The Book of Common Prayer | |||||||
|
|
TREFN CLADDEDIGAETH Y MARW. ¶ Noder yma, Na ddylid arfer y Gwasanaeth a ganlyn dros neb a fo marw heb fedydd, neu dan Ysgymmundod, neu a'u lladdasant eu hunain. ¶ Yr Offeiriad a'r Ysgolheigion, wrth gyfarfod â'r Corph wrth borth y Fynwent, ac yn myned o'i flaen i r Eglwys, neu tu a'r Bedd, a ddywedant, neu a ganant, MYFI yw'r adgyfodiad a'r bywyd, medd yr Arglwydd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw. A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. St. Ioan xi. 25, 26. MYFI a wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear. Ac er ar ol fy nghroen i bryfed ddifetha'r corph hwn, etto caf weled Duw yn fy nghnawd: yr hwn a gaf fi im fy hun ei weled, a'm llygaid a'i gwelant, ac nid arall. Job xix. 25, 26, 27. NI ddygasom ni ddim i'r byd, ac eglur yw na allwn ddwyn dirn allan chwaith. Yr Arglwydd a roddodd, a'r Arglwydd a gymmerodd ymaith; bendigedig fyddo Enw yr Arglwydd. 1 Tim. vi. 7. Job i. 21. ¶ Gwedi eu dyfod
i'r Eglwys, y darllenir un o'r Psalmau hyn yn canlyn, neu'r ddwy. |
Order for the Burial of the Dead |
Dixi, custodiam. Psal. xxxix. DYWEDAIS, Cadwaf fy ffyrdd,
rhag pechu â'm tafod : cadwaf ffrwyn yn fy ngenau, tra fyddo'r
annuwiol yn fy ngolwg. |
Psalm 39 |
Domine, refugium. Psal. xc. TI Arglwydd, fuost yn
breswylfa i ni : ym mhob cenhedlaeth; ¶ Ar ol hynny
y canlyn y Llith, wedi ei chymmeryd o'r bymthegfed Bennod o Epistol
cyntaf Sant Paul at y Corinthiaid. |
Psalm 90 |
1 Cor. xv. 20.
YN awr Crist a gyfodwyd oddi wrth y meirw, ac a wnaed yn flaen-ffrwyth y rhai a hunasant. Canys, gan fod marwolaeth trwy ddyn, trwy ddyn hefyd y mae adgyfodiad y meirw. Oblegid megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yng Nghrist y bywhêir pawb. Eithr pob un yn ei drefn ei hun: y blaen-ffrwyth yw Crist; wedi hynny y rhai ydynt eiddo Crist, yn ei ddyfodiad ef. Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a'r Tad; wedi iddo ddilëu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth. Canys rhaid iddo deyrnasu hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed. Y gelyn diweddaf a ddinystrir yw'r angau: canys efe a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef. Eithr pan yw yn dywedyd fod pob peth wedi eu darostwng, amlwg yw mai oddi eithr yr hwn a ddarostyngodd bob peth iddo. A phan ddarostynger pob peth iddo, yna'r Mab ei hun hefyd a ddarostyngir i'r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef; fel y byddo Duw oll yn oll. Os amgen, beth a wna y rhai a fedyddir dros y meirw, os y meirw ni chyfodir ddim? Paham ynte y bedyddir hwy dros y meirw? a phaham yr ydym ninnau mewn perygl bob awr? Yr ydwyf beunydd yn marw, myn eich gorfoledd yr hon sy gennyf yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. Os yn ol dull dyn yr ymleddais âg anifeiliaid yn Ephesus, pa lesâd fydd i mi, oni chyfodir y meirw? Bwyttâwn, ac yfwn; canys y foru marw yr ydym. Na thwyller chwi: y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da. Deffrôwch yn gyfiawn, ac na phechwch; canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw. Er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd hyn. Eithr fe a ddywed rhyw un, Pa fodd y cyfodir y meirw? ac â pha ryw gorph y deuant? O ynfyd, y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywhêir, oni bydd efe marw. A'r peth yr wyt yn ei hau, nid y corph a fydd yr ydwyt yn ei hau, ond gronyn noeth, ysgatfydd o wenith, neu o ryw rawn arall. Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorph fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorph ei hun. Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd; eithr arall yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, a chnawd arall sydd i bysgod, ac arall i adar. Y mae hefyd gyrph nefol, a chyrph daearol; ond arall yw gogoniant y rhai nefol, ac arall y rhai daearol. Arall yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant y lloer, ac arall yw gogoniant y ser; canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant. Felly hefyd y mae adgyfodiad y meirw: efe a heuir mewn llygredigaeth; ac a gyfodir mewn anllygredigaeth: efe a heuir mewn ammharch; ac a gyfodir mewn gogoniant: efe a heuir mewn gwendid; ac a gyfodir mewn nerth: efe a heuir yn gorph anianol; ac a gyfodir yn gorph ysprydol. Y mae corph anianol, ac y mae corph ysprydol. Felly hefyd y mae yn ysgrifenedig, Y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid byw, a'r Adda diweddaf yn yspryd yn bywhâu. Eithr nid cyntaf yr ysprydol, ond yr anianol; ac wedi hynny yr ysprydol. Y dyn cyntaf o'r ddaear yn ddaearol, yr ail dyn yr Arglwydd o'r nef. Fel y mae y daearol, felly y mae y rhai daearol: ac fel y mae y nefol, felly y mae y rhai nefol hefyd. Ac megis y dygasom ddelw y daearol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol. Eithr hyn meddaf, O frodyr, na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth. Wele, yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch: Ni hunwn ni oll; eithr ni a newidir oll mewn moment, ar darawiad llygad, wrth yr udgorn diweddaf. Canys yr udgorn a gân, a'r meirw a gyfodir yn anllygredig, a ninnau a newidir. O herwydd rhaid i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb. A phan ddarffo i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a ysgrifenwyd; Angau a lyngcwyd mewn buddugoliaeth. O angau, pa le mae dy golyn? O uffern, pa le mae dy fuddugoliaeth? Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw'r gyfraith. Ond i Dduw y byddo'r dïolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Am hynny, fy mrodyr anwyl, byddwch sicr, a dïymmod, a helaethion yngwaith yr Arglwydd yn wastadol, a chwi'n gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd. ¶ Pan ddelont at y Bedd, tra fyddo'r Corph yn ei barottôi i'w ddodi yn y ddaear, y dywed yr Offeiriad, neu'r Offeiriad a'r Ysgolheigion a ganant, DYN a aned o wraig, sydd â byr
amser iddo i fyw, ac sydd yn llawn trueni. Y mae efe yn blaguro fel
llysieuyn, ac a dorrir i lawr; ac a ddiflanna fel cysgod, ac ni saif. ¶ Yna, tra fydder yn bwrw
pridd ar y Corph gon ryw rai a fo yn sefyll yno, yr Offeiriad a ddywed, |
1 Cor. 15:20-58 |
YN gymmaint
a rhyngu bodd i'r Goruchaf Dduw o'i fawr drugaredd gymmeryd atto ei
hun enaid ein hanwyl frawd yma a ymadawodd o'r byd, gan hynny
yr ŷm ni yn rhoddi ei gorph ef i'r ddaear, sef, daear
i'r ddaear, lludw i 'r lludw, pridd i 'r pridd, mewn gwir ddïogel
obaith o'r adgyfodiad i fywyd tragywyddol, trwy ein Harglwydd lesu Grist;
yr hwn a newidia ein corph gwael ni, fel y byddo yn gyffelyb i'w gorph
gogoneddus ef, o herwydd y galluog weithrediad, trwy yr hwn y dichon
efe ddarostwng pob dim iddo ei hun.
¶ Yna y dywedir, neu y cenir, MI a glywais lais o'r nef yn dywedyd wrthyf, Ysgrifena, O hyri allan gwy`nfydedig yw y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd: felly y dywed yr Yspryd; canys y maent yn gorphwyso oddi wrth eu llafur. ¶ Yna y dywed yr Offeiriad,
|
Committal |
EIN Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y maddeuwn ni i'n dyledwŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwared ni rhag drwg. Amen. Offeiriad. HOLL-alluog Dduw, gyd
â'r hwn y mae yn byw ysprydoedd y rhai a ymadawsant oddi yma yn
yr Arglwydd, ac yn yr hwn y mae eneidiau y ffyddloniaid, wedi darfod
eu rhyddhâu oddi wrth faich y cnawd, mewn llawenydd a dedwyddyd;
Yr ydym yn mawr ddïolch i ti, fod yn wiw gennyt waredu ein brawd
hwn allan o drueni'r byd pechadurus hwn; gan attolygu i ti ryngu bodd
it', o'th radlawn ddaioni, gyflawni ar fyrder nifer dy etholedigion,
a phrysuro dy deyrnas; modd y gallom ni, gyd â'r rhai oll a ymadawsant
â'r byd mewn gwir ffydd yn dy Enw bendigedig, gaffael i ni ddiwedd
perffaith, a gwỳnfyd ynghorph ac enaid, yn dy ddicirangc a'th dragywyddol
ogoniant; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen. |
|
Y Colect. O Drugarog Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yw yr adgyfodiad a'r bywyd, ym mha un pwy bynnag a gretto, a fydd byw, er iddo farw; a phwy bynnag a fo byw ac a gretto ynddo ef, ni bydd marw yn dragywydd; yr hwn hefyd a'n dysgodd (trwy ei Apostol bendigedig Sant Paul) na thristâem, fel rhai heb obaith, dros y rhai a hunant ynddo ef; Nyni yn ostyngedig a attolygwn i ti, O Dad, ein cyfodi ni o angau pechod i fuchedd cyflawnder; fel y bo i ni, wedi ymado â'r fuchedd hon, orphwys ynddo ef, megis y mae ein gobaith fod ein brawd hwn; ac ar yr adgyfodiad cyffredin y dydd diweddaf, ein caffael yn gymmeradwy yn dy olwg di, a derbyn y fendith a ddatgan dy garedig Fab yr amser hwnnw i bawb a'r a'th ofnant ac a'th garant, gan ddywedyd, Deuwch, chwi fendigedig blant fy Nhad, meddienwch y deyrnas a barottowyd i chwi er pan seiliwyd y byd: Caniattâ hyn, ni a attolygwn i ti, O drugarog Dad, trwy Iesu Grist ein Cyfryngwr a'n Pryniawdwr. Amen. GRAS ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Yspryd Glân, a fyddo gyd â ni oll byth bythoedd. Amen.
|
The Collect |
Web author: Charles Wohlers | U. S. England Scotland Ireland Wales Canada World |