The Book of Common Prayer
United States England Scotland Ireland Wales Canada World

   

Llyfr Gweddi Gyffredin
the Book of Common Prayer in Welsh


 

Y CATECISM;

HYNNY YW, ATHRAWIAETH I’W DYSGU GAN BOB UN, CYN
EI DDWYN I’W GONFFIRMIO GAN YR ESGOB.

Gofyniad.

BETH yw dy Enw di?
Atteb. N. neu M.
    Gofyn. Pwy a roddes yr Enw hwnnw arnat ti?
    Atteb. Fy Nhadau-bedydd a’m Mammau-bedydd wrth fy medyddio; pan y’m gwnaethpwyd yn aelod i Grist, yn blentyn i Dduw, ac yn etifedd teyrnas nefoedd.
    Gofyn. Pa beth a wnaeth dy Dadau-bedydd a’th Fammau-bedydd yr amser hwnnw drosot ti?
    Atteb. Hwy a addawsant ac a addunasant dri pheth yn fy enw. Yn gyntaf, Ymwrthod o honof â diafol ac â’i holl weithredoedd, rhodres a gorwagedd y byd anwir hwn, a holl bechadurus chwantau’r cnawd. Yn ail, Bod i mi gredu holl Byngciau Ffydd Grist. Ac yn drydydd, Cadw o honof wỳnfydedig ewyllys Duw a’i orchymynion, a rhodio ynddynt holl ddyddiau fy mywyd.
    Gofyn. Onid wyt ti yn tybied dy fod yn rhwymedig i gredu ac i wneuthur megis yr addawsant hwy drosot ti?
    Atteb. Ydwyf yn wir; a thrwy nerth Duw felly y gwnaf. Ac yr wyf fi yn mawr-ddïolch i’n Tad nefol, am iddo fy ngalw i gyfryw ystâd iachawdwriaeth, trwy Iesu Grist ein Hiachawdwr. Ac mi a attolygaf i Dduw roddi i mi ei ras, modd y gallwyf aros ynddo holl ddyddiau fy einioes.
    Catec. Adrodd i mi Fannau dy Ffydd.
 

A Catechism

Atteb.

CREDAF yn Nuw Dad Hollgyfoethog, Creawdwr nef a daear:
Ac yn Iesu Grist, ei un Mab ef, ein Harglwydd ni; Yr hwn a gaed trwy’r Yspryd Glân, A aned o Fair Forwyn, A ddïoddefodd dan Pontius Pilatus, A groeshoeliwyd, a fu farw, ac a gladdwyd; A ddisgynodd i uffern; Y trydydd dydd y cyfododd o feirw; A esgynodd i’r nefoedd. Ac y mae yn eistedd ar ddeheudaw Dduw Dad Hollgyfoethog; Oddi yno y daw i farnu byw a meirw.
    Credaf yn yr Yspryd Glân; Yr Eglwys Lân Gatholig; Cymmun y Saint; Maddeuant pechodau; Adgyfodiad y cnawd, A’r Bywyd tragywyddol. Amen.
    Gofyn. Pa beth yr wyt ti yn ei ddysgu yn bennaf yn y Pyngciau hyn o’th Ffydd?
    Atteb. Yn gyntaf, Yr wyf yn dysgu credu yn Nuw Dad, yr hwn a’m gwnaeth i a’r holl fyd.
    Yn ail, Yr wyf yn dysgu credu yn Nuw Fab, Yr hwn a’m prynodd i, a phob rhyw ddyn.
    Yn drydydd, Yr wyf yn dysgu credu yn Nuw Yspryd Glân, yr hwn sydd yn fy sancteiddio i, a holl etholedig bobl Duw.
    Gofyn. Ti a ddywedaist ddarfod i’th Dadau-bedydd a’th Fammau-bedydd addaw trosot ti, fod i ti gadw Gorchymynion Duw. Dywed dithau i mi, pa nifer sydd o honynt?
    Atteb. Deg.
    Gofyn. Pa rai ydynt?
 

Nicene Creed

Atteb.

Y Rhai hynny a lefarodd Duw yn yr ugeinfed Bennod o Exodus; gan ddywedyd, Myfi yw’r Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di ymaith o dîr yr Aipht, o dŷ’r caethiwed.
    I. Na fydded i ti dduwiau eraill onid myfi.
    II. Na wna it’ dy hun ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, neu yn y ddaear isod, nac yn y dwfr dan y ddaear. Na ostwng iddynt, ac na addola hwynt: canys myfi yr Arglwydd dy Dduw ydwyf Dduw eiddigus, yn ymweled â phechodau’r tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt; ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’;m carant, ac a gadwant fy ngorchymynion.
    III. Na chymmer Enw’r Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid gwirion gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei Enw ef yn ofer.
    IV. Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Sabbath. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnai dy holl waith; eithr y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw. Ar y dydd hwnnw na wna ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th was, na’th forwyn, na’th anifail, na’r dyn dïeithr a fyddo o fewn dy byrth. Canys mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd nef a daear, y môr, ac oll y sydd ynddynt, ac a orphwysodd y seithfed dydd: o herwydd paham y bendithiodd yr Arglwydd y seithfed dydd, ac a’i sancteiddiodd ef.
    V. Anrhydedda dy dad a’th fain; fel yr estyner dy ddyddiau ar y ddaear yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
    VI. Na ladd.
    VII. Na wna odineb.
    VIII. Na ladratta.
    IX. Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.
    X. Na chwennych dŷ dy gymmydog, na chwennych wraig dy gymmydog, na’i was, na’i forwyn, na’i ŷch, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo.
    Gofyn. Beth yr wyt ti yn ei ddysgu yn bennaf wrth y Gorchymynion hyn;
    Atteb. Yr ydwyf yn dysgu dau beth: fy nyledswydd tu ag at Dduw, a’m dyledswydd tu ag at fy Nghymmydog.
    Gofyn. Pa beth yw dy ddyledswydd tu ag at Dduw?
    Atteb. Fy nyledswydd tu ag at Dduw yw, credu ynddo, ei ofni, a’i garu â’m holl galon, â’m holl feddwl, â’m holl enaid, ac â’m holl nerth; ei addoli ef, dïolch iddo, rhoddi fy holl ymddiried ynddo, galw arno, anrhydeddu ei Enw sanctaidd ef, a’i Air, a’i wasanaethu yn gywir holl ddyddiau fy mywyd.
    Gofyn. Pa beth yw dy ddyledswydd tu ag at dy Gymmydog?
    Atteb. Fy nyledswydd tu ag at fy Nghymmydog yw, ei garu fel fi fy hun, a gwneuthur i bob dyn megis y chwennychwn iddo wneuthur i minnau. Caru o honof, anrhydeddu, a chymmorth, fy nhad a’m mam. Anrhydeddu ac ufuddhâu i’r Brenhin a’i Swyddogion. Ymddarostwng i’m holl Lywiawdwŷr, Dysgawdwŷr, Bugeiliaid ysprydol, ac Athrawon. Ymddwyn o honof yn ostyngedig, gan berchi pawb o’m gwell. Na wnelwyf niweid i neb ar air na gweithred. Bod yn gywir ac yn union ym mhob peth a wnelwyf. Na bo na drwg-fwriad na digasedd yn fy nghalon i neb. Cadw o honof fy nwylaw rhag chwilenna a lladratta, a’m tafod rhag dywedyd celwydd, cableiriau, na drwg absen. Cadw fy nghorph mewn cymhedroldeb, sobrwydd, a diweirdeb. Na chybyddwyf ac na ddeisyfwyf ddâ na golud neb arall; eithr dysgu a llafurio yn gywir i geisio ynnill fy mywyd, ac i wneuthur a ddylwyf, ym mha ryw fuchedd bynnag y rhyngo bodd i Dduw fy ngalw iddi.
    Catec. Fy anwyl blentyn, gwybydd hyn yma, na ddichon i ti wneuthur y pethau hyn o honot dy hun, na rhodio yng Ngorchymynion Duw, na’i wasanaethu ef, heb ei hyspysol ras ef; yr hwn sy raid i ti ddysgu yn wastad alw am dano trwy ddyfal Weddi. Gan hynny moes i mi glywed a fedri di ddywedyd Gweddi yr Arglwydd.
 

Ten Commandments

Atteb.

EIN Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd; Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y maddeuwn ni i’n dyledwŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwared ni rhag drwg. Amen.
    Gofyn. Pa beth yr wyt ti yn ei erchi ar Dduw yn y Weddi hon?
    Atteb. Yr ydwyf yn erchi ar fy Arglwydd Dduw ein Tad nefol, yr hwn yw rhoddwr pob daioni, ddanfon ei ras arnaf, ac ar yr noll bobl; fel y gallom ei anrhydeddu ef, a’i wasanaethu, ac ufuddhâu iddo megis y dylem. Ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw, ddanfon i ni bob peth angenrheidiol, yn gystal i’n heneidiau ag i’n cyrph; a bod yn drugarog wrthym, a maddeu i ni ein pechodau; a rhyngu bodd iddo ein cadw a’n hamddiffyn ym mhob perygl ysprydol a chorphorol; a chadw o hono nyni rhag pob pechod ac anwiredd, a rhag ein gelyn ysprydol, a rhag angau tragywyddol. A hyn yr ydwyf yn ei obeithio y gwna efe o’i drugaredd a’i ddaioni, trwy ein Harglwydd Iesu Grist: ac am hynny yr wyf yn dywedyd, Amen, Poed felly.
 

Lord’s Prayer

Gofyniad.

PA sawl Sacrament a ordeiniodd Crist yn ei Eglwys?
    Atteb. Dau yn unig, megis yn gyffredinol yn anghenraid i Iachawdwriaeth; sef, Bedydd, a Swpper yr Arglwydd.
    Gofyn. Pa beth yr wyt ti yn ei ddeall wrth y gair hwn, Sacrament?
    Atteb. Yr wyf yn deall arwydd gweledig oddi allan o ras ysprydol oddi fewn a roddir ini; yr hwn a ordeiniodd Crist ei hun, megis moddion i ni i dderbyn y gras hwnnw trwyddo, ac i fod yn wystl i’n sicrhâu ni o’r gras hwnnw.
    Gofyn. Pa sawl rhan y sy mewn Sacrament?
    Atteb. Dwy: yr arwydd gweledig oddi allan, a’r gras ysprydol oddi fewn.
    Gofyn. Pa beth yw’r arwydd gweledig oddi allan, neu’r ffurf, yn y Bedydd?
    Atteb. Dwfr: yn yr hwn y bedyddir un, Yn Enw’r Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân.
    Gofyn
. Pa beth yw’r gras ysprydol oddi fewn?
    Atteb. Marwolaeth i bechod, a genedigaeth newydd i gyfiawnder: canys gan ein bod ni wrth naturiaeth wedi ein geni mewn pechod, ac yn blant digofaint, trwy Fedydd y’n gwneir ni yn blant gras.
    Gofyn. Pa beth a ddisgwylir gan y rhai a fedyddier?
    Atteb. Edifeirwch, trwy’r hon y maent yn ymwrthod â phechod; a Ffydd, trwy ’r hon y maent yn ddïysgog yn credu addewidion Duw y rhai a wneir iddynt yn y Sacrament hwnnw.
    Gofyn. Paham gan hynny y bedyddir Plant bychain, pryd na’s gallant o herwydd eu hieuengetid gyflawni ’r pethau hyn?
    Atteb. Oblegid eu bod yn addaw pob un o’r ddau trwy eu Mechnïau; yr hwn addewid, pan ddelont i oedran, y maent hwy eu hunain yn rhwym i’w gyflawni.
    Gofyn. Paham yr ordeiniwyd Sacrament Swpper yr Arglwydd?
    Atteb. Er mwyn gwastadol gof am aberth marwolaeth Crist, a’r llesâd yr ydym ni yn ei dderbyn oddi wrtho.
    Gofyn. Pa beth yw y rhan oddi allan, neu ’r arwydd, yn Swpper yr Arglwydd?
    Atteb. Bara a Gwin, y rhai a orchymynodd yr Arglwydd eu derbyn.
    Gofyn. Pa beth yw y rhan oddi fewn, neu’r peth a arwyddocêir?
    Atteb. Corph a Gwaed Crist; y rhai y mae’r ffyddloniaid yn wir ac yn ddïau yn eu cymmeryd ac yn eu derbyn, yn Swpper yr Arglwydd.
    Gofyn. Pa lesâd yr ydym ni yn ei gael wrth gymmeryd y Sacrament hwn?
    Atteb. Cael cryfhâu a diddanu ein heneidiau trwy Gorph a Gwaed Crist, megis y mae n cyrph yn cael trwy’r Bara a’r Gwin.
    Gofyn. Pa beth sy raid i’r rhai a ddêl i Swpper yr Arglwydd ei wneuthur?
    Atteb. Eu holi eu hunain, a ydynt hwy yn wir edifeiriol am eu pechodau a aeth heibio, ac yn sicr amcanu dilyn buchedd newydd; a oes ganddynt ffydd fywiol yn nhrugaredd Dduw trwy Grist, gyd â dïolchus gof am ei angau ef; ac a ydynt hwy mewn cariad perffaith â phob dyn.

¶ Bydded i Gurad pob Plwyf yn ddïesgeulus ar y Suliau a’r Gwyliau, ar ol yr ail Lith o r Gosper, ddysgu ar osteg yn yr Eglwys, a holi cynnifer o Blant ei Blwyf ag a ddanfoner atto, megis y tybio efe fod yn gymhesur, yn rhyw gyfran o’r Catecism hwn.

¶ A bydded i bob Tad, a Mam, a phob Perchen Tylwyth, beri i’w Plant, i’w Gwasanaeth-ddynion, ac i’w Prentisiaid (y rhai ni ddysgasant eu Catecism) ddyfod i’r Eglwys ar yr amser gosodedig, a gwrando yn ufudd, a bod wrth lywodraeth y Curad, hyd oni ddarffo iddynt ddysgu pob peth a’r y sydd yma wedi ei osod i’w ddysgu ganddynt.

¶ Cyn gynted ag y delo Plant i Oedran cymhedrol, ac y medront ddywedyd, yu Iaith eu Mam, Fannau’r Ffydd, Gweddi yr Arglwydd, a’r Deg Gorchymyn; a hefyd medru o honynt atteb i Y mofynion eraill y Catecism byr yma, yna y dygir hwy at yr Esgob. Ac i bob un o honynt y bydd Tad-bedydd, neu Fam-fedydd, megis yn Dyst o’u Conffirmasiwn.

¶ A pha bryd bynnag y rhoddo yr Esgob hyspysrwydd am ddwyn Plant atto i’w Conffirmio, Curad pob Plwyf a ddwg neu a ddenfyn yn ysgrifenedig dan ei law, Enwau y rhai oll o fewn ei Blwyf, ag a dybio efe fod yn gymmwys i’w cyflwyno i’r Esgob, i’w Conffirmio. Ac os yr Esgob a’u gwel hwynt yn gymmeradwy, efe a’u Conffirmia hwynt yn y Drefn yn canlyn.



Questions on the Sacraments

TREFN CONFFIRMASIWN;

NEU ARDDODIAD DWYLAW AR Y SAWL A FEDYDDIWYD.
AC A DDAETHANT I OEDRAN PWYLL.

¶ AR y Dydd pennodedig, wedi gosod yn eu lle cynnifer ag a fo y pryd hwnnw i’w Conffirmio, a hwy yn sefyll mewn trefn o flaen yr Esgob; efe (neu ryw Weinidog arall a bennodir ganddo ef) a dderllyn y Rhagymadrodd hwn y sydd yn canlyn.

ER mwyn bod gweinyddu Conffirmasiwn er mwy o adeilad i’r sawl a’i derbynio, tybiodd yr Eglwys yn dda drefnu, na bo conffirmio neb rhag llaw, ond y cyfryw ag a fedro ddywedyd y Credo, Gweddi’r Arglwydd, a’r Deng-Air Deddf; ac a fedro hefyd atteb i gyfryw ymofynion eraill ag a gynhwysir yn y Catecism byr. Yr hon drefn sydd weddus iawn ei chadw, er gallu o’r plant, wedi eu dyfod weithian i oedran pwyll, ac wedi dysgu y pethau a addawsai eu Tadau-bedydd a’u Mammau-bedydd drostynt wrth eu bedyddio, eu hun, â’u genau eu hunain, ac o’u cyd-syniad eu hunain, ar osteg o flaen yr Eglwys, gadarnhâu a chonffirmio yr unrhyw; a hefyd addaw, trwy ras Duw, yr ymegnïant yn wastad i gadw yn ffyddlon y cyfryw bethau ag a fu iddynt hwy â’u cyffes eu hun gydsynio arnynt.

¶ Yna y dywed yr Esgob,

A Ydych chwi yma, yngŵydd Duw a’r gynnulleidfa hon, yn adnewyddu yr addewid parchus, a’r adduned a wnaethpwyd yn eich enw chwi wrth eich Bedyddio; gan gadarnhâu a chonffirmio yr unrhyw eich hunain, a chan gydnabod eich bod eich hunain yn rhwymedig i gredu a gwneuthur yr holl bethau a addawodd eich Tadau-bedydd a’ch Mammau-bedydd yna drosoch chwi?

¶ A phob un a ettyb yn glywedog, Yr ydwyf.

Esgob.

EIN porth ni sydd yn Enw yr Arglwydd.
    Atteb. Yr hwn a wnaeth nef a daear.
    Esgob. Bendigedig yw Enw yr Arglwydd.
    Atteb. O hyn allan hyd yn oes oesoedd.
    Esgob. Arglwydd, gwrando ein gweddïau.
    Atteb. A deued ein llef hyd attat.

Esgob. Gweddïwn.

HOLL-alluog a byth-fywiol Dduw, yr hwn fu wiw gennyt ad-genhedlu dy weision hyn trwy ddwfr, a’r Yspryd Glân, ac a roddaist iddynt faddeuant o’u holl bechodau; Nertha hwy, ni a attolygwn i ti, Arglwydd, â’th Yspryd Glân y Diddanydd; a pheunydd ychwanega ynddynt aml ddoniau dy ras; yspryd doethineb a deall; yspryd cyngor a nerth ysprydol; yspryd gwybodaeth a gwir dduwioldeb; a chyflawna hwy, Arglwydd, âg yspryd dy sanctaidd ofn, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.
 

Order of Confirmation

¶ Yna, a phob un o honynt yn ei drefn yn gostwng ar ei liniau ger bron yr Esgob, efe a ddyd ei law ar ben pob un yn wahanol, gan ddywedyd,

AMDDIFFYN, Arglwydd, dy Blentyn hwn [neu, dy was hwn] â’th ras nefol, fel y byddo iddo barhâu yn eiddot ti byth, a pheunydd gynnyddu yn dy Yspryd Glân fwyfwy, hyd oni ddêl i’th deyrnas dragywyddol. Amen.

¶ Yna y dywed yr Esgob,

    Yr Arglwydd a fo gyd â chwi.
    Atteb. A chyd â’th yspryd dithau.

¶ Ac (a phawb ar eu gliniau) yr Esgob a ’chwanega,
 

Confirmation

Gweddïwn.

EIN Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y maddeuwn ni i’n dyledwŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwared ni rhag drwg. Amen.

A’r Colect hwn.

HOLL-alluog a byth-fywiol Dduw, yr hwn wyt yn peri i ni ewyllysio a gwneuthur yr hyn sy dda ac yn gymmeradwy gan dy Ddwyfol Fawredd; Yr ydym yn gwneuthur ein gostyngedig erfynion attat dros dy weision hyn, y rhai (yn ol esampl dy sanctaidd Apostolion) y gosodasom yr awrhon ein dwylaw arnynt, i’w sicrhâu hwy, trwy yr arwydd hwn, o’th amgeledd a’th radlawn ddaioni tu ag attynt. Bydded dy dadol law, ni a attolygwn i ti, byth arnynt; bydded dy Ysyryd Glân byth gyd â hwy; ac felly tywys hwy yngwybodaeth ac ufudd-dod dy Air, modd y gallont yn y diwedd fwynhâu bywyd tragywyddol; trwy ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn, gyd â thi a’r Yspryd Glân, sydd yn byw ac yn teyrnasu byth yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.

HOLL-alluog Arglwydd, a thragywyddol Dduw, ni a attolygwn i ti, fod yn wiw gennyt unioni, sancteiddio, a llywodraethu, ein calonnau a’n cyrph yn ffyrdd dy ddeddfau, ac yngweithredoedd dy orchymynion; fel trwy dy gadarnaf nodded, yma ac yn dragywyddol, y bôm yn gadwedig gorph ac enaid; trwy ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist. Amen.

¶ Yna y bendithia’r Esgob hwynt, gan ddywedyd hyn,

BENDITH yr Holl-alluog Dduw, y Tad, y Mab, a’r Yspryd Glân, a fyddo arnoch, ac a drigo gyd â chwi yn dragywydd. Amen.

¶ Ac ni dderbynir neb i’r Cymmun Sanctaidd, nes iddo gael ei Gonffirmio, neu fod o hono yn barod ac yn ewyllysgar i’w Gonffirmio.
 

Lord’s Prayer & prayers for the candidates

Llyfr Gweddi Gyffredin

The Book of Common Prayer in Welsh

Web author: Charles Wohlers U. S. EnglandScotlandIrelandWalesCanadaWorld