The Book of Common Prayer
United States England Scotland Ireland Wales Canada World

   

Cymun Bendigaid
Holy Communioin in Welsh (1966)

 

YR EGLWYS YNG NGHYMRU

TREFN GWASANAETH
YR OFFEREN
A GWEINYDDU’R
CYMUN BENDIGAID
 


 

 

RHUDDELLAU CYFFREDINOL

1. Dyletswydd pob cymunwr yw derbyn y Cymun Bendigaid yn fynych ar ôl paratoad priodol, yn enwedig ar y Sul ac ar y Prif Wyliau, ac yn ddi-ffael ar y Pasg.

2. Dyletswydd yr Offeiriad yw dysgu'r bobl beth sy'n rhwymedig ar y rhai a ddaw i dderbyn y Cymun Bendigaid, megis y dywedir yn yCatecism a'r Anogaeth.

Rhybuddied Offeiriad y Plwyf y cymunwyr hynny sy'n byw mewn pechod agored, a'r rhai hynny y gwelir fod malais a chasineb yn para rhyngddynt, i beidio â derbyn y Cymun Bendigaid oni byddant yn edifarhau. Os anwybyddant y rhybudd, rhodded yr Offeiriad yr holl fater gerbron yr Esgob, a gweithredu'n ôl ei gyfarwyddyd ef.

Er mwyn diogelu'r Dirgeleddau Santaidd ac er lles yr Eglwys, gall Esgob yr esgobaeth atal troseddwyr rhag Cymuno.

3. Dyletswydd Cristion yw cyfrannu'n gyson yn ôl ei allu at gynnal addoliad Duw a lledaeniad yr Efengyl.

4. Pan fydd gweinyddu'r Cymun Bendigaid rhaid cael lliain gwyn teg yn orchudd ar y Bwrdd Santaidd.

Dylai'r Bara fod o'r bara gwenith puraf, pa un ai'n fara lefeinllyd ai'n fara croyw, a'r Gwin yn win grawnwin pur. Gellir rhoi ychydig o ddŵr yn gymysg â'r gwin.

Mae'r Bara a'r Gwin i'w darparu gan y Wardeniaid ar draul y Plwyf.

5. Ar y Sul a'r Gwyliau eraill, oni bydd gweinyddu'r Offeren, gellir dweud y cwbl a osodwyd yn y rhan gyntaf o'r drefn hon, tudalennau 10-18, sef y Paratoad, Gweinidogaeth y Gair a'r Ymbiliad, ac yna diweddu'r gwasanaeth â Gweddi'r Arglwydd a'r Fendith.

Pan fo raid, gall Diacon neu Ddarllenydd Lleyg gymryd Gwasanaeth y Gair a Gweddïau'r Bobl wrth y Weddifan, y Ddarllenfa a'r Pulpud, gan adael allan y Gollyngdod.

6. Ni ellir gweinyddu'r Offeren oni bydd o leiaf un yn bresennol i gymuno gyda'r Offeiriad.
 


 

General Rubrics

The text presented here is that submitted to the Governing Body of the Church in Wales in 1966. A number of changes were made before final approval, the most important of which are given in the English version. Note that this Welsh version is not necessarily a strict translation of the English.

GWASANAETH Y GELLIR EI
DDEFNYDDIO CYN GWEINYDDU'R
CYMUN BENDIGAID

Gellir defnyddio'r Gwasanaeth hwn y noson cyn gweinyddu'r Cymun Bendigaid.

Gellir ei ddefnyddio hefyd yn lle'r Paratoad yn y gwasanaeth ei hun.

A'r gynulleidfa ar eu gliniau, dywed yr Offeiriad, yn sefyll:

Yn Enw'r Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân. Amen.

Gweddïwn.

Hollalluog Dduw, i ti y mae pob calon yn agored, pob dymuniad yn hysbys, a phob dirgel yn amlwg: Glanha, gan hynny, feddyliau ein calonnau trwy ysbrydoliaeth dy Lân Ysbryd, fel y gallom dy garu di'n berffaith, a mawrhau'n deilwng dy Enw santaidd; trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

Gan droi at y Bobl, edrydd yr Offeiriad y Deg Gorchymyn.

Ar ôl pob un o'r naw gorchymyn cyntaf dywedir neu cenir:

Arglwydd, trugarha wrthym, a gostwng ein calonnau i gadw'r gyfraith hon.

Ar ôl y Degfed Gorchymyn dywedir neu cenir:

Arglwydd, trugarha wrthym, ac ysgrifenna'r holl ddeddfau hyn yn ein calonnau, atolygwn iti.

Llefarodd Duw y geiriau hyn, gan ddweud,

1. Myfi yw'r Arglwydd dy Dduw: na fydded iti dduwiau eraill ond myfi.

2. Na wna i ti dy hun ddelw gerfiedig, na llun dim sydd yn y nefoedd uchod, nac ar y ddaear isod, nac yn y dŵr o dan y ddaear; na ostwng iddynt, ac na addola hwynt.

3. Na chymer Enw'r Arglwydd dy Dduw yn ofer.

4. Cofia gadw'n santaidd y dydd Sabath.

5. Anrhydedda dy dad a'th fam.

6. Na ladd.

7. Na wna odineb.

8. Na ladrata.

9. Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog.

10. Na chwennych ddim sy'n eiddo dy gymydog.

Dywed yr Offeiriad:

Chwychwi sy'n wir ac yn ddifrifol yn edifarhau am eich pechodau, ac sydd mewn cariad perffaith â'ch cymdogion, ac yn meddwl dilyn buchedd newydd, a chanlyn gorchmynion Duw, a rhodio o hyn allan yn ei ffyrdd santeiddiol ef: Dew chyn nes trwy ffydd, a a gwnewch eich cyffes ostyngedig i'r Hollalluog Dduw.

Dyweded yr Offeiriad a'r Bobl y Gyffes hon:
 

A Service of Preparation for Holy Communion

Hollalluog Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist,
Gwneuthurwr pob peth,
Barnwr pob dyn;

Yr ydym yn cydnabod yr amryw bechodau dirfawr
A wnaethom o ddydd i ddydd,
Ar feddwl, gair, a gweithred,
Yn erbyn dy Fawredd Dwyfol,
Gan ennyn dy ddigofaint yn gyfiawn yn ein herbyn.

Yr ydym yn ddifrifol yn edifarhau,
Ac yn ddrwg gan ein calonnau dros ein camweddau hyn;
Eu coffa sy'n drwm gennym;
Eu baich sy'n ormod i'w ddwyn.

Trugarha wrthym,
Trugarha wrthym, drugarocaf Dad;
Er mwyn dy Fab ein Harglwydd Iesu Grist,
Maddau inni'r hyn oll a aeth heibio;

A chaniatâ inni allu byth o hyn allan
Dy wasanaethu a'th fodloni mewn newydd-deb buchedd,
Er anrhydedd a gogoniant dy Enw;
Trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yna datganed yr Offeiriad (neu'r Esgob, os bydd yn bresennol,) y Gollyngdod hwn:

Hollalluog Dduw, ein Tad nefol, a addawodd o'i fawr drugaredd faddeuant pechodau i bawb sydd o edifeirwch calon a gwir ffydd yn troi ato ef, a drugarhao wrthych; maddau i chwi a'ch gwaredu chwi oddi wrth eich holl bechodau; eich cadarnhau a'ch nerthu ym mhob daioni; a'ch dwyn i fywyd tragwyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Dywed yr Offeiriad:

Gwrandewch y geiriau cysurus a ddywed ein Hiachawdwr Crist wrth bawb sy'n troi ato ef:
Deuwch ataf fi bawb sy'n flinderog ac yn llwythog, ac mi a esmwythâf arnoch.
Felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd ef ei uniganedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.

Gwrandewch hefyd beth a ddywed Sant Pawl:
Gwir yw'r gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid.

Gwrandewch hefyd beth a ddywed Sant Ioan:
Os pecha neb, y mae inni Eiriolwr gyda'r Tad, Iesu Grist y cyfiawn; ac ef yw'r iawn dros ein pechodau ni.

Dyweded yr Offeiriad a'r Bobl y weddi hon gyda'i gilydd:
 

Confession & Absolution

Nid ydym yn rhyfygu dyfod i'th Fwrdd di, Arglwydd trugarog,
Gan ymddiried yn ein cyfiawnder ein hunain,
Eithr yn dy aml a'th ddirfawr drugareddau di.
Nid ydym ni'n deilwng gymaint ag i gasglu'r briwsion dan dy Fwrdd di.
Eithr tydi yw'r un
Arglwydd Sydd bob amser yn trugarhau:
Caniatâ inni, gan hynny, Arglwydd grasol,
Felly fwyta cnawd dy annwyl Fab Iesu Grist,
Ac yfed ei waed ef,
Fel y gwneir ein cyrff pechadurus yn lân trwy ei gorff ef,
Ac y golchir ein heneidiau trwy ei werthfawrocaf waed,
Ac fel y trigwn byth ynddo ef, ac yntau ynom ninnau.
Amen.

Pan ddefnyddir y Paratoad hwn yn wasanaeth ar ei ben ei hun, gall ddiweddu â'r Gras.

Pan ddefnyddir ef yn lle'r PARATOAD yng Ngwasanaeth y Cymun Bendigaid, bydd y Gloria in excelsis ar y dyddiau y mae i'w arfer, neu ynteu Colect y Dydd, yn dilyn y Weddi Ymostyngiad.

(Trowch i dudalen 12)
 


 

Prayer of Humble Access

TREFN GWASANAETH YR OFFEREN
A GWEINYDDU'R CYMUN
BENDIGAID

Y PARATOAD

A'r gynulleidfa ar eu gliniau, dywed yr Offeiriad, yn sefyll:—

* PENLINIO Yn Enw'r Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân. Amen.

Gweddïwn.

Hollalluog Dduw, i ti y mae pob calon yn agored, pob dymuniad hysbys, a phob dirgel yn amlwg: Glanha, gan hynny, feddyliau I ein calonnau trwy ysbrydoliaeth dy Lân Ysbryd, fel y gallom dy garu di'n berffaith, a mawrhau'n deilwng dy Enw santaidd; trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

Ein cymorth sydd yn Enw'r Arglwydd.

Ateb: A wnaeth nef a daear.

Yna dywed yr Offeiriad a'r Bobl y Gyffes hon:
 

Holy Communion

Cyffeswn i Dduw Hollalluog,
Y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân,
Ein bod wedi pechu ar feddwl, gair, a gweithred,
Trwy ein bai dirfawr.
Gan hynny gweddïwn ar i Dduw drugarhau wrthym,
Maddau ein holl bechodau,
A'n dwyn i fywyd tragwyddol.

Gan droi at y gynulleidfa, dyweded yr Offeiriad (neu'r Esgob, os bydd yn bresennol,) y Gollyngdod hwn:

Yr Hollalluog Dduw a drugarhao wrthych; maddau i chwi, a'ch gwaredu chwi oddi wrth eich holl bechodau; eich cadarnhau a'ch nerthu ym mhob daioni; a'ch dwyn i fywyd tragwyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

(SEFYLL)

Yma gellir canu emyn, anthem, neu salm, yn Yntred neu'n Orymdeithiol.

* Rhoddir cyfarwyddyd ar ymyl tudalennau'r gwasanaeth hwn ynglyn â PHENLINIO, EISTEDD a SEFYLL. Nid oes raid ei dilyn lle bo hynny'n groes i'r arfer leol, oddiethr fod i'r bobl benlinio ar gyfer cyffes pechod, sefyll pan ddarllenir yr Efengyl, a phenlinio wrth gymuno.

Gosodwyd rhai cyfarwyddiadau rhwng cromfachau, a dylid eu hanwybyddu pan nad ydynt yn addas, er enghraifft, wrth ddweud gwasanaeth, neu ar ddydd gwaith nad yw'n ddydd gŵyl.

Yna dywedir neu cenir y Kyriau:

Arglwydd, trugarha.
Arglwydd, trugarha.
Arglwydd, trugarha.
Crist, trugarha.

Crist, trugarha.
Crist, trugarha.
Arglwydd, trugarha.
Arglwydd, trugarha.
Arglwydd, trugarha.
NEU Kyrie, eleison.
Kyrie, eleison.
Kyrie, eleison.
Christe, eleison.
Christe, eleison.
Christe, eleison.
Kyrie, eleison.
Kyrie, eleison.
Kyrie, eleison.

Neu gellir eu dweud yn y dull yma:

Arglwydd, trugarha wrthym.
Crist, trugarha wrthym.
Arglwydd, trugarha wrthym.

GLORIA IN EXCELSIS

(SEFYLL)

Ar y Sul a Dyddiau Gŵyl cenir neu dywedir yr emyn canlynol, a'r Bobl yn sefyll:

Gogoniant yn y goruchaf i Dduw,
Ac ar y ddaear tangnefedd, ewyllys da i ddynion.
Moliannwn di, bendithiwn di, addolwn di, gogoneddwn di.
Diolchwn iti am dy fawr ogoniant,
Arglwydd Dduw, Frenin nefol, Duw Dad Hollalluog.

O Arglwydd Iesu Grist, yr uniganedig Fab;
Arglwydd Dduw, Oen Duw, Fab y Tad,
Sy'n tynnu ymaith bechodau'r byd,
Trugarha wrthym.
Tydi sy'n tynnu ymaith bechodau'r byd,
Derbyn ein gweddi.
Tydi sy'n eistedd ar ddeheulaw Duw Dad,
Trugarha wrthym.

Oblegid ti yn unig sy'n Santaidd,
Ti yn unig yw'r Arglwydd;
Ti yn unig, O Grist, gyda'r Ysbryd Glân, sydd Oruchaf
Yng ngogoniant Duw Dad. Amen.

Offeiriad: Yr Arglwydd a fo gyda chwi.
Ateb: A chyda'th ysbryd dithau.

Gweddïwn.

Dywedir COLECT neu GOLECTAU'R DYDD.
 

Confession & absolution

GWEINIDOGAETH Y GAIR

EISTEDD

Yna y dilyn Gweinidogaeth y Gair yn ôl y drefn a osodwyd.

Eistedded y Bobl hyd ddiwedd yr Epistol.

Wrth gyhoeddi'r Llithiau bydd yn ddigon i enwi'r llyfr yn unig heb y bennod a'r adnod.

Pan osodir LLITH O'R HEN DESTAMENT, dyweded y Darllenydd:

Y Darlleniad o......

Dyweded Darllenydd yr EPISTOL:

Y Darlleniad o......

Mae'r Salmau a osodir yn y Priodau i'w defnyddio ar ôl y Llith o'r Hen Destament (os bydd un) a'r Epistol. Ar ddyddiau gwaith nad ydynt yn Wyliau nid oes raid defnyddio salmau.

SEFYLL

A'r Bobl yn sefyll, dyweded y Diacon neu'r Offeiriad sy'n darllen yr EFENGYL:

Gwrandewch yr Efengyl Santaidd yn ôl Sant ....
Pobl: Gogoniant i ti, O Arglwydd.

Ar ôl yr Efengyl dywedir neu cenir:

Moliant i ti, O Grist.

(EISTEDD)

Bydd y BREGETH yn dilyn darlleniad yr efengyl.

SEFYLL

Ar y Sul a Dyddiau Gŵyl dywedir neu cenir CREDO NICEA, a'r Bobl yn sefyll.
 

Service of the Word

Credaf yn un Duw, Tad Hollalluog,
Gwneuthurwr nef a daear,
A phob peth gweledig ac anweledig.

Ac yn un Arglwydd Iesu Grist,
Uniganedig Fab Duw;
Cenedledig gan y Tad cyn yr holl oesoedd;
Duw o Dduw; Goleuni o oleuni; Gwir Dduw o wir Dduw;
Wedi ei genhedlu, nid wedi ei wneuthur;
Yn un hanfod â'r Tad;
Yr hwn y gwnaed pob peth drwyddo;
Yr hwn er ein mwyn ni ddynion, ac er ein hiachawdwriaeth, a ddisgynnodd o'r nefoedd,
Ac a gnawdolwyd trwy'r Ysbryd Glân o Fair Forwyn,
Ac a wnaethpwyd yn ddyn;
Ac a groeshoeliwyd hefyd drosom dan Pontiws Pilat.
Dioddefodd ac fe'i claddwyd:
Ac atgyfododd y trydydd dydd yn ôl yr Ysgrythurau;
Ac esgynnodd i'r nef,
Ac y mae'n eistedd ar ddeheulaw'r Tad.
A daw drachefn mewn gogoniant i farnu'r byw a'r meirw;
Ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.

A chredaf yn yr Ysbryd Glân,
Yr Arglwydd a'r Bywiawdwr
Sy'n deillio o'r Tad a'r Mab,
Yr hwn gyda'r Tad a'r Mab a gyd-addolir ac a gyd-ogoneddir,
Ac a lefarodd trwy'r proffwydi.
A chredaf yn Un Eglwys Lân Gatholig ac Apostolig.
Addefaf un Bedydd er maddeuant pechodau.
A disgwyliaf Atgyfodiad y meirw,
A Bywyd y byd sydd i ddyfod. Amen.

Yna y dilyn y Cyhoeddiadau, Gostegion Priodas ac unrhyw beth a orchmynnir gan yr Ordinari.

Yma hefyd y gellir cyhoeddi testun arbennig i weddi neu ddiolch.

Yna dechreua'r Offeiriad

PENLINIO
 

Nicene Creed

YR YMBILIAD

Gweddïwn dros holl Eglwys Crist a thros bob dyn yn ôl ei angen.

Hollalluog a byth-fywiol Dduw, deisyfwn yn ostyngedig arnat ysbrydoli'n barhaus yr Eglwys gyffredinol ag ysbryd y gwirionedd, undeb a chytgord, fel y gall pawb sy'n cyffesu dy Enw santeiddiol gytuno yng ngwirionedd dy Air santaidd, a byw mewn undeb a chariad duwiol.

Gwrando ni, Arglwydd daionus

Dyro ras, O Dad nefol, i'r holl Esgobion, Offeiriaid a Diaconiaid, ac yn enwedig i'th was N. ein Hesgob, fel y gallant trwy eu buchedd a'u hathrawiaeth gyhoeddi dy wir a'th fywiol Air, a gweinyddu dy Sacramentau Santaidd yn iawn ac yn ddyladwy.

Gwrando ni, Arglwydd daionus

Dyro dy ras hefyd i'th holl bobl, ac yn enwedig i'r gynulleidfa sydd wedi ymgynnull yma, er mwyn iddynt allu dy wasanaethu'n gywir mewn santeiddrwydd a chyfiawnder holl ddyddiau eu bywyd.

Gwrando ni, Arglwydd daionus

Erfyniwn arnat gyfarwyddo â'th ddoethineb nefol y rhai hynny sy'n llywodraethu cenhedloedd y byd; bendithia dy wasanaethyddes Elizabeth ein Brenhines a phob un sy'n dwyn awdurdod dani, fel y llywodraethir dy bobl yn gywir ac yn uniawn.

Gwrando ni, Arglwydd daionus

O'th ddaioni, Arglwydd, cynorthwya a chysura bawb sydd mewn trallod, tristwch, angen, afiechyd, neu ryw adfyd arall.

Gwrando ni, Arglwydd daionus

Cyflwynwn i'th ofal grasol, O Arglwydd, dy holl weision a ymadawodd â'r fuchedd yma yn dy ffydd di a'th ofn, gan erfyn arnat ganiatáu iddynt oleuni tragwyddol a thangnefedd.

Gwrando ni, Arglwydd daionus

Yn ddiwethaf, bendithiwn dy Enw santaidd am y gras a'r rhinweddau a amlygwyd yn dy holl Saint: Caniatâ i ni, gan ymlawenhau yn eu cymdeithas a chan ddilyn eu hesiamplau da, gael ein gosod gyda hwy ar ddeheulaw dy Fab ar ei ymddangosiad ef a bod yn gyfrannog o'th deyrnas nefol.

Gwrando ni, O Dad nefol, er mwyn Iesu Grist, ein hunig Gyfryngwr ac Eiriolwr, y bo iddo gyda thi a'r Ysbryd Glân bob anrhydedd a gogoniant byth heb ddiwedd. Amen.
 

Intercessions

GWEINIDOGAETH Y SACRAMENT

SEFYLL

A 'r Bobl yn sefyll, dywed yr Offeiriad:

Tangnefedd yr Arglwydd a fo gyda chwi bob amser.
Ateb: A chyda'th ysbryd dithau.

Yna y dechreua'r Offeiriad
 

Ministry of the Sacrament

YR OFFRYMIAD

gan adrodd un o'r brawddegau isod.

Ar ôl y Frawddeg dygir offrymau'r Bobl at yr Offeiriad a'u gosod ar yr allor.

Gesyd yr Offeiriad ar yr allor hynny o fara a gwin a farno'n ddigonol.

Gellir canu emyn, salm neu anthem yn ystod yr Offrymiad.

Aberthaf i ti aberth moliant; a galwaf ar Enw'r Arglwydd: Talaf fy addunedau i'r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl. Salm 116.17,18.

Aberthaf yn ei babell ef ebyrth gorfoledd: canaf, ie, canmolaf yr Arglwydd. Salm 27.6.

Rhoddwch i'r Arglwydd ogoniant ei enw : dygwch offrwm, a deuwch i'w gynteddoedd. Salm 96.8.

Yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw, santaidd, cymeradwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi. Rhufeiniaid 12.1.

Gan fod i ni Archoffeiriad mawr a aeth i'r nefoedd, Iesu Mab Duw, am hynny awn yn hyderus at orseddfainc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymorth cyfamserol. Hebreaid 4.14.16.

Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad sydd yn y nefoedd. Mathew 5.16.

Gall yr Offeiriad ddiweddu'r Offrymiad trwy ddweud:

Oddi wrthyt ti y mae pob peth:
Pobl: Ac o'th law dy hun y rhoddwn i ti.
 

Offertory

Y WEDDI EWCARISTAIDD

Try'r Offeiriad at y gynulleidfa a dywedyd:

Yr Arglwydd a fo gyda chwi.
Ateb: A chyda'th ysbryd dithau.
Offeiriad: Dyrchefwch eich calonnau.
Ateb: Yr ydym yn eu dyrchafu at yr Arglwydd.
Offeiriad: Diolchwn i'n Harglwydd Dduw.
Ateb: Mae'n addas ac yn gyfiawn gwneuthur hynny.

Try'r Offeiriad at Fwrdd yr Arglwydd a dywedyd:

Mae'n gwbl addas, yn gyfiawn, ac yn rhwymedig arnom bob amser ac ym mhob lle roddi diolch i ti, Arglwydd, Santaidd Dad, Hollalluog, Dragwyddol Dduw.

Yma y dilyn y Rhagymadrodd Priod (gweler isod) yn ôl y drefn, os bydd un wedi ei osod yn arbennig, neu onid e, ar y Sul yr hyn sy'n canlyn:

Trwy Iesu Grist ein Harglwydd sydd trwy ei angau ei hun wedi dinistrio angau, a thrwy ei atgyfodiad i fywyd wedi adfer inni fywyd tragwyddol. Gan hynny gydag Angylion, etc.

Ar ddyddiau eraill fe ddilyn yn union wedyn yr hyn a ganlyn:

Gan hynny gydag Angylion ac Archangylion, a chyda holl gwmpeini nef, y moliannwn ac y mawrhawn dy Enw gogoneddus; gan dy foliannu'n wastad a dywedyd:

Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw'r lluoedd,
Nef a daear sy'n llawn o'th ogoniant.
Gogoniant a fo i ti, O Arglwydd goruchaf.
Bendigedig yw'r hwn sy'n dyfod yn Enw'r Arglwydd:
Hosanna yn y goruchafion.
 

The Great Thanksgiving (Eucharistic Prayer)

RHAGYMADRODDION PRIOD

Y Nadolig, a'r saith diwrnod canlynol.

Am iti roddi Iesu Grist dy un Mab i'w eni ar gyfenw i'r amser yma drosom ni, yr hwn, trwy weithrediad yr Ysbryd Glân, a wnaed yn wir ddyn o sylwedd y Forwyn Fair ei fam, a hynny heb ddim pechod, i'n gwneud ni'n lân oddi wrth bob pechod. Gan hynny gydag Angylion etc.

Yr Ystwyll, a'r saith diwrnod canlynol; a hefyd ar Wyl y Gweddnewidiad.

Trwy Iesu Grist ein Harglwydd a amlygodd ei ogoniant yn sylwedd ein cnawd marwol ni, fet y dygai ni allan o dywyllwch i'w oleuni gogoneddus ef.

Tymor y Dioddefaint.

Trwy Iesu Grist ein Harglwydd, a gaed mewn dull fel dyn, ac a'i dibrisiodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau'r Groes, fel, wedi ei ddyrchafu oddi ar y ddaear, y tynnai bawb ato ei hun.

Sul y Pasg, a'r saith diwrnod canlynol.

Ond yn bennaf yr ydym yn rhwymedig i'th foliannu am Atgyfodiad gogoneddus dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd: oblegid y gwir Oen Pasg yw ef, a offrymwyd drosom, ac sydd wedi dwyn ymaith bechod y byd; yr hwn trwy ei angau ei hun a ddinistriodd angau, a thrwy ei atgyfodiad i fywyd a adferodd inni fywyd tragwyddol.

Y Sulgwyn, a'r chwe diwrnod canlynol.

Trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y disgynnodd yr Ysbryd Glân oddi wrtho, yn ôl ei gywiraf addewid, ar gyfenw i'r amser yma, o'r nef, â disymwth sŵn mawr. megis gwynt nerthol, ar wedd tafodau tanllyd, gan ddisgyn ar yr Apostolion, i'w dysgu hwynt, ac i'w harwain i bob gwirionedd; gan roddi iddynt ddawn amryw ieithoedd, a hyder hefyd, gyda chariad gwresog, yn ddyfal i bregethu'r Efengyl i'r holl genhedloedd; trwy'r hyn y dygwyd ni allan o dywyllwch a chyfeiliorni, i'th oleuni eglur, ac i wir wybodaeth am danat ti, a'th Fab Iesu Grist.

Neu'r canlynol

Trwy Iesu Grist ein Harglwydd, yr hwn, wedi iddo esgyn i'r uchelder, ac eistedd ar ddeheulaw dy Fawrhydi, a dywalltodd ar yr Eglwys dy Ysbryd Glân: fel, trwy rym ei ogoniant, y gallai'r holl fyd offrymu i ti aberth moliant.

Sul y Drindod.

Sydd gyda'th uniganedig Fab a'r Ysbryd Glân yn un Duw, un Arglwydd, mewn Trindod o Bersonau ac mewn Undod Sylwedd; oblegid yr hyn yr ydym yn ei gredu am dy ogoniant, O Dad, hynny yr ydym yn ei gredu am y Mab, ac am yr Ysbryd Glân, heb unrhyw wahaniaeth nac anghydraddoldeb.

Gwyliau Mair Forwyn Fendigaid,

Am iti roddi Iesu Grist, dy unig Fab, i'w eni er ein hiachawdwriaeth; yr hwn, trwy weithrediad yr Ysbryd Glân, a wnaed yn wir ddyn o sylwedd y Forwyn Fair ei fam, a hynny heb ddim pechod, r'n gwneud ni'n lân oddi wrth bob pechod.

Dydd y Dyrchafael, a'r saith diwrnod canlynol.

Trwy dy anwylaf Fab Iesu Grist ein Harglwydd a ymddangosodd yn eglur i'w holl Apostolion, wedi ei Atgyfodiad gogoneddus, ac yn eu golwg a esgynnodd i'r nef, i baratoi lle i ni; fel, lle y mae ef, yno yr esgynnwn ninnau hefyd, a theyrnasu gydag ei mewn gogoniant.

Gwyliau Seintiau Llythyren Goch, ac eithrio Gwyliau Mair Forwyn Fendigaid a'r Gwyliau yn Wytheidiau'r Nadolig neu'r Dyrchafael.

Am i ti amlygu gras Iesu Grist yn dy holl Seintiau a eglurodd dy ogoniant yn eu bywyd, ac sydd mewn cymdeithas â ni yn offrymu diolch a moliant i ti.

Pan ddefnyddir Colect, Epistol ac Efengyl "am arweiniad yr Ysbryd Glân", gellir arfer Rhagymadrodd Priod y Sulgwyn.

Wrth goffáu'r ymadawedig gellir defnyddio Rhagymadrodd Priod y Sul.

Yn union ar ôl y Rhagymadrodd Priod fe ddilyn yr hyn a ganlyn:

Gan hynny gydag Angylion ac Archangylion, a chyda holl gwmpeini nef, y moliannwn ac y mawrhawn dy Enw gogoneddus: gan dy foliannu'n wastad, a dywedyd,

Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw'r lluoedd,
Nef a daear sy'n llawn o'th ogoniant.
Gogoniant a fo i ti, O Arglwydd goruchaf.
Bendigedig yw'r hwn sy'n dyfod yn Enw'r Arglwydd:
Hosanna yn y goruchafion.

PENLINIO

A'r bobl ar eu gliniau, fe â'r Offeiriad ymlaen:

Y gogoniant, y mawl a'r diolch a fo i ti, Dduw Hollalluog ein Tad nefol, am dyfod wedi creu nef a daeara phob peth sydd ynddynt, a llunio dyn ar dy ddelw dy hun, ac o'th dyner drugaredd wedi rhoddi dy unig Fab, Iesu Grist, i gymryd arno ein natur ni, ac i ddioddef angau ar y Groes er ein prynedigaeth; yr hwn, trwy ei offrymiad ei hun a offrymwyd unwaith, a wnaeth yno gyflawn, perffaith, a digonol aberth, offrwm, ac iawn dros bechodau'r holl fyd; ac a ordeiniodd ac yn ei Efengyl santaidd a orchmynnodd inni gadw coffa gwastadol am ei angau gwerthfawr hwnnw, nes ei ddyfod drachefn.

Gan hynny, O Dad trugarog, erfyniwn arnat sancteiddio dy roddion hyn o Fara a Gwin, fel y gallwn ni, o'u derbyn yn ôl ordinhad santaidd dy Fab a'n Gwaredwr Iesu Grist, fod yn gyfrannog o'i werthfawrocaf Gorff a'i Waed:

Yr hwn ar y nos honno y bradychwyd ef a gymerodd Fara

(Yma cymered yr Offeiriad y Bara i'w ddwylo)

ac wedi iddo ddiolch, fe'i torrodd a'i roddi i'w ddisgyblion, gan ddywedyd: Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff a roddir drosoch: Gwnewch hyn er cof amdanaf.

Yr un modd wedi swper fe gymerodd y Cwpan

(Yma cymered yr Offeiriad y Cwpan i'w ddwylo)

ac wedi iddo ddiolch, fe'i rhoddodd iddynt, gan ddywedyd: Yfwch o hwn bawb, oblegid hwn yw fy Ngwaed o'r Cyfamod Newydd a dywelltir drosoch a thros lawer er maddeuant pechodau: Gwnewch hyn, cynifer gwaith ag yr yfwch ef, er cof amdanaf.

Am hynny, O Arglwydd a nefol Dad, wrth goffáu dioddefaint bendigedig, atgyfodiad nerthol, a dyrchafael gogoneddus dy anwylaf Fab, megis y gorchmynnodd ef i ni, gan lawenhau yn yr Ysbryd Glân, ei rodd ef, a chan ddisgwyl ei ddyfodiad drachefn mewn gallu a gogoniant mawr, yr ydym ni dy weision, gyda'th holl bobl santaidd, yn gosod gerbron dy Fawrhydi Dwyfol y Bara hwn yn fara'r bywyd tragwyddol a'r Cwpan hwn yn gwpan iachawdwriaeth dragywydd.

Ac erfyniwn arnat dderbyn ein haberth hwn o foliant a diolch a chaniatáu i ni ac i'th holl Eglwys gael maddeuant o'n pechodau a phob doniau eraill o'i ddioddefaint ef. A gweddïwn am i bawb ohonom sy'n gyfrannog o'r Cymun bendigaid hwn fod yn gyflawn o'th ras ac o'th fendith nefol, a chael ein cyfrif yng nghwmpeini gogoneddus dy saint.

Trwy Iesu Grist ein Harglwydd, y bo trwyddo ef, a chydag ef, yn undod yr Ysbryd Glân, bob anrhydedd i ti, O Dad Hollalluog, dros yr holl oesoedd byth heb ddiwedd.

Yma dyweded yr holl bobl: AMEN.
 

Proper Prefaces

TORIAD Y BARA

Yna torred yr Offeiriad y Bara, gan ddywedyd:

Y Bara yr ydym yn ei dorri,
Pobl: Onid cymun Corff Crist ydyw?
Offeiriad: Yr ydym ni sy'n llawer yn un Bara, un Corff;
Pobl: Oblegid yr ydym oll yn gyfrannog o'r un Bara.
 

Breaking of the Bread

Y CYMUN

Dywed yr Offeiriad:

Megis y dysgodd ein Hiachawdwr Iesu Grist ni, yr ydym yn eofn yn dywedyd:

Yna dyweded yr Offeiriad a'r Bobl Weddi'r Arglwydd gyda'i gilydd:
 

Communion

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd;
Sancteiddier dy Enw;
Deled dy deyrnas,
Bydded dy ewyllys ar y ddaear,
Megis y mae yn y nefoedd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
A maddau i ni ein dyledion,
Fel y maddeuwn ni i'n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth;
Eithr gwared ni rhag drwg;
Canys eiddot ti yw'r deyrnas, a'r gallu, a'r gogoniant,
Yn oes oesoedd. Amen.

Derbynied yr Offeiriad y Cymun Bendigaid yn y ddau ryw, ac yna ei weinyddu i'r sawl a fydd yn cymuno, i'w dwylo, gan ddweud yn gyntaf:

Dewch yn nes a derbyniwch Gorff a Gwaed ein Harglwydd Iesu Grist a roddwyd drosoch, ac ymborthwch arno yn eich calonnau trwy ffydd, gan roddi diolch.

Wrth weinyddu'r Bara, fe ddywed:

Corff ein Harglwydd Iesu Grist a gadwo dy gorff a'th enaid i fywyd tragwyddol.

Wrth weinyddu'r Cwpan, fe ddywed:

Gwaed ein Harglwydd Iesu Grist a gadwo dy gorff a'th enaid i fywyd tragwyddol.

Yn ystod y Cymun gellir canu'r anthem hon:

Oen Duw, sy'n tynnu ymaith bechodau'r byd: trugarha wrthym.
Oen Duw, sy'n tynnu ymaith bechodau'r byd: trugarha wrthym
Oen Duw, sy'n tynnu ymaith bechodau'r byd: dyro inni dy dangnefedd.

Os bydd y Bara neu'r Gwin cysegredig wedi darfod i gyd cyn i bawb gymuno, cysegred yr Offeiriad ychwaneg yn ôl y dull uchod: gan ddechrau ar Ein hiachawdwr Crist y nos honno a diweddu ar Gwnewch hyn er cof amdanaf i fendigo'r Bara; ac ar Yr un modd wedi swper a diweddu ar Gwnewch hyn, cynifer gwaith ag yr yfwch ef, er cof amdanaf i fendigo'r Cwpan.

Wedi'r Cymun bwytaed ac yfed yr Offeiriad, a'r rhai hynny o'r cymunwyr a eilw ef ato, yn ddefosiynol yr hyn sy'n weddill o'r elfennau cysegredig a glanhaer y llestri yn y dull arferol.

Tra bydd hyn yn digwydd gellir canu emyn

(SEFYLL)
 

Lord's Prayer

YR ÔL-GYMUN

PENLINIO

Dywed yr Offeiriad:

Diolchwch i'r Arglwydd, oblegid graslon yw ef:
Ateb: Oherwydd ei drugaredd sy'n dragywydd.

Yna dechraua'r Offeiriad y Weddi hon:

Hollalluog a thragwyddol Dduw, yr ydym yn dirfawr ddiolch i ti am ymborth ysbrydol Corff a Gwaed dy Fab, ein Hiachawdwr Iesu Grist a roddaist i ni yn y dirgeleddau santeiddiol hyn, gan ein sicrhau trwy hynny o'th raslonrwydd a'th ddaioni i ni sy'n aelodau o gorff dirgel dy Fab a thrwy obaith yn etifeddion dy deyrnas dragwyddol;

Yna dyweded yr Offeiriad a'r Bobl gyda'i gilydd:

Gan hynny, yr ydym yn offrymu ac yn cyflwyno i ti, O Arglwydd,
Ein hunain, ein heneidiau a'n cyrff,
I fod yn aberth rhesymol, santaidd, a bywiol i ti,

Gan ddeisyf arnat trwy dy ras
Ein cadw yn y gymdeithas santeiddiol hon
A'n galluogi i gyflawni'r gweithredoedd da hynny
Arfaethaist i ni rodio ynddynt;

Trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
Y bo iddo gyda thi a'r Ysbryd Glân,
Bob anrhydedd a gogoniant,
Yn oes oesoedd. Amen.

Yna y gollwng yr Offeiriad (neu'r Esgob, os bydd yn bresennol) y bobl â'r Fendith hon:

Tangnefedd Duw sydd uwchlaw pob deall a gadwo eich calonnau a'ch meddyliau yng ngwybodaeth a chariad Duw, a'i Fab Iesu Grist ein Harglwydd: A bendith Duw Hollalluog, y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân, a fo i'ch plith, ac a drigo gyda chwi yn wastad. Amen.

NEU

Offeiriad: Yr Arglwydd a fo gyda chwi.
Pobl: A chyda'th ysbryd dithau
Offeiriad: Awn ymaith mewn tangnefedd.
Pobl: Yn Enw Crist. Amen.

Post-Communion
 

 

Web author: Charles Wohlers U. S. EnglandScotlandIrelandWalesCanadaWorld