The Book of Common Prayer
United States England Scotland Ireland Wales Canada World

   

Llyfr Gweddi Gyffredin
the Book of Common Prayer in Welsh


 

FFURF GWEINYDDIAD PRIODAS.

¶ YN gyntaf, rhaid yw gofyn Gostegían pob rhai a brïoder, yn yr Eglwys, ar dri Sul gwahanredol, ar bryd y Gwasanaeth yn y bore, neu yn y prydnhawn, oni bydd yno Wasanaeth yn y bore, yn ebrwydd ar ol yr ail Lith; a’r Curad yn dywedyd yn y modd arferedig,
 

Form of Solemnization of Matrimony

YR wyf yn cyhoeddi Gost egion Prïodas rhwng M. o — ac N. o —. Os gŵyr neb o honoch achos neu rwystr cyfiawn, fel na ddylid cyssylltu y ddeuddyn hyn ynghŷd mewn glân Brïodas, mynegwch ef. Dyma ’r waith gyntaf [ail, neu y drydedd] o’u gofyn.

¶ Ac os y rhai a fynnant eu prïodi a fydd yn trigo mewn gwahanol Blwyfau, rhaid yw gofyn y Gostegion yn y ddau Blwyf; ac na bo i Gurad y naill Blwyf eu prïodi hwy, nes cael hyspysrwydd ddarfod gofyn eu Gostegion dair gwaith gan Gurad y Plwyf arall.

¶ Ar y dydd a’r amser gosodedig i fod y Brïodas, deued y rhai a brïoder i gorph yr Eglwys, a’u ceraint a’u cymmydogion: ac yno, gan sefyll ynghŷd, y Mab ar y llaw ddehau, a’r Ferch ar yr aswy, yr Offeiriad a ddywed,
 

Banns

FY anwyl garedigion, yr ŷm ni wedi ymgynnull yma yngolwg Duw, ac yn wyneb y gynnulleidfa hon, i gyssylltu’r ddeuddyn hyn ynghŷd mewn glân Brïodas, yr hon sydd ystâd barchedig wedi ei hordeinio gan Dduw yn amser diniweidrwydd dyn, yn arwyddocâu i ni y dirgel undeb y sy rhwng Crist a’i Eglwys; yr hon wỳnfydedig ystâd a addurnodd ac a brydferthodd Crist â’i gynnrychioldeb ei hun, a’r gwỳrthiau cyntaf a wnaeth efe yn Cana Galilea; ac a ddywedir hefyd gan Sant Paul, ei bod yn anrhydeddus ym mhlith yr holl ddynion: ac am hynny ni ddylai neb ei chymmeryd arno, na’i gwneuthur, mewn byrbwyll, o ysgafnder meddwl, neu nwyfiant, er mwyn digoni gwŷniau a chwantau cnawdol, fel anifeiliaid ysgrublaidd y rhai nid oes reswm ganddynt; eithr yn barchedig, yn bwyllog, yn ystyriol, yn sobr, ac mewn ofn Duw; gan ddyledus synio er mwyn pa achosion yr ordeiniwyd Prïodas.
    Yn gyntaf, Hi a ordeiniwyd er ynnill plant, i’w meithrin yn ofn ac addysg yr Arglwydd, ac er moliant i’w Enw sanctaidd ef.
    Yn ail, Hi a ordeiniwyd yn ymwared yn erbyn pechod, ac i ymogelyd rhag godineb; megis ag y byddo i’r cyfryw rai nad oes iddynt roddiad i ymgynnal, allu prïodi, a’u cadw eu hunain yn ddihalogion aelodau corph Crist.
    Yn drydydd, Hi a ordeiniwyd er cyd-gymdeithas â’u gilydd, a’r cymmorth a’r diddanwch a ddylai’r naill ei gael gan y llall, yn gystal mewn hawddfyd ac adfyd: i’r hon sanctaidd ystâd y mae’r ddeuddyn presennol hyn wedi, dyfod yr awrhon i ymgyssylltu. Herwydd paham, os gŵyr neb un achos cyfiawn, fel na ellir yn gyfreithlon eu cyssylltu hwy ynghŷd, dyweded yr awrhon, neu na ddyweded byth rhag llaw.

¶ A chan grybwyll hefyd wrth y rhai a brïoder, efe a ddywed,

YR wyf fi yn erchi ac yn gorchymyn i chwi eich dau, fel y bo i chwi atteb ddydd y farn ofnadwy, pan gyhoedder dirgelion pob calon, os gŵyr yr un o honoch un anach, fel na ddylech yn gyfreithlawn fyned ynghŷd mewn Prïodas, gyffesu o honoch yr awrhon. Canys gwybyddwch yn dda, am gynnifer ag a gyssyllter yn amgen nag y myn Gair Duw, na’s cyssylltir hwy gan Dduw, ac nad yw eu Prïodas yn gyfreithlawn.

¶ Ar ddydd y Brïodas, o bydd i neb honni a dywedyd bod un anach na ddylent gael eu cyssylltu mewn Prïodas, wrth Gyfraith Dduw, neu Gyfreithiau’r Deyrnas hon, ac a ymrwyma â meichiau digonol gyd âg ef i’r pleidiau, neu ynte roddi Gwystl (am gwbl a dâl cymmaint a cholled y rhai a fo i’w prïodi) i brofi ei ddadl: yna y bydd rhaid oedi dydd y Brïodas hyd yr amser y profer y gwirionedd.
 

Instruction
¶ Ac oni honnir an anach, yna y dywed y Curad wrth y Gwr,

M. A fynni di y Ferch hon yn wraig brïod i ti, i fyw ynghŷd yn ol ordinhâd Duw, ynglân ystâd Prïodas? A geri di hi, ei diddanu, ei pherchi, a’i chadw yn glaf ac yn iach, a chan wrthod pob un arall, dy gadw dy hun yn unig iddi hi, cyhyd ag y byddoch byw eich deuoedd?

¶ Y Mab a ettyb,
Gwnaf.

¶ Yna y dywed y Gweinidog,

N. A fynni di y Mab hwn yn wr prïod i ti i fyw ynghŷd yn ol ordinhâd Duw, ynglân ystâd Prïodas? A ufuddhâi di iddo, a’i wasanaethu, ei garu, ei berchi, a’i gadw yn glaf ac yn iach, a chan wrthod pawb eraill, dy gadw dy hun yn unig iddo ef, cyhyd ag y byddoch byw eich deuoedd?

¶ Y Ferch a ettyb,
Gwnaf.

¶ Yna y dywed y Gweinidog,

    Pwy sydd yn rhoddir Ferch hon i’w phrïodi i’r Mab hwn?

¶ Yna y rhoddant eu crea i’w gilydd y modd hwn.

Y Gweinidog, gan dderbyn y Ferchi o law ei thad, neu ei cheraint, a bair i’r Mab â’i law ddehau gymmeryd y Ferch erbyn ei llaw ddehau, a dywedyd ar ei ol ef fel y mae yn Canlyn.

YR ydwyf fi M. yn dy gymmeryd di N. yn wraig brïod i mi, i gadw a chynnal, o’r dydd hwn allan, er gwell, er gwaeth, er cyfoethoccach, er tlottach, yn glaf ac yn iach, i’th garu ac i th fawrhâu, hyd pan y’n gwahano angau, yn ol glân ordinhâd Duw; ac ar hynny yr ydwyf yn rhoddi i ti fy nghred.

¶ Yna y gollyngant eu dwylaw yn rhyddion; a’r Ferch â’i llaw ddehau yn cymmeryd y Mab erbyn ei law ddehau, a ddywed ar ol y Gweinidog,

YR ydwyf fi N. yn dy gymmeryd di M. yn wr prïod i mi, i gadw a chynnal, o’r dydd hwn allan, er gwell, er gwaeth, er cyfoethoccach, er tlottach, yn glaf ac yn iach, i’th garu, i th fawrhâu, ac i ufuddhâu i ti, hyd pan y’n gwahano angau, yn ol glân ordinhâd Duw; ac ar hynny yr ydwyf yn rhoddi i ti fy nghred.

¶ Yna drachefn y gollyngant eu dwylaw yn rhyddion, ac y dyry y Mab Fodrwy i’r Ferch, gan ei dodi ar y llyfr, ynghŷd â’r ddyled ddefodol i’r Offeiriad a’r Clochydd. A’r Offeiriad a gymmer y Fodrwy, ac a’i dyry i’r Mab, i’w gosod ar y pedwerydd bys i law aswy y Ferch. A’r Mab, gan ddal y Fodrwy yno, wrth addysg yr Offeiriad, a ddywed,

A’R Fodrwy hon y’th brïodaf, â’m corph y’th anrhydeddaf, ac â’m holl olud bydol y’th gynnysgaeddaf: Yn Enw’r Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân. Amen.
 

Marriage vows

¶ Yna y gad y Mab y Fodrwy ar y pedwerydd bys o’r llaw aswy i’r Ferch; a hwy ill dau a ostyngant ar eu gliniau, ac y dywed y Gweinidog,

Gweddïwn.

O Dragywyddol Dduw, Creawdwr a Cheidwad pob rhyw ddyn, Rhoddwr pob rhad ysprydol, Awdwr y bywyd a bery byth; Anfon dy fendith ar dy wasanaeth-ddynion hyn, y mab hwn a’r ferch hon, y rhai yr ŷm ni yn eu bendithio yn dy Enw di; fel ag y bu i Isaac a Rebecca fyw yn ffyddlon ynghŷd, felly gallu o’r dynion hyn gyflawni a chadw yn ddïogel yr adduned a’r ammod a wnaed rhyngddynt (am yr hyn y mae rhoddiad a derbyniad y Fodrwy hon yn arwydd ac yn wystl) a gallu o honynt byth aros ynghŷd mewn perffaith gariad a thangnefedd, a byw yn ol dy ddeddfau; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna y cyssyllta’r Offeiriad eu dwy law ddehau hwy ynghŷd, ac y dywed,

    Y rhai a gyssylltodd Duw ynghŷd, na wahaned dyn.

¶ Yna y dywed y Gweinidog wrth y bobl.

YN gymmaint a darfod i M. ac N. gyd-synio mewn glân Brïodas, a thystiolaethu hynny ger bron Duw a’r gynnulleidfa hon, ac ar hynny ddarfod iddynt ymgredu, ac ymwystlo bob un i’w gilydd, a datgan hynny gan roddi a derbyn Modrwy, a chyssylltu dwylaw; yr wyf fi yn hyspysu, eu bod hwy yn Wr ac yn Wraig ynghŷd Yn Enw’r Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân. Amen.

¶ Yna y Gweinidog a’u bendithia â’r fendith hon yn ychwaneg.

DUW Dad, Duw Fab, Duw Yspryd Glân, a’ch bendithio, a’ch cadwo, ac a’ch cymhortho; edryched yr Arglwydd yn drugarog ac yn amgeleddus arnoch, a chyflawned chwi a phob ysprydol fendith a rhad; modd y byddoch fyw felly ynghŷd yn y fuchedd hon, fel y bo i chwi yn y byd a ddaw feddiannu bywyd tragywyddol. Amen.

¶ Yna y Gweinidog, neu yr Ysgolheigion, gan fyned i Fwrdd yr Arglwydd, a ddywedant neu a ganant y Psalm hon y sydd yn canlyn.
 

Blessing & Marriage

Beati omnes. Psal. cxxviii.

GWYN ei fyd pob un sydd yn ofni yr Arglwydd : yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.
    Canys mwynhâi lafur dy ddwylaw : gwỳn dy fyd, a da fydd it’.
    Dy wraig fydd fel gwinwŷdden ffrwythlawn ar hŷd ystlysau dy dŷ : dy blant fel planhigion olewŷdd o amgylch dy ford.
    Wele, fel hyn yn ddïau y bendithir : y gwr a ofno’r Arglwydd.
    Yr Arglwydd a’th fendithia allan o Sïon : a thi a gai weled daioni Jerusalem holl ddyddiau dy einioes;
    A thi a gai weled plant dy blant : a thangnefedd ar Israel.
    Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd Glân;
    Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad : yn oes oesoedd. Amen.

¶ Neu y Psalm yma.
 

Psalm 128

Deus misereatur. Psal. lxvii.

DUW a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio : a thywynned llewyrch ei wyneb arnom, a thrugarhaed wrthym.
    Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear : a’th iachawdwriaeth ym mhlith yr holl genhedloedd.
    Molianned y bobl di, O Dduw : molianned yr holl bobl dydi.
    Llawenhâed y cenhedloedd, a byddant hyfryd : canys ti a ferni’r bobl yn uniawn, ac a lywodraethi’r cenhedloedd ar y ddaear.
    Molianned y bobl di, O Dduw : molianned yr holl bobl dydi.
    Yna’r ddaear a rydd ei ffrwyth : a Duw, sef ein Duw ni, an bendithia.
    Duw a’n bendithia : noll derfynau’r ddaear a’i hofnant ef.
    Gogoniant i’r Tad, ac i’r Mab : ac i’r Yspryd Glân;
    Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad : yn oes oesoedd. Amen.

¶ Wedi gorphen y Psalm, a’r Mab a’r Ferch yn gostwng ar eu gliniau ger bron Bwrdd yr Arglwydd, yr Offeiriad yn sefyll wrth y Bwrdd, a chan droi ei wyneb attynt hwy, a ddywed,

Arglwydd, trugarhâ wrthym.
    Atteb. Crist, trugarhâ wrthym.
    Gweinidog. Arglwydd, trugarhâ wrthym.
 

 
EIN Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y maddeuwn ni i’n dyledwŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwared ni rhag drwg. Amen.
    Gweinidog. Arglwydd, cadw dy wasanaethwr a’th wasanaethwraig.
    Atteb. Y rhai sy n ymddiried ynot.
    Gweinidog. Arglwydd, danfon iddynt gymmorth o’th gyssegrfa.
    Atteb. Ac amddiffyn hwy yn dragywydd.
    Gweinidog. Bydd iddynt yn Dŵr cadernid,
    Atteb. Rhag wyneb eu gelynion.
    Gweinidog. Arglwydd, gwrando ein gweddïau.
    Atteb. A deued ein llef hyd attat.
 
Lord’s Prayer

Gweinidog.

DUW Abraham, Duw Isaac, Duw Jacob, bendithia dy wasanaeth-ddynion hyn, a haua had bywyd tragywyddol yn eu meddyliau; megis pa beth bynnag yn dy Air cyssegredig yn fuddiol a ddysgant, y bo iddynt gyflawni hynny yngweithred. Edrych arnynt, Arglwydd, yn drugarog o’r nefoedd, a bendithia hwynt. Ac fel yr anfonaist dy fendith ar Abraham a Sarah, i’w mawr ddiddanwch hwy; felly bydded wiw gennyt anfon dy fendith ar dy wasanaeth-ddynion hyn, modd y bo iddynt, gan fod yn ufudd i’th ewyllys, ac yn ddïogel bob amser dan dy nawdd, aros yn dy serch hyd ddiwedd eu hoes; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Gadewir heibio y Weddi hon sy’n canlyn pan fo’r Ferch dros oedran planta.

O Drugarog Arglwydd, a nefol Dad, trwy radlawn ddawn yr hwn yr amlhâ hiliogaeth dyn; Attolygwn i ti gymmorth â’th fendith y ddeuddyn hyn; fel y bônt yn ffrwythlon i hilio plant, a hefyd cydfod a byw cyhyd mewn cariad duwiol a gweddeidd-dra, oni welont ddwyn eu plant i fynu yn Gristianus ac yn rhinweddol, i’th foliant a’th anrhydedd di; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

DUW, yr hwn trwy dy alluog nerth a wnaethost bob peth o ddiddym ddefnydd, yr hwn hefyd (wedi gosod pethau eraill mewn trefn) a ordeiniaist allan o ddyn (yr hwn a grewyd ar dy lun a’th ddelw dy hun) gael o wraig ei dechreuad; a chan eu cyssylltu hwy ynghŷd, a arwyddoceaist na byddai byth gyfreithlawn wahanu y rhai trwy Brïodas a wnelit ti yn un: O Dduw, yr hwn a gyssegraist ystâd Prïodas i gyfryw ragorol ddirgeledigaethau, megis ag yr arwyddocàir ac y coffâir ynddi y brïodas ysprydol a’r undeb rhwng Crist a i Eglwys; Edrych yn drugarog ar y rhai hyn dy wasanaeth-ddynion, fel y caro y gwr hwn ei wraig, yn ol dy Air di (megis y carodd Crist ei brïod yr Eglwys, yr hwn a’i rhoes ei hunan drosti, gan ei charu a’i mawrhâu fel ei gnawd ei hunan) a hefyd bod y wraig hon yn garuaidd ac yn serchog, yn ffyddlon ac yn ufudd i’w gwr, ac ym mhob heddwch, sobrwydd, a thangnefedd, ei bod yn canlyn esampl sanctaidd a duwiol wragedd. Arglwydd, bendithia hwy ill dau, a chaniattâ iddynt etifeddu dy deyrnas dragywyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna y dywed yr Offeiriad,

HOLL-gyfoethog Dduw, yr hwn yn y dechreuad a greodd ein rhïeni cyntaf, Adda ac Efa, ac a’u cyssegrodd ac a’u cyssylltodd ynghŷd ym mhrïodas; a dywallto arnoch olud ei ras, a’ch sancteiddio ac a’ch bendithio, modd y galloch ei foddhâu ef ynghorph ac enaid, a byw ynghŷd mewn duwiol serch, hyd ddiwedd eich oes. Amen.

¶ Gwedi hyn, oni bydd Pregeth yn datgan dyledswyddau Gwr a Gwraig, y Gweinidog a dderllyn fel y mae yn canlyn.
 

 

CHWYCHWI oll y rhai a brïoded, neu y sydd yn darpar cymmeryd glân ystâd Prïodas arnoch, gwrandêwch pa beth a ddywed yr Ysgrythyr lân oblegid dyledswydd gwŷr i’w gwragedd, a gwragedd i w gwŷr.
    Sant Paul, yn ei Epistol at yr Ephesiaid, yn y bummed Bennod, sydd yn rhoddi y gorchymyn hwn i bob gwr prïod; Chwychwi Wŷr, cerwch eich gwragedd, megis y carodd Crist ei Eglwys, ac y rhoddes ei hun drosti, fel y sancteiddiai efe hi, a’i glanhâu â’r olchfa ddwfr, trwy’r Gair; fel y gosodai efe hi yn Eglwys ogoneddus iddo ei hun, heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o’r cyfryw; eithr ei bod yn lân ac yn ddïargyoedd. Felly y dylai ’r gwŷr garu eu gwragedd, megis eu cyrph eu hunain: yr hwn a garo ei wraig, sydd yn ei garu ei hun. Canys ni chasâodd neb erioed ei gnawd ei hun, eithr ei fagu a’i feithrin y mae, megis y mae’r Arglwydd am yr Eglwys: oblegid aelodau ydym o’i gorph ef, o’i gnawd ef, ac o’i esgyrn ef. Am hynny y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd. Y dirgelwch hwn sy fawr; eithr am Grist ac am yr Eglwys yr wyf fi yn dywedyd. Ond chwithau hefyd cymmain un felly cared pob un o honoch ei wraig, fel ef ei hunan.
    Yr un ffunud yr unrhyw Sant Paul, yn ysgrifenu at y Colossiaid, a ddywed fel hyn wrth bob gwr gwreigiog: Y Gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt.
    Gwrandêwch hefyd pa beth a ddywed Sant Petr, Apostol Crist, yr hwn hefyd oedd ei hun yn wr gwreigiog, wrth y gwŷr gwreigiog: Y Gwŷr, cydgyfanneddwch â’ch gwragedd yn ol gwybodaeth, gan roddi parch i’r wraig, megis i’r llestr gwannaf, fel rhai y sy gydetifeddion gras y bywyd; rhag rhwystro eich gweddïau.
    Hyd yn hyn y clywsoch am ddyledswydd y gwr tu ag at ei wraig. Yr awrhon yr un ffunud, y gwragedd, gwrandêwch a dysgwch eich dyledswydd chwithau i’ch gwŷr, fel y mae yn eglur wedi ei ddatgan yn yr Ysgrythyr Lân.
    Sant Paul (yn yr unrhyw Epistol at yr Ephesiaid) a’ch dysg fel hyn: Y Gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr prïod, megis i’r Arglwydd. Oblegid y gwr yw pen y wraig, megis ag y mae Crist yn ben i’r Eglwys: ac efe yw Iachawdwr y corph. Ond fel y mae’r Eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i’w gwŷr prïod ym mhob peth. A thrachefn y dywed efe, Y Wraig, edryched ar iddi berchi ei gwr.
    Ac (yn ei Epistol at y Colossiaid) mae Sant Paul yn rhoddi iwch’ yr addysg byr hwn: Y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr prïod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd.
    Sant Petr sydd hefyd yn eich dysgu yn dra rhagorol, gan ddywedyd fel hyn: Bydded y gwragedd ostyngedig i’w gwŷr prïod; fel od oes rhai heb gredu i’r gair, y galler, trwy ymarweddiad y gwragedd, eu hynnill hwy heb y gair, wrth edrych ar eich ymarweddiad diwair chwi ynghŷd âg ofn. Trwsiad y rhai bydded nid yr un oddi allan, o blethiad gwallt, ac amgylchosodiad aur, neu wisgad dillad; eithr bydded cuddiedig ddyn y galon, mewn anllygredigaeth yspryd addfwyn a llonydd,. yr hwn sy ger bron Duw yn werthfawr. Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd, y rhai oedd yn gobeithio yn Nuw, yn ymdrwsio, gan fod yn ddarostyngedig i’w gwŷr prïod: megis yr ufuddhaodd Sarah i Abraham, gan ei alw ef yn arglwydd; merched yr hon ydych chwi, tra fyddoch yn gwneuthur yn dda, ac heb ofni dim dychryn.

¶ Gweddtis yw i’r rhai newydd briodi gymmeryd y Cymmun bendigedig ar amser eu Prïodas, neu ar yr adeg gyntaf ar ol eu prïodi.
 

 

Llyfr Gweddi Gyffredin

The Book of Common Prayer in Welsh

Web author: Charles Wohlers U. S. EnglandScotlandIrelandWalesCanadaWorld