The Book of Common Prayer
United States England Scotland Ireland Wales Canada World

   

Llyfr Gweddi Gyffredin
the Book of Common Prayer in Welsh


 

Y DREFN I YMWELED A'R CLAF.

¶ Pan fo neb yn glaf, hyspyser hynny i Weinidog y plwyf; yr hwn, wrth fyned i mewn i dŷ'r claf, a ddywed,

TANGNEFEDD fyddo i 'r tŷ hwn, ac i bawb y sydd yn trigo ynddo.

¶ Pan ddêl efe yngŵydd y claf, y dywed, gan ostwng i lawr ar ei liniau,

NA chofia, Arglwydd, ein hanwiredd, nac anwiredd ein rhïeni. Arbed nyni, Arglwydd daionus, arbed dy bobl a brynaist â'th werthfawroccaf waed, ac na lidia wrthym yn dragywydd.
    Atteb. Arbed ni, Arglwydd daionus.

¶ Yna y dywed y Gweinidog,

Gweddïwn.
Arglwydd, trugarhâ wrthym.
Crist, trugarhâ wrthym.
Arglwydd, trugarhâ wrthym.
 

Order for the Visitation of the Sick
EIN Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy Enw. Deued dy deyrnas. Bydded dy ewyllys ar y ddaear, Megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, Fel y maddeuwn ni i'n dyledwŷr. Ac nac arwain ní i brofedigaeth; Eithr gwared ni rhag drwg. Amen.

Gweinidog. Arglwydd, iachâ dy was;
Atteb. Yr hwn sydd yn ymddiried ynot.
Gweinidog. Anfon iddo gymmorth o'th gyssegrfa;
Atteb. Ac byth yn nerthol amddiffyn ef.
Gweinidog. Na ad i'r gelyn gael y llaw uchaf arno;
Atteb. Nac i'r anwir nesâu i'w ddrygu.
Gweinidog. Bydd iddo, O Arglwydd, yn Dŵr cadarn,
Atteb. Rhag wyneb ei elyn.
Gweinidog. Arglwydd, gwrando ein gweddïau.
Atteb. A deued ein llef hyd attat.
 

Lord's Prayer

Gweinidog.

O Arglwydd, edrych i lawr o'r nefoedd, golyga, ymwêl, ac esmwythâ ar dy was hwn. Edrych arno â golygon dy drugaredd, dyro iddo gysur a dïogel ymddiried ynot, amddiffyn ef rhag perygl y gelyn, a chadw ef mewn tragywyddol dangnefedd a dïogelwch; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

ERGLYW ni, Holl-gyfoethog a thrugaroccaf Dduw ac Iachawdwr; estyn dy arferedig ddaioni i hwn dy wasanaethwr, sydd ofidus gan ddolur. Sancteiddia, ni a attolygwn i ti, dy dadol gospedigaeth hon iddo ef; fel y bo i'w deimlad o'i wendìd ychwanegu nerth i'w ffydd, a difrifwch i'w edifeirwch. Fel os bydd dy ewyllys adferu iddo ei gynnefin iechyd, y bo iddo dreulio y rhan arall o'i fywyd yn dy ofn, ac i'th ogoniant; neu dyro iddo ras i gymmeryd felly dy ymweliad, fel y bo iddo, yn ol diweddu y bywyd poenus hwn, drigo gyd â thi yn y bywyd tragywyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Prayers

¶ Yna cynghored y Gweinidog y claf yn y ffurf hon, neu'r cyfryw.

YR anwyl garedig, gwybydd hyn, mai'r Holl-alluog Dduw sydd Arglwydd ar fywyd ac angau, ac ar bob peth a berthyn iddynt; megis ieuengceid, nerth, iechyd, oedran, gwendid, a chlefyd. Am hynny pa beth bynnag yw dy glefyd, gwybydd yn ddïammeu mai ymweliad Duw ydyw. Ac am ba achos bynnag yr anfonwyd y clefyd hwn arnat, ai er profi dy ddïoddefgarwch er esampl i eraill, ac fel y caffer dy ffydd yn nydd yr Arglwydd yn ganmoladwy, yn ogoneddus, ac yn anrhydeddus, er ychwaneg o ogoniant a didrangc ddedwyddwch; neu ddanfon y clefyd hwn i gospi ac i ddiwygio ynot ti beth bynnag sydd yn anfoddhâu golwg ein Tad nefol; gwybydd yn ddïammeu, os tydi a fyddi wir edifeiriol am dy bechodau, a chymmeryd dy glefyd yn ddïoddefgar, gan ymddiried yn nhrugaredd Duw, er mwyn ei anwyl Fab Iesu Grist, a rhoddi iddo ostyngedig ddïolch am ei dadol ymweliad, a bod i ti ymddarostwng yn hollol i'w ewyllys ef, y digwydd er dy lesâd, ac y'th gymmorth rhagot ar hyd yr uniawn ffordd a dywys i fywyd tragywyddol.

¶ Os y dyn ymweledig a fydd yn drymglaf, yna y dichon y Curad orphen y cyngor yn y fan hon, neu aed rhagddo.

AM hynny cymmer yn groesawus gospedigaeth yr Arglwydd: canys (megis y dywed Sant Paul yn y ddeuddegfed Bennod at yr Hebreaid) y neb y mae'r Arglwydd yn ei garu, y mae yn ei geryddu, ac yn fflangellu pob mab a dderbynio. Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddŵyn tu ag attoch megis tu ag at feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu? Eithr os heb gerydd yr ydych, o'r hon y mae pawb yn gyfrannog, yna bastardiaid ydych, ac nid meibion. Heb law hynny ni a gawsom dadau ein cnawd i'n ceryddu, ac a'u parchasom hwy; onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysprydoedd, a byw? Canys hwynt-hwy yn wir dros ychydig ddyddiau a'n ceryddent, fel y gwelent hwy yn dda; eithr hwn er llesâd i ni, fel y byddem gyfrannogion o'i sancteiddrwydd ef. Y geiriau hyn, garedig frawd, sydd yn ysgrifenedig yn yr Ysgrythyr Lân, er cysur ac addysg i ni, fel y dygom yn oddefgar ac yn ddïolchgar gospedigaeth ein Tad nefol, pa bryd bynnag trwy un math o wrthwyneb yr ewyllysio ei radlawn ddaioni ef ymweled â ni. Ac ni ddylai fod cysur mwy gan Gristionogion, nâ chael eu gwneuthur yn gyffelyb i Grist, trwy ddïoddef yn amyneddgar gystuddiau, trallodion, a chlefydau. Canys nid aeth efe ei hun i fynu i lawenydd, nes yn gyntaf iddo ddïoddef poen; nid aeth efe i mewn i'w ogoniant, nes dïoddef angau ar bren crog. Felly yn wir yr union ffordd i ni i'r gorfoledd tragywyddol, ydyw, cyd-ddïoddef yma gyd â Christ: a'n drws i fyned i mewn i fywyd tragywyddol ydyw, marw yn llawen gyd â Christ; fel y cyfodom drachefn o angau, ac y trigom gyd âg ef ym mywyd tragywyddol. Yn awr gan hynny, os cymmeri dy glefyd (ac yntau yn gymmaint ar dy les) yn oddefgar, yr ydwyf fi yn dy annog, yn Enw Duw, i goffàu y broffes a wnaethost i Dduw yn dy Fedydd. Ac o herwydd, ar ol y fuchedd hon, bod yn rhaid rhoddi cyfrif i'r Barnwr cyfiawn, gan ba un y bernir pob dyn heb dderbyn wyneb; yr wyf yn erchi i ti ymholi â thi dy hun, a'th gyflwr tu ag at Dduw a dyn; fel y bo i ti, trwy dy gyhuddo a'th farnu dy hunan am dy feiau dy hun, allu cael trugaredd ar law ein Tad nefol er mwyn Crist, ac fel na 'th gyhudder ac na 'th ddamnier yn y farn ofnadwy honno. Am hynny yr adroddaf i ti Fannau ein Ffydd, fel y gellych wybod a wyt ti yn credu fel y dylai Gristion, ai nad wyt.
 

Exhortation
¶ Yna yr edrydd y Gweinidog Fannau'r Ffydd, gau ddywedyd fel hyn,

A Wyt ti yn credu yn Nuw Dad Holl-gyfoethog, Creawdwr nef a daear?
    Ac yn Iesu Grist, ei uniganedig Fab ef, ein Harglwydd ni? A'i genhedlu o'r Yspryd Glân; ei eni o Fair Forwyn; iddo ddïoddef dan Pontius Pilatus, ei groes-hoelio, ei farw, a'i gladdu ; ddisgyn o hono i uffern; a'i gyfodi hefyd y trydydd dydd ; ac esgyn o hono i'r nefoedd ; a'i fod yn eistedd ar ddelieulaw Dduw Dad Hollalluog; ac y daw efe oddi yno yn niwedd y byd, i farnu byw a meirw?
    Ac a wyt ti yn credu yn yr Yspryd Glân; yr Eglwys Lân Gatholig; Cymmun y Saint; Maddeuant pechodau; Adgyfodiad y cnawd; a Bywyd tragywyddol gwedi angau?

¶ Y claf a ettyb,

    Hyn oll yr wyf yn ei gredu yn ddilys.

¶Yna'r ymofyn y Gweinidog âg ef, a ydyw efe yn wir edifeiriol am ei bechodau, ac mewn cariad perffaith â'r holl fyd, ai peidio; gan ei annog i faddeu o eigion ei galon i bob dyn a wnaeth yn ei erbyn: ac os efe a wnaeth yn erbyn eraill, ar ofyn o hono faddeuant ganddynt; a lle y gwnaeth efe niweid neu gam â neb, ar wneuthur o hono iawn hyd yr eithaf y gallo. Ac, oddi eithr iddo ym mlaen llaw wneuthur trefn ar ei ddâ bydol, rhybuddier ef yna i wneuthur ei Ewyllys, a hefyd dangos o hono am ei Ddyled, pa faint sydd arno, a pha faint sydd o Ddyled iddo; er mwyn rhyddhâu ei gydwybod yn well, ac er heddwch i'w 'Secutorion. Eithr y mae yn angenrheidiol rhybuddio dynion yn fynych am wneuthur trefn ar eu dâ bydol, a'u tiroedd, tra fyddont mewn iechyd.

¶ Y geiriau hyn, y rhai a ddywedwyd uchod, a ellir eu cymmwyll, cyn dechreu o'r Gweinìdog ei Weddi, megis ag y gwelo efe achos.

¶ Na esgeulused y Gweinidog annog cleifion cyfoethogion (a hynny yn gwbl ddifrifol) ar iddynt ddangos haelioni i'r tlodion.
 

Creed

¶ Yma y cynhyrfir y dyn clwyfus i wneuthur Cyffes hyspysol o'i bechodau, os efe a glyw ei gydwybod mewn cythrwfl gan un achos pwysfawr. Ar ol y Gyffes honno, y gollwng yr Offeiriad ef (os efe yn ostyngedig ac yn ffyddlon a'i dymuna) yn y wedd hon.

EIN Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a adawodd feddiant i'w Eglwys, i ollwng pob pechadur a fyddo gwir edifeiriol, ac yn credu ynddo ef, o'i fawr drugaredd a faddeuo i ti dy gamweddau: a thrwy ei awdurdod ef a ganiattawyd i mi, y'th ollyngaf o'th holl bechodau, Yn Enw'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glân. Amen.
 

Confession & Absolution
¶ Ac yna y dywed yr Offeiriad ycolect sy'n canlyn

Gweddïwn.

O Drugaroccaf Dduw, yr hwn, yn ol llïosowgrwydd dy drugaredd, wyt felly yn dilëu pechodau y rhai sydd wir edifeiriol, fel nad wyt yn eu cofio mwy; Agor lygad dy drugaredd ar dy wasanaethwr yma, yr hwn o wir ddifrif sydd yn dymuno gollyngdod a maddeuant. Adnewydda ynddo, garediccaf Dad, beth bynnag a lesghawyd trwy ddichell a malais y cythraul, neu trwy ei gnawdol ewyllys ei hun, a'i wendid; cadw a chynnal yr aelod clwyfus hwn o fewn undeb yr Eglwys; ystyria wrth ei wir edifeirwch, derbyn ei ddagrau, ysgafnhâ ei ddolur, modd y gwelych di fod yn oreu ar ei les. Ac, yn gymmaint a'i fod efe yn rhoddi ei holl ymddiried yn unig yn dy drugaredd di, na chyfrif iddo ei bechodau o'r blaen; eithr nertha ef â'th wŷnfydedig Yspryd ; a phan welych di yn dda ei gymmeryd ef oddi yma, cymmer ef i'th nodded, trwy ryglyddon dy garediccaf Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
 

Collect
¶ Yna y dywed y Gweinidog y Psalm hon.

In te, Domine, speravi. Psal. lxxi.

YNOT ti, O Arglwydd, y gobeithiais : na 'm cywilyddier byth.
Achub fi, a gwared fi yn dy gyfiawnder : gostwng dy glust attaf, ac achub fi.
    Bydd i mi yn drigfa gadarn i ddyfod iddi bob amser : gorchymynaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a'm hamddiffynfa.
    Gwared fi, O fy Nuw, o law'r annuwiol : o law'r anghyfiawn a'r traws.
    Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd Dduw: fy ymddiried o'm hieuengctid.
    Wrthyt ti y'm cynhaliwyd o'r bru; ti a'm tynnaist o groth fy mam : fy mawl fydd yn wastad am danat ti.
    Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod : eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.
    Llanwer fy ngenau â'th foliant : ac â'th ogoniant beunydd.
    Na fwrw fi ymaith yn amser henaint : na wrthod fi pan ballo fy nerth.
    Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i'm herbyn : a'r rhai a ddisgwyliant am fy enaid, a gyd-ymgynghorant,
    Gan ddywedyd, Duw a'i gwrthododd ef : erlidiwch, a deliwch ef; canys nid oes gwaredydd.
    O Dduw, na fydd bell oddi wrthyf : fy Nuw, brysia i'm cymmorth.
    Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid : â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.
    Minnau a obeithiaf yn wastad : ac a'th foliannaf di fwyfwy.
    Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a'th iachawdwriaeth beunydd : canys ni wn rifedi arnynt.
    Ynghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf: dy gyflawnder di yn unig a gofiaf fi.
    O'm hieuengctid y'm dysgaist, O Dduw: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.
    Na wrthod fi chwaith, O Dduw, mewn henaint a phenllwydni : hyd oni fynegwyf dy nerth i'r genhedlaeth hon, a'th gadernid i bob un a ddelo.
    Dy gyfiawnder hefyd, O Dduw, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion : Pwy, O Dduw, sy debyg i ti!
    Gogoniant i'r Tad, ac i'r Mab : ac i'r Yspryd Glân.
    Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad : yn oes oesoedd. Amen.
 

Psalm 71

¶ Gan ddywedyd hyn yn ychwaneg.

IACHAWDWR y byd, yr hwn trwy dy Grog a 'th werthfawr Waed a'n prynaist; achub a chymmorth ni, nyni yn ostyngedig a attolygwn i ti, O Arglwydd.

¶ Yna y dywed y Gweinidog,

YR Holl-alluog Arglwydd, yr hwn yw y Tŵr cadarnaf i bawb a roddant eu hymddiried ynddo, i ba un y mae pob peth yn y nef, ar y ddaear, a than y ddaear, yn gostwng ac yn ufuddhâu, a fyddo yr awrhon a phob amser yn amddiffyn i ti, ac a wnelo i ti wybod a deall, nad oes un enw dan y nef wedi ei roddi i ddynion, ym mha un a thrwy ba un y mae i ti dderbyn iachawdwriaeth corph ac enaid, ond yn unig Enw ein Harglwydd Iesu Grist. Amen.

¶ Ac ar ol hynny y dywed,

I Rasusaf drugaredd a nodded Duw y'th orchymynwn. Yr Arglwydd a'th fendithio ac a'th gadwo. Llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat, a thrugarhâed wrthyt. Dyrchafed yr Arglwydd ei wyneb arnat, a rhodded it' dangnefedd yr awr hon ac yn oes oesoedd. Amen.
 

Closing prayers & Blessing
Gweddi dros blentyn claf.

HOLL-alluog Dduw a thrugaroccaf Dad, i'r hwn yn unig y perthyn dibenion bywyd ac angau; Edrych i lawr o'r nef, yn ostyngedig ni a attolygwn i ti, â golygon dy drugaredd ar y plentyn hwn, y sydd yr awrhon yn gorwedd ar ei glaf wely; ymwêl, O Arglwydd, âg ef â'th iachawdwriaeth; gwared ef yn dy nodedig amser da o'i boen corphorol, ac achub ei enaid er mwyn dy drugareddau: fel, os bydd dy ewyllys i estyn ei ddyddiau yma ar y ddaear, y byddo iddo fyw i ti, a hyfforddio dy ogoniant, gan dy wasanaethu yn ffyddlon, a gwneuthur daioni yn ei genhedlaeth; os amgen, derbyn ef i'r preswylfeydd nefol hynny, lle mae eneidiau'r sawl a hunant yn yr Arglwydd Iesu yn mwynhâu anorphen orphwysfa a dedwyddwch. Caniattâ hyn, Arglwydd, er dy drugareddau yn yr unrhyw dy Fab di, ein Harglwydd ni Iesu Grist; yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thi a'r Yspryd GIân, byth yn un Duw, heb drangc na gorphen. Amen.
 

Prayer for a sick child
Gweddi dros ddyn claf, lle na weler fawr obaith o'i wellhâd.

O Dad y trugareddau, a Duw pob diddanwch, ein hunig borth yn amser anghenoctid; Attat ti y rhedwn am gymmorth dros dy wasanaethydd hwn, yn gorwedd yma dan dy law di mewn dirfawr wendid corph. Edrych arno yn rasusol, O Arglwydd; a pho mwyaf y gwanhycho y dyn oddi allan, nertha ef fwyfwy, ni a attolygwn i ti, â'th ras ac â'th Lân Yspryd yn y dyn oddi mewn. Dyro iddo ddiffuant edifeirwch am holl gyfeiliorni ei fuchedd o'r blaen, a ffydd ddïysgog yn dy Fab Iesu; fel y dilëer ei bechodau trwy dy drugaredd di, ac y selier ei bardwn yn y nef, cyn iddo fyned oddi yma, ac na weler ef mwyach. Da y gwyddom, Arglwydd, nad oes un gair rhŷ anhawdd i ti ; ac y gelli, os mynni, ei godi ef drachefn, a chaniattâu iddo hwy hoedl yn ein plith. Er hynny, yn gymmaint a bod (hyd y gwel dyn) amser ei ymddattodiad ef yn nesâu, felly parottoa a chymhwysa ef, ni a attolygwn i ti, erbyn awr angau; fel, ar ol ei ymadawiad oddi yma mewn tangnefedd, ac yn dy ffafr di, y derbynier ei enaid ef i'th deyrnas dragywyddol, trwy haeddedigaethau a chyfryngiad Iesu Grist dy unig Fab di, ein Harglwydd ni a'n Hiachawdwr. Amen.
 

Prayer for a sick person, when there is little hope for recovery

Gweddi gymmynol dros ddyn claf ar drangcedigaeth.

O Holl-alluog Dduw, gyd â'r hwn y mae yn byw ysprydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd, wedi cael eu gwared o'u carcharau daearol; Yr ŷm yn ostyngedig yn gorchymyn enaid dy wasanaethydd hwn, ein brawd anwyl, i'th ddwylaw di, megis i ddwylaw Creawdwr ffyddlon, ac Iachawdwr trugaroccaf; gan attolwg i ti yn ostyngeiddiaf ar iddo fod yn werthfawr yn dy olwg. Golch ef, ni a erfyniwn arnat, yngwâed yr Oen difrycheulyd hwnnw, a laddwyd er mwyn dilëu pechodau'r byd; fel, gan gael glanhâu a dilëu pa lygredd bynnag a all fod wedi ei gasglu ynghanol y byd truenus ac anwir hwn, trwy chwantau'r cnawd, ac ystrywiau Satan, y caffo ei gyflwyno yn bur ac yn ddifeius yn dy olwg di. A dysg i ninnau, y rhai ŷm yn byw ar ei ol ef, ganfod yn hwn ac eraill gyffelyb ddrychau marwoldeb o ddydd bwygilydd, mor frau ac anwadal yw ein cyflwr ein hunain, ac felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calonnau yn ddifrifol i'r cyfryw ddoethineb sanctaidd a nefol, tra byddom byw yma, ag a'n dygo o'r diwedd i fywyd tragywyddol, trwy haeddedigaethau Iesu Grist dy unig Fab di, ein Harglwydd ni. Amen.
 

Commendatory Prayer for a sick person at the point of departure

Gweddi dros y rhai a fo mewn blinder yspryd, neu anheddwch cydwybod.

Y Bendigedig Arglwydd, Tad y trugareddau, a Duw pob diddanwch, ni a attolygwn i ti, edrych â golwg tosturi a thrugaredd ar dy wasanaethwr cystuddiedig hwn. Yr wyt ti yn ysgrifenu pethau chwerwon yn ei erbyn ef, ac yn gwneuthur iddo feddiannu ei gamweddau gynt; y mae dy ddigofaint yn pwyso yn drwm arno, a'i enaid sy lawn o flinder; eithr, O Dduw trugarog, yr hwn a 'sgrifenaist dy Air sanctaidd er addysg i ni; fel, trwy amynedd a diddanwch dy Lân Ysgrythyrau, y gallem gael gobaith; dyro iddo iawn ddealltwriaeth o'i gyflwr ei hun, ac o'th fygythion a'th addewidion di; fel na fwrio ymaith ei hyder arnat ti, ac na ddodo ei ymddiried ar ddim arall ond tydi. Nertha ef yn erbyn ei holl brofedigaethau, a iachâ ef o'i holl anhwyldeb. Na ddrylliar gorsen ysig, ac na ddiffodd y llin yn mygu. Na chau diriondeb dy drugaredd mewn soriant; eithr par iddo glywed llawenydd a gorfoledd, fel y llawenycho'r esgyrn a ddrylliaist. Gwared ef rhag ofn y gelyn, a dyrcha lewyrch dy wynebpryd arno, a dyro iddo dangnefedd, trwy ryglyddon a chyfryngdod Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

 



 
Prayer for persons troubled in mind or conscience

CYMMUN Y CLAF.

¶ YN gymmaint a bob pob dyn marwol yn ddarostyngedig i lawer o beryglon disyfyd heintiau, a chlefydau, ac byth yn anhyspys pa bryd yr ymadawant â'r bywyd hwn; o herwydd hynny, er mwyn gallu o honynt fod bob amser mewn parodrwydd i farw, pa bryd bynnag y rhyngo bodd i'r Holl-alluog Dduw alw am danynt; bydded i'r Curadiaid yn ddyfal, o amser i amser (ac yn enwedig yn amser pla, neu ryw haint lynol arall) gynghori eu Plwyfolion i gymmeryd yn fynych fendigedig Gymmun Corph a Gwaed ein Hiachawdwr Crist, pan weinyddir ef yn gyhoedd yn yr Eglwys; fel, gan wneud felly, y bo llai o achos iddynt, yn eu hynaweliad disymmwth, i fod yn anheddychol yn eu meddwl o ddiffyg hynny. Ond os y claf fydd analluog i ddyfod i'r Eglwys, ac etto yn dymuno cymmeryd y Cymmun yn ei dŷ; yna y bydd rhaid iddo fynegi hynny mewn pryd i'r Curad, gan hyspysu hefyd pa sawl un y sydd yn darparu cymmuno gyd âg ef (y rhai a fyddant dri, neu ddau o'r lleiaf) ac wedi cael lle cyfaddas yn nhŷ y claf, gyd â phob peth angenrheidiol felly yn barod, fel y gallo y Curad weinyddu yn barchedig, gweiydded ef yno y Cymmun bendigedig, gan ddechreu ar y Colect, Epistol, a'r Efengyl, yma yn canlyn.
 

Communion of the Sick

Y colect.

HOLL- gyfoethog a bythfywiol Dduw, gwneuthurwr dynol ryw, yr hwn wyt yn cospi y rhai a gerych, ac yn ceryddu pawb a'r a dderbyniech; Nyni a attolygwn i ti drugarhâu wrth dy was hwn yma ymweledig gan dy law, ac i ti ganiattâu gymmeryd o hono ei glefyd yn ddïoddefus, a chaffael ei iechyd corphorol drachefn (os dy radlawn ewyllys di yw hynny) a pha bryd bynnag yr ymadawo ei enaid â'i gorph, bod o hono yn ddi-frycheulyd wrth ei gyflwyno i ti; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Yr Epistol. Heb. xii. 5.

FY mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan y'th argyoedder ganddo. Canys y neb y mae yr Arglwydd yn ei garu, y mae yn ei geryddu; ac yn fflangellu pob mab a dderbynio.

Yr Efengyl. St. Ioan v. 24.

YN wir, yn wir, meddaf i chwi, Y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i'r hwn a'm hanfonodd i, a gaiff fywyd tragywyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.

Gwedi hyn yr Offeiriad a â ym mlaen, yn ol y ffurf osodedig uchod, i'r Cymmun bendigedig. gan ddechreu ar y geiriau hyn [Chwychwi y sawl sydd yn wir, &c.]

¶ Pan gyfranner y Sacrament bendigedig, cymmered yr Offeiriad yntau ei hun y Cymmun yn gyntaf; ac ar ol hynny, gweinydded i'r rhai a ddarparwyd i gymmuno gyd â'r claf, ac yn ddiweddaf oll i'r dyn claf.

¶ Eithr o bydd neb, naill ai o ddirdra dolur, neu o herwydd eisiau rhybudd mewn amser dyladwy i'r Curad, neu o eisiau cyfeillyddion i gymmeryd gyd âg ef, neu oblegid rhyw rwystr cyflawn arall, heb gymmeryd Sacrament Corph a Gwaed Crist; yna dangosed y Curad, os yw efe yn wir edifeiriol am ei bechodau, ac yn credu yn ddïysgog ddarfod i Iesu Grist ddïoddef angau ar y Groes drosto, a thywallt ei Waed er ei Brynedigaeth ef, gan goffa yn ddifrif y mawr ddaioni sydd iddo ef o hynny, a chan ddiolch iddo o'i galon am dano, ei fod ef yn bwytta ac yn yfed Corph a Gwaed ein Hiachawdwr Crist yn fuddiol i iechyd ei Enaid, er nad yw efe yn derbyn y Sacrament a'i enau.

¶ Pan ymweler â'r claf, ac yntau yn cymmeryd y Cymmun bendigedig yr un amser; bydded yna i'r Offeiriad, er mwyn prysuro yn gynt, dorri ymaith ffurf yr Ymweliad, lle mae'r Psalm [Ynot ti, O Arglwydd, y gobeithiais, &c.] ac aed yti uniawn i'r Cymmun.

¶ Yn amser Pla, Clefyd y Chwŷs, neu gyfryw amserau heintiau neu glefydau llŷn, pryd na aller cael yr un o'r Plwyf neu'r Cymmydogion i gymmuno gyd â'r cleifion yn eu tai, rhag ofn cael yr haint, ar hyspysol ddeisyfiad y claf, fe all y Gweinidog yn unig gymmuno gyd âg ef.

Collect, Epistle & Gospel
 

Llyfr Gweddi Gyffredin

The Book of Common Prayer in Welsh

Web author: Charles Wohlers U. S. EnglandScotlandIrelandWalesCanadaWorld