The Book of Common Prayer
United States England Scotland Ireland Wales Canada World

   

Llyfr Gweddi Gyffredin
the Book of Common Prayer in Welsh


 

GWEINYDDIAD BEDYDD CYHOEDD
PLANT BYCHAIN,

I’W ARFER YN YR EGLWYS.

¶ Rhybuddier y bobl, fod yn gymhesuraf na wasanaether y Bedydd namyn ar Suliau, a Gwyliau eraill, pan fyddo’r nifer mwyaf o’r bobl yn dyfod ynghŷd: yn gystal er mwyn bod i’r Gynnulleidfa yno yn bresennol dystiolaethu derbyniad y sawl a fedyddier yr amser hwnnw i nifer Eglwys Grist, a hefyd oblegid ym Medydd rhai bychain, bod i bob dyn a fo yno yn bresennol alw i’w gof ei broffes ei hun a wnaeth i Dduw yn ei Fedydd. Herwydd hynny hefyd y mae’n gymhesur, bod Gwasanaeth y Bedydd yn yr iaith gyffredin. Ac er hyn yma oll (os bydd angenrheidiol) fe a ellir bedyddio rhai bychain ar bob dydd arall.

¶ A noda, Y bydd i bob Plentyn Gwrryw a fedyddier, ddau Dad-bedydd, ac un Fam-fedydd; ac i bob Plentyn Benyw, un Tad-bedydd, a dwy Fam-fedydd.

¶ Pan fyddo Plant i’w bedyddio, y Rhïeni a roddant Rybudd y noson o’r blaen neu y bore cyn dechreu’r Foreol Weddi, i’r Curad. Bydded y Tadau-bedydd, a’r Mammau-bedydd, a’r Bobl, gyd â’r Plant yn barod wrih y Bedyddfan, naill ai yn ebrwydd ar ol y Llith ddiweddaf ar y Foreol Weddi, neu ynte yn ebrwydd ar ol y Llith ddiweddaf ar y Brydnhawnol Weddi, megis y gosodo’r Curad, yn ol ei ystyriaeth ei hun. A’r Offeiriaid yn dyfod at y Bedyddfan. (yr hwn a lenwir yr amser hwnnw â Dwfr glân) ac yn sefyll yno, a ddywed,
 

Administration of Public Baptism of Infants, to be used in the Church

A Fedyddiwyd y Plentyn hwn eisoes, ai na fedyddiwyd?

¶ Os attebant, Na ddo; yna aed yr Offeiriad rhagddo, fel y mae’n
canlyn.

FY ngharedigion anwyl, yn gymmaint ag ymddwyn a geni pob dyn mewn pechod, a bod ein Hiachawdwr Crist yn dywedyd, Na ddichon neb fyned i mewn i deyrnas Dduw, oddi eithr ei ad-genhedlu a’i eni ef o newydd o ddwfr ac o’r Yspryd Glân; Attolwg yr wyf i chwi alw ar Dduw Dad, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ar fod iddo o’i ddaionus drugaredd ganiattâu i’r Plentyn hwn y peth trwy nerth natur ni all ddyfod iddo, gael ei fedyddio â dwfr ac â’r Yspryd Glân, a’i dderbyn i lân Eglwys Grist, a’i wneuthur yn aelod bywiol o’r unrhyw.

¶ Yna y dywed yr Offeiriad,
Gweddïwn.

HOLL-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn o’th fawr drugaredd a gedwaist Noah a’i deulu yn yr Arch rhag eu cyfrgolli gan ddwfr; a hefyd a dywysaist yn ddïangol blant yr Israel dy bobl trwy’r Môr Coch, gan arwyddocâu wrth hynny dy lân Fedydd; a thrwy Fedydd dy garedig Fab Iesu Grist yn afon Jorddonen a sancteiddiaist ddwfr, er dirgel olchedigaeth pechodau; Attolygwn i ti, er dy aneirif drugareddau, edrych o honot yn drugarog ar y Plentyn hwn; ei lanhâu a’i sancteiddio â’r Yspryd Glân: fel, wedi ei wared oddi wrth dy lid, y derbynier ef i arch Eglwys Grist; a chan fod yn gadarn mewn ffydd, yn llawen gan obaith, ac wedi ymwreiddio ynghariad perffaith, allu o hono fordwyo felly dros donnau’r byd trallodus hwn, fel y delo o’r diwedd i dir y bywyd tragywyddol, yno i deyrnasu gyd â thi heb drangc na gorphen ; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

HOLL-alluog ac anfarwol Dduw, cymmorth pob anghenog, noddwr pawb a gilio attat am gynhorthwy, bywyd y rhai gredant, ac adgyfodiad y meirw; Yr ŷm yn galw arnat dros y Dyn bychan yma, ar iddo, yn dyfod i’th lân Fedydd, gael derbyn maddeuant o’i bechodau, trwy ad-enedigaeth ysprydol. Derbyn ef, Arglwydd, megis yr addewaist trwy dy garedig Fab, gan ddywedyd, Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi. Felly yn awr dyro i ni, a ni yn gofyn; par i ni gael, a ni yn ceisio; agor y porth i ni, sy yn curo: fel y mwynhao’r Dyn bychan yma dragywyddol fendith dy nefol olchiad, ac y delo i’r deyrnas dragywyddol, yr hon a addewaist trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Initial question & prayers
¶ Yna y bobl a safant ar eu traed, a’r Offeiriad a ddywed,

Gwrandêwch ar eiriau’r Efengyl a ysgrifenodd Sant Marc, yn y ddegfed Bennod, a’r drydedd Adnod ar ddeg.

HWY a ddygasant blant bychain at Grist, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt. A’r Iesu, pan welodd hynny, a fu anfoddlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gadêwch i blant bychain ddyfod attaf fi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw. Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi. Ac efe a’u cymmerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylaw arnynt, ac a’u bendithiodd.

¶ Ar ol darllain yr Efengyl, y traetha’r Gweinidog y Cyngor byr yma ar eiriau’r Efengyl.

Y Caredigion, chwi a glywch yn yr Efengyl hon eiriau’n Hiachawdwr Crist, yn gorchymyn dwyn y Plant atto; pa wedd y ceryaddodd efe y rhai a fynnasai eu cadw oddi wrtho; pa wedd y cynghora efe i bob dyn ganlyn eu gwiriondeb hwy. Yr ydych chwi yn deall, wrth ei agwedd ef a’i weithred, modd y dangosodd ei ewyllys da iddynt: canys efe a’u cofleidiodd hwy yn ei freichiau, efe a roddodd ei ddwylaw arnynt, ac a’u bendithiodd hwynt. Nac amheuwch gan hynny, eithr credwch yn ddifrif, y cymmer efe yr un ffunud yn amgeleddgar y Dyn bychan hwn yma; y cofleidia efe ef â breichiau ei drugaredd, y dyry iddo fendith y bywyd tragywyddol, ac y gwna efe ef yn gyfrannog o’i ddidrangc deyrnas. O herwydd paham, gan ein bod ni yn credu fel hyn am ewyllys da ein Tad nefol tu ag at y Dyn bychan yma, a amlygwyd trwy ei Fab Iesu Grist, ac heb ddim ammeu gennym ei fod ef yn derbyn yn rasusol ein gweithred hon o gariad, yn dwyn y Dyn bychan hwn i’w sanctaidd Fedydd ef; dïolchwn yn ffyddlon ac yn ddefosiynol iddo, gan ddywedyd,

HOLL-alluog a thragywyddol Dduw, nefol Dad, yr ŷm ni yn ostyngedig yn dïolch i ti, fod yn wiw gennyt ein galw i wybodaeth dy ras, a ffydd ynot: Ychwanega yr wybodaeth hon, a chadarnhâ’r ffydd hon ynom yn wastad. Dyro dy Yspryd Glân í’r Dyn-bychan yma, fel y ganer ef eilwaith, a’i wneuthur yn etifedd iachawdwriaeth dragywyddol; trwy ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thi a’r Yspryd Glân, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

¶ Yna y dywed yr Offeiriad wrth y Tadau-bedydd a’r Mammau-bedydd yn y modd hwn.

ANWYL garedigion bobl, chwi a ddygasoch y Plentyn hwn yma i’w fedyddio, chwi a weddïasoch ar fod yn wiw gan ein Harglwydd Iesu Grist, ei dderbyn ef, maddeu iddo ei bechodau, ei sancteiddio â’r Yspryd Glân, rhoddi iddo deyrnas nefoedd, a bywyd tragywyddol. Chwi a glywsoch hefyd ddarfod i’n Harglwydd Iesu Grist addaw yn ei Efengyl, ganiattâu yr holl bethau hyn a weddïasoch chwi am danynt: yr hwn addewid efe o’i raii ef a’i ceidw yn wir ddïogel, ac a’i cwblhâ. Herwydd pa achos, yn ol yr addewid hwn a wnaeth Crist, rhaid yw i’r Dyn bychan yma hefyd yn ffyddlon, ar ei ran yntau, addaw trwoch chwi. sy Feichiau drosto (hyd oni ddêl mewn oedran i’w gymmeryd arno ei hun) ymwrthod â diafol ac â’i holl weithredoedd, ac yn wastad gredu gwỳnfydedig Air Duw, ac yn ufudd gadw ei orchymynion.

Am hynny y gofynaf,

A Ydwyt ti yn enw y Plentyn hwn yn ymwrthod â diafol, ac â’i holl weithredoedd, coeg-rodres a gwag-orfoledd y byd, a’i holl chwantau cybyddus, ac anysprydol ewyllys y cnawd, fel na ddilynech hwynt, ac na’th dywyser ganddynt?
    Atteb. Yr ydwyf yn ymwrthod â hwynt oll.
 

Gospel & Exhortation

Gweinidog.

A Wyt ti yn credu yn Nuw Dad Holl-gyfoethog, Creawdwr nef a daear?
    Ac yn Iesu Grist, ei unig-anedig Fab ef, ein Harglwydd ni? A’i genhedlu o’r Yspryd Glân; ei eni o Fair Forwyn; iddo ddïoddef dan Pontius Pilatus, ei groeshoelio, ei farw, a’i gladdu ; disgyn o hono i uffern; a’i gyfodi hefyd y trydydd dydd; ac esgyn o hono i’r nefoedd; a’i fod yn eistedd ar ddeheulaw Dduw Dad Hollalluog; ac y daw efe Oddi yno yn niwedd y byd, i farnu byw a meirw?
    Ac a wyt ti yn credu yn yr Yspryd Glân; yr Eglwys Lân Gatholig; Cymmun y Saint; Maddeuant Pechodau; Adgyfodiad y Cnawd; a Bywyd tragywyddol gwedi angau?
    Atteb. Hyn oll yr wyf yn ei gredu yn ddilys.

Gweinidog.

A Fynni di dy fedyddio yn y ffydd hon?
Atteb. Hynny yw fy ewyllys.

Gweinidog.

A Gedwi dithau gan hynny yn ufudd lân cwyllys Duw a’i orchymynion, gan rodio yn yr unrhyw holl ddyddiau dy fywyd?
    Atteb. Gwnaf.
 

Questions on the Creed

¶ Yna y dywed yr Offeiriad,

O Drugarog Dduw, caniattâ felly gladdu’r hen Adda yn y Plentyn hwn fel y cyfoder y dyn newydd ynddo ef. Amen.
    Caniattâ fod i holl chwantau’r cnawd farw ynddo, ac i bob peth a berthyn i’r Yspryd fyw a chynnyddu ynddo. Amen.
    Caniattâ fod iddo nerth a gallu i gael yr oruchafiaeth a’r gorfod yn erbyn diafol, y byd, a’r cnawd. Amen.
    Caniattâ fod i bwy bynnag a gyssegrir yma i ti trwy ein swydd a’n gweinidogaeth ni, fod hefyd yn gynnysgaeddol o rinweddau nefol, a chael eu tragywyddol obrwyau trwy dy drugaredd, O fendigedig Arglwydd Dduw, yr hwn wyt yn byw, ac yn llywio pob peth yn oes oesoedd. Amen.
 

Prayers for the child
HOLL-gyfoethog fyth-fywiol Dduw, yr hwn y bu i’th garediccaf Fab Iesu Grist, er maddeuant o’n pechodau, oddef gollwng o’i werthfawroccaf ystlys ddwfr a gwaed, a rhoddi gorchymyn i’w ddisgyblion fyned a dysgu yr holl genhedloedd, a’u bedyddio, Yn Enw’r Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân; Ystyria, attolwg i ti, wrth weddïau dy gynnulleidfa; sancteiddia’r dwfr hwn er dirgel olchedigaeth pechodau; a chaniattâ fod i’r Plentyn hwn, a fedyddir yr awr hon ynddo, dderbyn cyflawnder dy ras, ac aros byth yn nifer dy ffyddlon blant etholedig; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 
Blessing of the water

¶ Yna y cymmer yr Offeiriad y Dyn bychun yn ei ddwylaw, ac a ddywed wrth y Tadau-bedydd a’r Mammau-bedydd,

Enwch y Plentyn hwn

¶ Ac yna, gan ei enwi ar eu nol hwynt (os hwy a hyspysant iddo y gall y Plentyn ddïoddef hynny yn hawdd) efe a’i trocha ef yn y dwfr yn ddïesgeulus ac yn ddarbodus, gan ddywedyd,

N. Yr ydwyf yn dy fedyddio di, Yn Enw’r Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân. Amen.

¶ Ond os hyspysant fod y Plentyn yn wan, digon fydd bwrw dwfr arno, gan ddywedyd y geirian dywededig uchod,

N. Yr ydwyf yn dy fedyddio di, Yn Enw’r Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân. Amen.
 

The Baptism

¶ Yna y dywed yr Offeiriad,

YR ydym ni yn derbyn y Plentyn hwn i gynnulleidfa defaid Crist, ac yn ei *nodi ef âg arwydd y Grog; yn arwyddocâd na bo iddo rhag llaw gymmeryd yn gywilydd gyffesu ffydd Grist a groeshoeliwyd, ac ymladd yn wrol dan ei faner ef, yn erbyn pechod, y byd, a’r cythraul; a pharhâu yn filwr ffyddlon ac yn was i Grist holl ddyddiau ei einioes. Amen.

¶ Yna y dywed y Offeiriad,

GAN ddarfod yn awr, anwyl garedigion frodyr, ad-eni a dodi y Plentyn hwn ynghorph Eglwys Grist; dïolchwn ninnau i’r Holl-alluog Dduw am ei ddaioni hwn, ac o gyd-undeb gwnawn ein gweddïau arno, ar fod i’r Plentyn hwn ddiweddu y rhan arall o’i fywyd yn ol hyn o ddechreuad.
 

 

   * Yma yr y Offeiriad a wna Groes yn nhalcen y Dyn-bach.

¶ Yna y dywedir, a phawb ar eu gliniau,

EIN Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y maddeuwn ni i’n dyledwŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwared ni rhag drwg. Amen.

¶ Yna y dywed yr Offeiriad,

MAWR ddïolchwn i ti, drugaroccaf Dad, ryngu bodd it’ ad-eni y Dyn bychan hwn â’th Yspryd Glân, ei dderbyn yn Blentyn i ti dy hun trwy fabwys, a’i gorphori i’th lân Eglwys. Ac yn ostyngedig yr attolygwn i ti ganiattâu iddo, gan ei fod ef yn farw i bechod, ac yn byw i gyfiawnder, ac yn gladdedig gyd â Christ yn ei angau, allu croeshoelio yr hen ddyn, ac yn hollol ymwrthod â holl gorph pechod; ac, megis y gwnaed ef yn gyfrannog o angau dy Fab, iddo fod hefyd yn gyfrannog o’i adgyfodiad; ac felly o’r diwedd, ynghŷd â’r rhan arall o’th lân Eglwys, y byddo yn etifedd dy deyrnas dragywyddol; trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna a phawb yn sefyll yr Offeiriad a ddywed wrth y Tadau-bedydd a’r Marnmau-bedydd hyn o Gyngor yn canlyn.

YN gymmaint a darfod i’r Plentyn hwn addaw trwoch chwi, ei fechnïafon, ymwrthod â diafol ac â’i holl weithredoedd credu yn Nuw, a’i wasanaethu ef; rhaid i chwi feddwl, mai eich rhan a’ch dyledswydd yw, gweled dysgu o’r Plentyn hwn, cyn gynted ag y gallo ddysgu, pa ryw bwysfawr adduned, addewid, a phroffes, a wnaeth efe yma trwoch chwi. Ac, er mwyn gallu o hono wybod y pethau hyn yn well, chwi a elwch arno i wrando Pregethau; ac yn bendifaddef, rhaid i chwi weled dysgu o hono y Credo, Gweddì yr Arglwydd, a’r Deg Gorchymyn, yn yr iaith gyffredin, a phob peth arall a ddylai Gristion ei wybod, a’i gredu, er iechyd i’w enaid; a bod meithrin y Plentyn hwn yn rhinweddol, i’w hyweddu mewn buchedd dduwiol a Christionogol: gan gofio yn wastad, fod Bedydd yn arwyddocâu i nyni ein proffes; hynny yw, bod i ni ganlyn esampl ein Hiachawdwr Crist, a’n gwneuthur yn gyffelyb iddo ef: fel, megis ag y bu efe farw, ac y cyfododd drachefn drosom ni; felly y dylem ni, y rhai a fedyddiwyd, farw oddi wrth bechod, a chyfodi i gyfiawnder; gan farwolaethu yn wastad ein holl ddrygioni a’n gwŷniau llygredig, a pheunydd myned rhagom ym mhob rhinwedd dda a buchedd dduwiol.

¶ Yna’r ychwanega efe ddywedyd,

RHAID i chwi edrych dwyn y Plentyn hwn at yr Esgob i’w gonffirmio ganddo, cyn gynted ag y medro ddywedyd y Credo, Gweddi’r Arglwydd, a’r Deng-Air Deddf, yn yr iaith gyffredin, ac yr addysger ym mhellach yng Nghatecism yr Eglwys a osodwyd allan ar fedr hynny.

HYSPYS yw trwy Air Duw, am Blant a fedyddir, ac a fyddant feirw cyn bod yn euog o Bechod gweithredol, eu bod yn ddïammeu yn gadwedig.
    I Symmud ymaith bob Ammheuaeth arn arfer Arwydd y Groes yn y Bedydd; gwir Ddeongliad hynny, a’r iawn Achosion o’i gadw, a ellir eu gweled yn y Degfed Canon ar hugain, a ddoded allan gyntaf yn y flwyddyn MDCIV.

 

 

Lord’s Prayer

GWEINYDDIAD BEDYDD NEILLDUOL
PLANT

MEWN TAI GARTREF.
 

¶ Bydded i Guradiaid pob Plwyf rybuddio y Bobl yn fynych, nad oedont Fedydd eu Plant bellach nâ’r Sul cyntaf neu’r ail nesaf ar ol eu geni, neu ryw Ddydd Gwyl arall a ddigwyddo rhyngddynt; oddi eithr ar achos mawr a chyfreithlon, a’r cyfryw foddlono y Curad.

¶ A hefyd hwy a’u rhybuddiant, na pharont .fedyddio eu Plant gartref yn eu tai, heb y cyffelyb achos mawr ac angen: ond pan gymhello anghenraid iddynt wneuthur hynny, yna y Bedydd a weinyddir yn y modd hwn.

¶ Yn gyntaf, bydded i Weinidog y Plwyf (neu, yn ei absen, i ryw Weinidog cyfreithlon arall a ellir ei gael) gyd â’r rhai a fyddo yn y fan, alw ar Dduw, a dywedyd Gweddi yr Arglwydd, a chynnifer o’r Colectau gosodedig uchod i’w dywedyd yn Ffurf y Bedydd Cyhoedd, ag a ad yr amser a’r angen presennol: ac yna, wedi enwi’r Plentyn gau ryw un a fyddo yn bresennol, y Gweinidog a fwrw Ddwfr arno, gan ddywedyd y geiriau hyn;
 

Administration of Private Baptism of Children, in Houses

N. Yr ydwyf yn dy fedyddio di, Yn Enw’r Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân. Amen.

¶ Yna, a phawb yn gostwng ar eu gliniau., y Gweinidog a rydd ddïolch i Dduw, ac a ddywed,

MAWR ddïolchwn i ti, drugaroccaf Dad, ryngu bodd i ti ad-eni y Dyn bychan hwn â’th Yspryd Glân, ei dderbyn yn Blentyn i ti dy hun trwy fabwys, a’i gorphori i’th lân Eglwys. Ac yn ostyngedig yr attolygwn i ti ganiattâu iddo, megis yn awr y gwnaed ef yn gyfrannog o angau dy Fab, fod hefyd felly o’i adgyfodiad; ac felly o’r diwedd, ynghŷd â’r rhan arall o’th Saint, etifeddu o hono dy deyrnas dragywyddol; trwy’r unrhyw dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen. 
 

The Baptism

¶ Ac nac ammheuant, am y Dyn bach a fedyddier felly nad yw efe wedi ei fedyddio yn ddeddfol ac yn ddigonol, ac na ddylir ei fedyddio mwy. Eithr er hynny i gyd, os y Plentyn a fedyddiwyd yn y modd hwn, a fydd byw rhag llaw, iawn fydd ei ddwyn ef i’r Eglwys; fel y gallo Gweinidog yr un Plwyf, os efe ei hun a fedyddiodd y Dyn bach, hyspysu i’r Gynnulleidfa wir ffurf y Bedydd, a arferasai o’r blaen gartref: ac ar yr un achos hwnnw efe a ddywed fel hyn,

Y R wyf yn hyspysu i chwi, ddarfod i mi, yn ol dyledus a gosodedig Drefn yr Eglwys, ar yr amser a’r amser, ac yn y lle a’r lle, yngŵydd amryw dystion, fedyddio’r Plentyn hwn.

¶ Eithr os rhyw Weinidog cyfreithlon arall a fedyddiodd y Dyn bach, yna Gweinidog y Plwyf yn yr hwn y ganed neu y bedyddiwyd y Dyn bach, a hola ac a ymofyn, a fedyddiwyd y Plentyn yn gyfreithlon, neu nad do. Yn yr hwn achos, os y rhai a ddygant y Plentyn i’r Eglwys a attebant, ddarfod bedyddio yr unrhyw Blentyn eisoes; yna holed y Gweinidog hwy ym mhellach, gan ddywedyd,

GAN bwy y bedyddiwyd y Plentyn hwn?
Pwy oedd yn y fan pan fedyddiwyd y Plentyn hwn?
    O herwydd y gallai fod, darfod gadael heibio ryw bethau a berthyn i hanfod y Sacrament hwn, trwy ofn, neu frys, yn y cyfryw gyfyngder; am hynny y gofynaf i chwi ym mhellach,
    A pha ddefnydd y bedyddiwyd y Plentyn hwn?
    A pha eiriau y bedyddiwyd y Plentyn hwn?

¶ Ac os Gweinidog a ddeall, wrth attebion y rhai a ddygant y Plentyn atto, fod pob peth wedi ei wneuthur y modd y dylai; yna na fedyddied efe y Plentyn drachefn, eithr ei dderbyn yn un o ddïadell y gwir Gristionogion, gan ddywedyd fel hyn,

YR ydwyf fi yn hyspysu i chwi, ddarfod yn hyn o beth wneuthur y cwbl yn dda, ac wrth iawn drefn berthynasol, wrth fedyddio’r Plentyn yma; yr hwn, wedi ei eni mewn pechod dechreuol, ac mewn digofaint Duw, sydd yn awr, trwy olchiad yr Ad-enedigaeth ym Medydd, wedi ei dderbyn i nifer plant Duw, ac etifeddion bywyd tragywyddol: canys nid yw ein Harglwydd Iesu Grist yn naccâu ei ras a’i drugaredd i gyfryw rai bychain, ond y mae yn garueiddìaf yn eu gwahodd atto, megis y tystia’r Efengyl fendigedig, er ein cysur ni, yn y wedd hon.
 

Reception into the parish

St.Marc x. 13.

HWY a ddygasant blant bychain at Grist, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt. A’r Iesu, pan welodd hynny, a fu anfoddlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gadêwch i blant bychain ddyfod attaf fi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw. Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi. Ac efe a’u cymmerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylaw arnynt, ac a’u bendithiodd.

¶ Ar ol darllain yr Efengyl, y traetha’r Gweinidog y Cyngor byr yma ar eiriau’r Efengyl.

Y Caredigion, chwi a glywch yn yr Efengyl hon eiriau ein Hiachawdwr Crist, yn gorchymyn dwyn y Plant atto; pa wedd y ceryddodd efe y rhai a fynnasai eu cadw oddi wrtho; pa wedd y cynghorodd efe i bob dyn ganlyn eu gwiriondeb hwy. Yr ydych chwi yn deall, wrth ei agwedd ef a’i weithred, y modd y dangosodd ei ewyllys da iddynt: canys efe a’u cofleidiodd hwy yn ei freichiau, efe a roddodd ei ddwylaw arnynt, ac a’u bendithiodd hwynt. Nac ammheuwch gan hynny, eithr credwch yn ddìfrif, ddarfod iddo gymmeryd yr un ffunud yn amgeleddgar y Dyn bychan hwn ai gofleidio ef â breichiau ei drugaredd; ac (fel yr addawodd yn ei Air sanctaidd) y rhydd iddo fendith y bywyd tragywyddol, ac a’i gwna yn gyfrannog o’i ddidrangc deyrnas. Herwydd paham, a nyni yn credu fel hyn am ewyllys da ein Tad nefol, a amlygwyd trwy ei Fab Iesu Grist, tu ag at y Dyn bychan hwn; dïolchwn yn ffyddlon ac yn ddefosiynol iddo, gan ddywedyd y Weddi a ddysgodd yr Arglwydd ei hun i ni:
 

Gospel & Exhortation

EIN Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y maddeuwn ni i’n dyledwŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwared ni rhag drwg. Amen.

HOLL-alluog a thragywyddol Dduw, nefol Dad, yr ŷm ni yn ostyngedig yn dïolch i ti, fod yn wiw gennyt ein galw i wybodaeth dy ras, a ffydd ynot: Y chwanega yr wybodaeth hon, a chadarnhâ y ffydd hon ynom yn wastad. Dyro dy Yspryd Glân i’r Dyn bychan yma; fel, gwedi ei eni ef eilwaith, a’i wneuthur yn etifedd iachawdwriaeth dragywyddol, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, yr arhoso yn wasanaethwr i ti, ac y mwynhao dy addewid; trwy yr unrhyw dy Fab ein Harglwydd Iesu Grist; yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thi a’r Yspryd Glân, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.
 

Lord’s Prayer

¶ Yna y gofyn yr Offeiriad Enw y Dyn bychan: a phan ddarffo i’r Tadau-bedydd a’r Mammau-bedydd ei adrodd, y Gweinidog a ddywed,

A Ydwyt ti yn enw y Plentyn hwn yn ymwrthod â diafol, ac â’i holl weithredoedd, coeg-rodres a gwag-orfoledd y byd, a’i holl chwantau cybyddus, ac anysprydol ewyllys y cnawd, fel na ddilynech hwynt, ac na’th dywyser ganddynt?
    Atteb. Yr ydwyf yn ymwrthod â hwynt oll.

Gweinidog.

A Wyt ti yn credu yn Nuw Dad Holl-gyfoethog, Creawdwr nef a daear?
    Ac yn Iesu Grist, ei unig-anedig Fab ef, ein Harglwydd ni? A’i genhedlu o’r Yspryd Glân; ei eni o Fair Forwyn; iddo ddïoddef dan Pontius Pilatus, ei groeshoelio, ei farw, a’i gladdu; ddisgyn o hono i uffern; a’i gyfodi hefyd y trydydd dydd; ac esgyn o hono i’r nefoedd; a’i fod yn eistedd ar ddeheulaw Ddluw Dad Holl-alluog; ac y daw efe oddi yno yn niwedd y byd, i Farnu byw a meirw?
    Ac a wyt ti yn credu yn yr Yspryd Glân; yr Eglwys Lân Gatholig; Cymmun y Saint; Maddeuant pechodau; Adgyfodiad y cnawd; a Bywyd tragywyddol gwedi angau?
    Atteb. Hyn oll yr wyf yn ei gredu yn ddilys.

Gweinidog.

A Gedwi dithau gan hynny yn ufudd lân ewyllys Duw a’i orchymynion, gan rodio yn yr unrhyw holl ddyddiau dy fywyd?
    Atteb. Gwnaf.
 

Questions for godparents

¶ Yna y dywed yr Offeiriad,

YR ydym ni yn derbyn y Plentyn hwn i gynnulleidfa defaid Crist, ac yn ei *nodi ef âg arwydd y Grog; yn arwyddocâd na bo iddo rhag llaw gymmeryd yn gywilydd gyffesu ffydd Grist a groeshoeliwyd, ac ymladd yn wrol dan ei faner ef, yn erbyn pechod, y byd, a’r cythraul; a pharhâu yn filwr ffyddlon ac yn was i Grist holl ddyddiau ei einioes. Amen.

¶ Yna y dywed y Offeiriad,

GAN ddarfod yn awr, anwyl garedigion frodyr, ad-eni a dodi y Plentyn hwn ynghorph Eglwys Grist; dïolchwn ninnau i’r Holl-alluog Dduw am ei ddaioni hwn, ac o gyd-undeb gwnawn ein gweddïau arno, ar fod i’r Plentyn hwn ddiweddu y rhan arall o’i fywyd yn ol hyn o ddechreuad.

¶ Yna y dyfwed yr Offeiriad.

MAWR ddïolchwn i ti, drugaroccaf Dad, ryngu bodd it’ ad-eni y Plentyn hwn â’th Yspryd Glân, ei dderbyn yn Blentyn i ti dy hun trwy fabwys, a’i gorphori i’th lân Eglwys. Ac yn ostyngedig yr attolygwn i ti ganiattâu iddo, gan ei fod ef yn farw i bechod, ac yn byw i gyfiawnder, ac yn gladdedig gyd â Christ yn ei angau, allu croeshoelio’r hen ddyn, ac yn hollol ymwrthod â holl gorph pechod; ac, megis y gwnaed ef yn gyfrannog o angau dy Fab, iddo fod hefyd yn gyfrannog o’i adgyfodiad; ac felly o’r diwedd, ynghŷd â’r rhan arall o’th lân Eglwys, y byddo yn etifedd dy deyrnas dragywyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

¶ Yna, a phawb yn sefyll, yr Offeiriad a ddywed wrth y Tadau-bedydd a’r Mammau-bedydd hyn o Gyngor yn canlyn.

YN gymmaint a darfod i’r Plentyn hwn addaw trwoch chwi, ei fechnïafon, ymwrthod â diafol ac â’i holl weithredoedd, credu yn Nuw, a’i wasanaethu ef; rhaid i chwi feddwl, mai eich rhau a’ch dyledswydd yw, gweled dysgu o’r Plentyn hwn, cyn gynted ag y gallo ddysgu, pa ryw bwysfawr adduned, addewid, a phroffes, a wnaeth efe yma trwoch chwi. Ac, er mwyn gallu o hono wybod y pethau hyn yn well, chwi a elwch arno i wrando Pregethau; ac yn benddifaddef, rhaid i chwi weled dysgu o hono y Credo, Gweddi’r Arglwydd, a’r Deg Gorchymyn, yn yr iaith gyffredin, a phob peth arall a ddylai Gristion ei wybod, a’i gredu, er iechyd i’w enaid; a bod meithrin y Plentyn hwn yn rhinweddol, i’w hyweddu mewn buchedd dduwiol a Christionogol: gan gofio yn wastad, fod Bedydd yn arwyddocâu i nyni ein proffes; hynny yw, bod i ni ganlyn esampl ein Hiachawdwr Crist, a’n gwneuthur yn gyffelyb iddo ef: fel, megis ag y bu efe farw, ac y cyfododd drachefn drosom ni; felly y dylem ni, y rhai a fedyddiwyd, farw oddi wrth bechod, a chyfodi i gyfiawnder; gan farwolaethu yn wastad ein holl ddrygioni a’n gwŷniau llygredig, a pheunydd myned rhagom ym mhob rhinwedd dda a buchedd dduwiol.
 

Signing with the cross

 
   * Yma yr y Offeiriad a wna Groes yn nhalcen y Dyn-bach.

¶ Eithr os y rhai a ddygant y Plentyn i’r Eglwys, a wnant y cyfryw attebion anhyspysol i ofynion yr Offeiriad, fel na aller gwybod a ddarfu bedyddio y Plentyn â Dwfr, Yn Enw’r Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân (yr hyn sydd o hanfodd y Bedydd) yna bedyddied yr Offeiriad ef yn ol y Ffurf ysgrifenedig uchod am Fedydd Cyhoedd Plant; oddi eithr wrth drochi y Dyn bach yn y Bedyddfan, efe a arfer y Ffurf hon ar eiriau,

ONI ddarfu dy fedyddio di eisoes, N. yr ydwyf fi yn dy fedyddio di, Yn Enw’r Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân. Amen.

 

Conditional Baptism

GWEINYDDIAD BEDYDD Y RHAI A FO
MEWN OEDRAN ADDFEDACH,

AC YN MEDRU ATÏEB DROSTYNT EU HUNAIN.

¶ PAN fyddo rhyw rai mewn Oedran addfedach i’w bedyddio, hyspyser hynny mewn pryd i’r Esgob, neu i’r neb a bennoda efe i hynny, Wythnos o leiaf ym mlaen llaw, gan eu Rhïeni, neu ryw rai deallus eraill; fel y galler cymmeryd gofal dyledus i’w profi, a ydynt wedi eu haddysgu yn ddigonol yn Egwyddorion y Ffydd Gristionogol, ac fel y galler eu cynghori i ymbarottôi trwy Weddïau ac Ympryd i gymmeryd y Sacrament bendigedig hwn.

¶ Ac os ceir hwynt yn addas, yna (wedi i’r Bobl ymgynnull ar y Sul, neu Ddydd-gwyl gosodedig) bydded y Tadau-Bedydd a’r Mammau-Bedydd barod i’w cyflwyno wrth y Bedyddfan, yn ebrwydd ar ol yr ail Lith, naill ai ar y Foreol neu’r Brydnhawnol Weddi, megis yn neall y Curad y bernir yn gymmwys.

¶ A’r Offeiriad yn sefyll yno, a ofyn, A fedyddiwyd yr un o’r rhai a gyflwynir yma, ai na ddo? Os attebant, Na ddo; yna yr Offeiriad a ddywed fel hyn.
 

Administration of Baptism to such as are of Riper Years
FY anwyl garedigion, yn gymmaint ag ymddwyn a geni pob dyn mewn pechod (ac mai cnawd yw yr hyn a enir o gnawd) a’r rhai sydd yn y cnawd ni allant ryngu bodd Duw, namyn byw mewn pechod, gan wneuthur llïaws o bechodau prïod; a bod ein Hiachawdwr Crist yn dywedyd, Na ddichon neb fyned i mewn i deyrnas Dduw, oddi eithr ei ad-genhedlu a’i eni o newydd o ddwfr ac o’r Yspryd Glân; Attolwg yr wyf i chwi alw ar Dduw Dad, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ar fod iddo o’i ddaionus Drugaredd ganiattâu i’r rhai hyn y peth trwy nerth natur ni allant ddyfod iddo, gael eu bedyddio â dwfr ac â’r Yspryd Glân, a’u derbyn i lân Eglwys Grist, a bod yn aelodau bywiol o’r unrhyw.

¶ Yna y dywed yr Offeiriad,
Gweddïwn.

Ac yma y Gynnulleidfa oll a ostyngant ar eu gliniau.)

HOLL-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn o’th fawr drugaredd a gedwaist Noah a’i deulu yn yr arch rhag eu cyfrgolli gan ddwfr; ac hefyd a dywysaist yn ddïangol blant yr Israel dy bobl trwy’r Môr Coch, gan arwyddocâu wrth hynny dy lân Fedydd; a thrwy Fedydd dy garedig Fab Iesu Grist yn afon Iorddonen, a sancteiddiaist yr elfen ddwfr er dirgel olchiad pechod ymaith; Attolygwn i ti, er dy aneirif drugareddau, edrych o honot yn drugarog ar dy weision hyn; eu glanhâu a’u sancteiddio â’r Yspryd Glân: fel, wedi eu gwared oddi wrth dy lid, y derbynier hwynt i arch Eglwys Grist; a chan fod yn gadarn mewn ffydd, yn llawen gan obaith, ac wedi ymwreiddio ynghariad perffaith, allu o honynt fordwyo felly dros donnau’r byd trallodus hwn, fel y delont o’r diwedd i dir y bywyd tragywyddol, yno i deyrnasu gyd â thi heb drangc na gorphen; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

HOLL-alluog ac anfarwol Dduw, cymmorth pob anghenog, noddwr pawb a gilio attat am gynhorthwy, bywyd y rhai a gredant, ac adgyfodiad y meirw; Yr ŷm yn galw arnat dros y dynion hyn, ar iddynt, yn dyfod i’th lân Fedydd, gael derbyn maddeuant o’u pechodau, trwy ad-enedigaeth ysprydol. Derbyn hwynt, Arglwydd, megis yr addewaist trwy dy garedig Fab, gan ddywedyd, Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi. Felly yn awr dyro i ni, a ni yn gofyn; par i ni gael, a ni yn ceisio; agor y porth i ni, sydd yn curo: fei y mwynhao’r dynion hyn dragywyddol fendith dy nefol olchiad, ac y delont i’r deyrnas dragywyddol, yr hon a addewaist trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Prayers for candidate
¶ Yna y bobl a safant ar eu traed, a’r Offeiriad a ddywed,

Gwrandêwch ar eiriau’r Efengyl a ysgrifenodd Sant Ioan, yn y drydedd Bennod, yn dechreu ar y Adnod gyntaf.

YR oedd dyn o’r Phariseaid a’i enw Nicodemus, pennaeth yr Iuddewon. Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wyddom mai dysgawdwr ydwyt ti wedi dyfod oddi wrth Dduw; canys ni allai neb wneuthur y gwỳrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gyd âg ef. Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddi eithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw. Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dyn ei eni ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a’i eni? Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, Oddi eithr geni dyn o ddwfr ac o’r Yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn a aned o’r cnawd, sydd gnawd; a’r hyn a aned o’r Yspryd, sydd yspryd. Na ryfedda ddywedyd o honof fi wrthyt, Y mae’n rhaid eich geni chwi drachefn. Y mae’r gwỳnt yn chwythu lle y mynno; a thi a glywi ei swn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned: felly y mae pob un a’r a aned o’r Yspryd.

¶ Gwedi hyn efe a ddywed y Cyngor hwn yn canlyn.

Y Caredigion, chwi a glywch yn yr Efengyl hon eiriau eglur ein Hiachawdwr Crist; Oddi eithr geni dyn o ddwfr ac o’r Yspryd, na ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. Oddi wrth hyn y gellwch weled mawr angenrheidrwydd y Sacrament hwn, lle galler ei gael. Yr un wedd yn ebrwydd o flaen ei esgyniad i’r nef (megis y darllenwn yn y bennod ddiweddaf o Efengyl Sant Marc) efe a roddes orchymyn i’w ddisgyblion, gan ddywedyd, Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr Efengyl i bob creadur. Y neb a gredo, ac a fedyddier, a fydd cadwedig; eithr y neb ni chredo, a gondemnir. Hyn hefyd sydd yn dangos i ni y dirfawr lesâd a fedwn o hynny. O herwydd paham, Sant Petr yr Apostol, pan, wrth ei bregethiad cyntaf o’r Efengyl, y dwys-bigwyd llaweroedd yn eu calon, ac y dywedasant wrtho ef a’r Apostolion eraill, Ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni? a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edifarhêwch, a bedyddier pob un o honoch er maddeuant pechodau, a chwi a dderbyniwch ddawn yr Yspryd Glân: canys i chwi y mae’r addewid, ac i’ch plant, ac i bawb ym mhell; sef, cynnifer ag a alwo’r Arglwydd ein Duw ni atto. Ac â llawer o ymadroddion eraill y cynghorodd efe hwynt, gan ddywedyd, Ymgedwch rhag y genhedlaeth drofâus hon. Canys (megis y tystiolaetha’r un Apostol mewn man arall) Bedydd hefyd sydd yr awrhon yn ein hachub ni (nid bwrw ymaith fudreddi’r cnawd, eithr ymatteb cydwybod dda tu ag at Dduw) trwy adgyfodiad Iesu Grist. Nac ammheuwch gan hynny, eithr credwch yn ddifrif, y cymmer efe yn amgeleddgar y rhai presennol hyn, y sydd wir edifeiriol, ac yn dyfod atto trwy ffydd; y caniattâ efe iddynt faddeuant o’u pechodau, ac y dyry iddynt yr Yspryd Glân; y rhydd iddynt fendith y Bywyd tragywyddol, ac y gwna hwy yn gyfrannogion o’i ddidrangc deyrnas.
    O herwydd paham, a ni yn credu fel hyn am ewyllys da ein Tad nefol tu ag at y rhai hyn, a amlygir trwy ei Fab ef Iesu Grist; dïolchwn yn flyddlon ac yn ddefosiynol iddo, a dywedwn,

HOLL-alluog a thragywyddol Dduw, nefol Dad, yr ŷm ni yn ostyngedìg yn dïolch i ti, fod yn wiw gennyt ein galw i wybodaeth dy ras, a ffydd ynot Ychwanega yr wybodaeth hon, a chadarnhâ’r ffydd hon ynom yn wastad. Dyro dy Yspryd Glân i’r rhai hyn, fel y ganer hwynt eilwaith, a’u gwneuthur yn etifeddion iachawdwriaeth dragywyddol; trwy ein Harglwydd Iesu Grist; yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thi a’r Yspryd Glân, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.
 

Gospel & exhortation

¶ Yna y dywed yr Offeiriad wrth y rhai a fônt i’w bedyddio, yn y modd hwn:

CHWYCHWI garedigion, y rhai a ddaethoch yma yn deisyf cael derbyn glân Fedydd, a glywsoch y modd y gweddïodd y gynnulleidfa, ar fod yn wiw gan ein Harglwydd Iesu Grist eich derbyn a’ch bendithio, maddeu i chwi eich pechodau,. rhoddi i chwi deyrnas nefoedd, a bywyd tragywyddol; chwi a glywsoch hefyd ddarfod i’n Harglwydd Iesu Grist addaw yn ei sancteiddlan Air, ganiattâu yr holl bethau hyn a weddïasom am danynt; yr hwn addewid efe o’ì ran ef a’i ceidw yn wir ddïogel, ac a’i cwblhâ.
    Herwydd pa achos, yn ol yr addewid hwn a wnaeth Crist, rhaid i chwi hefyd yn ffyddlon ar eich rhan chwithau addaw, yngŵydd y rhai hyn eich Tystion, a cher bron yr holl gynnulleidfa hon, ymwrthod â diafol ac â’i holl weithredoedd, ac yn wastad gredu gwỳnfydedig Air Duw, ac yn ufudd gadw ei orchymynion.

¶ Yna y gofyn yr Offeiriad i’r rhai a ddaethant i’w bedyddio, bob yn un, yr Ymadroddion hyn isod:

Gofyniad.

A Ydwyt ti yn ymwrthod â diafol, ac â’i holl weithredoedd, coeg-rodres a gwag-orfoledd y byd, a’i holl chwantau cybyddus, ac anysprydol ewyllys y cnawd, fel na ddilynech hwynt, ac na’th dywyser ganddynt?
    Atteb. Yr ydwyf yn ymwrthod â hwynt oll.

Gofyniad.

A Wyt ti yn credu yn Nuw Dad Holl-gyfoethog, Creawdwr nef a daear?
    Ac yn Iesu Grist, ei unig-anedig Fab ef, ein Harglwydd ni? A’i genhedlu o’r Yspryd Glân; ei eni o Fair Forwyn; iddo ddïoddef dan Pontius Pilatus, ei groeshoelio, ei farw, a’i gladdu; ddisgyn o hono i uffern; a’i gyfodi hefyd y trydydd dydd; ac esgyn o hono i’r nefoedd; a’i fod yn eistedd ar ddeheulaw Dduw Dad Holl-alluog; ac y daw efe oddi yno yn niwedd y byd, i farnu byw a meirw?
    Ac a wyt ti yn credu yn yr Yspryd Glân; yr Eglwys Lân Gatholig; Cymmun y Saint; Maddeuant pechodau; Adgyfodiad y cnawd; a Bywyd tragywyddol gwedi angau?
    Atteb. Hyn oll yr wyf yn ei gredu yn ddilys.

Gofyniad.

A Fynni dy fedyddio yn y ffydd hon?
Atteb. Hynny yw fy ewyllys.

Gofyniad.

A Gedwi dithau gan hynny yn ufudd lân ewyllys Duw a’i orchymynion, gan rodio yn yr unrhyw holl ddyddiau dy fywyd?
    Atteb. Mi a ymegnïaf ar wneuthur felly, a Duw yn gynnorthwywr i mi.
 

Questions of the candidate(s)
¶ Yna y dywed yr Offeiriad,

O Drugarog Dduw, caniattâ felly gladdu’r hen Adda yn y rhai hyn, fel y cyfoder y dyn newydd ynddynt hwy. Amen.
   
Caniattâ fod i holl chwantau’r cnawd farw ynddynt hwy, ac i bob peth a berthyn i’r Yspryd fyw a chynnyddu ynddynt. Amen.
    Caniattâ fod iddynt nerth a gallu i gael yr oruchafiaeth a’r gorfod yn erbyn diafol, y byd, a’r cnawd. Amen.
    Caniattâ fod iddynt, wedi eu cyssegru yma i ti trwy ein swydd a’n gweinidogaeth ni, fod hefyd yn gynnysgaeddol o rinweddau nefol, a chael eu tragywyddol obrwyau trwy dy drugaredd, O fendigedig Arglwydd Dduw, yr hwn wyt yn byw ac yn llywio pob peth yn oes oesoedd. Amen.

HOLL-gyfoethog fyth-fywiol Dduw, yr hwn y bu i’th garediccaf Fab Iesu Grist, er maddeuant o’n pechodau, oddef gollwng o’i werthfawroccaf ystlys ddwfr a gwaed, a rhoddi gorchymyn i w ddisgyblion fyned a dysgu yr holl genhedloedd, a’u bedyddìo, Yn Enw’r Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân; Ystyria, attolwg i ti, wrth weddïau dy gynnulleidfa; sancteiddia’r dwfr hwn er dirgel olchedigaeth pechodau; a chaniattâ fod i’r rhai a fedyddir yr awrhon ynddo, dderbyn cyflawnder dy ras, ac aros byth yn nifer dy ffyddlon blant etholedig, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Prayers

¶ Yna’r Offeiriad a gymmer bob un o’r rhai a fedyddier, gerfydd ei law ddehau: a chan ei osod ef yn gyfleus ger llaw’r Bedyddfan modd y gwelo oreu, a ofyn i’r Tadau-bedydd a’r Mammau-bedydd yr Enw: ac yna efe a’i trocha yn y dwfr, neu a dywallt ddwfr arno ef, gan ddywedyd,

N. Yr ydwyf yn dy fedyddio di, Yn Enw'r Tad, a’r Mab, a’r Yspryd Glân. Amen.
 

The Baptism

¶ Yna y dywed yr Offeiriad,

YR ydym ni yn derbyn y Dyn yma i Gynnulleidfa defaid Crist, ac yn ei *nodi ef âg arwydd y Grog; yn arwyddocâd na bo iddo rhagllaw gymmeryd yn gywilydd gyffesu ffydd Grist a groeshoeliwyd, ac ymladd yn wrol dan ei faner ef, yn erbyn pechod, y byd, a’r cythraul: a pharhâu yn filwr ffyddlon ac yn was i Grist holl ddyddiau ei einioes. Amen.

¶ Yna y dywed yr Offeiriad,

GAN ddarfod yn awr, anwyl garedigion frodyr, ad-eni a dodi y Dynion hyn ynghorph Eglwys Grist; dïolchwn ninnau i’r Holl-alluog Dduw am ei ddaioni hwn, ac o gyd-undeb gwnawn ein gweddïau arno, ar fod iddynt ddiweddu y rhan arall o’u bywyd yn ol hyn o ddechreuad.
 

 

 
   * Yma yr y Offeiriad a wna Groes yn nhalcen y Dyn.

¶ Yna y dywedir Gweddi’r Arglwydd, a phawb ar eu gliniau.

EIN Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y maddeuwn ni i’n dyledwŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwared ni rhag drwg. Amen.

YR ŷm ni yn ostyngedig yn dïolch i ti, nefol Dad, fod yn wiw gennyt ein galw i wybodaeth dy ras, a ffydd ynot: Ychwanega’r wybodaeth hon, a chadarnhâ’r ffydd hon ynom yn wastad. Dyro dy Yspryd Glân i’r rhai hyn, fel yn awr, gwedi eu geni eilwaith, a’u gwneuthur yn etifeddion iachawdwriaeth dragywyddol trwy ein Harglwydd Iesu Grist, y parhaont yn weision i ti, ac y mwynhaont dy addewidion; trwy yr un Arglwydd Iesu Grist dy Fab; yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thi yn undod yr unrhyw Yspryd Glân, yn dragywydd. Amen.

¶ Yna a phawb yn eu sefyll, yr Offeiriad a edrydd y Cyngor hwn isod; gan ddywedyd yn gyntaf wrth y Tadau-bedydd a’r Mammau-bedydd,

YN gymmaint a darfod i’r rhai hyn addaw yn eich gŵydd chwi ymwrthod â diafol ac â’i holl weithredoedd, credu yn Nuw, a’i wasanaethu ef; rhaid i chwi feddwl, mai eich rhan a’ch dyledswydd chwi yw, dwyn ar gof iddynt, pa ryw bwysfawr adduned, addewid, a phroffes, a wnaethant yr awrhon ger bron y gynnulleidfa hon, ac yn enwedig ger eich bron chwi eu tystion etholedig. A chwi a elwch hefyd arnynt i arferu pob dyfalwch i gael eu haddysgu yn iawn yn sancteiddlan Air Duw; fel y cynnyddont felly mewn gras, ac yngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist, ac y byddont byw yn dduwiol, yn uniawn, ac yn sobr, yn y byd presennol hwn.

¶ Ac yna, gan lefaru wrth y rhai newydd fedyddio, efe â rhagddo ac a ddywed,)

AC am a berthyn i chwi, y rhai yr awrhon yn eich Bedydd a arwisgasoch Grist, eich rhan chwithau a’ch dyledswydd yw, gan eich bod wedi eich gwneuthur yn blant i Dduw a’r goleuni, trwy ffydd yn Iesu Grist, rhodio yn gyfattebol i’ch galwedigaeth Gristionogol, ac megis y gweddai i blant y goleuni: gan gofio yn wastad, fod Bedydd yn arwyddocâu i nyni ein proffes; hynny yw, bod i ni ganlyn esampl ein Hiachawdwr Crist, a’n gwneuthur yn gyffelyb iddo ef: fel, megis y bu efe farw, ac y cyfododd drachefn drosom ni; felly y dylem ni, y rhai a fedyddiwyd, farw oddi wrth bechod, a chyfodi i gyfiawnder; gan farwolaethu yn wastad ein holl ddrygioni a’n gwŷniau llygredig, a pheunydd myned rhagom ym mhob rhinwedd dda, a buchedd dduwiol.

¶ Buddiol yw i bob un a fedyddier fel hyn, gael ei Gonffirmio gan yr Esgob, cyn gynted ag y galler yn gyfleus ar ol ei Fedydd; fel y bo rhydd iddo felly ddyfod i’r Cymmun bendigedig.

¶ Os bydd dwyn neb o’r cyfryw na fedyddiwyd yn eu Mebyd i’w bedyddio cyn dyfod i oedran pwyll i fedru atteb drostynt eu hunain; digon fydd arfer Gwasatiaeth Bedydd Cyhoedd Plant Bychain, neu (ar ddygnaf Berygl) Wasanaeth Bedydd Neillduol, gan newid rhyw eiriau fel y bo’r achos yn gofyn.

Lord’s Prayer
 

Llyfr Gweddi Gyffredin

The Book of Common Prayer in Welsh

Web author: Charles Wohlers U. S. EnglandScotlandIrelandWalesCanadaWorld