The Book of Common Prayer | |||||||
|
|
ERTHYGLAU A gyttunwyd arnynt gan ARCH-ESGOBION ac ESGOBION y ddwy Dalaith, a'r holl OFFEIRIAID, yn y Gymmanfa a gynhaliwyd yn LLUNDAIN yn y Flwyddyn 1562, er mwyn gochelyd amrywiaeth barn, a chadarnhâu Cyssondeb ynghylch gwir Grefydd. A ail-argraphwyd trwy Orchymyn Ei FAWRHYDI, gyd â'i Frenhinol Gyhoeddiad o'u blaen hwynt.
|
Articles agreed upon by the archbishops and bishops of both Provinces and the whole Clergy in the Convocation ... [The 39 Articles of Religion] |
CYHOEDDIAD Y BRENHIN. GAN Ein bod wrth Ordinhâd Duw, yn ol Ein cyflawn Ditl, yn Amddiffynnydd y Ffydd, a Goruwch-Lywiawdwr yr Eglwys, yn Ein Harglwyddiaethau hyn; yr ydym yn ei gyfrif yn dra chyttunol â'n Swydd Frenhinol hon, a'n Zel grefyddol Ein Hun, gadw ac amddiffyn yr Eglwys a roddwyd dan Ein Gofal, yn Undeb gwir Grefydd, ac ynghwlwm Tangnefedd; ac nid dïoddef i Ymddadlenon afreidiol, Ymrafaelion, neu Gwestiynau, gyfodi, a'r a allo fagu Ymryson yn yr Eglwys a'r Wladwriaeth. Tybiasom gan hynny, ar Bwyll ystyriol, ac wrth Gyngor cynnifer o'n Hesgobion ag a ellid yn gyfleus eis galw ynghy^d, yn gymmwys wneud y Cyhoeddiad sy'n canlyn. Bod Erthyglau Eglwys Loegr (y rhai a gymmeradwywyd ac a awdurdodwyd hyd yn hyn, a'r rhai y darfu i'n Hoffeiriaid yn gyffredin ddodi eu dwylaw wrthynt) yn cynnwys gwir Athrawiaeth Eglwys Loegr, yn gyttunol â Gair Duw: y rhai yr ydym gan hynny yn eu sicrhâu ac yn eu cadarnhâu; gan orchymyn i'n holl Ddeiliaid caredig barhâu yn yr Unffurf broffes o honynt a gwahardd yr Anghydfod lleiaf oddi wrth y dywededig Erthyglau; y rhai i'r diben hynny yr ydym yn gorchymyn eu hargraphu o newydd, a rhoddi allan Ein Cyhoeddiad hwn gyd â hwynt. Ein bod yn Oruwch-Lywiawdwr Eglwys Loegr: a bod, os cyfyd dim Ymryson ynghylch y Llywodraeth allanol, am Orchymynion, Canonau a Gosodedigaethau eraill pa rai bynnag yn perthyn iddi, i'r Offeiriaid yn eu Cymmanfa eu trefnu a 'u sefydlu, wedi cael Cennad yn gyntaf dan Ein Sel Lydan i wneuthur felly, a Ninnau yn cymmeradwyo eu Hordinhadau hynny a'u Gosodedigaethau; tra na wneler un o honynt yn wrthwyneb i Gyfreithiau a Defodau y Deyrnas. Bod, o'n Gofal Tywysogol, i'r Gwy^r Eglwysig wneuthur y Gwaith sy brïodol iddynt; yr Esgobion a'r Offeiriaid, o amser bwygilydd mewn Cymmanfa, ar eu hufudd Ddymuniad, a gânt Gennad dan Ein Sel Lydan, i ymgynghori ynghylch, a gwneuthur yr holl gyfryw bethau ag a wneler yn eglur ganddynt, ac y cyttunom Ni â hwynt, a berthyn i ddïysgog barhâd Athrawiaeth a Disgyblaeth Eglwys Loegr sydd yr awr hon yn sefydledig; oddi wrth yr hon ni ddïoddefwn Ni ddim cyfnewidiad neu ymadawiad yn y radd leiaf Ein bod am yr amser preseunoi, er darfod codi rhai Ymrafaelion annedwyda, etto yn ymgysuro yn hyn; Ddarfod i'r holl Offeiriaid o fewn Ein Teyrnas bob amser yn ewyllysgaraf ddodi eu dwylaw wrth yr Erthyglau gosodedig hyn: yr hyn sy Brawf i Ni, eu bod hwy oll yn cyttuno yngwir, arferol, a llythyrennol feddwl y dywededig Erthyglau; a bod, hyd yn oed yn y Pyngciau manylaidd hynny lle mae'r Ymrafaelion presennol yn sefyll, pobl o bob math yn cymmeryd fod Erthyglau Eglwys Loegr drostynt: yr hyn sy Brawf ym mhellach etto, nad oes neb o honynt yn chwennych ymadael â'r Erthyglau safadwy hyn. Y mynnwn gan hynny, yn yr Ymrafaelion manylaidd ac annedwydd hyn, y rhai dros gynnifer cant o flynyddoedd, ac mewn gwahanol amseroedd a mannau a fuont waith i Eglwys Grist i'w wneuthur, adael heibio bob manylaidd chwilio ym mhellach, a chau i fynu yr Ymddadleuon hynny yn Addewidion Duw, fel y gosodir hwynt allan yn gyffredin i ni yn yr Ysgrythyr Lân, ac Ystyr cyffredin Erthyglau Eglwys Loegr yn ei hol hi: ac na chaffo neb o hyn allan nac Argraphu na Phregethu i w^yrdroi yr Erthyglau mewn un modd, eithr ymostwng iddynt yn eu Hystyr eglur a chyflawn ac ni chaiff roi ei Synwyr neu ei Ddeongliad ei hun i fod yn Feddwl yr Erthyglau, eithr eu cymmeryd yn Ystyr y Llythyren a 'r Grammadeg. Bod, os rhydd rhyw Ddarllenydd cyhoedd yn un o'n dwy Brif-Ysgol, neis ryw Ben neu Feistr Coleg, neu neb arall yn neillduol yn un o honynt, ryw Ystyriaeth newydd i un o'r Erthyglau, neu ddarllain ar gyhoedd, trefnu, neu gynnal, un Ddadl gyhoeddiìs, neu oddef cynnal un o'r cyfryw mewn un wedd yn un o'n dwy Brif-Ysgol, neu'n Colegau yn neillduol; neu, os pregetha un Difinydd yn y Prif-Ysgolion, neu argraphu dim yn un wedd, yn amgen nag a sefydlwyd eisoes mewn Cymmanfa trwy Ein Cyd-syniad Brenhinol; iddo ef neu hwy y Troseddwy^r, fod dan Bwys Ein Hanfoddlonrwydd, a Barn yr Eglwys yn Ein Commissiwn Eglwysig, yn gystal a neb arall: ac Nyni a fynnwn weled gwneuthur Cospedigaeth addas arnynt.
|
His Majesty's Declaration |
Y NAMYN UN DEUGAIN ERTHYGLAU CREFYDD. I. Am Ffydd yn y Drindod Sanctaidd. NID oes ond un gwir Dduw
byw, tragywyddol, heb gorph, heb rannau, heb ddïoddefiadau; o anfeidrol
allu, doethineb, a daioni; Gwnenthurwr a Chynhaliwr pob peth gweledig
ac anweledig. Ac yn Undod y Duwdod yma y mae tri Pherson, o un sylwedd,
galluowgrwydd, a thragywyddoldeb; y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glân. |
1. Of Faith & the Holy Trinity |
II. Am y Gair, neu Fab Duw, yr hwn a wnaethpwyd yn wir Ddyn. Y Mab, yr hwn yw Gair
y Tad, cenhedledig er tragywyddoldeb gan y Tad, gwir a thragywyddol
Dduw, ac o'r un sylwedd â'r Tad, a gymmerodd natur dyn ym mru'r
Wŷryf fendigaid, o'i sylwedd hi: fel y mae dwy natur berffaith
gyfangwbl, sef y Duwdod a'r Dyndod, wedi eu cyssylltu ynghŷd yn
an Person, na wahenir byth, o'r rhai y mae un Crist, gwir Dduw a gwir
Ddyn, yr hwn a wirddïoddefodd, a groeshoeliwyd, fu farw, ac a gladdwyd,
i gymmodi ei Dad â nyni, ac i fod yn aberth, nid yn unig dros
euogrwydd pechod gwreiddiol, eithr hefyd dros weithredol bechodau dynion. |
2. Of the Word or Son of god, who was made vey Man. |
III. Am Ddisgyniad Crist i Uffern. MEGIS y bu Crist farw
drosom, ac y claddwyd ef; felly hefyd y mae i'w gredu, iddo ddisgyn
i Uffern. |
3 Of the going down of Christ into Hell |
IV. Am Adgyfodiad Crist. CRIST a wir-adgyfododd
o feirw, ac a gymmerodd drachefn ei gorph, gyd â chnawd ac esgyrn,
a phob peth a berthyn i berffeithrwydd naturiaeth Dyn; â'r hyn
y dyrchafodd efe i'r Nefoedd, ac yno y mae yn eistedd hyd oni ddychwelo
i farnu pob dyn y dydd diweddaf. |
4 Of the Resurrection of Christ |
V. Am yr Yspryd Glân. YR Yspryd Glân,
yn deilliaw oddiwrth y Tad a'r Mab, sydd o un sylwedd, mawrhydi, a gogoniant,
â'r Tad a'r Mab, gwir a thragywyddol Dduw. |
5. Of the Holy Ghost |
VI. Bod yr Ysgrythyr Lân yn ddiyonol i Iachawdwriaeth. Y Mae yr Ysgrythyr Lân
yn cynnwys pob peth angenrheidiol i Iachawdwriaeth: fel nad ydys yn
gofyn bod i neb gredu beth bynnag ni ddarllenir ynddi, neu na ellir
ei brofi wrthi, megis erthygl o'r Ffydd, na'i fod yn anghenraid i Iachawdwriaeth.
Dan Enw yr Ysgrythyr Lân yr ydym yn deall y cyfryw Lyfrau canonaidd
o'r Hen Destament a'r Newydd, a'r na bu eriôed ddim ammeu yn yr
Eglwys am eu hawdurdod. |
6. Of the Sufficiency of the holy Scriptures for Salvation |
Enwau a rhifedi y LLYFRAU Canonaidd. GENESIS, Exodus, Lefiticus, Numeri, Deuteronomium, Josua, Barnwŷr, Ruth, I. Samuel, II. Samuel, I. Brenhinoedd, II. Brenhinoedd, I. Chronicl, II. Chronicl, I. Esdras; neu, Ezra, II. Esdras; neu, Nehemïah, Esther, Job, Psalmau, Dïarhebion, Ecclesiastes; neu, y Pregethwr, Cantica; neu, Ganiadau Salomon, Y IV Prophwyd mwyaf, Y XII Prophwyd lleiaf. A'r Llyfrau eraill
(fel y dywed Hierom) y mae'r Eglwys yn eu darllain er esampl
buchedd, ac addysg moesau; etto nid yw yn eu gosod i sicrhâu un
athrawiaeth; y cyfryw yw y rhai sy'n canlyn: Holl Lyfrau y Testament Newydd, fel yr ydys yn eu
derbyn yn gyffredin, yr ydym ni yn eu derbyn, ac yn eu cyfrif yn Ganonaidd. |
Of the Names and Number of the Canonical Books |
VII. Am yr Hen Destament. NID
yw'r Hen Destament wrthwyneb i'r Newydd: oblegid yn yr Hen Destament
a'r Newydd y cynnygir hywyd tragywyddol i ddyn trwy Grist, yr hwn yw'r
unig Gyfryngwr rhwng Duw a dyn, ac efe yn Dduw ac yn Ddyn. Am hynny
nid iawn gwrando ffuant y rhai sy'n tybied nad oedd yr hen Dadau yn
disgwyl ond am addewidion trangcedig. Er nad yw'r Gyfraith a roddwyd
gan Dduw trwy Moses, hyd y perthyn i Seremoniau a Defodau, yn rhwymo
Cristionogion, ac nad yw anghenraid derbyn ei Gorchymynion hi am Lywodraeth
bydol mewn un wladwriaeth etto er hynny nid oes un Cristion yn rhŷdd
oddi wrth Ufudd-dod i'r Gorchymynion a elwir Moesol. |
7 Of the New Testament |
VIII. Am y tri Chredo. Y
Tri Chredo, sef, Credo Nicea, Credo Athanasius, a'r
hwn a elwir yn gyffredin Credo'r Apostolion, a ddylid yn gwbl
eu derbyn a'u credu: oblegid fe ellir eu profi trwy ddiddadl warantrwydd
yr Ysgrythyr Lân. |
8. Of the three Creeds |
IX. Am Bechod Gwreiddiol, neu Anedigol. NID yw Pechod Gwreiddiol
yn sefyll o ddilyn Adda (megis yr ofer siarad y Morganiaid) eithr bai
a llygredigaeth natur pob dyn ydyw a'r a gen hedlir yn naturiol o hil
Adda, trwy'r hyn y mae dyn wedi myned yn dra-phell oddi wrth gyfiawnder
gwreiddiol, ac y mae o'i naturiaeth ei hun â'i ddychwant ar ddrygioni,
fel y mae'r cnawd bob amser yn chwennychu yn erbyn yr Yspryd; ac am
hynny ym mhob dyn a enir i'r byd hwn, yr haeddai ddigofaint Duw, a damnedigaeth.
Ac y mae'r llwgr natur yma yn aros, fe, yn y rhai a ad-genhedlwyd; oherwydd
paham nid yw chwant y cnawd, a elwir yn y Groeg, Φρονημα
σαρκος, yr hyn a ddeongl rhai doethineb,
rhai gwŷn, rhai tuedd, rhai chwant, y cnawd, yn ddarostyngedig
i Gyfraith Dduw. Ac er nad oes damnedigaeth i'r rhai a gredant, ac a
fedyddir; etto mae'r Apostol yn cyfaddef; fod mewn gwŷn a thrachwant,
o hono ei hun, naturiaeth pechod. |
9. Of Original, or Birth-sin |
X. Am Ewyllys Rhŷdd. CYFRYW yw cyflwr dyn,
wedi Cwymp Adda, na's gall o'i nerth naturiol a'i weithredoedd
da ei hun ymchwelyd nac ymddarparu i ffydd, ac i alw ar Dduw: o herwydd
paham ni all wn ni wneuthur gweithredoedd da, hoff a chymmeradwy gan
Dduw, heb ras Duw trwy Grist yn ein rhagflaenu, fel y bo ynom ewyllys
da, ac yn cydweithio â ni, wedi y dêl ynom yr ewyllys da
hwnnw. |
10. Of Free-Will |
XI. Am Gyfiawnhâd Dyn. FE'N cyfrifir yn gyfiawn
ger bron Duw, yn unig er mwyn Haeddedigaethau ein Harglwydd a'n Hiachawdwr
Iesu Grist, trwy Ffydd, ac nid o herwydd ein gweithredoedd neu ein haeddiant
ein hunain. Am hynny Athrawiaeth gwbl-iachus, dra-llawn o ddiddanwch,
yw, mai trwy Ffydd yn unig y'n cyfiawnhêir ni; fel yr hyspysir
yn helaethach yn yr Homili am Gyfiawnhâd. |
11. Of the Justification of Man |
XII. Am Weithredoedd da. ER na ddichon Gweithredoedd
da, y rhai yw ffrwyth Ffydd, ac sy'n canlyn Cyfiawnhâd, ddilëu
ein pechodau, a goddef eithaf cyfiawn Farn Duw; etto maent yn foddlon
ac yn gymmeradwy gan Dduw yng Nghrist, ac yn tarddu yn angenrheidiol
allan o wir a bywiol Ffydd; yn gymmaint ag y gellir adnabod Ffydd fywiol
wrthynt hwy, mor amlwg ag y gellir adnabod pren wrth y ffrwyth. |
12. Of Good Works |
XIII. Am Weithredoedd cyn Cyfiawnhâd. NID yw'r gweithredoedd
a wneler cyn (cael) gras Crist, ac Ysprydoliaeth ei Yspryd ef, yn boddloni
Duw, yn gymmaint ag nad ydynt yn tarddu o ffydd yn Iesu Grist; ac nid
ŷnt chwaith yn gwneuthur dynion yn addas i dderbyn gras, neu (fel
y dywed yr Ysgol-ddifinwŷr) yn haeddu gras o gymhesurwydd: eithr
yn hytrach, am nad ydys yn eu gwneuthur megis yr ewyllysiodd ac y gorchymynodd
Duw eu gwneuthur hwynt, nid ydym yn ammeu nad oes natur pechod ynddynt. |
13. Of Works before Justification |
XIV. Am Weithredoedd dros ben a orchymynwyd. GWEITHREDOEDD o ewyllys
dyn ei hun, heblaw a thros ben Gorchymynion Duw, y rhai a alwant yn
Weithredoedd Supererogasiwn, ni ellir eu dysgu heb ryfyg ac
annuwioldeb. Oblegid trwyddynt y mae dynion yn dangos eu bod yn talu
i Dduw, nid yn unig gymmaint ag y maent yn rhwymedig i'w wneuthur, ond
eu bod yn gwneuthur mwy er ei fwyn ef nag sydd angenrheidiol wrth rwymedig
ddyled; pan y mae Crist yn dywedyd yn oleu, Gwedi i chwi wneuthur y
cwbl oll a'r a orchymynwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym. |
14. Of Works of Supererogation |
XV. Am Grist yn unig yn ddibechod. CRIST, yngwirionedd
ein naturiaeth ni, a wnaethpwyd yn gyffelyb i ni ym mhob peth, oddi
eithr pechod yn unig, yr hwn yr oedd efe yn gwbl iach oddi wrtho, yn
gystal yn ei gnawd ac yn ei yspryd. Efe a ddaeth i fod yn Oen difrycheulyd,
yr hwn, trwy ei aberthu ei hun unwaith, a ddileai bechodau'r byd: a
phechod (fel y dywaid Sant Ioan) nid oedd ynddo ef. Eithr nyni
bawb eraill (er ein bedyddio a'n hail-eni yng Nghrist) ydym er hynny
yn llithro mewn llawer o bethau; ac os dywedwn nad oes ynom bechod,
yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a'r gwirionedd nid yw ynom. |
15. Of Christ alone without Sin |
XVI. Am Bechod gwedi Bedydd. NID yw pob pechod marwol
a wneler o wirfodd gwedi Bedydd, yn bechod yn erbyn yr Yspryd Glân,
ac yn anfaddeuol. O herwydd paham, nid iawn naccâu caniattâd
edifeirwch i'r sawl a syrthiant mewn pechod ar ol Bedydd. Gwedi darfod
i ni dderbyn yr Yspryd Glân, ni a a1lwn ymadael â'r Gras
a roddwyd i ni, a syrthio mewn pechod, a thrwy Ras Duw gyfodi drachefn,
a gwellhâu ein bucheddau. Ac am hynny y mae'r cyfryw i'w condemnio,
a ddywedant, na allant bechu mwy tra byddont byw yma; neu a wadant nad
oes lle i'r rhai a wir edifarhao i gael maddeuant. |
16. Of Sin after Baptism |
XVII. Am Ragluniaeth ao Etholedigaeth. RHAGLUNIAETH
i fywyd yw tragywyddol arfaeth Duw, trwy'r hon (cyn gosod seiliau'r
byd) y darfu iddo trwy ei Gyngor, dirgel i ni, ddïanwadal derfynu
gwared oddi wrth felldith a damnedigaeth, y rhai a ddarfu iddo ddethol
yng Nghrist o ddynol ryw a'u dwyn trwy Grist i Iachawdwriaeth dragywyddol,
megis llestri a wnaethpwyd i anrhydedd. O herwydd paham, y rhai a ddarfu
i Dduw eu cynnysgaeddu â chyfryw ragorol ddawn, a a1wyd yn ol
arfaeth Duw, trwy ei Yspryd ef yn gweithio mewn pryd amserol: hwynt-hwy
sy trwy ras yn ufuddhâu i'r alwedigaeth: hwynt-hwy a gyfiawnhêir
yn rhad: hwynt-hwy a wneir yn feibion i Dduw trwy fabwys: hwynt-hwy
a wneir yn gyffelyb i ddelw ei unig-anedig Fab ef Iesu Grist: hwynt-hwy
a rodiant yn grefyddol mewn gweithredoedd da; ac o'r diwedd, trwy drugaredd
Duw, a feddiannant ddedwydd-fyd tragywyddol. |
17. Of Predestination & Election |
XVIII. Am gaffael Iachawdwriaeth dragywyddol trwy Enw Crist yn unig. Y Mae'n rhaid hefyd
cyfrif yn felldigedig y sawl a ryfygant ddywedyd y bydd pob dyn yn gadwedig
trwy'r Gyfraith neu'r Sect y mae yn ei phroffesu, os bydd efe ddiwyd
i lunio ei fuchedd yn ol y Gyfraith honno, a goleuni Natur. Canys y
mae'r Ysgrythr Lân yn gosod allan i ni yn unig Enw Iesu Grist,
trwy'r hwn y bydd raid i ddynion fod yn gadwedig. |
18. Of obtaining eternal Salvation only by the Name of Christ |
XIX. Am yr Eglwys. EGLWYS weledig Crist
yw Cynnulleidfa y Ffyddloniaid, yn yr hon y pregethir pur Air Duw, ac
y gweinyddir y Sacramentau yn ddyladwy yn ol ordinhâd Crist, ym
mhob peth a'r sydd angenrheidiol eu bod yn yr unrhyw. |
19. Of the Church |
XX. Am Awdurdod yr Eglwys. Y Mae i'r Eglwys allu
i osod Defodau a Seremoniau, ac awdurdod mewn Ymrafaelion ynghylch y
Ffydd; ac etto nid cyfreithlon i'r Eglwys ordeinio dim a'r y sydd wrthwyneb
i ysgrifenedig Air Duw, ac ni's gall felly esponio un lle o'r Ysgrythyr
Lân, fel y bo yn wrthwyneb i le arall. Am hynny, er bod yr Eglwys
yn dyst ac yn geidwad ar yr Ysgrythyr Lân; er hynny, megis na's
dylai hi ordeinio dim yn erbyn yr unrhyw, felly heblaw'r unrhyw ni ddylai
hi gymmell dim i'w gredu er anghenraid i Iachawdwriaeth. |
20. Of the Authority of the Church |
XXI. Am Awdurdod Cynghorau Cyffredin. CYNGHORAU Cyffredin
ni's gellir eu casglu ynghŷd heb orchymyn ac Ewyllys Tywysogion.
Ac wedi eu casglu ynghy^d (yn gymmaint ag nad ydynt ond Cynnulleidfa
o ddynion, o'r rhai ni lywodraethir pawb gan Yspryd a Gair Duw) hwy
a allant gyfeiliorni, ac weithiau fe ddarfu iddynt gyfeiliorni, a hynny
mewn pethau a berthynant i Dduw. O herwydd paham, y pethau a ordeinir
ganddynt megis yn anghenraid i Iachawdwriaeth, nid oes iddynt na nerth
nac awdurdod, oni ellir dangos ddarfod eu tynnu allan o'r Ysgrythyr
Lân. |
21. Of the Authority of General Councils |
XXII. Am y Purdan. NID
yw Athrawiaeth Eglwys Rufain ynghylch Purdan, Pardynau, anrhydeddu
ac addoli Delwau a Chreiriau, ac hefyd ga1w a gweddïo ar y Saint,
ond peth ysmala, o wag ddychymmyg, ac heb ei seilio ar un warant o'r
Ysgrythyr Lân, ond yn hytrach yngwrthwyneb i Air Duw. |
22. Of Purgatory |
XXIII. Am Weini yn y Gynnulleidfa. NID cyfreithlon i neb
gymmeryd arno swydd pregethu ar gyhoedd, neu weinyddu y Sacramentau
yn y Gynnulleidfa, hyd oni alwer ef yn gyfreithlon, a'i ddanfon i wasanaethur
unrhyw. A'r rhai hynny a ddylem ni farnu eu bod wedi eu galw yn gyfreithlon
a'u danfon, a ddetholwyd ac a alwyd i'r gwaith hwn gan ddynion sydd
ag awdurdod gyhoedd wedi ei rhoddi iddynt yn y Gynnulleidfa, i alw a
danfon Gweinidogion i winllan yr Arglwydd. |
23. Of Ministering in the Congregation. |
XXIV. Am lefaru yn y Gynnulleidfa yn y cyfryw dafodiaith ag a ddeallo'r bobl. PETH llwyr wrthwyneb
i Air Duw, ac i arfer y Brif Eglwys gynt, yw gweddïo yn gyhoedd
yn yr Eglwys, neu weinyddu'r Sacramentau, mewn tafodiaith na bo'r bobl
yn ei deall. |
24. Of speaking in the Congregation in such a tongue as the people understandeth |
XXV. Am y Sacramentau. NID yw'r Sacramentau
a ordeiniwyd gan Grist, yn unig yn arwyddion neu yn argoelion o broffes
Cristionogion; ond yn hytrach y maent yn rhyw dystion dïogel ac
arwyddion effeithiol o ras Duw, a'i ewyllys da tu ag attom ni, trwy
y rhai y mae efe yn gweithio yn anweledig ynom ni; ac nid yn unig yn
bywhâu, ond hefyd yn nerthu ac yn cadarnhâu ein ffydd ni
ynddo ef. |
25. Of the Sacraments |
XXVI. Nad yw Annheilyngdod y Gweinidogion yn rhwystro gweithrediad y Sacramentau. ER bod yn yr Eglwys weledig
bob amser rai drwg ynghymmysg â'r rhai da, a bod weithiau i'r
rhai drwg yr awdurdod bennaf yngweinidogaeth y Gair a'r Sacramentau;
etto, yn gymmaint ag nad ydynt yn gwneuthur hynny yn eu henw eu hunain,
ond yn enw Crist, ac mai trwy ei gommisiwn a'i awdurdod ef y maent yn
gweinyddu; nyni a allwn arfer eu gweinidogaeth hwy, trwy wrando'r Gair,
a derbyn y Sacramentau. Ac nid yw eu hanwiredd hwy yn tynnu ymaith ffrwyth
ordinhâd Crist, nac yn lleihâu gras doniau Duw oddi wrth
y cyfryw rai a'r sy trwy ffydd yn iawn dderbyn y Sacramentau a weinyddir
iddynt, y rhai sydd effeithiol oblegid ordinhâd Crist a'i addewid,
er eu gweinyddu gan ddynion drwg. |
26. Of the Unworthiness of the Ministers, which hinders not the effectiveness of the Sacrament |
XXVII. Am Fedydd. NID yw Bedydd yn unig
yn arwydd o broffes, neu yn nôd gwahaniaeth, i adnabod Cristionogion
oddi wrth Anghristionogion: eithr y mae hefyd yn arwydd o'r Adgenhedliad,
neu'r Ail-enedigaeth; trwy 'r hyn, megis trwy offeryn, yr impir yn yr
Eglwys y rhai a dderbyniant Fedydd yn iawn; yr arwyddir yn weledig,
ac y selir trwy'r Yspryd Glân, yr addewidion am faddeuant pechodau,
a'n mabwysiad i fod yn feibion i Dduw; y cadarnhêir Ffydd, ac
yr ychwanegir Gras, trwy rinwedd gweddi at Dduw. Bedydd Plant ieuaingc
a ddylid er dim ei gadw yn yr Eglwys, megis peth yn cwbl gyttuno âg
ordinhâd Crist. |
27. Of Baptism |
XXVIII. Am Swpper yr Arglwydd. NID yw Swpper yr Arglwydd
yn unig yn arwydd o'r cariad a ddylai fod gan Gristionogion i'w gilydd;
ond yn hytrach Sacrament yw o'n Prynedigaeth trwy farwolaeth Crist:
yn gymmaint ag i'r rhai a'i derbyniant yn iawn, yn deilwng, ac mewn
ffydd, y Bara yr ydym ni yn ei dorri, sy gyfrannogaeth Corph Crist;
a'r un modd Cwppan y Fendith sy gyfrannogaeth Gwaed Crist. |
28. Of the Lord's Supper |
XXIX. Nad yw'r Annuwiolion yn bwytta Corph Crist wrth arfer Swpper yr Arglwydd. YR Annuwiolion, a chyfryw
rai nid oes ganddynt Ffydd fywiol, er eu bod yn gnawdol ac yn weledig
â'u dannedd yn cnoi (fel y dywed Sant Awstin) Sacrament
Corph a Gwaed Crist; er hynny nid ydynt mewn modd yn y byd yn gyfrannogion
o Grist, ond yn hytrach i'w barnedigaeth eu hunain, yn bwytta ac yn
yfed arwydd neu Sacrament peth mor fawr. |
29. Of the Wicked, which eat not the Body of Christ in the use of the Lord's Supper |
XXX. Am y ddau ryw. NI ddylid naccâu
Cwppan yr Arglwydd i'r Llëygion: canys dwy ran Sacrament yr Arglwydd,
wrth ordinhâd a gorchymyn Crist, a ddylid eu gweinyddu i bob Cristion
yn gyffelyb. |
30. Of both kinds |
XXXI. Am un Aberth Crist a gyflawnwyd ar y Groes. ABERTHIAD Crist, a wnaed
unwaith, sy berffaith bryn- |
31. Of the one Oblation of Christ finished on the Cross |
XXXII. Am Brïodas Gweinidogion. NI orchymynir i Esgobion,
Offeiriaid, a Dïaconiaid, trwy Gyfraith Duw, nac i addunedu buchedd
annyweddïaeth, nac i ymgadw rhag prïodas: am hynny mae'n gyfreithlon
iddynt hwythau, megis i bob Cristion arall, wreicca yn ol eu deall eu
hunain, fel y bônt yn barnu fod yr unrhyw yn gwasanaethu oreu
i dduwioldeb. |
32. Of the Marriage of Priests |
XXXIII. Am Ddynion a ysgymmunwyd, pa wedd y dylid eu gochel. Y Dyn trwy eglur gyhoeddiad
yr Eglwys a iawn dorrer ymaith oddi wrth undeb yr Eglwys, ac a ysgymmuner,
a ddylid ei gymmeryd, gan holl lïaws y ffyddloniaid, megis Ethnig
a Phublican, hyd oni chymmoder ef yn gyhoedd trwy benyd, a'i dderbyn
i'r Eglwys gan Farnwr y bo iddo awdurdod i hynny. |
33. Of excommunicate Persons, how they are to be avoided |
XXXIV. Am Draddodiadau'r Eglwys. NID yw anghenraid bod
Traddodiadau a Seremoniau ym mhob lle yn yr un modd, neu yn gwbl gyffelyb:
canys nwy a fuant bob amser o amrywiol fodd, ac a ellir eu newidio mewn
amrywiol wledydd, amserau, ac arferion dynion, tra na ordeinier dim
yn erbyn Gair Duw. Pwy bynnag o'i farn neillduol ei hun, o'i fodd, ac
o lwyr fryd, yn gyhoeddus a dorro draddodiadau a seremoniau'r Eglwys,
y rhai nid ydynt wrthwyneb Air Duw, ac a ordeiniwyd ac a gymmeradwywyd
trwy awdurdod gyffredin, a ddylid ei geryddu yn gyhoeddus, fel yr ofno
eraill wneuthur y cyffelyb, megis un yn troseddu yn erbyn trefn. gyffredin
yr Eglwys, ac yn briwo awdurdod y Llywodraethwr, ac yn archolli cydwybodau
y brodyr gweinion. |
34. Of the Traditions of the Church |
XXXV. Am Homiliau. Y Mae ail Lyfr yr Homiliau, y cyssylltasom
eu hamryw enwau dan yr Erthygl yma, yn cynnwys Athrawiaeth dduwiol ac
iachus, ac angenrheidiol i'r amserau hyn; megis y mae llyfr cyntaf yr
Homiliau, a osodwyd allan yn amser Edward y Chweched: am hynny yr ydym
yn barnu fod eu darllain hwy yn yr Eglwysi gan y Gweinidogion, yn ddïesgeulus,
ac yn llawn llythyr, fel y gallo'r bobl cu deall. |
35. Of Homilies |
1 AM iawn Arfer yr Eglwys. |
Of the Names of the Homilies |
XXXVI. Am Gysseyriad Esgobion a Gweinidogion. MAE
Llyfr Cyssegriad Arch esgobion ac Esgobion, ac Urddiad Offeiriaid a
Dïaconiaid, a osodwyd allan yn ddiweddar yn amser Edward
y Chweched, ac a gadarnhawyd yr un amser trwy awdurdod Parliament, yn
cynnwys ynddo bob peth angenrheidiol i gyfryw Gyssegriad ac Urddiad:
ac nid oes ynddo ddim y sydd o hono ei hun yn ofergoelus ac annuwiol.
Ac am hynny, pwy bynnag a gyssegrwyd neu a urddwyd yn ol Defodau'r Llyfr
hwnnw, er yr ail flwyddyn o'r unrhyw Frenhin Edward hyd yr
amser yma, neu ar ol hyn a gyssegrer neu a urdder yn ol yr unrhyw Ddefodau,
yr ydym ni yn ordeinio, bod y cyfryw rai oll wedi eu cyssegru a'u hurddo
yn iawn, yn drefnus, ac yn gyfreithlon. |
36. Of Consecration of Bishops and Ministers |
XXXVII. Am Lywodraethwŷr Dinasaidd. MAWRHYDI
y Brenhin bïau y Gallu pennaf o fewn y Deyrnas hon o Loegr,
ac eraill o'i Arglwyddiaethau: i'r hwn y perthyn Pen-rheolaeth pob Ystâd
y Deyrnas hon, pa un bynnag fônt ai Eglwysig ai Dinasaidd, ym
mhob rhyw achosion: ac nid yw, ac ni's dylai fod, yn ddarostyngedig
i un Lywodraeth estronol. |
37. Of the Civil Magistrates |
XXXVIII. Am Olud Cristionogion, nad yw gyffredin. GOLUD Cristionogion,
o ran eu hawl, a'u titl, a'u meddiant arno, nid yw gyffredin; megis
y mae rhyw Anabaptistiaid yn gwag ymffrostio. Er hynny, fe ddylai pob
dyn, o'r cyfryw bethau a fo yn ei helw, roi elusen yn hael i'r tlawd,
yn ol ei allu. |
38. Of Christian men's Goods, which are not common |
XXXIX. Am Lw Cristion. MEGIS
yr ydym yn cyfaddef, bod llwon ofer ac ehud wedi eu gwahardd i Gristionogion
gan ein Harglwydd Iesu Grist, a'i Apostol Iago; felly yr ydym yn barnu,
nad yw Crefydd Gristionogol yn gwahardd, na's gall dyn dyngu pan fo'r
Llywodraethwr yn erchi, mewn matter o ffydd a chariad perffaith, os
gwneir hynny yn ol addysg y Prophwyd, mewn cyfiawnder, a barn, a gwirionedd. |
39. Of a Christian man's Oath |
Web author: Charles Wohlers | U. S. England Scotland Ireland Wales Canada World |