The Book of Common Prayer
United States England Scotland Ireland Wales Canada World

   

Llyfr Gweddi Gyffredin
the Book of Common Prayer in Welsh


 

TREFN Y

FOREOL A’R BRYDNHAWNOL WEDDI

I’W DYWEDYD BEUNYDD A’I HARFERU TRWY’R FLWYDDYN,

 

Y Foreol a’r Brydnhawnol Weddi a arferir yn y Man cynnefinol o’r Eglwys, Capel, neu Gangell; oddi eithr i Ordinari’r Lle farnu yn amgenach. A’r Canghellau a gânt sefyll yn y modd yr oeddynt o’r blaen.

    Ac yma noder, Fod yn rhaid cadw a chynnal Addurniadau’r Eglwys a ‘i Gweinidogion, ar bob amser o ‘u Gweinidogaeth, yn yr un wedd ag yr oeddynt yn Eglwys Loegr, trwy Awdurdod y Parliament, yn yr ail Flwyddyn o Deyrnasiad y Brenhin Edward y Chweched.


 

 

General rubrics for Morning & Evening Prayer

TREFN Y

WEDDI  FOREOL,

BOB DYDD TRWY’R FLWYDDYN.

 

¶ Ar ddechreu’r Foreol Weddi, darllened y Gweinidog, â llef uchel, ryw un neu ychwaneg o’r adnodau hyn o’r Ysgrythyr Lân y rhai sydd yn canlyn. Ac yna dyweded yr hyn y sydd ysgrifenedig ar ol yr unrhyw adnodau.

PAN ddychwelo’r annuwiol oddi wrth ei ddrygioni yr hwn a wnaeth, a gwneuthur barn a chyfiawnder, hwnnw a geidw yn fyw ei enaid. Ezec. xviii. 27.
    Yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau, a’m pechod sydd yn wastad ger fy mron. Psal. li. 3.
    Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl anwireddau. Psal. li. 9.
    Aberthau Duw ydynt yspryd drylliedig: calon ddrylliog, gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygi. Psal. li. 17.
    Rhwygwch eich calon, ac nid eich dillad, ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw: o herwydd graslawn a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg. Joel ii. 13.
    Gan yr Arglwydd ein Duw y mae trugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu o honom i’w erbyn: ni wrandawsom chwaith ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ei gyfreithiau ef, y rhai a roddodd efe o’n blaen ni. Dan. ix. 9, 10.
    Cospa fi, Arglwydd, etto mewn barn ; nid yn dy lid, rhag it’ fy ngwneuthur yn ddiddym. Jer. x. 24. Psal. vi. i.
    Edifarhêwch; canys nesaodd teyrnas nefoedd. St. Matt. iii. 2.
    Mi a godaf, ac a âf at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef’, ac o’th flaen dithau; ac mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw yn fab i ti. St. Luc xv. 18, 19.
    Arglwydd, na ddos i farn â’th was; o herwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di. Psal. cxliii. 2.
    Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a’r gwirionedd nid yw ynom. Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y’n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder. 1 Ioan i. 8, 9.
 

The Order for Morning Prayer

 

 

 

Introductory sentences

FY anwyl gariadus frodyr, y mae’r Ysgrythyr Lân yn ein cynhyrfu, mewn amrywiol fannau, i gydnabod ac i gyffesu ein haml bechodau a’n hanwiredd ; ac na wnelem na’u cuddio na’u celu yngŵydd yr Holl-alluog Dduw ein Tad nefol; eithr eu cyffesu â gostyngedig, isel, edifarus, ac ufudd galon; er mwyn caffael o honom faddeuant am danynt, trwy ei anfeidrol ddaioni a’i drugaredd ef. Ac er y dylem ni bob amser addef yn ostyngedig ein pechodau ger bron Duw; etto ni a ddylem yn bennaf wneuthur hynny, pan ymgynhullom i gyd-gyfarfod, i dalu dïolch am yr aml ddaioni a dderbyniasom ar ei law ef, i ddatgan ei haeddediccaf foliant, i wrando ei sancteiddiaf Air ef, ac i erchi y cyfryw bethau ag a fyddo cymmwys ac angenrheidiol, yn gystal ar les y corph a’r enaid. O herwydd paham myfi a erfyniaf ac a attolygaf i chwi, cynnifer ag y sydd yma yn bresennol, gyd-dynnu myfi â chalon bur, ac â lleferydd ostyugedig, hyd yngorseddfa’r nefol râd, gan ddywedyd ar fy ol i;
 

Invitation

¶ Cyffes gyffredin, i’w dywedyd gan yr holl Gynnulleidfa ar ol y Gweinidog, gan ostwng ar eu gliniau oll,

HOLL-alluog Dduw a thrugaroccaf Dad; Nyni a aethom ar gyfeiliorn allan o’th ffyrdd di fel defaid ar gyfrgoll. Nyni a ddilynasom ormod ar amcanion a chwantau ein calonnau ein hunain. Nyni a wnaethom yn erbyn dy sancteiddiol gyfreithiau. Nyni a adawsom heb wneuthur y pethau a ddylesym eu gwneuthur; Ac a wnaethom y pethau ni ddylesym eu gwneuthur; Ac nid oes iechyd ynom. Eithr tydi, O Arglwydd, cyminer drugaredd arnom, ddrwg weithred wŷr truain. Arbed di hwynt-hwy, O Dduw, y rhai sy'n cyffesu eu beiau. Cyweiria di'r sawl sydd yn edifarus; Yn ol dy addewidion a hyspyswyd i ddyn yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. A chaniattâ, drugaroccaf Dad, er ei fwyn ef; Fyw o honom rhag llaw mewn duwiol, union, a sobr fuchedd, I ogoniant dy sancteiddiol Enw. Amen.
 

Confession

¶ Y Gollyngdod, neu Faddeuant pechodau, i'w ddatgan gan yr Offeriaid yn unig, yn ei sefyll: a'r bobl etto ar eu gliniau.

YR Holl-alluog DDuw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn ni ddelsyf farwolaeth pechadur, eithr yn hytrach ymchwelyd o hono oddi wrth ei anwiredd, a byw; ac a roddes allu a gorchymyn i'w Weinidogion, i ddatgan ac i fynegi i'w bobl, sydd yn edifarus, Ollyngdod a Maddeuant am eu pechodau: Efe a bardyna ac a ollwng y rhai oll sydd wir edifeirol, ac yn ddiffuant yn credu i'w sancteiddiol Efengyl ef. O herwydd paham attolygwn ni iddo ganiattâu i ni wir edifeirwch, a'i Yspryd Glân; fel y byddo boddlon ganddo'r pethau yr ydym y pryd hwn yn eu gwneuthur, a bod y rhan arall o'n bywyd rhag llaw yn bur ac yn sancteiddiol; modd y delom o'r diwedd i'w lawenydd tragywyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
 

Absolution

¶ Atebed y bobl yma, ac ar ddiwedd pob un o'r Gweddïau eraill, Amen.

¶ Yna y gostwng y Gweinidog ar ei liniau, ac a ddywed Weddi 'r Arglwydd â llef uchel; a'r bobl hefyd ar eu gliniau, yn ei dywedyd gyd âg ef, yn y fan yma, ac ym mha le bynnag arall yr arferir hi yng Ngwasanaeth Duw.

EIN Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y maddeuwn ni i 'n dyledwŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; Eithr gwared ni rhag drwg: Canys eiddot ti yw'r deyrnas, A'r gallu, A'r gogoniant, Yn oes oesoedd. Amen.

Yna y dywed efe yn yr un modd,

Arglwydd, agor ein gwefusau.
    Atteb. A'n genau a fynega dy foliant.
    Offeiriad. Duw, brysia i'n cynnorthwyo.
    Atteb. Arglwydd, prysura i'n cymmorth.

Yna, a phawb yn eu sefyll, yr Offeiriad a ddywed,

     Gogoniant i'r Tad, ac i'r Mab: ac i'r Yspryd Glân;
    Atteb.Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad: yn oes oesoedd. Amen.
    Offeiriad. Molwch yr Arglwydd.
    Atteb. Moliannus fyddo Enw'r Arglwydd.
 

 

 

 

The Lord's Prayer

¶ Yna y dywedir, neu y cenir, y Psalm hon sy'n canlyn; oddi eithr ar Ddydd Pasg, ar yr hwn y mae Anthem arall wedi ei gosod: ac ar y namyn un ugeinfed dydd o bob mis, ni ddarllenir mo honi yn y fan hon, ond yn arferod gylch y Psalmau.

Venite, exultemus Domino.
Psal. xcv.

DEUWCH, canwn i'r Arglwydd : ymlawenhâwn yn nerth ein hiechyd.
    Deuwn ger ei fron ef â dïolch : canwn yn llafar iddo â Psalmau.
    Canys yr Arglwydd sy Dduw mawr : a Brenhin mawr ar yr holl dduwiau.
    Oblegid yn ei law ef y mae gorddyfnderau'r ddaear : ac efe bïau uchelder y mynyddoedd.
   Y môr sydd eiddo, canys efe a'i gwnaeth : a'i ddwylaw a luniasant y sychdir.
    Deuwch, addolwn, a syrthiwn i lawr : a gostyngwn ger bron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr.
    Canys efe yw ein Duw ni : a ninnau ym bobl ei borfa ef, a defaid ei ddwylaw.
    Heddyw, os gwrandêwch ar leferydd, na chaledwch eich calonnau : megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch;
    Lle y temtiodd eich tadau fi : y profasant fi, a gwelsant fy ngweithredoedd.
    Deugain mlynedd yr ymrysonais â'r genhedlaeth hon, a dywedais : Pobl gyfeiliornus yn eu calonnau ydynt hwy, canys nid adnabuant fy ffyrdd.
   Wrth y rhai y tyngais yn fy llid : na ddelent i'm gorphwysfa.
    Gogoniant i'r Tad, ac i'r Mab : ae i'r Yspryd Glân;
    Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad : yn oes oesoedd. Amen.
 

 

Ar ol hyn y dilyn y Psalmau mewn trefn, megis y gosodwyd. Ac ar ddiwedd pob Psalm trwy'r flwyddyn, a'r un modd ar ddiwedd y Benedicite, Benedictus, Magnificat, u Nunc dimittis, y dywedir,

    Gogoniant i'r Tad, ac i'r Mab : ac i'r Yspryd Glân;
    Atteb. Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac bydd yn wastad : yn oes oesoedd. Amen.
 

Psalm

Yna y darllenir yn llawn llythyr, â lleferydd uchel, y Llith gyntaf, gwedi ei chymmeryd allan o'r Hen Destament, megis ag y gosodwyd wrth y Calendar (oddi eithr bod Llithiau prïod gosodedig i'r Dydd hwnnw.) Y Gweinidog a ddarlleno, safed, ac ymchweled, megis y galler ei glywed yn oreu gan bawb oll a'r a fo yn bresennol. Ac ar ol hynny y dywedir, neu y cenir, yn Gymraeg, yr Emyn a elwir, Te Deum Laudamus, beunydd trwy'r holl flwyddyn.

O flaen pob Llith, y Gweinidog a ddywed, Yma y mae yn dechreu y cyfryw Bennod, neu Adnod o'r cyfryw Bennod, o'r Llyfr a'r Llyfr: ac ar ol pob Llith, Yma y terfyn y Llith gyntaf, neu, yr ail.

Te Deum Laudamus.

TI, Dduw, a folwn : ti a gydnabyddwn yn Arglwydd.
    Yr holl ddaear a'th fawl di : y Tad tragywyddol.
    Arnat ti y llefa'r holl Angylion : y Nefoedd, a'r holl Nerthoedd o'u mewn.
    Arnat ti y llefa Cerubin a Seraphin : â lleferydd ddibaid,
    Sanct, Sanct, Sanct : Arglwydd Dduw Sabaoth.
    Nefoedd a Daear sydd yn : llawn: o'th Ogoniant.
    Gogoneddus gôr yr Apostolion : a'th fawl di.
    Moliannus nifer y Prophwydi : a'th fawl di.
    Ardderchog lu y Merthyri : a'th fawl di.
    Yr Eglwys Lân trwy'r holl fyd : a'th addef di;
    Y Tad : o anfeidrol Fawredd;
    Dy anrhydeddus, wir : ac unig Fab;
    Hefyd yr Yspryd Glân : y Diddanydd.
    Ti, Crist : yw Brenhin y Gogoniant.
    Ti yw tragywyddol Fab : y Tad.
   Pan gymmeraist arnat waredu dyn : ni ddïystyraist fru y Wyryf.
    Pan orchfygaist holl nerth angau : yr agoraist Deyrnas Nef i bawb a gredant.
    Ti sydd yn eistedd ar Ddeheulaw Dduw : yngogoniant y Tad.
    Yr ym ni yn credu mai Tydi a ddaw : yn Farnwr arnom.
    Gan hynny yr attolygwn i ti gynnorthwyo dy weision : y rhai a brynaist â'th werthfawr Waed.
    Pâr iddynt gael eu cyfrif gyd â'th Saint : yn y Gogoniant tragywyddol.
    Arglwydd, cadw dy bobl : a bendithia dy etifeddiaeth.
    Llywia hwy : a dyrcha hwy yn dragywydd.
    Beunydd ac fyth: y clodforwn dydi;
    Ac anrhydeddwn dy Enw : byth ac yn oes oesoedd.
    Teilynga, Arglwydd : ein cadw y dydd hwn yn ddibechod.
    Arglwydd, trugarhâ wrthym : trugarhâ wrthym.
    Arglwydd, poed dy drugaredd a ddêl arnom : megis yr ŷm yn ymddiried ynot.
    Arglwydd, ynot yr ymddireidais : na'm gwaradwydder yn dragywydd.
 

First Lesson
 

¶ Neu'r Ganiad hon,

Benedicite, omnia Opera.

CHWYCHWI holl Weithredoedd yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Angylion yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Nefoedd, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi'r Dyfroedd, sydd uwch ben y ffurfafen, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi holl Nerthoedd yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Haul a Lleuad, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Ser y Nefoedd, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Gawodau a Gwlith, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Wỳntoedd Duw, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Dân a Gwres, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Auaf a Haf, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Wlithoedd a Rhewoedd, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Rew ac Oerfel, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Iâ ac Eira, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Nosau a Dyddiau, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Oleuni a Thywyllwch, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Fellt a Chymmylau, bendithiwch yr Arglwydd : mowch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Bendithied y Ddaear yr Arglwydd : moled a mawrhâed ef yn dragywydd.
    Chwychwi Fynyddoedd a Bryniau, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi holl Wỳrddion Bethau ar y Ddaear, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Ffynhonnau, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Foroedd a Llifeiriaint, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Forfilod, ac oll a'r sydd yn ymsymmud yn y Dyfroedd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi holl Adar yr Awyr, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi holl Anifeiliaid ac Ysgrubliaid, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Blant Dynion, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Bendithied Israel yr Arglwydd : moled a mawrhâed ef yn dragywydd.
    Chwychwi Offeiriaid yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Wasanaethwyr yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Ysprydion, ac Eneidiau'r cyfiawn, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi y rhai sanctaidd a gostyngedig o galon, bendithiwch yr Arglwydd : molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Chwychwi Ananïas, Azarïas, a Misäel bendithiwch yr Arglwydd: molwch a mawrhêwch ef yn dragywydd.
    Gogoniant i'r Tad, ac i'r Mab : ac i'r Yspryd Glân;
    Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad : yn oes oesoedd. Amen.
 

 

¶ Yna y darllenir yn yr un modd yr ail Lith, gwedi ei chymmeryd allan o'r Testament Newydd. Ac wedi hynny yr Emyn sy'n canlyn; oddi eithr pan ddigwyddo i'w darllain ym mhennod y Dydd, neu yn yr Efengyl ar Ddydd St. Ioan Fedyddiwr.

 

Benedictus. St. Luc i. 68.

BENDIGEDIG fyddo Arglwydd Dduw Israel : canys efe a ymwelodd ac a brynodd ei bobl;
    Ac a ddyrchafodd iachawdwriaeth nerthol i ni : yn nhŷ Ddafydd ei wasanaethwr;
    Megis y dywedodd trwy enau ei sanctaidd Brophwydi : y rhai oedd o ddechreuad y byd;
    Yr anfonai efe i ni ymwared rhag ein gelynion : ac oddi wrth ddwylaw pawb o'n digasogion;
    Y gwnai efe drugaredd â'n tadau : ac y cofiai ei sanctaidd Gyfammod;
    A'r llw yr hwn a dyngodd efe wrth ein tad Abraham : sef bod iddo ganiattâu i ni, gwedi ein hymwared oddi wrth ddwylaw ein gelynion, allu ei wasanaethu ef yn ddïofn;
    Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef : holl ddyddiau ein bywyd.
    A thithau, Fab, a elwir yn Brophwyd i'r Goruchaf: canys ti a âi o flaen wyneb yr Arglwydd, i barottôi ei ffyrdd ef;
    Ac i roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i'w bobl ef : trwy faddeuant o'u pechodau,
    O herwydd tiriondeb trugaredd ein Duw: trwy yr hon yr ymwelodd â ni Godiad Haul o'r uchelder;
    I roddi llewyrch i'r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau : ac i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
    Gogoniant i'r Tad, ac i'r Mab : ac i'r Yspryd Glân;
    Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad : yn oes oesoedd. Amen.
 

Second Lesson
 

¶ Neu y Psalm hon,

Jubilate Deo. Psalm c.

CENWYCH yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaear : gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd, deuwch yn ei wydd ef mewn gorfoledd.
    Gwybyddwch mai yr Arglwydd sy Dduw : efe a' n gwnaeth, ac nid ni ein hunain; ei bobl ef ydym a defaid ei borfa.
    Ewch i mewn i'w byrth ef â dïolch, ac i'w lysoedd â moliant gennych : dïolchwch iddo, a chlodforwch ei Enw.
    Canys daionus yw yr Arglwydd, a'i drugaredd sydd yn dragywydd : a'i wirionedd a bery o genhedlaeth i genhedlaeth byth.
    Gogoniant i'r Tad, ac i'r Mab : ac i'r Yspryd Glân;
    Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad : yn oes oesoedd. Amen.
 

 

¶ Yna y cenir, neu y dywedir, Credo'r Apostolion, gan y Gweinidog. a'r bobl, yn eu sefyll: oddi eithr y dyddiau hynny yn unig ar y rhai y gosodwyd Credo Sant Athanasius i'w ddarllain.

CREDAF yn Nuw Dad Holl-gyfoethog, Creawtdwr nef a daear :
    Ac yn Iesu Grist ei un Mab ef, ein Harglwydd ni; Yr hwn a gaed trwy yr Yspryd Glân, A aned o Fair Forwyn, A ddïoddefodd dan Pontius Pilatus, A groeshoeliwyd, a fu farw, ac a gladdwyd; A ddisgynodd i uffern; Y trydydd dydd y cyfododd o feirw; A esgynodd i'r nefoedd, Ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw Dduw Dad Holl-gyfoethog; Oddi yno y daw i farnu byw a meirw.
    Credaf yn yr Yspryd Glân; Yr Eglwys Lân Gatholig; Cymmun y Saint; Maddeuant Pechodau; Adgyfodiad y cnawd, A'r Bywyd tragywyddol. Amen.
 

¶ Ac ar ol hynny, y Gweddïau hyn sy'n canlyn, a phawb yn gostwng yn ddefosiynol ar eu gliniau; y Gweinidog yn gyntaf a lefara â llef uchel,

    Yr Arglwydd a fo gyd â chwi.
    Atteb.
A chyd â 'th yspryd dithau.

    Gweinidog. Gweddïwn.
Arglwydd, trugarhâ wrthym.
    Crist, trugarhâ wrthym.
Arglwydd, trugarhâ wrthym.
 

 

 

Apostles' Creed

 

Yna'r Gweinidog, yr Ysgolheigion, a'i bobl, a ddywedant Weddi'r Arglwydd â lleferydd uchel.

EIN Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y ddeuwn ni i'n dyledwŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth ; Eithr gwared ni rhag drwg. Amen.
 

 

The Lord's Prayer

 

¶ Yna y Gweinidog yn ei sefyll a ddywed

    Arglwydd, dangos dy drugaredd arnom.
    Atteb. A chaniattâ i ni dy iachawdwriaeth.
    Offeiriad. Arglwydd, cadw y Brenhin.
    Atteb. A gwrando ni yn drugarog pan alwom arnat.
    Offeiriad. Gwisg dy Weinidogion âg iawnder.
    Atteb.
A gwna dy ddewisol bobl yn llawen.
    Offeiriad. Arglwydd, cadw dy bobl.
    Atteb. A bendithia dy etifeddieth.
    Offeiriad. Arglwydd, dyro dangnefedd yn ein dyddiau.
    Atteb. Gan nad oes neb arall a ymladd drosom, ond tydi, Dduw, yn unig.
    Offeiriad. Duw, glanhâ ein calonnau ynom.
    Atteb. Ac na chymmer dy Yspryd Glân oddi wrthym.
 

Suffrages

¶ Yna y canlyn tri Cholect y cyntaf, o'r Dydd, yr hwn a ffydd yr un ag a osodir ar y Cymmun; yr ail, am Dangnefedd; y trydydd, am Ras i fyw yn dda. A'r ddau Golect diweddaf ni chyfnewidir un amser, ond eu dywedyd beunydd ar y Foreol Weddi trwy'r holl flwyddyn, .fel y canlyn; a phawb ar eu gliniau.

Yr ail Golect, am Dangnefedd.

DUW, yr hwn wyt Awdwr tangnefedd a charwr cyttundeb, yr hwn o 'th iawn adnabod y mae'n buchedd dragywydd yn sefyll arno, a'th Wasanaeth sydd wir fraint; Amddiffyn nyni, dy ostyngedig weision, rhag holl ruthrau ein gelynion; fel, trwy gwbl ymddiried yn dy amddiffyn di, nad ofnom allu neb gwrthwynebwŷr, trwy nerth Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Collects

 

 

Second Collect, for Peace

Y trydydd Colect, am gael Gras.

O Arglwydd, nefol Dad, Holl-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn a'n cedwaist yn ddïangol hyd ddechreu'r dydd heddyw; Amddiffyn nyni ynddo â'th gadarn allu; a chaniattâ na syrthiom y dydd hwn mewn un pechod, ac nad elom mewn neb rhyw berygl; eithr bod ein holl weithredoedd wedi eu trefnu a'u llywio wrth dy lywodraeth, i wneuthur yn wastad y peth sy gyfiawn yn dy olwg di; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Third Collect, for Grace

¶ Mewn Corau a Mannau lle'r arferont gannu, yma y canlyn yr Anthem.

¶ Yna y pum Gweddi hyn sy'n canlyn a ddarllenir yma, oddi eithr pan ddarllenir y Litani; ac yna y ddwy olaf yn unig a ddarllenir, fel y maent gwedi eu cyflêu yno.

Gweddi dros Fawrhydi'r Brenhin.

O Arglwydd, ein Tad nefol, goruchel a galluog, Brenhin y brenhinoedd, Arglwydd yr arglwyddi, unig Lywiawdwr y tywysogion, yr hwn wyt o'th eisteddle yn edrych ar holl drigolion y ddaear; Ni a attolygwn ac a erfyniwn i ti, edrych o honot yn ddarbodus ar ein grasusaf oruchel Arglwydd, y Brenhin GEORGE; ac felly ei gyflawni ef o ras dy Sanctaidd Yspryd, fel y bo iddo yn wastadol bwyso at dy feddwl, a rhodio yn dy ffordd: Cynnysgaedda ef yn helaeth â doniau nefol; caniattâ iddo mewn llwyddiant ac iechyd hir hoedl; nertha ef modd y gallo oresgyn a gorchfygu ei holl elynion; ac o'r diwedd, ar ol y fuchedd hon, bod iddo fwynhâu llawenydd a dedwyddyd tragywyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
  

 

 

 

Prayer for the King's Majesty

Gweddi dros y Brenhinol Deulu.

HOLL-alluog Dduw,ffynnon pob daioni, yr ydym ni yn ostyngedig yn attolwg i ti fendithio ein grasusol Frenhines Elizabeth, Mary y Fam Frenhines, y Dywysoges Elizabeth, a'r holl Frenhinol Deulu: Cynnysgaedda hwy â'th Yspryd Glân; cyfoethoga hwy y â'th nefod ras; llwydda hwy â phob dedwyddwch; a dwg hwy i'th dragywyddol deyrnas; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

 

Prayer for the Royal Family

Gweddi dros yr Offeiriaid a'r bobl.

HOLL-gyfoethog a thragywyddol Dduw, yr hwn wyt yn unig yn gwneuthur rhyfeddodau; Danfon i lawr ar ein Hesgobion a'n Curadiaid, a'r holl gynnulleidfaon a orchymynwyd dan eu gofal hwynt, iachol Yspryd dy ras; ac fel y gallont wir ryngu bodd i ti, tywallt arnynt ddyfal wlith dy fendith. Caniattâ hyn, Arglwydd, er anrhydedd ein Dadleuwr a'n Cyfryngwr, Iesu Grist. Amen.
 

 

Prayer for Clergy & people

Gweddi o waith St. Chrysostom.

HOLL-alluog Dduw, yr hwn a roddaist i ni ras y pryd hwn, trwy gyfundeb a chyd-gyfarch, i weddïo arnat; ac wyt yn addaw, pan ymgynhullo dau neu dri yn dy Enw, bod i ti ganiattâu eu gofynion: Cyflawna yr awr hon, O Arglwydd, ddymuniad a deisyflad dy weision, fel y bo mwyaf buddiol iddynt; gan ganiattâu i ni yn y byd hwn wybodaeth am dy wirionedd, ac yn y byd a ddaw, fywyd tragywyddol. Amen.

2 Cor xiii.

GRAS ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Yspryd Glân, a fyddo gyd â ni oll byth bythoedd. Amen.

Yma y diwedd Trefn y Foreol Weddi trwy'r Flwyddyn.

 

Prayer of St. Chrysostom


 

Llyfr Gweddi Gyffredin

The Book of Common Prayer in Welsh

Web author: Charles Wohlers U. S. EnglandScotlandIrelandWalesCanadaWorld