddi i bob cenedl undeb, tangnefedd, a chyd-gordio ;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot roddi i ni galon i’th garu ac i’th ofni, ac i fyw yn ddïesgeulus yn ol dy orchymynion ;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot roddi i ‘th holl bobl ychwaneg o ras, i wrando yn ufudd dy Air, ac i’w dderbyn o bur ewyllys, ac i gynhyrchu ffrwythau yr Yspryd;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu O honot ddwyn i’r ffordd wir bawb a’r a aeth ar gyfeiliorn, ac a dwyllwyd;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot nerthu y rhai sydd yn sefyll; a chysuro a chynnorthwyo y rhai sydd â gwan galon, a chyfodi’r sawl a syrthiant, ac o’r diwedd curo i lawr Satan dan ein traed;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu ohonot gymmorth, helpu, a diddanu, pawb a’r sy mewn perygl, angenoctid, a thrallod;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot gadw pawb a’r y sydd yn ymdaith, ar fôr neu dir, pob gwraig wrth esgor plant, yr holl gleifion, a rhai bychain; a thosturi o wrth bawb a fyddo mewn caethiwed a charchar;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot amddiffyn ac amgeleddu y plant amddifaid, a’r gwragedd gweddwon, a phawb a’r y sydd yn unig, ac yn goddef gorthrymder;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot drugarhâu wrth bob dyn;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot faddeu i’n gelynion, erlynwŷr, ac enllibwŷr, a throi eu calonnau;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot roddi a chadw er ein lles, amserol ffrwythau’r ddaear, modd y caffom mewn amser dyledus eu mwynhâu;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Teilyngu o honot roddi i ni wir edifeirwch; a maddeu i ni ein holl bechodau, ein hesgeulusdra, a’n hanwybod; a’n cynnysgaeddu â gras dy Yspryd Glân, i wellhâu ein buchedd yn ol dy Air sanctaidd;
    Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.
    Mab Duw : attolygwn i ti ein gwrando.

Mab Duw : attolygwn i ti ein gwrando.
                         Oen Duw : yr hwn wyt yn dilëu pechodau’r byd;
Caniattâ i ni dy dangnefedd.
    Oen Duw : yr hwn wyt yn dilëu pechodau’r byd;

   Trugarhâ wrthym.
Crist, clyw nyni.
   Crist, clyw nyni.
Arglwydd, trugarhâ wrthym.
   Arglwydd, trugarhâ wrthym.
Crist, trugarhâ wrthym.
   Crist, trugarhâ wrthym.
Arglwydd, trugarhâ wrthym.
   Arglwydd, trugarhâ wrthym.

¶ Yna y dywed yr Offeiriad, a’r bobl gyd âg ef, Weddi’r Arglwydd.
 

Litany & Suffrages

EIN Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd; Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y maddeuwn ni i’n dyledwŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwared ni rhag drwg. Amen.
    Offeiriad. Arglwydd, na wna â nyni yn ol ein pechodau.
    Atteb. Ac na obrwya ni yn ol ein hanwireddau.

Gweddïwn.

DUW Dad trugarog, yr hwn nid wyt yn dirmygu uchenaid calon gystuddiedig, nac adduned y gorthrymmedig; Cynnorthwya yn drugarog ein gweddïau, y rhai yr ŷm ni yn eu gwneuthur ger dy fron yn ein holl drallod a’n blinfyd, pa bryd bynnag y gwasgant arnom; a gwrando ni yn rasusol, fel y bo i’r drygau hynny, y rhai y mae ystryw a dichell diafol neu ddyn yn eu gwneuthur i’n herbyn, fyned yn ofer; a thrwy ragluniaeth dy ddaioni di iddynt fod yn wasgaredig; modd na’n briwer ni dy weision drwy erlyn neb, a gallu ohonom byth ddïolch i ti yn dy lân Eglwys; trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
    O Arglwydd, cyfod, cymmorth ni, a gwared ni, er mwyn dy Enw.

O Dduw, ni a glywsom â’n clustiau, a’n tadau a fynegasant i ni, y gweithredoedd ardderchog a wnaethost yn eu dyddiau, ac yn y cynfyd o’u blaen hwy.
    O Arglwydd, cyfod, cymmorth ni, a gwared ni, er mwyn dy Anrhydedd.
    Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd Glân;
    Atteb. Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad : yn oes oesoedd. Amen.

    Rhag ein gelynion amddiffyn ni, O Crist.
    Yn rasol edrych ar ein poenedigaethau.
    Yn dosturus ystyria wrth drymder ein calonnau.
    Yn drugarog maddeu bechodau dy bobl.
    Yn garedigol gan drugaredd gwrando ein gweddi’au.
    Iesu Fab Dafydd, trugarhâ wrthym.
    Yr awr hon a phob amser teilynga ein gwrando, O Crist.
    Yn rasol clyw ni, O Crist; yn rasol clyw nyni, O Arglwydd Grist.

    Offeiriad. Arglwydd, dangos dy drugaredd arnom;
    Atteb. Fel yr ŷm yn ymddiried ynot.

Gweddïwn.

NYNI yn ufudd a attolygwn i ti, O Arglwydd Dad, yn drugarog edrych ar ein gwendid; ac, er gogoniant dy Enw, ymchwel oddi wrthym yr holl ddrygau a ddarfu i ni o wir gyfiawnder eu haeddu; a chaniattâ fod i ni yn ein holl drallod ddodi ein cyfan ymddiried a’n gobaith yn dy drugaredd, ac byth dy wasanaethu mewn sancteiddrwydd a phurdeb buchedd, i’th anrhydedd a’th ogoniant; trwy ein hunig Gyfryngwr a’n Dadleuwr, Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna y cenir, neu y dywedir, Gwasanaeth y Cymmun, gyd â’r Colect, yr Epistol, a’r Efengyl, fel y mae yn canlyn.
 

Lord's Prayer

Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn, o’th Ddwyfol Ragluniaeth, a osodaist amryw Raddau o Weinidogion yn dy Eglwys, ac a ysprydolaist dy Apostolion i ddewis i Radd Dïaconiaid y Cynferthyr Sant Stephan, ac eraill; Edrych yn drugarog ar dy wasanaeth-ddynion hyn, y rhai yr awr hon a elwir i gyffelyb Swydd a Gweinidogaeth. Cyflawna hwynt felly â gwirionedd dy Athrawiaeth, ac addurna hwynt â diniweidrwydd buchedd; fel y bo iddynt, trwy air ac esampl dda, dy wasanaethu di yn ffyddlon yn y Swydd hon, er gogoniant i’th enw, ac adeiladaeth dy Eglwys, trwy haeddedigaethau ein Hiachawdwr Iesu Grist; yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thydi a’r Yspryd Glân, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.
 

Collect

Yr Epistol. 1 Tim. iii. 8.

RHAID i’r Dïaconiaid yr un ffunud fod yn onest; nid yn ddau-eiriog, nid yn ymrôi i win lawer, nid yn budr-elwa; yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod hur. A phrofer y rhai hynny hefyd yn gyntaf; yna gwasanaethant Swydd Dïaconiaid, os byddant ddïargyhoedd. Y mae yn rhaid i’w gwragedd yr un modd fod yn onest, nid yn enllibaidd, yn sobr, yn ffyddlon ym mhob peth. Bydded y Dïaconiaid yn wŷr un wraig, yn llywodraethu eu plant a’u tai eu hunain yn dda. Canys y rhai a wasanaethant Swydd Dïaconiaid yn dda, ydynt yn ynnill iddynt eu hunain radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu.

Neu hwn, o’r Chweched Bennod o Actau yr Apostolion.

Act. vi. 2.

YNA’r deuddeg a alwasant ynghŷd y llïaws disgyblion, ac a ddywedasant, Nid yw gymhesur i ni adael Gair Duw, a gwasanaethu byrddau. Am hynny, frodyr, edrychwch yn eich plith am seithwŷr da eu gair, yn llawn o’r Yspryd Glân a doethineb, y rhai a osodom ar hyn o orchwyl. Eithr nyni a barhâwn mewn gweddi a gweinidogaeth y Gair. A boddlon fu’r ymadrodd gan yr holl lïaws: a hwy a etholasant Stephan, gwr llawn o ffydd ac o’r Yspryd Glân, a Phylip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia: y rhai a osodasant hwy ger bron yr Apostolion; ac wedi iddynt weddïo hwy a ddodasant eu dwylaw arnynt hwy. A Gair Duw a gynnyddodd; a rhifedi y disgyblion yn Jerusalem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o’r Offeiriaid a ufuddhasant i’r ffydd.

¶ Ac o flaen yr Efengyl, yr Esgob (yn eistedd yn ei Gadair) a hola bob un o’r rhai a Urddir, yngŵydd y Bobl, yn ol y dull hyn sy’n canlyn.

A Ydych chwi yn credu eich cynhyrfu oddi fewn gan yr Yspryd Glân, i gymmeryd arnoch y Swydd a’r Weinidogaeth hon, i wasanaethu Duw er hyfforddiad i’w ogoniant, ac er adeiladaeth i’w bobl?
    Atteb. Yr wyf yn credu hynny.

Yr Esgob.

A Ydych chwi yn tybied eich bod wedi eich galw yn wirioneddol i Weinidogaeth yr Eglwys yn ol ewyllys ein Harglwydd Iesu Grist, a iawn drefnyddiad y Deyrnas hon?
    Atteb. Yr wyf yn meddwl hynny.

Yr Esgob.

A Ydych chwi yn ddiffuant yn credu holl Ysgrythyrau Canonaidd yr Hen Destament a’r Newydd?
    Atteb. Yr wyf yn eu credu hwynt.

Yr Esgob.

A Ddarllenwch chwi yr unrhyw yn ddyfal i’r bobl ymgynnulledig yn yr Eglwys lle y’ch gosoder i weini?
    Atteb. Gwnaf.

Yr Esgob.

Y Mae yn perthyn i Swydd Dïacon, yn yr Eglwys lle y gosodir ef i weini, gynnorthwyo’r Offeiriad yng Ngwasanaeth Duw, ac yn bennaf, pan fyddo efe yn gweinyddu’r Cymmun Bendigedig, ei helpu ef i’w gyfrannu; a darllain yr Ysgrythyr Lân a’r Homiliau yn yr Eglwys; ac addysgu y bobl ieuaingc yn y Catecism; bedyddio rhai bychain lle na bo’r Offeiriad yn bresennol; a phregethu, os caniattêir iddo hynny gan yr Esgob. Ac ym mhellach, ei Swydd ef yw, lle mae darpariaeth i’r Tlodion, ymofyn am Blwyfolion cleifion, anghenus, a gweiniaid, mynegi i’r Curad eu cyflwr, eu henwau, a’u trigfeydd; fel, trwy ei gyngor ef, y derbyniont gymmorth o elusenau’r Plwyfolion ac eraill. A wnewch chwi hyn yn llawen ac yn ewyllysgar?
    Atteb. Trwy nerth Duw mi a wnaf felly.

Yr Esgob.

A Ymroddwch chwi, trwy bob diwydrwydd, i lunio a threfnu eich bucheddau eich hun, a bucheddau eich teuluoedd, yn ol Athrawiaeth Grist, ac i’ch gwneuthur eich hunain a hwythau (hyd y bo ynoch) yn esamplau iachol i braidd Crist?
    Atteb. Mi a wnaf felly, a’r Arglwydd yn gymmorth i mi.

Yr Esgob.

A Roddwch chwi barch ac ufudd-dod i ‘ch Ordinari, ac i Ben-gweinidogion eraill yr Eglwys, ac i’r rhai yr ymddiriedir yr oruchwyliaeth a’r llywodraeth arnoch chwi, gan ddilyn eu cynghorion duwiol hwy yn llawen ac yn ewyllysgar?
    Atteb. Mi a ymegniaf i wneuthur felly, a’r Arglwydd yn gynhorthwy i mi.

¶ Yna yr Esgob, gan ddodi ei Ddwylaw ar Ben pob un o honynt yn wahanol, yn gostwng yn ufudd ar eu gliniau o’i flaen ef, a ddywed,

CYMMER di Awdurdod i wasanaethu Swydd Dïacon o fewn Eglwys Dduw orchymynedig i ti; Yn Enw’r Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân. Amen.

¶ Yna y dyry yr Esgob y Testament Newydd i Law pob un o honynt, gan ddywedyd,

CYMMER di Awdurdod i ddarllain yr Efengyl o fewn Eglwys Dduw, ac i bregethu’r unrhyw, os caniattêir i ti hynny gan yr Esgob ei hun.

¶ Yna un O honynt, yr hwn a osodo’r Esgob, a dderllyn
 

Epistle

Yr Efengyl. St. Luc xii. 35.

BYDDED eich lwynau wedi eu hymwregysu, a’ch canhwyllau wedi eu goleu; a chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior; fel, pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd. Gwỳn eu byd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu Harglwydd, pan ddel, yn neffro: yn wir meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwytta, ac a ddaw ac a wasanaetha arnynt hwy. Ac os daw efe ar yr ail wyliadwriaeth, ac os ar y drydedd wyliadwriaeth y daw, a’u cael hwynt felly, gwỳn eu byd y gweision hynny.

¶ Yna yr â’r Esgob ym mlaen yn y Cymmun; a chynnifer ag a Urddwyd a arhosant, ac a gymmerant y Cymmun Bendigedig; gyd â’r Esgob yr un Dydd.

¶ Pan orphener y Cymmun, ar ol y Colect diweddaf, ac yn nesaf o flaen y Fendith, y dywedir y Colectau hyn sy’n canlyn.

HOLL-alluog Dduw, Rhoddwr pob dawn da, yr hwn y bu wiw gennyt dderhyn a chymmeryd dy wasanaethwŷr hyn i Swydd Dïaconiaid yn dy Eglwys; Gwna iddynt, ni a attolygwn i ti, Arglwydd, fod yn orchwylus, yn ostyngedig, ac yn astud yn eu Gweinidogaeth; yn ewyllysgar ac yn barod i gadw pob ysprydol Ddisgyblaeth; fel, a chanddynt dystiolaeth cydwybod dda bob amser, ac yn parhâu byth yn ddïysgog ac yn gadarn yn dy Fab Crist, yr ymarweddont cystal yn y swydd is-raddol hon, fel y caffont eu cyfrif yn deilwng i’w galw i Weinidogaethau uwch yn dy Eglwys, trwy’r unrhyw dy Fab ein Hiachawdwr Iesu Grist; i’r hwn bydded y gogoniant a’r anrhydedd byth bythoedd. Amen.

RHAGFLAENA ni, O Arglwydd, yn ein holl weithredoedd, â ‘th radlonaf hoffder, a rhwyddhâ ni â’th barhâus gymmorth; fel, yn ein holl weithredoedd, dechreuedig, annherfynedig, a the1fynedig ynot ti, y moliannom dy sanctaidd Enw, ac yn y diwedd y caffom, gan dy drugaredd, fywyd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

TANGNEFEDD Dduw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a gadwo eich calonnau a’ch meddyliau yngwybodaeth a chariad Duw, a’i Fab Iesu Grist ein Harglwydd: a bendith Dduw Holl-alluog, y Tad, y Mab, a’r Yspryd Glân, a fyddo i’ch plith, ac a drigo gyd â chwi yn wastad. Amen.

¶ Ac yma y dylid mynegi i’r Dïacon, y gorfydd iddo aros yn ei Swydd honno o Ddïaconiaeth dros yspaid Blwyddyn gyfan, (oddi eithr i’r Esgob, ar ryw Achosion rhesymmol, weled yn dda yn amgenach) fel y byddo yn berffaith ac yn gyfarwydd yn y Pethau a berthynant i Weinidogaeth yr Eglwys. Yn gwneuthur yr hyn, os cair ef yn ffyddlon ac yn ddiwyd, fe all ei Esgob ei dderbyn ef i Urdd Offeiriadaeth, ac yr Amseroedd gosodedig yn y Canon; neu, os bydd achos mawr yn cymmell, ar ryw Ddydd Sul, neu Ddydd Gwyl arall, yngŵydd yr Eglwys, yn y cyfryw Ddull a Ffurf sydd yn canlyn rhagllaw.


 

Gospel

FFURF A DULL URDDO

OFFEIRIAID.


¶ AR Y Dydd gosodedig gan yr Esgob, pan orphener y Gwasanaeth Boreol1 y bydd Pregeth neu Gyngor, yn mynegi Swydd a Dyledswydd y cyfryw ag a ddeuant i’w gwneuthur yn Offeiriaid; mor angenrheidiol yw y Radd honno yn Eglwys Grist; a hefyd pa faint y dylai y Bobl eu perchi hwy yn eu Swydd.


¶ Yn gyntaf, yr Archdïacon, neu, yn ei absen ef, rhyw un a osodir yn ei le ef, a gyflwyna i’r Esgob (yn eistedd yn ei Gadair ger llaw’r Bwrdd bendigedig) gynnifer ag a dderbyniant Urdd Offeiriadaeth y Dwthwn hwnnw (a phob un o honynt wedi ymwisgo yn hardd) ac a ddywed,

ANRHYDEDDUS Dad yn Nuw, yr wyf yn cyflwyno i chwi y gwŷr presennol hyn, i’w hurddo yn Offeiriaid.

Yr Esgob.

GWILIWCH ar fod y rhai yr ydych yn eu cyflwyno i ni yn addas ac yn gymmwys, o herwydd eu dysg a’u duwiol ymarweddiad, i iawn gyflawni eu Gweinidogaeth, er anrhydedd i Dduw, ac er adeiladaeth i’w Eglwys.

¶ Yr Archdïacon a ettyb,

MYFI a ymofynais am danynt, ac a’u holais hwynt eu hunain; ac yr wyf fi yn meddwl eu bod hwy felly.

¶ Yna yr Esgob a ddywed wrth y Bobl,

Y Bobl dda, dyma’r rhai yr ŷm ar fedr, gyd â chennad Duw, eu cymmeryd heddyw i gyssegr-lan Swydd Offeiriadaeth: canys, ar ol eu holi yn ddyledus, nid ydym yn gweled amgenach, na chawsant eu galw yn gyfreithlawn i’w Swydd a’u Gweinidogaeth; a’u bod yn wŷr cymmwys i’r unrhyw. Ond, er hyn i gŷd, od oes neb ohonoch chwi a ŵyr un Rhwystr neu Fai cyhoeddus yn neb un o honynt, o herwydd yr hwn ni ddylid ei gymmeryd i’r sanctaidd Weinidogaeth yma; deued allan yn Enw Duw, a dangosed beth yw’r Bai neu’r Rhwystr.

¶ Ac os rhyw Fai gorthrwm neu Rwystr a honnir, yr Esgob a arbed Urddo y Dyn hwnnw, hyd pan gaffer y Cyhuddedig yn ddïargyhoedd o’r Bai hwnnw.

¶ Yna yr Esgob (gan orchymyn y rhai a gaffer yn gymmwys i’w Hurddo, i Weddïau’r Gynnulleidfa) gyd â’r Offeiriaid a’r Bobl bresennol, a gân, neu a ddywed, y Litani gyd â’r Gweddïau, megis y rhag-osodwyd yn Ffurf Urddo Dïaconiaid; yn unig yn y Cyd-arch priod a arddodwyd yno, yr arbedir y Gair [Dïaconiaid] ac y dywedir y Gair [Offeiriaid] yn ei le.

¶ Yna y cenir, neu y dywedir, Gwasanaeth y Cymmun; gyd â’r Colect, yr Epistol, a’r Efengyl isod.
 

Form & Manner of Ordering of

Priests

Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, Rhoddwr pob dawn da, yr hwn, trwy dy Lân Yspryd, a osodaist amryw Raddau o Weinidogion yn yr Eglwys; Edrych yn drugarog ar dy wasanaeth-ddynion hyn, a alwyd yr awr hon i Swydd yr Offeiriadaeth; ac felly cyflawna hwynt â gwirionedd dy Athrawiaeth, ac addurna hwynt â diniweidrwydd buchedd, o fel y bo iddynt, trwy air ac esampl dda, dy wasanaethu di yn ffyddlon yn y Swydd hon, er gogoniant i’th Enw, ac adeiladaeth dy Eglwys, trwy haeddedigaethau ein Hiachawdwr lesu Grist; yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â Thydi a’r Yspryd Glân, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.
 

Collect

Yr Epistol. Ephes. iv. 7.

I Bob un o honom y rhoed gras yn ol mesur dawn Crist. O herwydd paham y mae efe yn dywedyd, Pan ddyrchafodd i’r uchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion. (Eithr efe a ddyrchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddisgyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaear? Yr hwn a ddisgynodd, yw yr hwn hefyd a esgynodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnai bob peth.) Ac efe a roddes rai yn Apostolion, a rhai yn Brophwydi, a rhai yn Efangylwŷr, a rhai yn Fugeiliaid ac yn Athrawon; i berffeithio’r Saint, i waith y Weinidogaeth, i adeilad corph Crist: hyd oni ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd a gwybodaeth Mab Duw, yn wr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist.

¶ Yna y darllenir, am yr Efengyl, ran o’r nawfed Bennod o Sant Matthew, fel y canlyn.
 

Epistle

St. Matth. ix. 36.

A Phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a’u gwasgaru fel defaid heb ganddynt fugail. Yna y dywedodd efe wrth ei ddisgyblion, Y cynhauaf yn ddïau sy fawr, ond y gweithwŷr yn anaml. Am hynny attolygwch i Arglwydd y cynhauaf, anfon gweithwŷr i’w gynhauaf.

¶ Neu hyn isod, allan o’r ddegfed Bennod o Sant Ioan.

St. Ioan x. 1.

YN wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn trwy’r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac yspeiliwr yw. Ond yr hwn sydd yn myned i mewn trwy’r drws, bugail y defaid ydyw. I hwn y mae y drysor yn agoryd, ac y mae y defaid yn gwrando ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan. Ac wedi iddo yrru, allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o’n blaen hwy: a’r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef. Ond y dïeithr ni’s canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dïeithriaid. Y ddammeg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt. Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn, wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid. Cynni fer oll ag a ddaethant o’m blaen i, lladron ac yspeilwŷr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt. Myfi yw y drws: os â neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig; ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa. Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladratta, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddaethum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach. Myfi yw’r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid. Eithr y gwas cyflog, a’r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi; a’r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu’r defaid. Y mae’r gwas cyflog yn ffoi, oblegid mai gwas cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid. Myfi yw’r bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a’m hadweinir gan yr eiddof fi. Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau y Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid. A defaid eraill sy gennyf, y rhai nid ŷnt o’r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sy raid i mi eu cyrchu, a ‘m llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail.

¶ Yna yr Esgob (yn eistedd yn ei Gadair) a ddywed wrthynt fel y mae yn canlyn yma.

CHWYCHWI a glywsoch, frodyr, yn gystal yn eich holiad prïod, ag yn y cyngor a roddwyd i chwi yr awr hon, ac yn y cyssegr-lan Lithoedd a gymmerwyd allan o’r Efengyl, ac Ysgrifenadau yr Apostolion, pa ryw uchel Fri, a dirfawr Bwys, sydd yn Y Swydd i’r hon y’ch galwyd chwi. Ac yn awr yr ŷm eilchwyl yn eich cynghori chwi, yn Enw ein Harglwydd Iesu Grist, gofio o hanoch yn wastad, i ba ryw uchel Barch, ac i ba ryw Swydd a Goruchwyliaeth bwysfawr, y’ch galwyd chwi: nid amgen, i fod yn Genhadon, yn Wylwŷr, ac yn Oruchwylwŷr i’r Arglwydd; i athrawiaethu ac i ragrybuddio, i borthi, ac i arlwyo i Deulu’r Arglwydd; i geisio defaid Crist ag sydd ar ddisperod, a’i blant ef y sydd ynghanol y byd drygionus hwn, fel y bônt gadwedig trwy Crist byth bythoedd.
    Am hynny, bydded yn wastad argraphedig yn eich cof chwi, pa ddirfawr drysor a ymddiriedwyd i chwi. Canys defaid Crist ydynt, y rhai a brynodd efe trwy ei angau, a thros ba rai y tywalltodd efe ci waed. Ei Ddyweddi a’i Gorph ef yw’r Eglwys a’r Gynnulleidfa y bydd rhaid i chwi weini iddi. Ac os digwydd i’r unrhyw Eglwys, nac i un Aelod o honi, oddef dim niweid neu rwystr o achos eich esgeulusdra chwi, chwi a wyddoch faint y bai, ac mor ofnadwy hefyd y gospedigaeth a ganlyn. O herwydd paham, ystyriwch ynoch ein hunain ddiben eich Gweinidogaeth tu ag at blant Duw, tu ag at Ddyweddi a Chorph Crist; ac edrychwch na bo i chwi hy th beidio â’ch poen, eich gofal, a’ch diwydrwydd, nes y gorphenoch, hyd eithaf y saif ynoch, y cwbl oll yn ol eich rhwymedig ddyled, i ddwyn cynnifer oll a ymddiriedwyd, neu a ymddiriedir, dan eich gofal, i gyfryw undeb ffydd a gwybodaeth am Dduw, ac i’r cyfryw addfedwch a pherffeithrwydd oedran yng Nghrist, fel na, adawer dim lle yn eich mysg, nac i amryfusedd Crefydd, nac i ddrygioni Buchedd.
    Am hynny, yn gymmaint a bod eich Swydd chwi yn rhagori cymmaint, ac mor anhawdd ci chyflawni; chwi a welwch â pha faint o ofal ac astudrwydd y dylech chwi ymegnïo, yn gystal i’ch dangos eich hunain yn wasanaethgar ac yn ddïolchgar i’r Arglwydd yr hwn a’ch gosododd mewn Breintle mor barchus; ac i ochelyd hefyd na bo i chwi eich hunain dramgwyddo, na bod yn achos tramgwydd i eraill. Er hynny, gan nad all fod gennych na meddwl nac ewyllys i hynny o honoch eich hunain; oblegid Duw ei hun sydd yn rhoddi yr ewyllys a’r gallu: chwithau a ddylech, ac anghenraid i chwi, weddïo yn ddifrifol am ei Lân Yspryd ef. Ac, yn gymmaint ag nad ellwch trwy un modd arall graffu ar wneuthur gweithred mor bwysfawr ag yw hyfforddio iachawdwriaeth dyn, namyn trwy athrawiaeth a chyngor allan o’r Ysgrythyr Lân, a thrwy fuchedd gydunol â’r unrhyw; ystyriwch mor astud y dylech fod ar ddarllain a dysgu’r Ysgrythyrau, ac ar lunio eich ymddygiad eich hun, a’r eiddo’r rhai nesaf a berthyn i chwi, yn ol rheol yr unrhyw Ysgrythyrau: ac, o herwydd yr un achos yma, y modd y dylech adael a bwrw heibio (hyd y galloch) holl ofalon a thrafferthau’r byd.
    Y mae gennym obaith da am danoch, eich bod chwi, er hir o amser, wedi craff-synied, ac wedi ystyried yn dda ynoch eich hunain, y pethau hyn; a’ch bod wedi gosod eich llwyr fryd, trwy Ras Duw, i ymroddi yn hollol i’r Swydd hon y teilyngodd Duw eich galw iddi; fel yr ymosodoch (hyd y bo ynoch) at hyn o beth yn unig, a thynnu eich gofalon oll, a’ch astudrwydd, i’r llwybr yma; ac y bydd i chwi weddïo yn ddibaid ar Dduw’r Tad, trwy gyfryngdod ein hunig Iachawdwr Iesu Grist, am nefol gymmorth yr Yspryd Glân; fel y’ch gwneler, trwy beunydd ddarllain ac ystyried yr Ysgrythyrau, yn addfedach ac yn gadarnach yn eich Gweinidogaeth; ac fel y bo i chwi, o amser bwygilydd, felly ymegnïo i sancteiddio eich bucheddau eich hunain a’r eiddoch, ac i’w llunio hwynt wrth Reol ac Athrawiaeth Crist, fel y byddoch yn ddrychau ac yn ensamplau iachus a duwiol i’r bobl i’w canlyn.
    Ac yn awr, fel y gallo Cynnulleidfa Crist, sydd yma yn gyd-ddrychiol wedi ymgasglu ynghŷd, ddeall hefyd eich meddyliau a’ch ewyllys yn y pethau hyn, ac fel y gallo eich addewid yma eich cynhyrfu chwi yn ychwaneg i wneuthur eich dyledswyddau; chwychwi a attebwch yn eglur i’r hyn bethau a of ynom i chwi, yn Enw Duw a’i Eglwys, am yr unrhyw.
 

Gospel

A Ydych yn tybied yn eich calon, eich bod wedi eich galw yn wirioneddol, yn ol Ewyllys ein Harglwydd Iesu Grist, a Threfn Eglwys Loegr, i Urdd a Gweinidogaeth Offeiriad?
    Atteb. Yr wyf fi yn tybied hynny.

Yr Esgob.

A Ydyw yn ddïogel gennych, fod yr Ysgrythyr Lân yn cyflawn-gynnwys pob Athrawiaeth angenrheidiol i Iachawdwriaeth dragywyddol trwy ffydd yn Iesu Grist? Ac a ydych chwi yn arfaethu athrawiaethu’r bobl a ymddiriedwyd i’ch golygiaeth, allan o’r un Ysgrythyrau; ac na ddysgoch ddim (megis angenrheidiol i Iachawdwriaeth dragywyddol) ond a fo dïogel gennych y gellir ei gasglu a’i brofi allan o’r Ysgrythyr?
    Atteb. Y mae yn ddïogel gennyf, ac y mae fy llawn fryd ar hynny trwy ras Duw.

Yr Esgob.

A Roddwch chwithau gan hynny ddiwydrwydd yn ffyddlon bob amser ar weinyddu’r Athrawiaeth a’r Sacramentau, a Disgyblaeth Crist, megis y gorchymynodd yr Arglwydd, ac ar y modd y mae’r Eglwys a’r Deyrnas hon wedi derbyn yr unrhyw, yn ol Gorchymynion Duw; fel y galloch addysgu’r bobl a ddodwyd dan eich Gofal a’ch Golygiaeth, i gadw a gwneuthur yr unrhyw trwy bob dyfalbara?
    Atteb. Mi a wnaf felly, trwy gymmorth yr Arglwydd?

Yr Esgob.

A Fyddwch chwi barod, trwy bob ffyddlon ddiwydrwydd, i ddeol ac i darfu ymaith bob cyfeiliornus a dïeithr athrawiaeth, a fo yn gwrthwynebu Gair Duw? ac a ymarferwch chwi roddi yn wastad Rybuddiau a Chynghorion cyhoedd a dirgel, yn gystal i’r Claf ag i’r Iach, o fewn eich Cur, megis y byddo’r angen yn gofyn, ac y rhodder achlysur?
    Atteb. Mi a wnaf felly, a’r Arglwydd yn gynnorthwywr i mi.

Yr Esgob.

A Fyddwch chwi ddyfal i weddïo, ac i ddarllain yr Ysgrythyr Lân, ac i ddilyn Y cyfryw astudrwydd ag a hyfforddio i wybodaeth yr unrhyw; gan ddodi heibio ofal dros y byd a’r cnawd?
    Atteb. Mi a ymegnïaf ar wneuthur felly, a ‘1’ Arglwydd yn g’ynnorthwywr i mi.

Yr Esgob.

A Fyddwch chwi ddiwyd i lunio a ffurfio eich bucheddau eich hunain a ‘ch teuluoedd wrth Athrawiaeth Crist, ac i ‘ch gwneuthur eich hunain a hwythau (hyd y bo ynoch) yn flaenoriaid ac yn esamplau iachol i braidd Crist?
    Atteb. Mi a ymroddaf at hynny, a’r Arglwydd yn gynnorthwywr i mi.

Yr Esgob.

A Ddiffynwch chwi, ac a hyfforddiwch chwi (hyd y bo ynoch) lonyddwch, tangnefedd, a chariad perffaith, rhwng pob math o Gristionogion; ac yn enwedig rhwng y rhai a osodwyd, neu a osodir, dan eich goruchwyliaeth chwi?
    Atteb. Mi a wnaf felly, a’r Arglwydd yn gynnorthwywr i mi.

Yr Esgob.

A Roddwch chwi harch ac ufudd-dod i’ch Ordinari, ac i Brif-Weinidogion eraill yr Eglwys, i’r rhai yr ymddiriedir yr oruchwyliaeth a’r llywodraeth arnoch chwi; gan gyflawni eu cynghorion duwiol hwy yn llawen ac yn ewyllysgar, a chan eich darostwng eich hunain i’w barn dduwiol hwynt?
    Atteb. Mi a wnaf felly, a’r Arglwydd yn gynnorthwywr i mi.

¶ Yna’r Esgob o’i sefyll a ddywed,

YR Holl-alluog Dduw, yr hwn a roddodd i chwi yr ewyllys yma i wneuthur y pethau hyn oll; a ganiattao i chwi nerth hefyd a gallu i gyflawni’r unrhyw; fel y perffeithio efe ei waith a ddechreuodd ynoch, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna fe a ddymunir ar y Gynnulleidfa bob un yn ei ddirgel Weddïau, wneuthur eu Herfyniau yn ostyngedig ar Dduw, am y Pethau hyn oll: i’r cyfryw Weddïau y cedwir Distawrwydd dros Ennyd.

¶ Ar ol hynny y cenir, neu y dywedir, gan yr Esgob (a’r rhai a Urddir yn Offeiriaid bawb ar eu gliniau) Veni, Creator Spiritus: yr Esgob yn dechreu, a’r Offeiriaid ac eraill cyd-ddrychiol yn atteb bob yn ail, fel hyn.
 

Questions of Candidates

TYR’D, Yspryd Glân, i’n c’lonnau ni,
   A dod d’oleuni nefol:
Tydi wyt Yspryd Crist, dy ddawn
    Sy fawr iawn a rhagorol.

Llawenydd, bywyd, cariad pur,
    Ydynt dy eglur ddoniau:
Dod eli i’n llygaid, fel i’th saint,
    Ac ennaint i ‘n hwynebau.

Gwasgara di’n gelynion trwch,
    A heddwch dyro inni:
Os T’wysog inni fydd Duw Ner,
    Pob peth fydd er daioni.

Dysg in’ adnabod y Duw Tad,
    Y gwir Fab rhad, a Thithau,
Yn un trag’wyddol Dduw i fod,
    Yr hynod dri Phersonau.

Fel y molianner ym mhob oes,
    Y Duw a roes drugaredd;
Y Tad, y Mab, a’r Yspryd Glân:
    Da datgan ei anrhydedd.

Neu fel hyn.

TYR’D, Yspryd Glân, trag’wyddol Dduw,
   Yr unrhyw â’r Tad nefol;
Yr unrhyw hefyd â’r Mab rhad,
    Duw cariad tangnefeddol.

Llewyrcha’n c’lonnau ni â’th ras,
    Fel byddo gas in’ bechu;
Ac inni, mewn sancteiddrwydd rhydd,
    Bob dydd dy wasanaethu.

Y Diddanydd wyt ti yn wir,
    Ym mhob rhyw hir orthrymder:
Dy holl ddaioni di, a’th glod,
    A thafod ni adrodder.

Y Ffynnon i’r llawenydd glân, I
    A gloywlwys Dân cariadol;
A’r îr Enneiniad, mawr ei les,
    Sy’n rhoddi gwres ysprydol.

Dy ddoniau di ŷnt aml a dwys,
    Y rhai i’th Eglwys rhoddi:
Yngh’lonnau pur, dy ddeddf ddilys
    Tydi â’th fys ‘sgrifeni.

Tydi addewaist ddysgu, Ion,
    Dy weision i lefaru;
Fel ym mhob man y caffo ‘n rhwydd
    Yr Arglwydd ei foliannu.

O Yspryd Glân, i’n c’lonnau ni
    Y gwir oleuni danfon:
A hefyd zel, tra fôm ni byw,
    I garu Duw yn ffyddlon.

Ein gwendid nertha di, O Dduw,
    (Mawr ydyw ein breuolder)
I ddiawl, i’r byd, na chwaith i’r cnawd,
    Na fyddom wawd un amser.

Gyr ein gelynion yn eu hol;
    Bydd di heddychol â ni:
Gwna i bob dyn ein caru’n bur;
    (Mael eglur a fydd hynny.)

Ein T’wysog wyt, O Arglwydd mau,
    Rhag maglau pob rhyw bechod;
 rhag llithro oddi wrthyt mwy,
    Cynhorthwy bydd in’ parod.

Dod fesur mawr o’th ras yn rhwydd,
    O Arglwydd Dduw Goruchaf:
Diddanwch inni felly bydd
    Yn y brawd-ddydd diweddaf.

I ffoi ymbleidiau cecraeth cas,
    Dod i ni ras, Dduw nefol:
Dod gariad, a thangnefedd mad,
    Ym mhob rhyw wlad Grist’nogol.

Attolwg i ti, dyro rad,
    Y Tad i ni adnabod;
A’r Arglwydd Iesu, ei Fab hael;
    Ac yn y nef cael canfod,

A chyffesu, â pherffaith ffydd,
    Dydi bob dydd yn ddiau:
Yspryd y Tad a’r Mab wyt Ti,
    Un Duw, ond tri Phersonau.

I’r Tad, i’r Mab, i’r Yspryd Da,
    Un gogyd a gogyfuwch,
Bid moliant: hwn yw’r gwir Dduw nef;
    Ei Enw ef bendithiwch.

A bid i’n hunig Arglwydd Dduw
    Fod gwiw ganddo roi’n hylwydd
I bob rhyw Gristion yn y byd
    Ei Yspryd yn dragywydd.

¶ Gwedi hynny, yr Esgob a weddïa yn y Modd hwn, ac a ddywed,
 

Veni Creator Spiritus

Gweddïwn.

HOLL-alluog Dduw, a nefol Dad, yr hwn, o’th anfeidrol gariad a’th serch arnom, a roddaist i ni dy unig a’th anwylaf Fab Iesu Grist, i fod i ni yn Brynwr ac, yn Awdwr bywyd tragywyddol; yr hwn, wedi iddo berffeithio ein Prynedigaeth ni trwy ei angau, ac esgyn o hono i’r nefoedd, a anfonodd allan i’r byd ei Apostolion, Prophwydi, Efangylwŷr, Athrawon, a Bugeiliaid; trwy lafur a gweinidogaeth y rhai y casglodd ynghŷd lïosog braidd ym mhob goror o’r byd, i ddatgan tragywyddol Fawl dy Enw bendigedig :Am y mawr ddoniau hyn o’th dragywyddol ddaioni, ac am deilyngu o honot alw dy wasanaeth-ddynion hyn yma yn gyd-ddrychiol i’r unrhyw Swydd a Gweinidogaeth a osodaist er mwyn iachawdwriaeth dyn, nyni a roddwn i ti ffyddlonaf ddiolch, nyni a’th foliannwn ac a’th addolwn; ac yn ostyngedig yr attolygwn i ti, trwy yr un dy fendigedig Fab, ganiattâu i bawb a alwant ar dy Enw sanctaidd, yma ac ym mhob man arall, allu parhâu i ddangos ein hunain yn ddiolchgar i ti, am y rhai hyn a’th holl fendithion eraill; a chynnyddu beunydd a myned rhagom mewn gwybodaeth a ffydd ynot ti a’th Fab, trwy’r Yspryd Glân. Fel yn gystal trwy dy Weinidogion hyn, a thrwy eraill dros ba rhai y gosoder hwy yn Weinidogion, y gogonedder dy Enw sanctaidd yn dragywydd, ac yr ehanger dy fendigedig Deyrnas, trwy’r un dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd; yr hwn sy’n byw ac yn teyrnasu gyd â Thi yn undeb yr un Yspryd Glân, yn oes oesoedd. Amen.

¶ Pan ddarffo’r, Weddi hon, yr Esgob gyd â’r Offeiriaid cyd-ddrychiol, a ddodant eu Dwylawar Ben pob un a fo yn derbyn Urdd Offeiriadaeth; y Derbynwŷr yn gostwng yn ufudd ar eu gliniau, a’r Esgob yn dywedyd,

DERBYN di yr Yspryd Glân, i Swydd a Gwaith ,Offeiriad o fewn Eglwys Dduw, yr hon Swydd a roddir i ti yr awr hon trwy Arddodiad ein Dwylaw ni. I bwy bynnag y maddeuech di eu pechodau, maddeuir iddynt; ac i bwy bynnag yr attaliech di eu pechodau, hwy a attaliwyd. A bydd di Oruchwyliwr ffyddlon Gair Duw a’i Lân Sacramentau; Yn Enw’r Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân. Amen.

¶ Yna, a hwy etto ar eu gliniau, yr Esgob a ddyry y Bibl i bob un o honynt yn ei law, gan ddywedyd,

CYMMER di Awdurdod i bregethu Gair Duw, ac i weinyddu’r Sacramentau Bendigedig yn y Gynnulleidfa, lle y’th osodir yn gyfreithlawn i hynny.

¶ Pan ddarffo hyn, Credo Nicea a genir, neu a ddywedir, a’r Esgob wedi hynny a â rhagddo ar Wasanaeth y Cymmun, yr hwn y dwi oll a dderbyniant Urddau a gymmerant ynghŷd, ac a arhosant yn yr un Man lle y doddwyd Dwylaw arnynt, hyd oni ddarffo iddynt gymmeryd y Cymmun.

¶ Pan ddarffo’r Cymmun, ar ol y Colect diweddaf, ac yn nesaf o flaen y Fendith, y dywedir y Colectau hyn.

Y Trugaroccaf Dad, ni a attolygwn i ti anfon dy nefol Fendith ar dy wasanaeth-ddynion hyn; fel y gwisger hwy âg iawnder; ac y caffo dy Air di a leferir â’u geneuau hwynt y cyfryw lwyddiant, fel na lefarer mo hono un amser yn ofer, Canniattâ hefyd i ni Ras i wrando a derbyn yr hyn a lefarant allan o’th sancteiddiaf Air, neu yn gysson iddo, megis yn llwybr i’n hiachawdwriaeth; fel, yn ein holl eiriau a’n gweithredoedd, y ceisiom dy Ogoniant di a chynnydd dy Deyrnas, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

RHAGFLAENA ni, O Arglwydd, yn ein holl weithredoedd, â’th radlonaf hoffder, a rhwyddhâ ni â’th barhâus gymmorth; fel yn ein holl weithredoedd, dechreuedig, annherfynedig, a therfynedig ynot ti, y moliannom dy sanctaidd Enw, ac yn y diwedd y caffom, gan dy drugaredd, fywyd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

TANGNEFEDD Dduw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a gadwo eich calonnau a’ch meddylian yngwybodaeth a chariad Duw, a’i Fab Iesu Grist ein Harglwydd: a bendith Dduw Holl-alluog, y Tad, y Mab, a’r Yspryd Glân, a fyddo i’ch plith, ac a drigo gyd â chwi yn wastad. Amen.

¶ Ac os rhoddir Gradd Dïaconiaid i rai, ac i eraill Urdd Offeiriadaeth, yn yr un Dydd; y Dïaconiaid a gyflwynir yn gyntaf, ac yna yr Offeiriaid: ac fe a wasanaetha darllain y Litani unwaith i’r ddau, Dyweder Colectau pob un; y cyntaf dros y Dïaconiaid, yna y llall dros yr Offeiriaid, Yr Epistol a fydd, Ephes. iv. 7-14, megis uchod yn y Drefn hon. Yn nesaf ar ol yr hwn, y rhai a wneir yn Ddïaconiaid, a holir, ac a Urddir, megis ag y rhag-osodwyd uchod. Yna wedi i un o honynt ddarllain yr Efengyl (yr hon a fydd naill ai allan o Sant Matthew ix. 36, megis uchod yn y Gwasanaeth hwn; ai o Sant Luc xii. 35-39, megis uchod yn y Ffurf am Urddo Dïaconiaid) y rhai a wneir yn Offeiriaid, yn yr un modd a holir, ac a Urddir, megis y gosodir yn y Gwasanaeth hwn uchod.


 

 

FFURF URDDO NEU GYSSEGRU

ARCHESGOB, NEU ESGOB;

YR HYN A WNEIR YN WASTAD AR RYW DDYDD SUL, NEU DDYDD GWYL.


¶ Pan fo pob peth wedi ei arlwyo yn weddus, a’i osod mewn trefn, yn yr Eglwys; pan orphener y Gwasanaeth Boreol, yr Archesgob (neu ryw Esgob arall a awdurdodwyd i hynny) a ddechreu Wasanaeth y Cymmun; a hwn fydd
 

Form for Ordaining or Consecrating of an

Archbishop or Bishop

Y Colect.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn, trwy dy Fab Iesu Grist, a roddaist amryw ddoniau godidog i’th sanctaidd Apostolion, ac a orchymynaist iddynt borthi dy Braidd; Dyro Ras, ni a attolygwn i ti, i’r holl Esgobion, Bugeiliaid dy Eglwys, i bregethu dy Air yn ddyfal, ac i weinyddu ei duwiol Ddisgyblaeth hi yn ddyledus; a chaniattâ i’r bobl ganlyn yr unrhyw yn ostyngedig; fel y derbyniont oll Goron y Gogoniant tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

 

¶ Ac Esgob arall a dderllyn yr Epistol.

1 Tim. iii. 1.

GWIR yw’r gair, Od yw neb yn chwennych Swydd Esgob, gwaith da y mae yn ei chwennych. Rhaid gan hynny i Esgob fod yn ddiargyhoedd, yn wr un wraig, yn wyliadwrus, yn sobr, yn weddaidd, yn lletteugar, yn athrawaidd; nid yn win-gar, nid yn darawydd, nid yn budr-elwa; eithr yn dirion, yn anymladdgar, yn ddïarian-gar; yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn ufudd-dod, ynghŷd â phob onestrwydd; (oblegid oni fedr un lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fodd y cymmer efe ofal dros Eglwys Dduw?) nid yn newyddian yn y ffydd, rhag iddo ymchwyddo, a syrthio i ddamnedigaeth diafol. Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan; rhag iddo syrthio i waradwydd ac i fagl diafol.

¶ Nen hyn, yn lle’r Epistol.

Act. xx. 17.

O Miletus Paul a anfonodd i Ephesus, ac a alwodd atto henuriaid yr Eglwys. A phan ddaethant atto, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch, er y dydd cyntaf y daethum i Asia, pa fodd y bum i gyd â chwi dros yr holl amser, yn gwasanaethu’r Arglwydd gyd li phob gostyngeiddrwydd, a llawer o ddagrau, a phrofedigaethau, y rhai a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iuddewon: y modd nad atteliais ddim o’r pethau buddiol heb eu mynegi i chwi, a’ch dysgu ar gyhoedd, ac o dŷ i dŷ; gan dystiolaethu i’r Iuddewon, ac i’r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sy tu ag at Dduw, a’r ffydd sy tu ag at ein Harglwydd Iesu Grist. Ac yn awr, wele fi yn rhwym yn yr yspryd yn myned i Jerusalem, heb wybod y pethau a ddigwydd i mi yno; eithr bod yr Yspryd Glân yn tystio i mi ym mhob dinas, gan ddywedyd fod rhwymau a blinderau yn fy aros. Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennyf fy einioes fy hun, os gallaf orphen fy ngyrfa trwy lawenydd, a’r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu Efengyl gras Duw. Ac yr awr hon, wele, mi a wn na chewch chwi oll, ym mysg y rhai y bûm i yn tramwy yn pregethu teyrnas Dduw, weled fy wyneb i mwyach. O herwydd paham yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddyw, fy mod i yn lân oddi wrth waed pawb oll: canys nid ymatteliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw. Edrychwch gan hynny arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr Yspryd Glân chwi yn Olygwŷr, i fugeilio Eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â’i briod waed. Canys myfi a wn hyn, y daw, ar ol fy ymadawiad i, fleiddiau blinion i’ch plith, heb arbed y praidd. Ac o hono ch chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gŵyr-draws, i dynnu disgyblion ar eu hol. Am hynny gwyliwch, a chofiwch, dros dair blynedd na pheidiais i nos a dydd â rhybuddio pob un o honoch â dagrau. Ac yr awr hon, frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei ras ef, yr hwn a all adeiladu ychwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth ym mhlith yr holl rai a sancteiddiwyd. Arian, neu aur, neu wisg neb, ni chwennychais: ïe, chwi a wyddoch eich hunain, ddarfod i’r dwylaw hyn wasanaethu i’m cyfreidiau i, ac i’r rhai oedd gyd â mi. Mi a ddangosais i chwi bob peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cYl1northwyo’r gweiniaid; a chofio geiriau’r Arglwydd Iesu, ddywedyd o hono ef, Mai dedwydd yw rhoddi, yn hytrach nâ derbyn.
 
 

¶ Yna Esgob arall a dderllyn yn Efengyl.

St. Ioan xxi. 15.

YR Iesu a ddywedodd wrth Simon Petr, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy nâ’r rhai hyn? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Portha fy ŵyn. Efe a ddywedodd wrtho drachefn yr ail waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Bugeilia (y nefaid. Efe a ddywedodd wrtho y drydedd waith, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i? Petr a dristaodd, am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bob peth; ti a wyddost fy mod i yn dy garu di. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Portha fy nefaid.

Neu Iwn. St. Ioan n. 19.

YNA, a hi yn hwyr, y dydd cyntaf hwnnw o’r wythnos, a’r drysau yn gauad lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghŷd rhag ofn yr Iuddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylaw a’i ystlys. Yna’r disgyblion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Tangnefedd i chwi: megis y danfonodd y Tad fi, yr wyf finnau yn eich danfon chwi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Yspryd Glân. Pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt; a’r eiddo pwy bynnag a attalioch, hwy a attaliwyd.

Neu hon. St. Matth. xxviii. 18.

YR Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn Enw’r Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân; gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchymynais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyd â chwi bob amser hyd ddiwedd y byd.

¶ Pan orphener yr Efengyl, a Chredo Nicea, a’r Bregeth, yr etholedig Esgob (wedi ei ymwisgo â’i Wenwisg) a gyflwynir gan ddall Esgob i Archesgob y Dalaith honno (neu i ryw Esgob arall a osodwyd trwy Awdurdod gyfreithlon) yr Archesgob yn eistedd yn ei Gadair ger llaw y Bwrdd bendigedig, a’r Esgobion a fo yn ei gyflwyno ef, yn dywedyd,

ANRHYDEDDUSAF Dad yn Nuw, yr ŷm ni yn cyflwyno i chwi y gwr duwiol a dysgedig hwn, i’w Urddo a’i Gyssegru yn Esgob.

¶ Yna y gofyn yr Archesgob am Mandat y Frenhines am ei Gyssegru ef, ac a bair ei ddarllain. Ac yna y rhoddir iddynt y Llw o Ufudd-dod dyledus i’r Archesgob, fel y mae yn canlyn.
 

 

Y Llw o Ufudd-dod dyledus i’r Archesgob.

YN Enw Duw, Amen. Yr wyf fi, N. etholedig Esgob Eglwys a Chadair N. yn proffesu ac yn addaw pob dyledus barch ac ufudd-dod i Archesgob ac i Fam-Eglwys N. ac i’w Wrth-ddrychiaid: Felly y’m cynnorthwyo Duw fi, trwy Iesu Grist.

¶ Ni roddir y Llw hwn ar Gyssegriad Archesgob.

¶ Yna yr Archesgob a grybwyll wrth y Gynnulleidfa bresennol am weddïo, gan ddywedyd wrthynt fel hyn:

FY Mrodyr, y mae yn ysgrifenedig yn Efengyl Sant Luc, I’n Harglwydd Iesu Grist barhâu ar hŷd y nos yn gweddïo Duw, cyn iddo ethol ac anfon allan ei ddeuddeg Apostol. Ysgrifenir hefyd yn Actau’r Apostolion, I’r Disgyblion y rhai oedd yn Antiochia ymprydio a gweddïo cyn iddynt ddodi eu dwylaw ar Paul a Barnabas, a’u gollwng ymaith. Moeswch i ninnau gan hynny, gan ganlyn esampl ein Hiachawdwr Crist a’i Apostolion, yn gyntaf peth weddïo, cyn i ni gymmeryd a danfon allan y gwr hwn a gyflwynwyd i ni, i’r gwaith i’r hwn y mae ein gobaith fod yr Yspryd Glân wedi ei alw ef.

¶ Ac yna y dywedir y Litani, megis uchod, yn y Ffurf am wneut1mr Dïaconiaid; yn unig ar ol [Teilyngu o honot lewyrchu yr holl Esgobion, &c.] y Cyd-arch prïod yn canlyn yno a arbedir, ac yn ei le y cymmerir hwn;

TEILYNGU O honot fendigo ein hetholedig Frawd hwn, a thywallt arno dy ras, fel y gallo iawn-gyflawni’r Swydd i’r hon y galwyd ef, er adeiladaeth dy Eglwys, ac er anrhydedd, mawl, a gogoniant dy Enw.
    Atteb. Nyni a attolygwn i ti ein gwrando, Arglwydd trugarog.

¶ Yna y dywedir y Weddi hon sy’n canlyn.

HOLL alluog Dduw, rhoddwr pob dawn da, yr hwn, trwy dy Lân Yspryd, a osodaist amryw Raddau o Weinidogion yn dy Eglwys; Edrych yn drugarog ar dy wasanaethwr hwn, a elwir yr awr hon i Waith a Gweinidogaeth Esgob; ac felly cyflawna ef â gwirionedd dy Athrawiaeth, ac addurna ef â diniweidrwydd buchedd; fel y bo iddo, yn gystal trwy air a gweithred, dy wasanaethu di yn y Swydd hon yn ffyddlon, i ogoniant cly Enw, ac i adeiladaeth ac iawn-lywodraeth dy Eglwys, trwy Ryglyddon ein Hiachawdwr Iesu Grist; yr hwn sy’n byw ac yn teyrnasu gyd â thi a’r Yspryd Glân, byth bythoedd. Amen.
 

Oath of Obedience to the Archbishop

¶ Yna’r A1’chesgob, yn eistedd yn ei Gadair, a ddywed wrth yr hwn a Gyssegrir,

FY Mrawd, yn gymmaint a bod yr Ysgrythyr Lân, a’r hen Ganonau, yn erchi na byddom brysur i arddodi Dwylaw, na gollwng neb i lywodraethu yn Eglwys Grist, yr hon a bwrcasodd efe â gwerth nid llai nâ thywalltiad ei briod waed; cyn i mi eich cymmeryd chwi i’r Weinidogaeth hon, myfi a’ch holaf chwi ar swrn o Byngciau, er mwyn gallu o’r Gynnulleidfa bresennol gael prawf, a dwyn tystiolaeth, am y modd yr ŷch yn bwriadu ymddwyn yn Eglwys Dduw.

A Ydyw yn ddïogel gennych, eich galw yn wirioneddol i’r Weinidogaeth hon, yn ol Ewyllys ein Harglwydd Iesu Grist, ac yn ol Trefn y deyrnas hon?
    Atteb. Y mae hynny yn ddiogel gennyf.

YT Archesgob.

A Ydyw yn ddiogel gennych, fod yr Ysgrythyr Lân yn cyflawn-gynnwys pob Athrawiaeth angenrheidiol i iachawdwriaeth dragywyddol trwy ffydd yn Iesu Grist? Ac a ydyw eich llawn fryd chwi i addysgu’r bobl a ymddiriedwyd i’ch cadwraeth, allan o’r unrhyw Ysgrythyr Lân; ac na bo i chwi nac athrawiaethu na diffyn dim, megis angenrheidiol i iachawdwriaeth dragywyddol, namyn yr hyn y bo dïogel gennych y gellir ei dynnu a’i brofi trwy’r unrhyw?
    Atteb. Y mae yn ddiogel gennyf; ac y mae fy llawn fryd ar hynny trwy ras Duw.

Yr Archesgob.

A Ymarferwch chwithau eich hun yn ffyddlon yn yr Ysgrythyr Lân hon, ac ymbil, trwy weddi ar Dduw, am gael gwir ddirnad yr unrhyw; fel y galloch trwyddi addysgu a chynghori âg Athrawiaeth iachus, a gwrthsefyll ac argyhoeddi’r gwrth-ddadleuwŷr?
    Atteb. Mi a wnaf felly, gyd â chymmorth Duw.

Yr Archesgob.

A Ydych chwi yn barod, â phob diwydrwydd ffyddlon, i ddeol a tharfu ymaith bob amryfusedd ac athrawiaeth ddieithr, yngwrthwyneb i Air Duw; ac i annog eraill, a’u cadarnhâu i hynny, yn y dirgel ac yn yr amlwg?
    Atteb. Yr wyf yn barod, a’r Arglwydd yn gynnorthwywr i mi.

Yr Archesgob.

A Wedwch chwi bob annuwioldeb chwantau bydol, gan fyw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awr hon; fel, ym mhob peth, yr ymddangosoch chwi i eraill yn esampl o weithredoedd da, fel y gwaradwydder y gwrthwynebwr, heb fod ganddo ddim i’w ddywedyd i’ch erbyn?
    Atteb. Mi a wnaf felly, a’r Arglwydd yn gynnorthwywr i mi.

Yr Archesgob.

A Ddiffynwch ac a hyfforddiwch chwi (hyd y safo ynoch) lonyddwch, cariad perffaith, a thangnefedd, ym mysg pawb oll? A geryddwch ac a gospwch chwi y rhai aflonydd, anufudd, a beius, o fewn eich Esgobaeth, yn ol y cyfryw Awdurdod sydd i chwi trwy Air Duw, ac hyd y rhoddir i chwi trwy Ordinhâd y deyrnas hon?
    Atteb. Mi a wnaf felly, gyd â chymmorth Duw.

Yr Archesgob.

A Fyddwch chwi ffyddlon i urddo, danfon allan, a dodi dwylaw ar, eraill?
    Atteb. Mi a fyddaf felly, trwy gymmorth Duw.

Yr Archesgob.

A Ymddygwch chwi yn addfwyn ac yn drugarog er mwyn Crist, i’r tlawd a’r anghenus, ac i bob dïeithr dïamgeledd?
    Atteb. Mi a ymddygaf felly, trwy gymmorth Duw.

¶ Yna’r Archesgob o’i sefyll a ddywed,

HOLL-alluog Dduw, ein Tad nefol, yr hwn a roddodd i chwi ewyllys parod i wneuthur y pethau hyn oll; A ganiattao i chwi nerth hefyd a gallu i’w cyflawni; fel, ac efe yn perffeithio ynoch y gwaith da a ddechreuodd, y caffer chwi yn berffaith ac yn ddiargyhoedd yn y dydd diweddaf, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna yr etholedig Esgob a ddŷd am dano y Rhan arall o’r Esgobawl Wisg; ac efe yn gostwng ar ei liniau, y cenir, neu y dywedir, uwch ei Ben ef, Veni, Creator Spiritus; yr Archesgob yn dechreu, a’r Esgobion, ac eraill cyd-ddrychiol, yn atteb bob yn ail, fel y canlyn.

TYR’D Yspryd Glân, i’n c’lonnau ni,
   A dod d’oleuni nefol:
Tydi wyt Yspryd Crist, dy ddawn
    Sy fawr iawn a rhagorol.

Llawenydd, bywyd, cariad pur,
    Ydynt dy eglur ddoniau:
Dod eli i’n llygaid, fel i ‘th saint,
    Ac ennaint i’n hwynebau.

Gwasgara di’n gelynion trwch,
    A heddwch dyro inni:
Os T’wysog inni fydd Duw Ner,
    Pob peth fydd er daioni.

Dysg in’ adnabod y Duw Tad,
    Y gwir Fab rhad, a Thithau,
Yn un trag’wyddol Dduw i fod,
    Yr hynod dri Phersonau.

Fel y molianner ym mhob oes,
    Y Duw a roes drugaredd;
Y Tad, y Mab, a’r Yspryd Glân:
    Da datgan ei anrhydedd.

Neu fel llyn.

TYR’D, Yspryd Glân, trag’wyddol Dduw,
Yr unrhyw â’r Tad nefol; &c.

    Fel o’r blaen yn Ffurf Urddo Offeiriaid.

¶ Pan orphener y Gân, yr Archesgob a ddywed,

    Arglwydd, clyw ein gweddi.
    Atteb. A deued ein llef hyd attat.

Gweddïwn.

HOLL-alluog Dduw, a thrugaroccaf Dad, yr hwn, o’th anfeidrol ewyllysgarwch, a roddaist dy unig a’th anwylaf Fab Iesu Grist i fod i ni yn Brynwr ac yn Awdwr bywyd tragywyddol; yr hwn, wedi iddo gyflawni ein Prynedigaeth trwy ei Angau, ac esgyn o hono i’r nefoedd, a dywalltodd ar ddynion ei ddoniau yn llïosog, gan wneuthur rhai yn Apostolion, rhai yn Brophwydi, rhai yn Efangylwŷr, rhai yn Fugeiliaid ac Athrawon, tu ag at adeiladaeth a pherffeithio ei Eglwys; Caniattâ, ni a attolygwn i ti, y cyfryw ras i’th wasanaethydd hwn, fel y byddo barod yn wastad i daenu ar led dy Efengyl, sef y newyddion llawen o’n cymmod â thydi; ac arfer yr awdurdod a roddir iddo, nid i ddistryw, ond i iachawdwriaeth; nid er sarhâd, ond er cymmorth; fel, megis gwas doeth a ffyddlon, yn rhoddi i’th Deulu di eu cyfran yn ei phryd, y caffo yn y diwedd ei dderbyn i lawenydd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd; yr hwn, gyd â thi a’r Yspryd Glân, sy’n byw ac yn teyrnasu yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.
 
Questions of the Candidate

¶ Yna yr Archesgob a’r Esgobion cyd-ddrychiol a ddodant eu Dwylaw ar Ben yr etholedig Esgob, ac efe yn gostwng o’u blaen hwynt ar ei liniau, a’r Archesgob yn dywedyd,

DERBYN yr Yspryd Glân, i Swydd a Gwaith Esgob yn Eglwys Dduw, yr hon a roddwyd yr awr hon i ti trwy Arddodiad ein Dwylaw ni; Yn Enw’r Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân. Amen. A chofia ail ennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy Arddodiad ein Dwylaw ni: canys ni roddodd Duw i ni Yspryd ofn, ond Yspryd’ nerth, a chariad, a phwyll.

¶ Yna yr Archesgob a ddyry iddo y Bibl, gan ddywedyd,

GLYN wrth ddarllain, wrth gynghori, wrth athrawiaethu. Myfyria ar y pethau a gynhwysir yn y Llyfr hwn. Bydd ddiwyd ynddynt, fel y byddo’r cynnydd a ddeuo trwyddynt yn eglur i bawb. Gwylia arnat dy hun, ac ar yr Athrawiaeth, ac ymrodda i’w gwneuthur: canys os gwnei hyn, ti a’th gedwi dy hun a’r rhai a wrandawant arnat. Bydd fugail, nid blaidd, i braidd Crist: portha hwynt; na thraflyngca hwynt. Cynnal y llesg, iachâ’r claf, rhwyma’r briwedig, dychwel y tarfedig, cais y colledig. Felly bydd di drugarog, fel na byddech rŷ lariaidd; felly gwna lywodraeth, fel nad anghofiech dosturi: fel, pan ymddangoso’r Pen-bugail, y derbyniech anllygradwy goron y gogoniant, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna yr â’r Archesgob rhagddo ar Wasanaeth y Cymmun; a’r Esgob newydd gyssegru (ac eraill) a gymmunant gyd âg ef.

¶ Ac, yn lle y Colect diweddaf, yn nesaf o flaen y Fendith, y dywedir y Gweddïau hyn.

O Drugaroccaf Dad, ni a attolygwn i ti dywallt dy nefol fendith ar dy wasanaethwr hwn; a’i gynnysgaeddu ef felly â’th Lân Yspryd, fel gan bregethu dy Air, y byddo nid yn unig yn awyddus i argyhoeddi, ymbil, a cheryddu, gyd â phob amynedd ac athrawiaeth; eithr hefyd yn esampl iachus i’r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ffydd, mewn diweirdeb, ac mewn purdeb; fel, gan gyflawni ei yrfa yn ffyddlon, y derbynio yn y dydd diweddaf goron cyfiawnder sydd ynghadw gan yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn; yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu yn un Duw, gyd â’r Tad, a’r Yspryd Glân, heb drangc na gorphen. Amen.

RHAGFLAENA ni, O Arglwydd, yn ein holl weithredoedd, â ‘th radlonaf hoffder, a rhwyddhâ ni â’th barhâus gymmorth ; fel, yn ein holl weithredoedd, dechreuedig, annherfynedig, a therfynedig ynot ti, y moliannom dy sanctaidd Enw, ac yn y diwedd y caffom, gan dy drugaredd, fywyd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

TANGNEFEDD Dduw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a gadwo eich calonnau a’ch meddyliau yngwybodaeth a chariad Duw, a’i Fab Iesu Grist ein Harglwydd: a bendith Dduw Holl-alluog, y Tad, y Mab, a’r Yspryd Glân, a fyddo i’ch plith, ac a drigo gyd â chwi yn wastad. Amen.
 
Consecration

Llyfr Gweddi Gyffredin

The Book of Common Prayer in Welsh

Web author: Charles Wohlers U. S. EnglandScotlandIrelandWalesCanadaWorld